Cyflwyniad
Llid yn yr wrethra yw wrethritis - y tiwb sy'n cario wrin o'r bledren allan o'r corff. Caiff wrethritis ei achosi gan haint fel arfer.
Defnyddir y term wrethritis di-onococaidd (NGU) pan na fydd yr wrethritis wedi'i achosi gan gonorrhoea, sef haint a drosglwyddir yn rhywiol.
Weithiau, cyfeirir at NGU fel wrethritis amhenodol (NSU) pan na cheir hyd i achos.
Mewn menywod, prin iawn y bydd gan NGU symptomau. Mae symptomau dynion yn cynnwys:
- poen neu deimlad o losgi wrth wneud dwr
- pen y pidyn yn llidus a dolurus
- rhedlif gwyn neu gymylog o ben y pidyn
Darllenwch ragor am symptomau wrethritis di-onococaidd.
Os credwch chi fod NGU arnoch chi, dylech chi ymweld â'ch clinig meddygaeth genhedlol droethol (GUM) neu iechyd rhywiol lleol. Mae gan y clinigau hyn fynediad at gyfarpar diagnostig arbennigol nad yw ar gael i'ch meddyg teulu.
Defnyddiwch y chwiliwr gwasanaethau i ddod o hyd gwasanaethau iechyd rhywiol yn eich ardal chi. Mae gwasanaethau iechyd rhywiol ar gael am ddim i bawb dim ots am ryw, oedran, tarddiad ethnig na thueddfryd rhywiol.
Pam fydd wrethritis di-onococal yn digwydd?
Gall fod nifer o achosion posibl i NSU, ond amcangyfrifir mai'r haint a drosglwyddir yn rhywiol, clamydia, sy'n gyfrifol am bron i hanner o'r holl achosion mewn dynion.
Mae llawer o achosion lle nid yw haint yn cael ei ddarganfod. Fodd bynnag, hyd yn oed os na ddeuir o hyd i achos, credir bod haint yn bresennol o hyd. Mae hyn yn wir hefyd pe bai'r llid wedi'i achosi gan wrthrych, fel cathetr, yn yr wrethra, neu ddefnyddio hufenau a sebonau o amgylch yr organau rhywiol.
Darllenwch ragor am achosion wrethritis di-onococaidd.
Pwy sydd yn cael ei effeithio?
Wrethritis yw un o'r rhesymau mwyaf cyffredin y bydd dynion yn ymweld â'u clinig meddygaeth genhedlol-droethol (GUM) neu glinig iechyd rhywiol.
Gwneir diagnosis o ryw 80,000 o achosion o wrethritis mewn dynion bob blwyddyn. Mae'n anos gwneud diagnosis o wrethritis mewn menywod, o bosib oherwydd nad yw e'n achosi cymaint o symptomau.
Caiff NGU ei adnabod trwy ddefnyddio profion troeth a phrofion swab.
Darllenwch ragor am adnabod wrethritis di-onococaidd.
Trin wrethritis di-onococaidd
Caiff NSU ei drin â gwrthfiotigau ar bresgripsiwn fel arfer. Efallai y cewch chi nhw cyn eich bod yn derbyn canlyniadau eich prawf.
Cânt hwy eu defnyddio hefyd mewn achosion lle y credir i'r NGU gael ei achosi gan wrthrych, hufen neu sebon.
Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd angen ond cwrs byr o driniaeth a bydd y symptomau yn cilio ar ôl rhyw bythefnos.
Y gwrthfiotigau a ddefnyddir yn fwyaf cyffredin ydy azithromycin a doxycycline (Vibramycin-D).
Mae hi'n bwysig fod cyn bartneriaid rhywiol a phartneriaid rhywiol presennol yn cael eu trin hefyd i atal yr haint rhag lledaenu ymhlith pobl eraill.
Ar ôl gorffen y driniaeth, ac wedi i'r symptomau diflannu, dylai hi fod yn ddiogel dechrau cael cyfathrach rywiol eto.
Darllenwch ragor am drin wrethritis di-onococaidd
Atal wrethritis di-onococaidd
Oherwydd bod NGU wedi ei achosi, gan amlaf gan haint a drosglwyddir yn rhywiol, cadw at ryw ddiogel ydy'r ffordd orau osgoi'r siawns o'i ddioddef.
Mae rhyw ddiogel yn golygu defnyddio dulliau rhwystrol o atal genhedlu, megis condomau, a chael profion rheolaidd mewn clinig iechyd rhywiol neu GUM.
Darllenwch ragor am atal wrethritis di-onococaidd.
Cymhlethdodau
Gall cymhlethdodau godi o NGU. Er enghraifft, gall y cyflwr dod yn ôl tro ar ôl tro mewn rhai achosion.
Gall cymhlethdodau eraill gynnwys:
- syndrom Reiter, lle bydd y system imiwnedd yn dechrau ymosod ar feinwe iach, a all arwain at boen yn y cymalau a llid yr amrannnau
- epididymo-orchitis, sef llid yn y ceilliau
Yn aml ni fydd menyw yn profi symptomau NGU, ond os caiff ei achosi gan clamydia fe all arwain at glefyd llidiol y pelfis (PID) os na chaiff ei drin. Mae dioddef pyliau o PID tro ar ôl tro yn cael eu cysylltu â risg uwch o anffrwythlondeb.
Darllenwch ragor am gymhlethdodau wrethritis di-onococaidd.