Profion gwaed

Cyflwyniad

Blood tests
Blood tests

Gall profion gwaed gael eu defnyddio at ddibenion lu a phrawf gwaed yw un o'r mathau mwyaf cyffredin o brawf meddygol.

Er enghraifft, gall prawf gwaed gael ei ddefnyddio i:

  • asesu eich cyflwr iechyd cyffredinol
  • gweld a oes gennych chi haint
  • gweld pa mor dda y mae organau penodol, fel yr afu/iau a'r arennau, yn gweithio
  • chwilio am rai cyflyrau genetig

Mae'r rhan fwyaf o brofion gwaed yn cymryd ychydig o funudau yn unig i'w cwblhau ac yn cael eu gwneud yn eich meddygfa neu ysbyty lleol, o dan ofal meddyg, nyrs, neu waedydd (rhywun sy'n arbenigo mewn cymryd samplau gwaed).

Darllenwch am rai mathau cyffredin o brawf gwaed.

I gael mwy o wybodaeth am amrywiaeth ehangach o brofion, chwiliwch drwy'r mynegai A-Z profion gwaed ar Lab Tests Online UK.

Paratoi ar gyfer prawf gwaed

Bydd y gweithiwr proffesiynol gofal iechyd sy'n trefnu eich prawf gwaed yn dweud wrthych chi a oes yna unrhyw gyfarwyddiadau penodol y mae angen i chi eu dilyn cyn eich prawf.

Er enghraifft, yn dibynnu ar y math o brawf gwaed, gellir gofyn i chi:

  • osgoi bwyta neu yfed unrhyw beth, heblaw dwr (ymprydio) am hyd at 12 awr
  • rhoi'r gorau i gymryd rhai meddyginiaethau

Mae'n bwysig dilyn y cyfarwyddiadau sy'n cael eu rhoi i chi, oherwydd gall effeithio ar ganlyniad y prawf, a golygu bod angen ei ohirio neu'i wneud eto.

Beth sy'n digwydd yn ystod prawf gwaed?

Fel arfer, bydd prawf yn golygu cymryd sampl gwaed o bibell waed yn eich braich.

Mae'r fraich yn rhan gyfleus o'r corff i'w defnyddio oherwydd mae'n gallu cael ei dadorchuddio'n hawdd. Y lle arferol i gymryd sampl ohono yw'r tu mewn i'r penelin neu'r arddwrn, lle mae'r gwythiennau yn gymharol agos at yr wyneb.

Yn aml, mae samplau gwaed gan blant yn cael eu cymryd o gefn y llaw. Gall eu croen gael ei fferru â chwistrell neu hufen arbennig cyn cymryd y sampl.

Fel arfer, caiff rhwymyn tynn (torniquet) ei roi o gwmpas rhan uchaf eich braich. Mae hwn yn gwasgu'r fraich, gan arafu llif y gwaed dros dro, ac achosi i'r wythïen chwyddo. Mae hyn yn ei gwneud yn haws cymryd sampl.

Cyn cymryd y sampl, gall y meddyg neu'r nyrs lanhau'r rhan o'r croen â weip antiseptig.

Caiff nodwydd sydd wedi'i chysylltu â chwistrell neu gynhwysydd arbennig ei rhoi i mewn i'r wythïen. Caiff y chwistrell ei defnyddio i dynnu sampl o'ch gwaed allan. Efallai y byddwch chi'n teimlo ychydig o bigo neu grafu wrth i'r nodwydd fynd i mewn, ond ni ddylai fod yn boenus. Os nad ydych chi'n hoffi nodwyddau a gwaed, dywedwch wrth yr unigolyn sy'n cymryd y sampl, fel y gall eich gwneud yn fwy cyfforddus.

Pan fydd y sampl wedi'i chymryd, bydd y rhwymyn yn cael ei ryddhau, a bydd y nodwydd yn cael ei thynnu. Caiff pwysau ei roi ar y croen am ychydig o funudau gan ddefnyddio pad gwlân cotwm. Gall plastr gael ei roi ar y clwyf bach i'w gadw'n lân.

Ar ôl y prawf

Gan mai ychydig bach o waed yn unig sy'n cael ei dynnu yn ystod y prawf, ni ddylech chi deimlo unrhyw sgil-effeithiau sylweddol.

Fodd bynnag, gall rhai pobl deimlo'n benysgafn a gwan yn ystod, ac ar ôl y prawf. Os yw hyn wedi digwydd i chi yn y gorffennol, dywedwch wrth y sawl sy'n gwneud y prawf fel ei fod yn gallu gwneud i chi deimlo'n fwy cyfforddus.

Ar ôl y prawf gwaed, gall fod clais bach ar eich croen lle aeth y nodwydd i mewn. Gall cleisiau fod yn boenus, ond nid ydyn nhw fel arfer yn niweidiol, ac maen nhw'n pylu dros y dyddiau nesaf.

Canlyniadau'r prawf gwaed

Ar ôl cymryd y sampl gwaed, bydd yn cael ei rhoi mewn potel a'i labelu â'ch enw a'ch manylion. Wedyn, bydd yn cael ei hanfon i labordy lle bydd yn cael ei harchwilio o dan ficrosgop neu'i phrofi â chemegolion, yn dibynnu beth sy'n cael ei archwilio.

Caiff y canlyniadau eu hanfon yn ôl i'r ysbyty neu at eich meddyg teulu. Bydd canlyniadau rhai profion yn barod yr un diwrnod neu ychydig o ddyddiau yn ddiweddarach, er efallai na fydd rhai eraill yn barod am ychydig o wythnosau. Byddwch yn cael gwybod pan fydd eich canlyniadau yn barod, a sut byddwch yn eu cael.

Weithiau, mae derbyn canlyniadau yn gallu achosi straen a gofid. Os ydych chi'n poeni am ganlyniad prawf, gallwch ddewis mynd â ffrind neu berthynas rydych yn ymddiried ynddo gyda chi. Ar gyfer rhai profion, fel HIV, byddwch yn cael cynnig cwnsela arbenigol i helpu i chi ddelio â'ch canlyniadau.  

Mathau

Mae profion gwaed yn gallu cael eu defnyddio mewn nifer o ffyrdd, fel helpu i wneud diagnosis o gyflwr, asesu iechyd organau penodol neu sgrinio ar gyfer rhai cyflyrau genetig.

Mae'r dudalen hon yn disgrifio'r profion gwaed sy'n cael eu defnyddio'n aml:

I gael mwy o wybodaeth am ystod ehangach o brofion, chwiliwch yn y mynegai profion gwaed A-Z ar Lab Tests Online UK.

Prawf gwaed colesterol

Sylwedd brasterog yw colesterol sy'n cael ei greu yn bennaf gan yr iau / afu o'r bwydydd brasterog yn eich diet, ac mae'n hanfodol ar gyfer gweithrediad arferol y corff.

Mae cael lefel colesterol uchel yn gallu cyfrannu at risg gynyddol o broblemau difrifol fel trawiadau ar y galon a strociau.

Mae lefelau colesterol y gwaed yn gallu cael eu mesur â phrawf gwaed syml. Efallai y bydd gofyn i chi beidio â bwyta am 12 awr cyn y prawf (sydd fel arfer yn cynnwys pan fyddwch chi'n cysgu) i sicrhau bod yr holl fwyd yn cael ei dreulio ac na fydd yn effeithio ar y canlyniad, er nad yw hyn yn angenrheidiol bob amser.

Gallwch gael gwybod mwy ynghylch gwneud diagnosis o golesterol uchel a darllen ynghylch profion colesterol ar Lab Tests Online UK.

Meithriniad gwaed

Mae hyn yn cynnwys cymryd sampl fach o waed o wythïen yn eich braich ac o un rhan arall neu fwy o'ch corff.

Caiff y samplau eu cyfuno â maethynnau wedi eu dylunio i annog twf bacteria. Gall hyn helpu i ddangos p'un a oes unrhyw facteria yn bresennol yn eich gwaed.

Mae angen dwy sampl neu fwy fel arfer.

Darllenwch fwy ynghylch meithriniadau gwaed ar Lab Tests Online UK.

Prawf nwyon gwaed

Caiff sampl nwyon gwaed ei chymryd o rydweli, fel arfer yn yr arddwrn. Mae'n debygol o fod yn boenus, a dim ond yn cael ei wneud mewn ysbyty.

Caiff prawf nwyon gwaed ei ddefnyddio i wirio cydbwysedd yr ocsigen a'r carbon deuocsid yn eich gwaed, a'r cydbwysedd o ran asid ac alcali yn eich gwaed (y cydbwysedd pH).

Gall anghydbwysedd pH gael ei achosi gan y canlynol:

  • problemau â'ch system anadlu, fel niwmonia neu clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD)
  • problemau sy'n effeithio ar eich metaboledd (yr adweithiau cemegol sy'n cael eu defnyddio gan y corff i dorri bwyd i lawr yn egni), fel diabetes, methiant yr arennau neu chwydu parhaus

Darllenwch fwy ynghylch profion nwyon gwaed ar Lab Tests Online UK.

Profion glwcos gwaed (siwgr gwaed)

Mae nifer o brofion yn gallu cael eu defnyddio i wneud diagnosis a monitro diabetes trwy wirio lefel y siwgr (glwcos) yn y gwaed.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • y prawf glwcos ymprydio - lle caiff lefel y glwcos yn eich gwaed ei gwirio ar ôl ymprydio (peidio â bwyta nac yfed unrhyw beth heblaw dwr) am o leiaf wyth awr
  • prawf goddefiad glwcos - lle caiff lefel y glwcos yn eich gwaed ei gwirio ar ôl ymprydio, ac eto ddwy awr ar ôl cael diod glwcos
  • prawf HbA1C - prawf sy'n cael ei wneud yn eich meddygfa neu yn yr ysbyty i wirio lefel gyfartalog y siwgr yn y gwaed dros y tri mis diwethaf

Gall pecynnau prawf glwcos yn y gwaed fod ar gael i'w defnyddio gartref. Does ond angen "pigiad pin" bach o waed i'w brofi.

Darllenwch fwy ynghylch profion glwcos ar Lab Tests Online UK.

Teipiau gwaed

Caiff hyn ei wneud cyn rhoi gwaed neu gael trallwysiad gwaed, i wirio beth yw eich grwp gwaed.

Os cafodd gwaed ei roi i chi nad oedd yn cyd-fynd â'ch grwp gwaed, efallai y bydd eich system imiwnedd yn ymosod ar y celloedd coch, a allai arwain at gymhlethdodau sydd o bosibl yn bygwth bywyd.

Caiff prawf teipiau gwaed ei ddefnyddio yn ystod beichiogrwydd hefyd, gan fod risg fach y bydd grwp gwaed y plentyn heb ei eni yn wahanol i grwp gwaed y fam, a allai achosi i system imiwnedd y fam ymosod ar gelloedd coch ei babi. Yr enw am hyn yw clefyd rhesws.

Os nad ydych yn gwybod yn barod beth yw eich teip gwaed, bydd eich gwaed yn cael ei brofi o leiaf unwaith yn ystod eich beichiogrwydd i bennu a oes risg clefyd rhesws. Darllenwch fwy ynghylch gwneud diagnosis o glefyd rhesws.

Os bydd prawf yn dangos bod risg o glefyd rhesws, mae chwistrelliad meddyginiaeth sy'n atal system imiwnedd y fam rhag ymosod ar gelloedd gwaed ei babi yn gallu cael ei roi. Darllenwch fwy ynghylch atal clefyd rhesws.

Darllenwch fwy ynghylch teipiau gwaed ar Lab Tests Online UK.

Profion gwaed canser 

Gellir gwneud nifer o brofion gwaed i helpu gwneud diagnosis o rai mathau o ganser neu wirio a oes gennych chi risg gynyddol o ddatblygu math penodol o ganser.

Mae'r rhain yn cynnwys profion ar gyfer:

  • antigen prostad penodol (PSA) - gall hyn helpu gwneud diagnosis o canser y brostad, er y gall ddarganfod problemau eraill hefyd, fel helaethiad y brostad neu llid ar y brostad
  • protein CA125 - gall protein o'r enw CA125 ddangos canser yr ofari, er y gall fod yn arwydd o bethau eraill hefyd fel beichiogrwydd neu clefyd llidiol y pelfis (PID)
  • genynnau BRCA1 a BRCA2 - gall fersiynau penodol o'r genynnau hyn gynyddu posibilrwydd y bydd menyw yn datblygu canser y fron a chanser yr ofari yn fawr; gall y prawf hwn gael ei wneud os yw'r mathau hyn o ganser yn rhedeg yn eich teulu

Profion cromosomau (caryoteipiau)

Mae hwn yn brawf i archwilio bwndeli o ddeunydd genetig o'r enw cromosomau.

Trwy gyfrif y cromosomau (dylai pob cell gael 23 pâr) a gwirio eu siâp, gall fod yn bosibl darganfod annormaleddau genetig.

Gall profion cromosomau gael eu defnyddio:

Profion ceulad

Gall prawf ceulad gael ei ddefnyddio i weld a yw eich gwaed yn ceulo yn y ffordd arferol.

Os yw'n cymryd llawer o amser i'ch gwaed geulo, gall fod yn arwydd o anhwylder gwaedu, fel hemoffilia neu clefyd von Willebrand.

Caiff math o brawf ceulad o'r enw'r gymhareb normaleiddio ryngwladol (INR) ei ddefnyddio i fonitro dos o cyffuriau gwrthgeulo, fel warfarin, a gwneud yn siwr bod eich dos yn gywir. Darllenwch fwy ynghylch monitro eich dos gwrthgeulo.

Darllenwch fwy ynghylch ffactorau ceulad a cymhareb normaleiddio ryngwladol ar Lab Tests Online UK.

Prawf protein C-adweithiol (CRP)

Mae hwn yn brawf arall sy'n cael ei ddefnyddio i helpu gwneud diagnosis o gyflyrau sy'n achosi llid.

Caiff CRP ei gynhyrchu gan yr iau / afu ac os oes crynodiad uwch o CRP na'r arfer, mae'n arwydd fod llid yn eich corff.

Darllenwch fwy ynghylch protein C-adweithiol ar Lab Tests Online UK.

Prawf electrolyt

Mwynau yn y corff yw electrolytau, yn cynnwys sodiwm, potasiwm a chlorid, sy'n gwneud gwaith fel cynnal cydbwysedd iach o ddwr yn eich corff.

Gall fod achosion amrywiol posibl i newidiadau yn lefel yr electrolytau, gan gynnwys dadhydradu, diabetes neu feddyginiaethau penodol.

Darllenwch fwy ynghylch electrolytau ar Lab Tests Online UK.

Cyfradd gwaelodi'r erythrosytau (ESR)

Mae'r prawf hwn yn gweithio trwy fesur pa mor hir y mae'n ei gymryd i gelloedd coch ddisgyn i waelod tiwb prawf. Y cyflymaf y maent yn disgyn, y mwyaf tebygol yw hi fod lefelau uchel o lid.

Yn aml, caiff ESR ei ddefnyddio i helpu gwneud diagnosis o gyflyrau yn gysylltiedig â llid, fel:

Ynghyd â phrofion eraill, gall ESR fod yn ddefnyddiol hefyd wrth gadarnhau a oes gennych chi haint.

Darllenwch fwy ynghylch cyfradd gwaelodi'r erythrosytau ar Lab Tests Online UK.

Cyfrif gwaed llawn (FBC)

Mae hwn yn brawf i wirio'r mathau o gelloedd, a niferoedd y celloedd, yn eich gwaed, gan gynnwys celloedd coch, celloedd gwyn a phlatennau.

Mae hyn yn gallu helpu rhoi syniad am eich iechyd cyffredinol, yn ogystal â chynnig cliwiau pwysig am rai problemau iechyd a all fod gennych chi.

Er enghraifft, gall FBC ddarganfod arwyddion o'r canlynol:

Darllenwch fwy ynghylch cyfrif gwaed llawn ar Lab Tests Online UK.

Profion a sgrinio geneteg 

Mae hyn yn cynnwys tynnu sampl o DNA o'ch gwaed, wedyn archwilio'r sampl am newid genetig penodol (mwtadiad).

Mae cyflyrau geneteg sy'n gallu cael eu darganfod fel hyn yn cynnwys:

Gall sgrinio geneteg gael ei ddefnyddio hefyd i wirio a yw rhywun yn cario genyn penodol sy'n cynyddu ei risg o ddatblygu cyflwr geneteg.

Er enghraifft, os gwnaeth eich brawd neu'ch chwaer ddatblygu cyflwr geneteg yn ddiweddarach mewn bywyd, fel clefyd Huntington, efallai y byddwch eisiau darganfod a oes perygl y gallech chi ddatblygu'r cyflwr hefyd.

Darllenwch fwy ynghylch profion geneteg.

Prawf gweithrediad yr iau / afu

Pan gaiff yr iau / afu ei niweidio, mae'n rhyddhau sylweddau o'r enw ensymau i mewn i'r gwaed ac mae lefelau'r proteinau sy'n cael eu cynhyrchu gan yr iau / afu yn dechrau gostwng.

Trwy fesur lefelau'r ensymau a'r proteinau hyn, mae'n bosibl creu darlun o ba mor dda y mae'r iau / afu yn gweithredu.

Gall hyn helpu darganfod rhai o gyflyrau'r iau / afu, gan gynnwys hepatitis, sirosis (creithiau ar yr iau / afu), a clefyd yr iau / afu yn gysylltiedig ag alcohol.

Darllenwch fwy ynghylch profion gweithrediad yr iau / afu ar Lab Tests Online UK.

Prawf gweithrediad y thyroid

Caiff y prawf hwn ei ddefnyddio i brofi'ch gwaed am lefelau hormon sy'n ysgogi'r thyroid (TSH), a thyrocsin a thriiodothyronin (hormonau thyroid).

Os oes gennych chi lefelau isel neu uchel o'r hormonau hyn, gallai olygu bod gennych chi gyflwr thyroid fel thyroid tanweithredol neu thyroid gorweithredol.

Darllenwch fwy ynghylch profion gweithrediad y thyroid ar Lab Tests Online UK.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 10/01/2024 13:21:15