Cyflwyniad
Haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI) yw dafadennau gwenerol (genital warts) sy'n cael ei hachosi gan feirysau papiloma dynol neu HPVs. Er bod dros gant o wahanol fathau o HPV, mae'r rhan fwyaf o ddafadennau gwenerol yn cael eu hachosi gan HPV 6 a HPV 11. Mae dafadennau ar y bysedd neu ar wadnau'r traed (ferwcau) yn cael eu hachosi gan feirysau HPV gwahanol, nad ydynt yn lledaenu i groen yr organau cenhedlu.
Ewch i glinig iechyd rhywiol os oes gennych:
- 1 neu fwy o dyfiannau neu lympiau nad ydynt yn boenus o amgylch y wain, y pidyn neu'r anws
- cosi neu waedu o'r organau cenhedlu neu'r anws
- newid i lif cyffredin eich wrin (er enghraifft, mae wedi dechrau llifo i'r ochr) nad yw'n mynd i ffwrdd
- partner rhywiol sydd â dafadennau gwenerol, hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw symptomau
Gallai'r symptomau hyn olygu bod gennych ddafadennau gwenerol. Ewch i glinig iechyd rhywiol am archwiliad.
Mae clinigau iechyd rhywiol weithiau'n cael eu galw'n glinigau meddygaeth genhedlol-droethol (GUM), neu'n wasanaethau iechyd rhywiol ac atgenhedlu (SRH).
Gall triniaeth helpu i gael gwared â'r dafadennau ac atal yr haint rhag cael ei throsglwyddo ymlaen.
Pam y dylech fynd i glinig iechyd rhywiol
Gallwch weld meddyg teulu, ond fwy na thebyg bydd yn eich atgyfeirio i glinig iechyd rhywiol os yw'n credu y gallai fod gennych ddafadennau gwenerol.
Mae clinigau iechyd rhywiol yn arbenigo ar drin problemau â'r organau cenhedlu a'r system wrin.
Mae llawer o glinigau iechyd rhywiol yn cynnig gwasanaeth galw heibio sy'n golygu nad oes angen i chi wneud apwyntiad.
Bydd clinig iechyd rhywiol yn aml yn cael canlyniadau profion yn gyflymach na meddygfa.
Dod o hyd i glinig iechyd rhywiol
Beth sy'n digwydd mewn clinig iechyd rhywiol
Fel arfer, gall meddyg neu nyrs wneud diagnosis o ddafadennau gwenerol trwy edrych arnynt. Bydd yn:
- eich holi am eich symptomau a'ch partneriaid rhywiol
- yn edrych yn ofalus ar y lympiau o amgylch yr organau cenhedlu a'r anws, gan efallai ddefnyddio chwyddwydr
- efallai y bydd angen iddo/iddi edrych y tu mewn i'r wain, yr anws neu'r wrethra (ble mae wrin yn dod allan), yn dibynnu ar ble mae'r dafadennau
Efallai na fydd yn bosibl canfod oddi wrth bwy y cawsoch ddafadennau gwenerol nac am ba mor hir y mae'r haint wedi bod arnoch.
Triniaeth ar gyfer dafadennau gwenerol
Mae angen i'r driniaeth ar gyfer dafadennau gwenerol gael ei rhoi ar bresgripsiwn gan feddyg.
Bydd y math o driniaeth a gynigir i chi yn dibynnu ar olwg y dafadennau a ble maen nhw. Bydd y meddyg neu'r nyrs yn trafod hyn gyda chi.
Mae triniaethau'n cynnwys:
- hufen neu hylif: fel arfer, gallwch roi hwn ar y dafadennau eich hun ambell waith yr wythnos am sawl wythnos, ond mewn rhai achosion efallai y bydd angen i chi fynd i glinig iechyd rhywiol er mwyn i feddyg neu nyrs ei roi. Gall y triniaethau hyn achosi poen, llid neu deimlad o losgi
- llawdriniaeth: gall meddyg neu nyrs dorri, llosgi neu ddefnyddio laser i gael gwared â'r dafadennau. Gall hyn achosi poen, llid neu greithio
- rhewi: bydd meddyg neu nyrs yn rhewi'r dafadennau. Weithiau, bydd y driniaeth yn cael ei hailadrodd sawl tro. Gall hyn achosi poen.
Fe allai gymryd wythnosau neu fisoedd i'r driniaeth weithio, a gallai'r dafadennau ddod yn ôl. Nid yw'r driniaeth yn gweithio ar rai pobl.
Nid oes gwellhad ar gyfer dafadennau gwenerol, ond mae'n bosibl i'ch corff glirio'r feirws dros amser.
Gwnewch y canlynol
- dywedwch wrth y meddyg neu'r nyrs os ydych yn feichiog neu'n ystyried beichiogi, oherwydd ni fydd rhai triniaethau'n addas i chi
- ceisiwch osgoi defnyddio sebon, gel cawod neu gynnyrch bath persawrus yn ystod eich triniaeth oherwydd gall y rhain lidio'ch croen
- gofynnwch i'r meddyg neu'r nyrs a fydd eich triniaeth yn effeithio ar gondomau, diafframau neu gapiau
Peidiwch â gwneud y canlynol
- defnyddio triniaethau ar gyfer dafadennau o fferyllfa; nid yw'r rhain wedi'u gwneud ar gyfer dafadennau gwenerol
- ysmygu; mae llawer o driniaethau ar gyfer dafadennau gwenerol yn gweithio'n well os nad ydych yn ysmygu
- cael rhyw gweiniol, rhefrol na geneuol nes bod y dafadennau wedi mynd; os byddwch yn gwneud hynny, defnyddiwch gondom bob amser
Sut mae dafadennau gwenerol yn cael eu trosglwyddo ymlaen
Mae feirws y dafadennau gwenerol yn gallu cael ei drosglwyddo ymlaen p'un a oes dafadennau i'w gweld ai peidio.
Nid yw llawer o bobl sydd â'r feirws yn cael unrhyw symptomau, ond maen nhw'n gallu ei drosglwyddo ymlaen o hyd.
Os oes gennych ddafadennau gwenerol, dylai eich partneriaid rhywiol presennol gael eu profi oherwydd efallai y bydd ganddyn nhw ddafadennau heb yn wybod iddynt.
Ar ôl i chi ddal yr haint, gall gymryd wythnosau neu fisoedd lawer cyn i'r symptomau ymddangos.
Gallwch gael dafadennau gwenerol o'r canlynol:
Mae dafadennau gwenerol yn datblygu yn dilyn cysylltiad croen wrth groen â rhywun sydd â HPV yn ei groen. Gall haint â HPV ddigwydd –
- ar ôl cael cyfathrach rywiol heb gondom gyda rhywun sydd â HPV yn ei groen. Gall hyn fod yn rhyw gweiniol, rhefrol neu eneuol.
- os caiff HPV ei drosglwyddo o fam sydd â dafadennau gwenerol i'w baban adeg genedigaeth. Mae hyn yn anghyffredin iawn.
Ni allwch ddal dafadennau o gofleidio, rhannu bath, tywelion, dillad gwely, seddau toiled na phyllau nofio.
Sut i atal trosglwyddo dafadennau gwenerol ymlaen
Gallwch osgoi trosglwyddo dafadennau gwenerol ymlaen trwy:
- ddefnyddio condom bob tro y byddwch yn cael rhyw gweiniol, rhefrol neu eneuol - ond os yw'r feirws yn bresennol ar groen nad yw wedi'i orchuddio gan gondom, fe allai gael ei drosglwyddo o hyd
- peidio â rhannu teganau rhyw; os byddwch yn eu rhannu, golchwch nhw neu gorchuddiwch nhw â chondom newydd cyn i unrhyw un arall eu defnyddio
- peidio â chael rhyw os ydych newydd roi hufen neu hylif triniaeth dafadennau ar eich croen. Mae cael cyfathrach rywiol heb amddiffyniad tra bydd dafadennau arnoch yn eich gwneud yn fwy tebygol o lawer o drosglwyddo feirws y dafadennau i'ch partner. Gallai defnyddio condom helpu i amddiffyn eich partner rhag cael ei heintio â'r feirws, os bydd y condom yn gorchuddio'r croen sydd wedi'i effeithio a bod y condom yn cael ei wisgo cyn bod unrhyw gyswllt croen yn digwydd.
Pam mae dafadennau gwenerol yn dod yn ôl
Mae'n eithaf cyffredin i ddafadennau gwenerol ddod yn ôl, fel arfer yn y tri mis cyntaf ar ôl iddynt ddiflannu. Gan amlaf, bydd hyn yn digwydd oherwydd bod HPV yn y croen o hyd. Mae pobl sy'n ysmygu'n fwy tebygol o weld eu dafadennau'n dod yn ôl. Fodd bynnag, gydag amser, bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael gwared ar HPV ac ni fyddant yn datblygu dafadennau newydd.
Gallai dafadennau ddiflannu heb driniaeth, ond gall hyn gymryd sawl mis. Gallwch drosglwyddo'r feirws ymlaen o hyd, a gallai'r dafadennau ddod yn ôl.
Dafadennau gwenerol a chanser
Mae'n hynod anghyffredin i ddafadennau droi'n ganseraidd. Mae hyn oherwydd bod y feirysau HPV sy'n achosi'r rhan fwyaf o ddafadennau (HPV 6 ac 11) yn feirysau 'risg isel'.
Pa HPVs all achosi canser? O'r rhyw 100 o HPVs sy'n gallu heintio pobl, mae'n hysbys bod 13 ohonynt yn achosi canser. Y pwysicaf o'r feirysau 'risg uchel' hyn yw HPV 16 ac 18.
Mae'r brechlyn HPV a gynigir i ferched a bechgyn 12 i 13 oed yng Nghymru yn amddiffyn rhag canser serfigol a dafadennau gwenerol.
Hefyd, mae'r brechlyn HPV yn cael ei gynnig i ddynion (hyd at 45 oed) sy'n cael rhyw gyda dynion (MSM), dynion traws a menywod draws, gweithwyr rhyw, a dynion a menywod sy'n byw gyda HIV.
Dysgwch fwy am y brechlyn HPV.
Dafadennau gwenerol a beichiogrwydd
Pwysig
Dywedwch wrth eich bydwraig neu'ch meddyg:
- os ydych yn feichiog, neu'n credu eich bod yn feichiog, a bod gennych ddafadennau gwenerol neu'n credu bod gennych ddafadennau gwenerol
Nid yw'n anarferol i fenywod ddatblygu dafadennau gwenerol am y tro cyntaf yn ystod beichiogrwydd. Gall newidiadau yn system imiwnedd a chyflenwad gwaed menyw ganiatáu i ddafadennau ddatblygu. Gall dafadennau gael eu trin yn ystod beichiogrwydd, ond gall fod yn fwy anodd cael gwared arnynt. Bydd y rhan fwyaf o fenywod yn sylwi bod eu dafadennau'n diflannu yn ystod yr wythnosau yn dilyn geni'u baban.
A all dafadennau effeithio ar fy maban? Mae'n anghyffredin i fabanod menywod â dafadennau gwenerol ddatblygu dafadennau eu hunain. Os bydd hyn yn digwydd, bydd y rhain fel arfer ar groen y baban. Yn anaml iawn, gall dafadennau ddatblygu yng nghorn gwddf y baban.
A fydd angen toriad Cesaraidd arnaf i? Nid yw cael dafadennau gwenerol yn ystod beichiogrwydd yn rheswm fel arfer dros gael toriad Cesaraidd. Bydd y rhan fwyaf o fenywod beichiog â dafadennau yn esgor eu baban drwy'r wain.
Mae'r rhan fwyaf o fenywod beichiog sydd â dafadennau gwenerol yn esgor trwy'r wain. Efallai y cynigir toriad Cesaraidd i chi, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Symptomau
Fel arfer, mae dafadennau gwenerol yn ymddangos o fewn dau i dri mis o ddatblygu haint HPV, ond mae bylchau o hyd at flwyddyn rhwng haint HPV ac ymddangosiad dafadennau wedi cael eu hadrodd.
Mewn menywod, mae dafadennau gwenerol fel arfer yn dechrau fel lympiau bach â theimlad grutiog iddynt sy'n mynd yn fwy. Mewn dynion, mae'r dafadennau yn edrych yn debyg i ddafadennau sydd weithiau'n datblygu ar ddwylo rhywun (yn solet ac wedi'u codi, gydag arwyneb garw).
Gall rhywun gael un ddafaden, neu glystyrau o nifer o ddafadennau sy'n tyfu gyda'i gilydd, sy'n edrych yn debyg i 'flodfresychen'.
Nid yw dafadennau'n achosi poen fel arfer, er y gallai rhai pobl brofi symptomau crafu a chosi poenus, yn enwedig os yw dafadennau'n datblygu o amgylch yr anws (y twll pen ôl).
Mewn rhai pobl, bydd y dafadennau'n gwaedu yn ystod rhyw. Fodd bynnag, argymhellir eich bod yn osgoi cael rhyw tan fod eich dafadennau gwenerol wedi gwella'n llwyr. Gweler trin dafadennau gwenerol i gael rhagor o wybodaeth.
Gall dafadennau sy'n datblygu ger yr wrethra, neu y tu mewn iddo, amharu ar lif arferol wrin. Yr wrethra yw'r tiwb sydd wedi'i gysylltu â'r bledren, y mae wrin yn mynd trwyddo.
Dafadennau mewn menywod
Dyma'r mannau mwyaf cyffredin i ddafadennau gwenerol ddatblygu mewn menywod:
- o amgylch y fwlfa (agoriad y wain), sy'n digwydd mewn 2 o bob 3 o achosion o ddafadennau gwenerol
- y tu mewn i'r wain, sy'n digwydd mewn 1 o bob 3 o achosion
- rhwng y wain a'r anws, sy'n digwydd mewn 1 o bob 3 o achosion
- o amgylch yr anws, sy'n digwydd mewn 1 o bob 4 o achosion
- ar wddf y groth, sy'n digwydd mewn 1 o bob 10 o achosion
- wrth agoriad yr wrethra, sy'n digwydd mewn 1 o bob 25 o achosion
Dafadennau mewn dynion
Dyma'r mannau mwyaf cyffredin i ddafadennau gwenerol ddatblygu mewn dynion:
- ar siafft y pidyn, fel arfer ychydig islaw'r blaengroen, sy'n digwydd mewn tua hanner yr holl achosion
- o amgylch yr anws, sy'n digwydd mewn 1 o bob 3 o achosion
- ar flaen y pidyn, sy'n digwydd mewn 1 o bob 10 o achosion
- y tu mewn i'r wrethra, sy'n digwydd mewn 1 o bob 10 o achosion
- o dan y blaengroen, sy'n digwydd mewn 1 o bob 12 o achosion
- rhwng yr anws a'r ceillgwd (y bag sy'n cynnwys y ceilliau), sy'n digwydd mewn tua 1 o bob 30 o achosion
- ar y ceillgwd, sy'n digwydd mewn 1 o bob 100 o achosion
Pryd i geisio cyngor meddygol
Dylech bob amser geisio cyngor meddygol os ydych yn amau bod gennych ddafadennau gwenerol. Mae tri rheswm am hyn:
- Gall fod yn rhwydd i bobl nad ydynt yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol gamgymryd tyfiant, a allai fod yn ddifrifol, am ddafaden wenerol. Felly, argymhellir yn gryf eich bod yn cael diagnosis meddygol.
- Mae pob triniaeth ar gyfer dafadennau gwenerol ar gael ar bresgripsiwn yn unig, felly bydd angen i chi gael presgripsiwn i gael triniaeth.
- Dylai rhai triniaethau gael eu rhoi gan nyrs neu feddyg sydd wedi cael hyfforddiant priodol yn unig.
Achosion
Mae dafadennau gwenerol yn cael eu hachosi gan y feirws papiloma dynol (HPV).
Mae HPV yn targedu math o feinwe o'r enw meinwe epithelaidd sy'n bodoli ar groen, ac ar leinin llawer o geudodau'r corff, fel:
- yr organau cenhedlu benywaidd, gan gynnwys y wain, y fwlfa a gwddf y groth
- yr anws
- y geg
Nid un feirws unigol yw'r feirws papiloma dynol (HPV), ond teulu o fwy na 100 o wahanol rywogaethau o feirysau.
Nid yw'r rhan fwyaf o achosion o haint HPV yn arwain at symptomau gweladwy, felly gall llawer o bobl fod â haint HPV heb sylweddoli hynny.
Mae ambell rywogaeth o'r feirws yn achosi dafadennau gwenerol. Mae tua 90% o'r holl achosion o ddafadennau gwenerol yn cael eu hachosi gan ddwy rywogaeth o'r feirws, sef math 6 a math 11.
Y ffordd fwyaf cyffredin y gall HPV gael ei drosglwyddo o un unigolyn i'r llall yw yn ystod cyfathrach rywiol.
Mae mathau eraill o weithgarwch rhywiol lle y gall HPV gael ei drosglwyddo o un unigolyn i'r llall yn cynnwys rhyw geneuol, rhyw rhefrol, a chysylltiad anhreiddiol rhwng yr organau cenhedlu.
Mewn achosion llai cyffredin, gall mam drosglwyddo HPV ymlaen i'w baban newydd-anedig yn ystod genedigaeth.
Achosion eraill posibl
Er nad oes cysylltiadau pendant wedi'u profi, awgrymwyd y gallai unigolyn sydd â dafadennau HPV ar ei ddwylo drosglwyddo haint drwy gyffwrdd ag organau cenhedlu rhywun arall.
Theori arall yw y gallai haint gael ei lledaenu trwy ddod i gysylltiad ag eitem sydd wedi'i halogi gan HPV, fel dillad gwely neu dywelion.
Diagnosis
Os ydych yn credu y gallai fod gennych ddafadennau gwenerol, ewch i'ch clinig iechyd rhywiol neu'ch clinig meddygaeth genhedlol-droethol (GUM) lleol.
Bydd eich meddyg teulu'n gallu gwneud diagnosis o ddafadennau gwenerol a rhoi rhai triniaethau, ond bydd amrywiaeth ehangach o driniaethau ar gael i'r nyrsys a'r meddygon yn eich clinig lleol.
Bydd y staff yn y clinig wedi cael hyfforddiant arbenigol i'w helpu i wneud diagnosis, rhoi triniaeth i chi a'ch cefnogi. Nid oes prawf gwaed i wirio am haint HPV actif.
Gallwch ddod o hyd i'ch clinig GUM lleol yn yr adran chwilio am wasanaethau: iechyd rhywiol.
Pwy ddylai fynd i gael archwiliad?
Dylech gael archwiliad os oes gennych arwyddion a symptomau amlwg o ddafadennau gwenerol, neu os yw partner rhywiol diweddar neu bresennol yn datblygu dafadennau gwenerol neu unrhyw fath arall o haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI).
Gallech ddymuno cael archwiliad hefyd:
- os ydych wedi cael rhyw heb amddiffyniad yn ddiweddar gyda phartner newydd
- os ydych chi neu'ch partner wedi cael rhyw heb amddiffyniad gyda phartneriaid eraill
- os oes gennych STI arall
- os ydych yn feichiog, neu'n bwriadu beichiogi
Mae pob archwiliad mewn clinig iechyd rhywiol a GUM yn rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol.
Gwneud diagnosis o ddafadennau gwenerol
Fel arfer, gellir gwneud diagnosis o ddafadennau gwenerol yn hawdd trwy archwiliad syml. Yn yr archwiliad, bydd y meddyg neu'r nyrs yn archwilio'r dafadennau. Efallai y bydd yn defnyddio chwyddwydr i wneud hyn.
Efallai y cewch eich cynghori i gael rhannau eraill o groen eich organau cenhedlu wedi'u harchwilio - er enghraifft, y tu mewn i'r wain neu o amgylch yr anws.
Profion ychwanegol
Yn dibynnu ar ble mae'ch dafadennau, efallai y cewch eich cynghori i gael archwiliad manylach. Os byddwch yn cael archwiliad o'r wain, bydd hyn fel arfer yn cael ei wneud gan ddefnyddio tiwb plastig neu fetel bach o'r enw sbecwlwm gweiniol.
Bydd hyn yn caniatáu i'r meddyg neu'r nyrs weld y tu mewn i'r wain. Mae'n archwiliad syml ac nid yw'n boenus, fel arfer.
Os cewch eich cynghori i gael archwiliad o'r tu mewn i'r anws, bydd hyn fel arfer yn cael ei wneud gan ddefnyddio tiwb plastig bach o'r enw proctosgop. Bydd hyn yn caniatáu i'r meddyg neu'r nyrs weld y croen y tu mewn i'r anws. Nid yw'n boenus, fel arfer.
Os ydych yn cael problemau â llif wrin, efallai y cewch eich cynghori i gael archwiliad arbennig o'r wrethra (y tiwb y mae wrin yn llifo trwyddo). Bydd hyn yn cael ei wneud gan arbenigwr yn unig, fel arfer.
Triniaeth
Mae'r driniaeth ar gyfer dafadennau gwenerol yn dibynnu ar y math o ddafadennau sydd gennych a ble maen nhw wedi'u lleoli. Ni fydd angen i chi gael triniaeth os nad oes unrhyw ddafadennau i'w gweld.
Mae dau brif fath o driniaeth ar gyfer dafadennau gwenerol:
- rhoi hufen, hylif neu gemegyn ar y dafadennau (triniaeth argroenol)
- dinistrio meinwe'r dafadennau trwy eu rhewi, eu gwresogi neu eu torri ymaith (abladiad ffisegol)
Mae'r rhan fwyaf o driniaethau argroenol yn tueddu i weithio'n well ar ddafadennau mwy meddal, ac mae abladiad ffisegol yn tueddu i weithio'n well ar ddafadennau caletach sy'n teimlo'n fwy garw. Weithiau, argymhellir cyfuniad o driniaethau argroenol.
Mewn rhai pobl, fe all gymryd sawl mis i'r driniaeth gael gwared â'r dafadennau, felly mae'n bwysig dal ati.
Efallai y cewch eich cynghori i osgoi sebon persawrus, cael bath swigod neu ddefnyddio trwyth tra'ch bod yn cael triniaeth ar gyfer dafadennau, oherwydd gall y rhain lidio'r croen weithiau.
Triniaeth argroenol
Mae nifer o wahanol fathau o driniaethau argroenol y gellir eu defnyddio i drin dafadennau gwenerol. Mae rhai hufennau'n gallu gwanhau condomau, diafframau neu gapiau latecs. Cofiwch wirio hyn gyda'r meddyg neu'r nyrs, a fydd yn gallu rhoi cyngor i chi.
Disgrifir triniaethau argroenol isod.
Podophyllotoxin
Fel arfer, argymhellir podophyllotoxin i drin clystyrau o ddafadennau bach. Mae'n dod ar ffurf hylif ac yn gweithio trwy gael effaith docsig (gwenwynig) ar gelloedd y dafadennau.
Defnyddir chwistrell arbennig i fesur y dos cywir o'r hylif, sydd yna'n cael ei ddiferu ar y ddafaden. Gallech deimlo ychydig o boen ysgafn wrth roi hylif neu hufen ar y ddafaden. Fel arfer, argymhellir rhoi hufen ar fannau lle mae'n anodd rhoi hylif.
Mae triniaeth gyda podophyllotoxin wedi'i seilio ar gylchoedd. Mae'r cylch triniaeth cyntaf yn golygu rhoi'r feddyginiaeth ddwywaith y dydd am dri diwrnod. Dilynir hyn gan gylch gorffwys pan fyddwch yn cael pedwar diwrnod heb driniaeth. Bydd angen i'r rhan fwyaf o bobl gael pedwar i bum cylch triniaeth wedi'u gwahanu gan gylchoedd gorffwys. Ni ddylech ddefnyddio podophyllotoxin os ydych yn feichiog.
Imiquimod
Mae imiquimod yn fath o hufen sydd fel arfer yn cael ei argymell i drin dafadennau mwy o faint.
Mae imiquimod yn gweithio trwy helpu i ysgogi'r system imiwnedd i ymosod ar y dafadennau. Rydych yn rhoi'r hufen ar y dafadennau ac yna'n ei olchi i ffwrdd ar ôl chwech i ddeg awr. Dylid gwneud hyn dair gwaith yr wythnos.
Efallai y bydd eich croen yn cosi'n boenus ar ôl i chi roi'r hufen. Bydd hyn yn ysgafn fel arfer, ond cysylltwch â'r meddyg neu'r clinig os nad yw'n gwella.
Yn aml, fe all gymryd sawl wythnos o driniaeth cyn i chi sylwi bod eich dafadennau'n gwella.
Nid yw imiquimod fel arfer yn cael ei ddefnyddio os ydych yn feichiog.
Asid tricloroasetig (TCA)
Efallai y bydd asid tricloroasetig (TCA) yn cael ei argymell i drin dafadennau bach sy'n galed iawn.
Mae'n gweithio trwy ddinistrio'r proteinau y tu mewn i gelloedd y ddafaden. Ond os na chaiff ei roi'n gywir, gall TCA niweidio croen iach.
Credir bod TCA yn ddiogel i'w ddefnyddio yn ystod beichiogrwydd.
Ni ddylech roi TCA eich hun. Yn lle hynny, gofynnir i chi fynd i'ch clinig GUM lleol unwaith yr wythnos er mwyn i feddyg neu nyrs roi'r feddyginiaeth.
Ar ôl i TCA gael ei roi, mae rhai pobl yn profi teimlad dwys o losgi am tua 5 i 10 munud.
Abladiad ffisegol
Defnyddir pedwar prif ddull o gael gwared â dafadennau gwenerol trwy abladiad ffisegol, sef:
- cryotherapi
- trychu
- electrolawdriniaeth
- llawdriniaeth laser
Mae'r triniaethau hyn yn cael eu rhoi gan feddyg neu nyrs hyfforddedig.
Cryotherapi
Fel arfer, argymhellir cryotherapi i drin llawer o ddafadennau bach, yn enwedig rhai sy'n datblygu ar siafft y pidyn neu ar y fwlfa neu'n agos ati.
Mae cryotherapi yn golygu rhewi'r ddafaden gan ddefnyddio nitrogen hylifol. Mae rhewi'n helpu i ladd celloedd y ddafaden trwy rannu eu pilenni allanol. Ar ôl i'r ddafaden gael ei rhewi, caniateir iddi ddadrewi ac, os oes angen, gellir ei rhewi a'i dadrewi eto.
Yn ystod triniaeth cryotherapi, byddwch yn profi teimlad o losgi ysgafn i gymedrol. Pan fydd y driniaeth wedi gorffen, rydych yn debygol o ddatblygu llid ar y croen, pothelli a phoen yn y man lle mae'r ddafaden. Bydd yn cymryd rhwng un a thair wythnos i'ch croen wella.
Dylech osgoi cael rhyw nes bod y croen o amgylch y ddafaden wedi gwella'n llwyr.
Trychu
Weithiau, argymhellir trychu, sy'n golygu torri dafadennau ymaith, i drin dafadennau bach, caled, yn enwedig pan fyddant yn gyfuniad o ddafadennau llai sydd wedi uno i ffurfio siâp tebyg i flodfresychen.
Ar ddechrau'r driniaeth, rhoddir anesthetig lleol i chi i fferru'r croen o amgylch y ddafaden. Yna, bydd y ddafaden yn cael ei thorri ymaith gan ddefnyddio fflaim (scalpel) lawfeddygol, a bydd y toriad yn cael ei selio â phwythau.
Gallu trychu achosi craith, felly efallai na fydd yn addas i ddafadennau mawr iawn. Bydd y croen y torrwyd y ddafaden allan ohono yn boenus ac yn dyner am oddeutu un i dair wythnos.
Dylech osgoi cael rhyw nes bod y croen o amgylch y ddafaden wedi gwella'n llwyr.
Electrolawdriniaeth
Yn aml, mae electrolawdriniaeth yn cael ei chyfuno â thrychu i drin dafadennau mawr sy'n datblygu o amgylch yr anws neu'r fwlfa nad ydynt wedi ymateb i driniaethau argroenol.
Yn gyntaf, torrir rhan allanol y ddafaden ymaith gan ddefnyddio trychu. Yna, mae dolen fetel yn cael ei gwasgu yn erbyn y ddafaden. Mae cerrynt trydan yn cael ei yrru trwy'r ddolen er mwyn llosgi gweddill y ddafaden ymaith.
Fe all fod yn eithaf poenus cael gwared ar nifer fawr o ddafadennau yn y modd hwn, felly efallai y byddwch yn cael anesthetig rhanbarthol (lle mae popeth islaw'r asgwrn cefn yn cael ei fferru, yn debyg i epidwrol yn ystod beichiogrwydd) neu anesthetig cyffredinol.
Llawdriniaeth laser
Efallai yr argymhellir llawdriniaeth laser i drin dafadennau gwenerol mawr na ellir eu trin gan ddefnyddio dulliau eraill o abladiad ffisegol oherwydd eu bod nhw'n anodd cael atynt, fel rhai sy'n ddwfn y tu mewn i'r anws neu'r wrethra (y tiwb sy'n cysylltu'r bledren â'r pidyn neu'r fwlfa, y mae wrin yn mynd trwyddo).
Yn ystod y driniaeth, bydd llawfeddyg yn defnyddio laser i losgi'r dafadennau ymaith. Yn dibynnu ar nifer a maint y dafadennau, gellir gwneud llawdriniaeth laser dan anesthetig lleol neu gyffredinol.
Yn yr un modd â mathau eraill o driniaeth abladiad, dylech ddisgwyl poen a llid yn yr ardal lle y tynnwyd y dafadennau ymaith. Dylai hyn wella o fewn dwy i bedair wythnos.
Dafadennau gwenerol a rhyw
Argymhellir na ddylech gael rhyw, gan gynnwys rhyw rhefrol a geneuol, nes bod eich dafadennau gwenerol wedi gwella'n llwyr.
Bydd hyn yn eich helpu i osgoi trosglwyddo'r haint ymlaen i eraill. Bydd hefyd yn eich helpu i wella, gan fod y rhwbio sy'n digwydd yn ystod rhyw yn gallu achosi i'r croen a driniwyd fynd yn boenus ac yn llidus.
Hyd yn oed ar ôl i'r dafadennau fynd, fe allai olion y feirws papiloma dynol (HPV) fod ar ôl yng nghelloedd eich croen o hyd. Felly, argymhellir eich bod yn defnyddio condom yn ystod rhyw am y tri mis cyntaf ar ôl i'r dafadennau glirio.
Ysmygu
Am resymau sy'n dal i fod yn aneglur, mae llawer o'r triniaethau a drafodwyd ar y dudalen hon yn fwy effeithiol os nad ydych yn ysmygu.
Os ydych yn ysmygu, gallai rhoi'r gorau iddi helpu i gyflymu'r broses o wella o ddafadennau gwenerol.
Bydd rhoi'r gorau i ysmygu yn arwain at amrywiaeth o fuddion iechyd pwysig eraill hefyd, fel lleihau eich perygl o ddatblygu canser yr ysgyfaint a chlefyd y galon yn sylweddol.
Mae'r wefan Dim Smygu Cymru yn rhoi cymorth, cyngor a chynhyrchion i bobl sydd eisiau rhoi'r gorau i ysmygu. Efallai y bydd eich meddyg teulu yn gallu rhoi meddyginiaeth i chi ar bresgripsiwn i'ch helpu i roi'r gorau iddi hefyd.
Atal
Gall defnyddio condomau helpu i amddiffyn rhag y feirws sy'n achosi dafadennau gwenerol. Mae brechlyn ar gael hefyd.
Condomau
Y ffordd fwyaf effeithiol o osgoi cael dafadennau gwenerol, heblaw am ymwrthod rhag rhyw yn llwyr, yw defnyddio condomau (gwrywaidd neu fenywaidd) bob tro rydych chi'n cael rhyw gweiniol neu refrol.
Mae condomau hefyd yn helpu i'ch amddiffyn rhag mathau eraill o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs) a beichiogrwydd.
Fodd bynnag, nid yw condomau'n amddiffyn 100%. Mae dafadennau gwenerol yn digwydd o ganlyniad i haint feirysol ar y croen sy'n cael ei hachosi gan y feirws papiloma dynol (HPV). Oherwydd bod HPV yn cael ei ledaenu trwy gysylltiad croen wrth groen, mae'n bosibl i'r croen o amgylch ardal eich organau cenhedlu (nad yw wedi'i orchuddio gan y condom) gael ei heintio.
Ond condomau yw'r opsiwn mwyaf diogel o hyd. Os byddwch yn cael rhyw geneuol, gorchuddiwch y pidyn â chondom. Gallwch ddefnyddio rhwystr deintyddol, sef sgwâr latecs neu bolywrethan (plastig), i orchuddio'r ardal refrol neu'r organau cenhedlu benywaidd. Fel arfer, mae rhwystrau deintyddol ar gael mewn clinigau meddygaeth genhedlol-droethol (GUM) yn unig, ond efallai y bydd eich fferyllydd lleol yn gallu archebu un i chi.
Ceisiwch osgoi rhannu teganau rhyw. Ond os byddwch yn eu rhannu, golchwch nhw neu gorchuddiwch nhw â chondom newydd cyn i unrhyw un arall eu defnyddio.
Bydd dilyn y mesurau hyn hefyd yn helpu i'ch amddiffyn rhag cael nifer o heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol (STIs), fel HIV, clamydia a gonorea.
Brechlynnau HPV
Nid yw brechlynnau HPV ar gael am ddim y tu allan i raglen frechu'r GIG ar hyn o bryd. Yn y Deyrnas Unedig, cynigir brechlynnau HPV i bob merch 12 i 13 oed ym mlwyddyn ysgol 8.
Ers mis Medi 2012, mae'r brechlyn Gardasil wedi cael ei ddefnyddio ac mae'n gallu helpu i amddiffyn rhag HPV math 6 ac 11, sy'n achosi tua 90% o'r achosion o ddafadennau gwenerol.
Mae hefyd yn amddiffyn rhag mathau 16 a 18, sy'n gysylltiedig â mwy na 70% o'r achosion o ganser serfigol yn y Deyrnas Unedig.
Cyn mis Medi 2012, roedd brechlyn gwahanol o'r enw Cervarix yn cael ei ddefnyddio i amddiffyn rhag HPV math 16 a 18.
Nid yw brechlynnau HPV yn gallu amddiffyn rhag pob math o HPV. Os ydych chi'n fenyw ac wedi cael brechlynnau HPV, dylech barhau i fynd i apwyntiadau sgrinio serfigol (profion gwddf y groth) gan nad yw'r brechlynnau'n gwarantu na fyddwch yn datblygu canser serfigol yn y dyfodol.
Mae brechlynnau HPV wedi'u bwriadu i geisio helpu i'ch amddiffyn rhag datblygu mathau penodol o haint HPV. Maen nhw'n debygol o fod yn fwyaf buddiol cyn i chi gael cysylltiad rhywiol. Nid yw'n glir a fyddai'n fuddiol cael brechlyn HPV os ydych:
- yn ddyn
- yn fenyw sy'n rhy hen i fod wedi'i chynnwys yn rhaglen frechu'r GIG
- eisoes wedi cael rhyw
Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf:
25/04/2022 15:13:27