LGBTQ+

Sgrinio ar gyfer pobl drawsrhywiol

Sgrinio i bobl draws

Beth yw sgrinio?

Mae sgrinio yn ffordd o ddarganfod a ydych mewn perygl o ddatblygu cyflyrau iechyd penodol, neu os oes gennych chi’r cyflyrau. Mae gwybodaeth a thriniaeth gynnar yn cynyddu’r opsiynau sydd ar gael.

Gall sgrinio achosi problemau penodol i bobl draws, yn enwedig os yw’n golygu bod angen edrych ar rannau penodol o’r corff. Mae’r frest, ceg y groth, y ceilliau a’r brostad yn rhannau sydd angen eu sgrinio a/neu hunan-wirio i leihau’r tebygolrwydd o ddatblygu canser. Fodd bynnag, gan fod y rhannau hyn yn benodol i rywiau penodol, efallai bydd pobl draws yn ei gweld yn anodd, yn emosiynol ac yn ymarferol, i gymryd rhan yn y broses sgrinio. Hefyd, efallai byddwch yn gweld na chewch wahoddiad i brofion sgrinio pan fydd angen, os ydych chi wedi gofyn i’r gwasanaeth iechyd newid eich rhywedd ar eu cofnodion.

Pa fath o brofion sgrinio sydd eu hangen ar bobl draws?

Fel arfer, bydd angen yr un gwahoddiadau sgrinio â’r rhywedd a benodwyd i chi pan gawsoch eich geni. Hyd yn oed os ydych chi wedi cael triniaeth cadarnhau rhywedd (fel mastectomi), efallai bydd angen prawf sgrinio arnoch o hyd. Bydd yr union fath o sgrinio bydd ei angen arnoch yn dibynnu ar y driniaeth cadarnhau rhywedd yr ydych wedi’i chael, os o gwbl. Os ydych chi wedi newid eich rhywedd ar gofnodion y GIG, ond mae gennych briodoleddau corfforol eich rhyw genedigol, efallai na fyddwch yn cael negeseuon atgoffa na gwahoddiadau i brofion sgrinio. Siaradwch â’ch meddyg teulu a’ch meddyg ymgynghorol, os oes gennych chi un.

Os ydych chi’n cymryd hormonau, gall hyn eich rhoi mewn perygl o rai mathau penodol o ganser. Siaradwch â’ch meddyg ymgynghorol am ba brofion sgrinio sydd eu hangen arnoch wrth gymryd hormonau.

Mae hefyd yn bwysig eich bod yn hunan-wirio yn rheolaidd. Efallai bydd hyn yn galed, yn enwedig os ydych yn ei chael hi’n anodd gwneud hyn. Mae rhywfaint o dystiolaeth yn dangos nad yw pobl drawsryweddol yn hunan-wirio eu bronnau, meinwe’r bronnau na’u ceilliau’n iawn. Os nad ydych chi’n hoffi’r rhannau hyn o’ch corff, efallai na fyddwch chi eisiau eu cyffwrdd na chael eich atgoffa ohonynt. Fodd bynnag, mae ceisio bod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau i’ch corff yn bwysig iawn.

Rhestr o brofion sgrinio

Efallai bydd angen profion gwaed therapi disodli hormonau (HRT) blynyddol arnoch os ydych chi ar HRT, ac mae sawl prawf sgrinio arall y dylai pawb gael gwahoddiad i’w gwneud fel mater o drefn.

a) Sgrinio Ymlediad Aortaidd yn yr Abdomen: Os ydych chi wedi’ch cofrestru fel person gwrywaidd, cewch eich gwahodd pan fyddwch yn troi’n 65 oed. Os nad ydych chi wedi’ch cofrestru fel gwrywaidd, dylech siarad â’ch gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i benderfynu a yw hwn yn brawf sydd ei angen arnoch.

b) Prawf sgrinio’r fron: Os ydych chi wedi’ch cofrestru gyda’ch meddyg teulu fel menyw, ac rydych chi rhwng 50 a 70 oed, byddwch yn cael gwahoddiad. Os cawsoch chi eich penodi’n fenywaidd pan gawsoch eich geni, neu os ydych yn fenyw draws sydd wedi bod yn cymryd hormonau yn y tymor hir, byddai cymryd rhan mewn sgrinio’r fron yn syniad da, gan fod gennych risg uwch o ganser y fron. Os nad ydych chi wedi’ch cofrestru fel menyw, ni chewch eich gwahodd i brawf sgrinio, a dylech siarad â’ch meddyg i sicrhau eich bod wedi cael eich cynnwys. Ewch i Bron Brawf Cymru am ragor o wybodaeth.

c) Sgrinio serfigol: Os ydych chi wedi’ch cofrestru fel menyw ac rydych dros 25 oed, byddwch yn cael eich gwahodd. Os oes gennych geg y groth, ni waeth beth yw eich hunaniaeth rhywedd, dylech gael eich sgrinio. Ewch i Sgrinio Serfigol Cymru am ragor o wybodaeth.

d) Sgrinio’r brostad: Nid yw llawdriniaeth cadarnhau rhywedd i fenywod traws yn tynnu’r brostad. Os ydych yn fenyw draws neu’n berson anneuaidd wedi eich pennu’n wrywaidd adeg eich geni, a’ch bod chi dros 50 oed, dylech ofyn i’ch meddyg teulu am brawf sgrinio’r brostad gan eich bod yn parhau i fod mewn perygl.

I weld rhestr o daflenni ffeithiau iechyd pobl draws, ewch i Gires.

Pan fydd pethau’n mynd o’i le

Mae gennych hawl i gael eich trin ag urddas a pharch gan eich gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Gall cael prawf sgrinio fod yn anodd i bobl draws a phobl anneuaidd. Weithiau, mae cael eich sgrinio ar ddechrau neu ddiwedd y sesiwn yn gallu bod yn help. Siaradwch â’ch darparwyr gofal iechyd neu ffoniwch y gwasanaeth sgrinio’n uniongyrchol os gellir gwneud unrhyw beth fydd yn gwneud y broses yn haws i chi.

Os byddwch yn profi unrhyw drafferthion wrth gael mynediad at brawf sgrinio neu unrhyw fath arall o ofal iechyd, gallwch wneud cwyn yma. Mae gennych hawl i gwyno ac ni ddylech gael gofal o ansawdd is o ganlyniad i hynny.

Os byddwch yn cael unrhyw drafferthion wrth gael mynediad at brawf sgrinio neu’n credu eich bod chi wedi cael eich gwahaniaethu yn eich erbyn, eich bwlio neu eich aflonyddu ar sail cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth neu fynegiant rhywedd, gallwch gyflwyno pryder trwy’r broses Putting Things Right. Ni fyddwch chi’n cael gofal o ansawdd is o ganlyniad i hyn.