Jetludded yw pryd mae eich patrwm cysgu arferol yn cael ei aflonyddu ar ôl hedfan am amser hir. Mae symptomau fel arfer yn gwella o fewn ychydig ddyddiau wrth i'ch corff addasu i'r parth amser newydd.
Ffyrdd o leihau jetludded
Ni ellir atal jetludded, ond mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i leihau ei effeithiau.
Cyn teithio
Gwnewch:
- cael digon o orffwys
- ymlacio cyn mynd i'r gwely a dilyn arferion cysgu da
- newid eich trefn gysgu yn raddol - dechreuwch fynd i'r gwely a chodi awr neu ddwy yn gynharach neu'n hwyrach na'r arfer (yn unol ag amser eich cyrchfan)
Peidiwch â
- peidiwch â bwyta prydau mawr, gwneud ymarfer corff, defnyddio teclynnau electronig, nac yfed alcohol neu ddiodydd â chaffein cyn amser gwely
Yn ystod hedfan
Gwnewch:
- yfed digon o ddŵr
- cysgu os yw'n amser arferol i gysgu yn eich cyrchfan
- defnyddiwch fwgwd llygad a phlygiau clust os ydyn nhw'n eich helpu chi i gysgu
- cadwch yn actif trwy ymestyn a cherdded o amgylch y caban yn rheolaidd
Peidiwch â:
- peidiwch ag yfed gormod o gaffein nac alcohol - gallant wneud jetludded yn waeth
Ar ôl i chi gyrraedd
Gwnewch:
- newid eich amserlen gysgu i'r parth amser newydd cyn gynted â phosibl
- gosod larwm i osgoi gor-gysgu yn y bore
- ewch allan yn ystod y dydd - bydd golau naturiol yn helpu cloc eich corff i addasu
Peidiwch â:
- gysgu tan awr resymol ar gyfer eich cyrchfan newydd
Os yw'ch taith yn fyr (2 i 3 diwrnod) efallai y byddai'n well aros ar "amser cartref".
Os yn bosibl, bwytwch a chysgu ar yr adegau y byddech gartref.
Nid oes triniaeth ar gyfer jetludded
Fel rheol nid oes angen meddyginiaethau ar gyfer jetludded.
Mae symptomau'n aml yn gwella ar ôl ychydig ddyddiau wrth i gloc eich corff addasu i'r parth amser newydd.
Gall tabledi cysgu fod yn ddefnyddiol os ydych chi'n cael problemau cysgu (anhunedd). Gallant fod yn gaethiwus felly dim ond am gyfnod byr y dylid eu defnyddio ac os yw'r symptomau'n ddifrifol.
Mae melatonin yn gemegyn sy'n cael ei ryddhau gan y corff gyda'r nos i adael i'ch ymennydd wybod ei bod hi'n bryd cysgu. Nid yw atchwanegiadau melatonin yn cael eu hargymell ar gyfer jetludded oherwydd nad oes digon o dystiolaeth eu bod yn gweithio.
Symptomau jetludded
Mae'r prif symptomau'n gysylltiedig â chwsg. Maent yn cynnwys:
- anhawster cysgu amser gwely a codi i fyny yn y bore
- blinder
- gweld hi'n anodd aros yn effro yn ystod y dydd
- ansawdd cwsg gwael
- problemau canolbwyntio a chof
Gall jetludded hefyd fod yn gysylltiedig â diffyg traul, rhwymedd, dolur rhydd a chwyddedig.