Streptococws Grwp A (Strep A)

Cyflwyniad

Mae Streptococws Grwp A (GAS) – a elwir hefyd yn Streptococcus pyogenes – yn facteria a geir yn gyffredin ar y croen neu yn y gwddf, lle gallant fyw heb achosi problemau. O dan rai amgylchiadau, fodd bynnag, gall y bacteria hyn achosi afiechyd.

Gall bacteria GAS achosi amrywiaeth eang o heintiau croen, meinwe meddal a heintiau llwybr anadlol yn amrywio o ran difrifoldeb o ysgafn i rai sy'n bygwth bywyd. Mae'r rhain yn cynnwys:

Y cyflwyniadau mwyaf cyffredin o haint GAS yw dolur gwddf ysgafn ('gwddf strep') a heintiau croen/meinwe meddal fel impetigo a llid yr isgroen.

Os oes gennych ddolur gwddf neu donsilitis mae rhai fferyllfeydd yn cynnig gwasanaeth Profi a Thrin ar gyfer rhai mathau o gyflyrau.  Gallwch chwilio am fferyllfa sy'n cymryd rhan yma.

Mewn achosion prin, gall cleifion fynd ymlaen i ddatblygu cymhlethdodau ôl-streptococol, megis:

twymyn rhewmatig
glomerulonephritis (clefydau'r galon a'r arennau a achosir gan adwaith imiwn i'r bacteria).

Fodd bynnag, gall GAS achosi heintiau ymledol mwy difrifol (a elwir yn heintiau Invasive GAS/iGAS) fel bacteremia (haint yn y llif gwaed), fasciitis necrotising (haint difrifol sy'n cynnwys marwolaeth rhannau o feinwe meddal o dan y croen) a syndrom sioc wenwynig streptococol (symptomau sy'n datblygu'n gyflym gyda phwysedd gwaed isel a methiant aml-organ).

Mae heintiau i GAS yn fwyaf cyffredin ymhlith yr henoed, pobl ifanc iawn neu bobl â ffactor risg sylfaenol fel chwistrellu cyffuriau, alcoholiaeth, gwrthimiwnedd neu ganser.

Mae GAS yn cael ei ledaenu trwy gyswllt agos rhwng unigolion, trwy ddefnynnau anadlol a chyswllt uniongyrchol â'r croen.

Gellir ei drosglwyddo'n amgylcheddol hefyd, trwy ddod i gysylltiad â gwrthrychau heintus, fel tywelion neu ddillad gwely neu lyncu bwyd sy'n cael ei heintio gan gludwr.

Pethau y gallwch chi eu gwneud eich hun

Y peth gorau y gall rhieni ei wneud yw darparu’r gofal y byddent fel arfer yn ei ddarparu i blentyn â symptomau tebyg i annwyd a ffliw, ac ymgyfarwyddo â symptomau’r dwymyn goch ac iGAS fel rhagofal.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut i ofalu am blentyn sâl yma.

Symptomau'r dwymyn goch

Mae symptomau'r dwymyn goch yn cynnwys dolur gwddf, cur pen, twymyn, cyfog a chwydu. Dilynir hyn gan frech goch fân, sydd fel arfer yn ymddangos gyntaf ar y frest a'r stumog, gan ledaenu'n gyflym i rannau eraill o'r corff. Efallai na fydd gan blant hyn y frech.

Ar groen sydd â phigmentau mwy tywyll, gall fod yn anoddach gweld y frech ysgarlad, ond dylai deimlo fel 'papur tywod'. Gall yr wyneb fod yn goch ond yn welw o gwmpas y geg.

Dysgwch fwy am y dwymyn goch

Symptomau iGAS

  •      Twymyn (tymheredd uchel uwchlaw 38°C)
  •      Poenau cyhyrau difrifol
  •      Tynerwch cyhyrau lleoledig
  •      Cochni ar safle clwyf

Fel rhiant, os teimlwch fod eich plentyn yn ymddangos yn ddifrifol wael, dylech ymddiried yn eich barn eich hun. Cysylltwch â eich Meddyg Teulu neu GIG 111 Cymru:

• mae eich plentyn yn gwaethygu

• bod eich plentyn yn bwydo neu'n bwyta llawer llai nag arfer

• bod eich plentyn wedi cael cewyn sych am 12 awr neu fwy neu'n dangos arwyddion eraill o ddadhydradu

• mae eich babi o dan 3 mis a thymheredd o 38°C, neu'n hyn na 3 mis a thymheredd o 39°C neu uwch

• bod eich babi'n teimlo'n boethach nag arfer pan fyddwch chi'n cyffwrdd â'i gefn neu frest, neu'n teimlo'n chwyslyd

• bod eich plentyn yn flinedig iawn neu'n bigog

Ffoniwch 999 neu ewch i'r adran damweiniau ac achosion brys os:

• mae eich plentyn yn cael anhawster anadlu – efallai y byddwch yn sylwi ar synau ‘grunting’ neu eu bol yn sugno o dan ei asennau

• mae seibiannau pan fydd eich plentyn yn anadlu

• mae croen, tafod neu wefusau eich plentyn yn las

• bod eich plentyn yn llipa ac ni fydd yn deffro nac yn aros yn effro

Mae hylendid dwylo ac anadlol da yn bwysig i atal lledaeniad llawer o fygiau. Trwy ddysgu’ch plentyn sut i olchi ei ddwylo’n iawn gyda sebon am 20 eiliad, defnyddio hances bapur i ddal peswch a thisian, a chadw draw oddi wrth eraill pan fydd yn teimlo’n sâl, bydd yn gallu lleihau’r risg o godi neu ledaenu heintiau.

 



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 13/12/2022 14:41:35