Deg Cam i Golli Pwysau

A oes gennych BMI iach? Ydych yn ceisio colli pwysau? Bydd y camau isod yn eich helpu os ydych yn ceisio colli pwysau.

Mae BMI yn ffordd dda i wirio os ydych yn bwysau iach. Defnyddiwch y cyfrifiannell BMI i ddarganfod eich BMI chi.

Cam 1 o 10

Credwch yn eich hun

Dechreuwch meddwl meddyliau cadarnhaol fel "Gallaf wneud hyn" a "Byddaf yn gwneud hyn". Mae bob amser yn teimlo fel brwydr sydd byth yn dod i ben wrth geisio colli pwysau ond cyn belled ag y byddwch yn credu yn eich hun ac yn gosod nodau bach (cam 2) y byddwch yn cyrraedd yno. Efallai eich bod wedi ceisio ac wedi methu yn y gorffennol, ond ni fydd meddyliau negyddol yn eich helpu.