LGBTQ+

Cael plant

Magu Plant

Mae gan bobl LGBTQ+ cymaint o hawl i fod yn rhieni â phawb arall. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod plant sy’n cael eu magu mewn teuluoedd sydd ag un neu ddau riant LGBTQ+ yn llwyddo cymaint â phlant eraill. Mae mwy o ffyrdd nag erioed i bobl LGBTQ+ fod yn rhieni.

Y prif opsiynau yw atgenhedlu â chymorth (triniaeth ffrwythlondeb), mabwysiadu/maethu, benthyg croth a threfniadau cyd-rianta. Gall pobl LGBTQ+ hefyd fod yn rhieni trwy drefniadau anffurfiol neu fod yn llys-deulu, neu fod â phlant o berthnasoedd blaenorol. Mae’r rhain i gyd yn fathau o deulu LGBTQ+.

Ffyrdd o gael plant

Mae gan unrhyw bâr, ni waeth beth yw eu cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth neu fynegiant rhywedd, sy’n ystyried cael plant, sawl opsiwn gwahanol.

Gall y sefyllfa fod yn fwy cymhleth i bobl draws, ac efallai gallech ystyried gofyn am gyngor arbenigol. Fodd bynnag, mae gennych yr un hawliau â phawb arall, ac mae llawer o’r cyngor a roddir isod yn berthnasol i chi.

Atgenhedlu â chymorth e.e. triniaeth ffrwythlondeb

Mae gan bobl lesbiaidd a deurywiol yr un hawl i gael mynediad at glinigau ffrwythlondeb y GIG. Efallai y bydd angen i chi ariannu rhywfaint o’r driniaeth ffrwythlondeb eich hun cyn y bydd modd i chi gael triniaeth ffrwythlondeb ar y GIG.

Canllaw Stonewall i fenywod lesbiaidd ar sut i feichiogi.

Mabwysiadu neu faethu

Mae gan bobl LGBTQ+ yr un hawl i fabwysiadu â phawb arall. Gallwch fabwysiadu fel person unigol neu fel rhan o gwpl.

Am ragor o wybodaeth, gweler Stonewall .

Mae New Family Social yn grŵp i deuluoedd mabwysiadu a maethu LGBTQ+ ledled y DU.

Mae asiantaethau maethu a chynghorau yn recriwtio teuluoedd LGBTQ+ erbyn hyn.

http://www.thefca.co.uk/about-fostering/can-i-foster/lgbt-and-gender-in-fostering/

http://www.bridgendfostercare.wales/en/events-news/news/call-for-more-lgbt-adopters-and-foster-carers-in-bridgend/

http://corambaaf.org.uk/info/lgbt

Benthyg croth

Mae benthyg croth yn golygu y bydd rhywun arall yn cario’r babi dros y cwpl, gyda threfniant mai’r cwpl fydd y rhieni cyfreithiol pan fydd y plentyn wedi cael ei eni. Mae pobl LGBTQ+ wedi gwneud trefniadau benthyg croth llwyddiannus. Yn y DU, mae benthyg croth yn fater cymhleth iawn. Os ydych chi’n ystyried trefniant benthyg croth, dylech ofyn am gyngor cyfreithiol yn y camau cynnar. Gweler y dolenni isod.

http://www.stonewall.org.uk/help-advice/parenting-rights/surrogacy-1

https://www.surrogacyuk.org/about_surrogacy

Trefniadau cyd-rianta

Mae cyd-rianta yn drefniant lle mae dau neu fwy o bobl nad ydynt mewn perthynas yn penderfynu magu plentyn gyda’i gilydd. Gall unrhyw bâr, ni waeth beth yw eu cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth neu fynegiant rhywedd, ddewis cyd-rianta gyda’i gilydd. Mae trefniadau cyd-rianta yn aml yn gweithio’n dda, ond mae’n bwysig ystyried y materion cyfreithiol fel pwy fydd rhieni cyfreithiol y plentyn, pwy fydd â chyfrifoldeb rhieni, a phwy fydd yn gyfrifol am y plentyn o ddydd i ddydd. Mae’n werth gweld cyfreithiwr am gyngor cyfreithiol.

Mae gan y cylchgrawn rhieni LGBTQ+ We Are Family erthygl ddwy ran gynhwysfawr ar gyd-rianta.

Llys-deuluoedd/trefniadau anffurfiol

Efallai byddwch yn dod yn rhiant trwy ddechrau perthynas gyda rhywun sydd â chyfrifoldeb rhieni dros blentyn. Yn aml, mae gan llys-rieni LGBTQ+ berthynas agos â’u llysblant. Hyd yn oed os nad oes gennych gyfrifoldeb rhieni neu gydnabyddiaeth gyfreithiol fel llys-rhiant, efallai bydd gennych berthynas sydd mor agos a phwysig i chi a’ch plentyn â pherthynas rhiant biolegol neu gyfreithiol. Nid yw hyn yn cael ei gydnabod gan bawb bob amser, a gall hyn fod yn anodd.

Mae pob llys-deulu a theulu cymysg yn wahanol, yn yr un ffordd ag y mae pob teulu’n wahanol. Mae teulu cymysg yn golygu teulu sy’n cynnwys cwpl, y plant y maen nhw wedi eu cael gyda’i gilydd a’u plant o berthnasoedd blaenorol. Weithiau, maent yn wynebu’r un trafferthion â llys-deuluoedd nad ydynt yn LGBTQ+, fel dysgu sut i gyd-dynnu ag aelodau newydd o’r teulu. Os ydych yn cael trafferthion fel teulu, gall fod yn werth edrych ar adnoddau ar gyfer llys-deuluoedd/teuluoedd cymysg am syniadau.

Weithiau, mae gan bobl LGBTQ+ blant eraill yn eu bywydau sy’n bwysig iddyn nhw. Yn aml, mae pobl LGBTQ+ yn ffurfio “teuluoedd o ddewis”, sef grwpiau agos o ffrindiau sy’n rhoi cymorth i’w gilydd. Gall hyn gynnwys plant weithiau. Weithiau mae gan bobl LGBTQ+ blant eraill yn eu bywydau sy’n bwysig iddynt, fel nai, nith, brawd/chwaer iau neu wyr/wyres.

Am ragor o wybodaeth, gweler cyngor Stonewall ar Rianta Cyfreithiol

Ffyrdd eraill o gael plant

Gall beichiogrwydd unigolion fod yn annisgwyl am nifer o resymau. Mae hawliau a chyfrifoldebau rhieni’n gallu bod yn gymhleth, ac mae’n werth gofyn am gyngor cyfreithiol. Os ydych yn ceisio beichiogi trwy gael rhyw heb ddiogelwch, mae’n bwysig iawn eich bod yn gwybod hanes rhywiol eich partner(iaid) a ph’un a oes ganddyn nhw unrhyw heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. Gallai hyn effeithio ar iechyd y babi yn ogystal â’ch iechyd chi.

Mae plant sydd wedi dechrau eu bywydau mewn teulu traddodiadol fel arfer yn addasu’n dda iawn i fod yn rhan o deulu â rhieni o’r un rhywedd, ni waeth beth yw cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth neu fynegiant rhywedd eu rhiant.

Hawliau traws

Mae hawliau pobl draws i atgenhedlu a chael eu hadnabod fel rhieni wedi’u sefydlu mewn egwyddor, ond maent yn aneglur. Efallai y bydd angen i bobl draws ystyried materion penodol, os byddwch yn dewis trawsnewid yn feddygol.

I gael gwybodaeth am hawliau rhieni traws mewn achos o anghydfod yn ymwneud â gwarchodaeth, ewch i Gires.

Hefyd, mae gan Gires rywfaint o adnoddau i blant sydd â rhieni sy’n trawsnewid.

Mae gan Stonewall drosolwg da o’r gwahanol ffyrdd o ffurfio teulu.

Pa hawliau sydd gan blant mewn teuluoedd LGBTQ+?

Mae gan blant mewn teuluoedd LGBTQ+ yr un hawliau â phlant mewn teuluoedd nad ydynt yn LGBTQ+.

A fydd fy mhlentyn yn cael ei fwlio?

Ni ddylai unrhyw blentyn gael ei fwlio oherwydd cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth rhywedd ei rieni neu pa fath o deulu sydd ganddo.

Er bod teuluoedd LGBTQ+ yn profi gwahaniaethu, mae hyn yn anghyfreithlon. Mae gennych yr un hawl i deulu â phawb arall, ac mae gan eich plant hawl i beidio cael eu gwahaniaethu.

Os bydd eich plentyn yn cael ei fwlio yn yr ysgol oherwydd bod ganddo ddwy fam, dau dad, neu un neu fwy o rieni trawsryweddol, mae hyn yn cyfrif fel gwahaniaethu, a rhaid i’r ysgol weithredu. Os oes angen help arnoch i annog yr ysgol i ddelio â hyn, mae gan Bullying UK linell gymorth gyfrinachol  0808 800222.

Gwybodaeth Stonewall am fwlio homoffobig, deuffobig a thrawsffobig mewn ysgolion.

Mae rhai rhieni LGBTQ+ yn gweld grwpiau cymorth yn ddefnyddiol. Dyma adnodd ar-lein sy’n rhestru grwpiau lleol i rieni LGBTQ+.

Sut gallaf ddod allan i fy mhlant?

Gweler yr adran ‘Dod allan i’ch plant’ yn y pwnc ‘LGBTQ+ Dod Allan’ i gael argymhellion ar ddod allan i’ch plant.

Hyd yn oed os yw eich plentyn wedi cael ei fagu mewn teulu LGBTQ+ ers ei fod yn ifanc iawn, efallai bydd angen i chi drafod y materion hyn gydag ef/hi. Efallai bydd yn sylweddoli bod rhai pobl yn eich trin yn wahanol fel teulu. Efallai bod angen help arno i wybod sut a phryd i ddweud wrth bobl eraill am ei deulu. Gall yr adnoddau uchod fod yn ddefnyddiol.

Cofiwch: mae pobl, ni waeth beth yw eu cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth neu fynegiant rhywedd wedi bod yn magu plant erioed. Mae miliynau o blant ledled y byd yn cael eu magu mewn teuluoedd LGBTQ+. Erbyn hyn, mae mwy o ddiogelwch cyfreithiol a gwelededd na’r hyn a welwyd yn y gorffennol.

Adnoddau a grwpiau

Canllaw Stonewall ar dadau hoyw.

Gwybodaeth Stonewall am hawliau rhieni.

Mae gan Stonewall Cymru restr o grwpiau rhieni LGBTQ+ lleol, ffoniwch 08000 50 20 20.