Blinder

Cyflwyniad

Tiredness and fatigue
Tiredness and fatigue

Mae teimlo'n gorluddedig [exhausted] yn beth mor gyffredin, fod bod ganddo ei acronym ei hun yn Saesneg, sef TATT, sy'n sefyll am ‘tired all the time’.

Blinder yw un o'r anhwylderau mwyaf cyffredin y mae meddygon teulu'n ei weld yn eu meddygfa. Mae llawer o gleifion yn cwyno eu bod yn teimlo'n gorluddedig, er eu bod yn cysgu'n dda. Yn aml bydd yn mynd ymlaen am rai misoedd.

Ar unrhyw un adeg, mae un o bob pump o bobl yn teimlo'n anarferol o flinedig, ac mae lludded cyfnod estynedig [prolonged fatigue] gan un o bob 10, yn ôl Coleg Brenhinol y Seiciatryddion. Mae menywod yn tueddu teimlo'n fwy blinedig na dynion.

Mae'n anarferol i ddod o hyd i unrhyw beth o'i le yn gorfforol. Y rhan fwyaf o'r amser, mae lludded [fatigue] yn gysylltiedig â hwyl, a llawer o achosion straen bach mewn bywyd yn cronni.

Yn aml, cymerir prawf gwaed gan gleifion sy'n cwyno o flinder er mwyn diystyru achos meddygol, fel anemia neu chwarren thyroid danweithgar.

Mae mwy o siawns y bydd rheswm meddygol am flinder os oes symptomau eraill hefyd, fel mislif trwm, colli pwysau, newid mewn arferion sgarthu, colli gwallt, a syched ofnadwy.

Os ydych chi eisio gweithio allan sut yr aethoch chi'n flinedig yn y lle cyntaf, gall helpu i feddwl am y canlynol:

  • rhannau o'ch bywyd, fel gwaith a theulu, a allai fod yn arbennig o flinedig
  • unrhyw ddigwyddiadau a allai fod wedi sbarduno'ch blinder, er enghraifft, profedigaeth neu berthynas yn chwalu
  • sut gall eich ffordd o fyw fod yn eich gwneud chi'n flinedig.

Achosion corfforol blinder

Mae llawer o anhwylderau iechyd a all wneud i chi deimlo'n flinedig. Nid y rhai mwyaf amlwg fel anemia a phroblemau thyroid yn unig, ond anhwylderau sy'n peri mwy o syndod, fel diabetes ac anoddefiad bwyd, ac anhwylder cysgu o'r enw apnoea cwsg.

Darllenwch fwy am achosion meddygol blinder isod.

Gall bod dros bwysau neu dan bwysau achosi blinder. Mae hynny oherwydd bod rhaid i'ch corff weithio'n galetach na'r arfer i wneud gweithgareddau bob dydd. Os ydych chi dan bwysau, mae gennych lai o gryfder cyhyrau, ac efallai y byddwch yn teimlo'n flinedig yn fwy cyflym.

Gall beichiogrwydd, yn enwedig yn y 12 wythnos gyntaf, sugno'ch nerth hefyd.

Achosion seicolegol blinder

Mae blinder seicolegol yn fwy cyffredin o lawer na blinder sy'n cael ei achosi gan broblem gorfforol.

Un prif reswm yw gorbryder, sy'n gallu achosi anhunedd (insomnia) ac yn ei dro arwain at ludded parhaus. Canfu arolwg gan y Sefydliad Iechyd Meddwl fod bron i draean o'r boblogaeth yn dioddef yn ddifrifol o ddiffyg cwsg, a hynny oherwydd pryderon ynglyn â swydd ac arian yn aml. Mae adroddiad y Sefydliad, Sleep Matters, yn awgrymu bod cyswllt rhwng anhunedd a lefelau egni isel.

Gall pryderon a phwysau bywyd bob dydd achosi blinder mawr, hyd yn oed digwyddiadau cadarnhaol, fel symud ty neu briodi. Mae sioc emosiynol, fel newyddion drwg, profedigaeth neu berthynas yn chwalu, yn gallu gwneud i chi deimlo wedi ymlâdd.

Gall problemau iechyd meddwl fel iselder neu orbryder wneud i chi deimlo'n fwy blinedig. Hefyd, maent yn gallu eich atal rhag cael noson iawn o gwsg hefyd.

Achosion blinder yn sgil ffordd o fyw

Gellir priodoli blinder i ffactorau ffordd o fyw yn aml, fel yfed gormod o alcohol, neu fod â deiet gwael. Os ydych chi'n yfed alcohol gyda'r nos, mae'n tueddu eich deffro chi yng nghanol y nos. Ac os ydych chi'n yfed llawer yn rheolaidd, gall wneud i chi deimlo'n isel ac effeithio ar eich cwsg.

Os oes gennych batrwm cysgu di-drefn – er enghraifft, rydych chi'n gweithio sifftiau nos, yn cysgu yn ystod y dydd neu'n gofalu am blant bach – gall fod yn anodd cael noson dda o gwsg, a byddwch chi'n teimlo'n flinedig yn ystod y dydd.

Sut i fynd i'r afael â blinder

Gall fod yn beth cyffredin i deimlo'n flinedig drwy'r amser, ond nid yw hyn yn normal. Os ydych chi'n poeni, ewch i weld eich meddyg i gael cyngor a sicrwydd, ac i ddiystyru unrhyw beth difrifol a allai fod yn achosi blinder.

10 rheswm meddygol dros deimlo'n flinedig

Gall unrhyw salwch difrifol, yn enwedig rhai poenus, eich gwneud chi'n flinedig. Ond gall rhai anhwylderau eithaf mân wneud i chi deimlo wedi ymlâdd hefyd. Dyma 10 o gyflyrau iechyd yr ydym yn gwybod eu bod yn achosi lludded.

1. Clefyd coeliag

Math o anoddefiad bwyd yw hwn, pan fydd eich corff yn adweithio'n ddrwg pan fyddwch chi'n bwyta glwten, sylwedd a geir mewn bara, cacennau a grawnfwydydd. Effeithir ar un o bob 100 o bobl yn y DU, ond mae ymchwil yn awgrymu nad yw hyd at 90% ohonyn nhw'n gwybod bod y cyflwr ganddynt, yn ôl y grwp cleifion Coeliac UK. Mae symptomau eraill clefyd coeliag, ar wahân i flinder, yn cynnwys dolur rhydd, anemia a cholli pwysau. Gall eich meddyg wirio a oes gennych glefyd coeliag trwy brawf gwaed.

Darllenwch fwy am clefyd coeliag.

2. Anemia

Un o'r rhesymau meddygol mwyaf cyffredin dros deimlo mewn gwendid parhaus yw anemia diffyg haearn. Mae'n effeithio ar ryw un o bob 20 o ddynion a menywod ar ôl y menopos, ond gall fod yn fwy cyffredin fyth mewn menywod sy'n dal i gael mislif.

Yn nodweddiadol, ni fyddwch chi'n teimlo fel trafferthu gwneud unrhyw beth, bydd eich cyhyrau yn teimlo'n drwm a byddwch chi'n blino'n gyflym iawn, Mae menywod sy'n cael mislif trwm a menywod beichiog yn arbennig o dueddol o ddioddef o anemia.

Darllenwch fwy am anemia diffyg haearn.

3. Syndrom blinder cronig

Mae syndrom blinder cronig (a elwir hefyd yn myalgic encephalomyelitis neu ME) yn flinder difrifol sy'n anablu sy'n mynd ymlaen am chwe mis o leiaf. Fel arfer ceir symptomau eraill, fel gwddf tost/dolur gwddf, poen yn y cyhyrau neu'r cymalau a pen tost/cur pen.

Darllenwch fwy am syndrom blinder cronig.

4. Apnoea cwsg

Mae apnoea cwsg yn gyflwr lle bydd eich gwddf yn culhau neu'n cau yn ystod cwsg ac mae'n tarfu ar eich anadlu yn fynych. Mae hyn yn arwain at chwyrnu drwg a gostyngiad yn lefelau ocsigen eich gwaed. Mae'r anhawster anadlu yn golygu eich bod yn deffro'n aml yn ystod y nos, a byddwch yn teimlo'n gorluddedig (exhausted) y diwrnod canlynol.

Mae'n fwyaf cyffredin ymhlith dynion canol oed sydd dros bwysau. Mae yfed alcohol ac ysmygu yn ei wneud yn waeth.

Darllenwch fwy am apnoea cwsg.

5. Chwarren thyroid danweithgar

Mae chwarren thyroid danweithgar yn golygu nad oes gennych ddigon o hormon thyroid (thyroxine) yn eich corff. Mae hyn yn gwneud i chi deimlo'n flinedig. Rydych hefyd yn debygol o fagu pwysau a bod â chyhyrau poenus. Mae'n fwyaf cyffredin ymhlith menywod, ac mae'n digwydd yn amlach wrth i chi fynd yn hyn.

Gall eich meddyg teulu wneud diagnosis o thyroid danweithgar trwy gymryd prawf gwaed syml.

Darllenwch fwy am thyroid tanweithgar.

6. Diabetes

Un o brif symptomau diabetes, sef cyflwr hirdymor a achosir gan ormod o siwgr yn y gwaed, yw teimlo'n flinedig iawn. Y symptomau allweddol eraill yw teimlo'n sychedig iawn, mynd i'r toilet yn aml, a cholli pwysau. Gall eich meddyg teulu wneud diagnosis o ddiabetes gyda prawf gwaed.

Darllenwch fwy am diabetes.

Dewch o hyd i'ch gwasanaethau cymorth diabetes yn lleol.

7. Twymyn  y chwarennau

Haint firaol cyffredin yw twymyn y chwarennau sy'n achosi lludded ynghyd â thwymyn, gwddf tost/dolur gwddf a chwarennau chwyddedig. Mae'r rhan fwyaf o achosion yn digwydd ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc. Fel arfer, mae symptomau twymyn y chwarennau yn clirio o fewn pedair i chwe wythnos, ond gall y lludded barhau am rai misoedd eto.

Darllenwch fwy am twymyn y chwarennau.

8. Iselder

Yn ogystal â gwneud i chi deimlo'n drist iawn, gall iselder wneud i chi deimlo wedi ymlâdd heb unrhyw egni o gwbl hefyd. A gall eich atal rhag mynd i gysgu neu achosi i chi ddeffro'n gynnar yn y bore, sy'n gwneud i chi deimlo'n fwy blinedig yn ystod y dydd.

Darllenwch fwy am iselder.

Dewch o hyd i'ch gwasanaethau cymorth iselder a grwpiau hunangymorth yn lleol.

9. Coesau aflonydd

Dyma pan fyddwch chi'n cael teimladau anesmwyth yn eich coesau, sy'n eich cadw chi'n effro yn ystod y nos. Efallai y cewch ysfa lethol i gadw symud eich coesau, neu boen dwfn yn eich coesau, neu efallai y bydd eich coesau yn plycio'n ddigymell yn ystod y nos. Beth bynnag yw eich symptomau, bydd hyn yn amharu ar eich cwsg ac ni fyddwch chi'n cysgu'n dda, felly byddwch yn teimlo'n flinedig iawn drwy'r dydd.

Darllenwch fwy am coesau aflonydd.

10. Gorbryder

Weithiau mae teimlo'n orbryderus yn gwbl normal. Fodd bynnag, mae rhai pobl yn cael teimladau cyson o orbryder na ellir eu rheoli, sydd mor gryf fel eu bod yn effeithio ar eu bywyd bob dydd. Mae meddygon yn galw hyn yn anhwylder gorbryder cyffredinol (GAD). Mae'n effeithio ar ryw un o bob 20 o bobl yn y DU. Yn ogystal â theimlo'n bryderus ac yn bigog, mae pobl â GAD yn teimlo'n flinedig yn aml hefyd.

Darllenwch fwy am gorbryder.

Dewch o hyd i'ch gwasanaethau cymorth gorbryder yn lleol.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 16/06/2022 14:43:18