Cyflwyniad
Mae anhunedd yn golygu eich bod yn cael trafferth cysgu yn rheolaidd. Mae'n gwella fel arfer os newidiwch eich arferion cysgu.
Gwirio a oes gennych anhunedd
Mae gennych anhunedd os ydych yn profi'r symptomau hyn yn rheolaidd:
- anhawster cysgu
- deffro yn ystod y nos
- deffro sawl gwaith yn ystod y nos
- deffro’n gynnar yn y bore a methu mynd i gysgu eto
- ei chael hi'n anodd cysgu yn y dydd er eich bod wedi blino
- teimlo’n flin ac yn flinedig, a
- ei chael hi’n anodd canolbwyntio yn ystod y dydd oherwydd eich bod wedi blino
Os cewch anhunedd am gyfnod byr (llai na 3 mis), anhunedd tymor byr yw'r enw ar hwn. Gelwir anhunedd sy'n para 3 mis neu fwy yn anhunedd tymor hir.
Faint o gwsg sydd ei angen arnoch
Mae ar bobl angen symiau gwahanol o gwsg. Ar gyfartaledd:
- oedolion - 7-9 awr
- plant - 9-13 awr
- plant bach a babanod - 12-17 awr
Mwy na thebyg nad ydych yn cael digon o gwsg os ydych wedi blino trwy'r amser yn ystod y dydd.
Beth sy'n achosi anhunedd
Yr achosion mwyaf cyffredin yw:
- straen, gorbryder neu iselder
- swn
- ystafell sy'n rhy boeth neu'n rhy oer
- gwely anghyfforddus
- alcohol, caffein neu nicotin
- cyffuriau fel cocen neu ecstasi
- jetludedd
- gwaith sifft
Sut gallwch chi drin anhunedd eich hun
Mae anhunedd yn gwella fel arfer wrth i chi newid eich arferion cysgu:
Gwnewch:
- fynd i'r gwely a deffro yr un pryd bob dydd - ewch i'r gwely dim ond pan fyddwch wedi blino
- ymlacio o leiaf awr cyn mynd i'r gwely - e.e. ewch i gael bath neu ddarllen llyfr
- yn siwr bod eich ystafell wely'n dywyll a thawel - defnyddiwch lenni trwchus, bleinds, gorchudd llygaid neu blygiau clustiau
- ymarfer corff yn rheolaidd yn ystod y dydd
- yn siwr bod eich matres, gobenyddion a gorchuddion yn gyfforddus
Peidiwch
- ysmygu neu yfed alcohol, te na choffi am o leiaf 6 awr cyn mynd i'r gwely
- bwyta pryd mawr o fwyd yn hwyr yn y nos
- ymarfer corff o leiaf 4 awr cyn mynd i'r gwely
- gwylio teledu neu ddefnyddio dyfeisiau cyn mynd i'r gwely - bydd y golau'n peri i chi fod yn fwy effro
- cysgu yn ystod y dydd
- gyrru os ydych wedi blino
- cysgu mewn wedi noswaith ddrwg o gwsg - cadwch at eich oriau rheolaidd
Sut gall fferyllydd helpu gydag anhunedd
Gallwch brynu tabledi neu hylifau (cymhorthion cysgu) mewn fferyllfa a allai eich helpu i gysgu'n well.
Mae rhai yn cynnwys cynhwysion naturiol (valerian, lafant neu felatonin) tra bod eraill, fel Nytol, yn wrth-histaminau.
Ni allant gael gwared ar anhunedd ond gallent eich helpu i gysgu'n well am wythnos neu ddwy. Ni ddylech eu cymryd am fwy na hyn o amser.
Gall rhai o'r cynhyrchion hyn gael sgil-effeithiau, er enghraifft, gallent eich gwneud yn gysglyd. Gallai hyn olygu y bydd yn anodd i chi wneud rhai pethau, fel gyrru.
Gwiriwch gyda'ch meddyg cyn cymryd unrhyw beth am eich problemau cysgu.
Ewch i weld meddyg teulu os:
- nad yw newid eich arferion cysgu wedi gweithio
- rydych wedi cael trafferth cysgu ers misoedd
- yw eich anhunedd yn effeithio ar eich bywyd bob dydd mewn ffordd sy'n ei gwneud yn anodd i chi ymdopi
Triniaethau gan feddyg teulu
Bydd eich meddyg teulu'n ceisio darganfod beth sy'n achosi'r anhunedd er mwyn i chi gael y driniaeth gywir.
Weithiau, cewch eich cyfeirio at therapydd i gael therapi ymddygiad gwybyddol.
Gall hyn eich helpu newid y meddyliau a'r ymddygiadau sy'n eich atal rhag cysgu.
Anaml iawn fydd meddygon teulu'n rhagnodi tabledi cysgu i drin anhunedd. Gall tabledi cysgu gael sgil-effeithiau difrifol a gallech ddechrau bod yn ddibynnol arnynt.
Rhagnodir tabledi cysgu am ychydig ddyddiau neu wythnosau os:
- yw eich anhunedd yn ddrwg iawn
- nad yw triniaethau eraill wedi gweithio