Twymyn y chwarennau

Cyflwyniad

Mae twymyn y chwarennau yn effeithio ar bobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc yn bennaf. Mae'n gwella heb driniaeth, ond mae'n gallu gwneud i chi deimlo'n sâl iawn a phara wythnosau.

Ewch at feddyg teulu:

  • os oes gennych dymheredd uchel iawn neu os ydych yn teimlo'n boeth ac yn grynedig
  • os oes gennych ddolur gwddf/llwnc tost difrifol
  • os oes chwyddo ar bob ochr o'ch gwddf - chwarennau chwyddedig
  • os ydych wedi blino'n llwyr neu'n lluddedig
  • os oes gennych donsilitis nad yw'n gwella

Mae'r rhain yn symptomau twymyn y chwarennau. 

Ni fyddwch yn cael twymyn y chwarennau fwy nag unwaith, fel arfer.

Ewch at feddyg teulu:

  • os oes gennych dymheredd uchel iawn neu os ydych yn teimlo'n boeth ac yn grynedig
  • os oes gennych ddolur gwddf/llwnc tost difrifol
  • os oes chwyddo ar bob ochr o'ch gwddf - chwarennau chwyddedig
  • os ydych wedi blino'n llwyr neu'n lluddedig
  • os oes gennych donsilitis nad yw'n gwella

Mae'r rhain yn symptomau twymyn y chwarennau.

Ni fyddwch yn cael twymyn y chwarennau fwy nag unwaith, fel arfer.

Ceisiwch gyngor gan 111 nawr:

  • os ydych yn cael trafferth llyncu
  • os ydych yn cael trafferth anadlu
  • os oes gennych boen difrifol yn eich bol

Byddan nhw'n dweud wrthych beth i'w wneud. Gallan nhw drefnu galwad ffôn gan nyrs neu feddyg os bydd angen.

Beth fydd yn digwydd yn eich apwyntiad

Gallai eich meddyg teulu drefnu prawf gwaed i gadarnhau twymyn y chwarennau a diystyru afiechydon eraill, fel tonsilitis. Byddai hyn yn profi am y feirws Epstein-Barr sy'n achosi twymyn y chwarennau.

Gwrthfiotigau

Ni fydd eich meddyg teulu yn rhoi gwrthfiotigau i chi. Mae twymyn y chwarennau yn cael ei hachosi gan feirws, felly ni fydd gwrthfiotigau'n gweithio.

Nid oes iachâd ar gyfer twymyn y chwarennau; mae'n gwella ar ei phen ei hun.

Gwnewch y canlynol

  • gorffwys a chysgu
  • yfed digon o hylifau (i osgoi dadhydradu)
  • cymryd cyffuriau lladd poen fel parasetamol neu ibuprofen (peidiwch â rhoi asbrin i blant iau nag 16 oed)

Peidiwch â gwneud y canlynol

  • yfed alcohol - gallai eich afu/iau fod yn wan tra bod gennych dwymyn y chwarennau

Pa mor hir mae twymyn y chwarennau yn para?

Dylech deimlo'n well o fewn 2 i 3 wythnos. Gallai rhai pobl deimlo'n flinedig iawn am fisoedd.

Ceisiwch wneud mwy o bethau'n raddol pan fyddwch yn dechrau teimlo'n fwy egnïol.

Gall twymyn y chwarennau achosi i'r ddueg (spleen) chwyddo. Am y mis cyntaf, ceisiwch osgoi chwaraeon neu weithgareddau a allai gynyddu eich perygl o gwympo, oherwydd gallai hyn niweidio'r ddueg.

Sut i atal twymyn y chwarennau rhag lledaenu

Mae twymyn y chwarennau yn heintus iawn. Mae'n cael ei lledaenu trwy boer. Byddwch yn heintus am hyd at 7 wythnos cyn i chi gael symptomau.

Gallwch fynd yn ôl i'r ysgol neu'r gwaith cyn gynted ag y dechreuwch deimlo'n well.

I atal twymyn y chwarennau rhag lledaenu:

Gwnewch y canlynol

  • golchwch eich dwylo'n rheolaidd
  • golchwch ddillad gwely a dillad a allai gynnwys poer

Peidiwch â gwneud y canlynol

  • cusanu pobl eraill (mae twymyn y chwarennau yn cael ei galw'n glefyd cusanu)
  • rhannu cwpanau, cyllyll a ffyrc na thywelion

Cymhlethdodau twymyn y chwarennau

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwella heb unrhyw broblemau. Weithiau, gallai twymyn y chwarennau arwain at afiechydon eraill, fel:

  • lefel is o gelloedd gwaed, fel anemia
  • haint, fel niwmonia
  • salwch niwrolegol, fel syndrom Guillain-Barre neu barlys Bell


Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 21/10/2022 13:04:33