Gofal Golwg a Clyw

Gofal Clyw

Mae'n bwysig i ofalu am eich clyw ac nid yw byth yn rhy gynnar i ddechrau. Mae'r gwefan 'Action for Hearing Loss' yn darparu gwybodaeth ar nifer o bynciau gwahanol sy'n ymwneud â cholli clyw. Ar y wefan hon, byddwch yn gallu:-

  • canfod a yw eich clyw mewn perygl
  • beth i'w wneud er mwyn diogelu'ch clyw
  • dod o hyd i wybodaeth am golli eich clyw a phrofion clyw
  • dod o hyd i wybodaeth am Dinnitus
  • beth i'w ddisgwyl gan eich meddyg teulu a'ch awdiolegydd

Ar y wefan hon gallwch hefyd wneud prawf clyw, bydd hyn yn eich helpu i ganfod a ydych wedi colli eich clyw ac eich annog i gymryd camau i ddelio a hyn. Os ar ôl gwneud y prawf rydych yn pryderu am eich canlyniadau, yna, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu awdiolegydd.

Cliciwch yma i ymweld â gwefan 'Action on Hearing Loss'.

Pryd mae hawl gen i gael prawf llygaid am ddim?

Fe gewch chi archwiliad llygad am ddim os cewch chi broblem a’ch llygaid sydd yn digwydd yn sydyn.

O dan gynllun Archwiliadau Iechyd Llygaid Cymru (EHEW) mae hawl gennych gael archwiliad llygaid gan optometrydd cofrestredig am ddim a bod arnoch chi broblem llygad a ddaeth ymlaen yn sydyn (aciwt) a’ch bod yn credu bod angen sylw brys arno.

Gallwch gael EHEW hefyd os ydych:

  • yn cael eich cyfeirio gan eich meddyg teulu at optometrydd EHEW cofrestredig oherwydd problem ar eich llygad
  • yn gweld trwy un llygad yn unig, h.y. eich bod yn ddall i bob pwrpas yn eich llygad gwaethaf
  • â nam ar eich clyw ac yn hollol fyddar
  • yn dioddef o retinitis pigmentosa.
  • â chefndir ethnig Du Affricanaidd, Du Carabiaidd neu o India Pacistan neu Fangladesh

Gofynnwch i'ch optometrydd am ragor o wybodaeth.

Gofal Llygaid

Mae gan RNIB wefan sydd yn cefnogi pobl ddall a rhannol ddall. Ar y wefan hon cewch wybodaeth am iechyd llygaid a pha mor bwysig yw cael profion llygaid rheolaidd. Cliciwch yma i ymweld â gwefan RNIB, lle cewch wybodaeth am:-

  • nifer o gyflyrau llygaid gwahanol
  • archwiliadau llygaid
  • edrych ar ôl eich llygaid

Os oes gennych unrhyw bryderon am eich golwg, yna cysylltwch â'ch Optegydd. Os hoffech chi ddod o hyd i Optegydd yn eich ardal chi, cliciwch yma i ymweld â'n Cyfeiriadur Gwasanaethau Lleol o Optegwyr. Rhowch eich cod post i mewn a chliciwch ar chwilio. Bydd hyn yn dangos yr optegwyr agosaf atoch chi.

Cliciwch yma i ymweld â gwefan RNIB.