Thyroid, tanweithgar

Cyflwyniad

Mae thyroid tanweithredol yn golygu nad yw eich chwarren thyroid, sydd wedi ei lleoli yn eich gwddf, yn cynhyrchu digon o hormonau.

Mae arwyddion cyffredin o thyroid tanweithredol yn cynnwys blinder, magu pwysau a theimlo'n isel.

Nid yw thyroid tanweithredol yn ddifrifol fel rheol, ac fe gaiff ei adnabod yn feddygol fel isthyroidedd. Gellir ei drin yn hawdd trwy gymryd tabledi hormon i gymryd lle'r hormonau nad yw eich thyroid yn eu cynhyrchu.

Mae'r thyroid yn cynhyrchu hormon o'r enw thyrocsin, sy'n rheoli faint o egni y mae eich corff yn ei ddefnyddio. Pan nad yw'r thyroid yn cynhyrchu digon o thyrocsin, mae llawer o weithrediadau'r corff yn arafu.

Ni ellir atal thyroid tanweithredol. Mae'r rhan fwyaf o achosion o thyroid tanweithredol yn cael eu hachosi naill ai gan eich system imiwnedd yn ymosod ar eich thyroid neu thyroid wedi'i niweidio.

Cewch wybod mwy am achosion thyroid tanweithredol.

Pryd i fynd i weld eich meddyg teulu

Ewch i weld eich meddyg teulu a gofynnwch i gael profion am thyroid tanweithredol os oes gennych symptomau sy'n cynnwys:

  • blinder
  • magu pwysau
  • iselder ysbryd
  • bod yn sensitif i oerni
  • croen a gwallt sych
  • poenau yn y cyhyrau

Cewch wybod mwy am symptomau thyroid tanweithredol.

Mae symptomau thyroid tanweithredol yn aml yn cael eu drysu am rywbeth arall, gan gleifion a meddygon. Mae symptomau fel arfer yn dechrau'n araf ac efallai na fyddwch yn sylwi arnynt am rai blynyddoedd. Yr unig ffordd gywir o ganfod a oes gennych broblem thyroid yw cael prawf gwaed i fesur eich lefelau hormon.

Cewch wybod mwy ynghylch profi am thyroid tanweithredol.

Ar bwy mae'n gallu effeithio?

Mae dynion a menywod yn gallu cael thyroid tanweithredol. Fodd bynnag, mae'n fwy cyffredin ymhlith menywod. Yn y DU, mae'n effeithio ar 15 o bob 1,000 o fenywod ac 1 o bob 1,000 o ddynion.

Caiff un o bob 4,500 o fabanod eu geni gyda thyroid tanweithredol (o'r enw isthyroidedd cynhenid). Mae pob baban sy'n cael ei eni yn y DU yn cael ei sgrinio am isthyroidedd cynhenid mewn sampl gwaed a gymerir trwy bricio'i sawdl. Cymerir y sampl ar ôl yr wythnos gyntaf.

Triniaeth

Nid yw thyroid tanweithredol yn ddifrifol fel arfer, a bydd cymryd tabledi amnewid hormonau, o'r enw levothyroxine, yn codi eich lefelau thyrocsin. Bydd angen triniaeth arnoch am weddill eich bywyd fel rheol. Fodd bynnag, o reoli'r cyflwr yn ofalus, dylech allu byw bywyd iach ac arferol.

Cewch wybod mwy ynghylch triniaeth ar gyfer thyroid tanweithredol.

Os na chaiff ei drin, mae thyroid tanweithredol yn gallu arwain at gymhlethdodau, gan gynnwys chwyddo yn y thyroid (cyflwr o'r enw goitr), clefyd y galon, problemau iechyd meddwl ac anffrwythlondeb.

Cewch wybod mwy ynghylch cymhlethdodau thyroid tanweithredol.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 06/06/2025 15:48:13