Adrannau damweiniau ac achosion brys

Cyflwyniad

Accident and emergency departments
Accident and emergency departments

Mae adrannau damweiniau ac achosion brys (A&E) yn asesu ac yn trin pobl ag anafiadau neu salwch difrifol. Yn gyffredinol, dylech ymweld ag adran A&E neu ffonio 999 ar gyfer argyfyngau, fel:

  • mynd yn anymwybodol 
  • cyflwr dryslyd acíwt a ffitiau nad ydynt yn stopio
  • poen difrifol, cyson yn y frest
  • anawsterau anadlu
  • gwaedu difrifol nad yw’n gallu cael ei atal

Os bydd angen ambiwlans, ffoniwch 999, sef y rhif ffôn ar gyfer argyfyngau yn y DU. Gallwch ffonio 112 hefyd, sef y rhif cyfatebol ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd.

Fel arfer, mae’r prif adrannau damweiniau ac achosion brys ar agor 24 awr y dydd, am 365 diwrnod y flwyddyn. Nid oes gan bob ysbyty adran A&E. Y prif adrannau damweiniau ac achosion brys yw’r adrannau hynny sy’n darparu gwasanaeth 24 awr dan arweiniad meddyg ymgynghorol sydd â chyfleusterau dadebru priodol ac ardal ddynodedig ar gyfer derbyn cleifion damweiniau ac achosion brys. Rhaid i’r adrannau hyn ddarparu’r ystod lawn o wasanaethau gofynnol drwy’r amser.

Mewn adran A&E, bydd meddyg neu nyrs yn asesu eich cyflwr ac yn penderfynu ar gamau gweithredu pellach. Fel arfer, bydd rhaid i chi aros cyn cael eich gweld, yn enwedig ar nosweithiau Gwener a Sadwrn. Mae adrannau A&E yn ceisio gweld, diagnosio a thrin 95% o bobl o fewn pedair awr o gyrraedd.

Yn aml, bydd yr adran damweiniau ac achosion brys yn y prif ysbyty ar gyfer eich ardal. Gallwch ddefnyddio cyfleuster Chwilio Ysbytai / Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys i ddod o hyd i adrannau A&E cyfagos.

Yn ogystal ag adrannau A&E, mae gwasanaethau eraill, fel unedau mân anafiadau ar gael. Gallant drin cleifion heb apwyntiad. Maent yn delio â mân anafiadau ac afiechydon.

  • Mae unedau mân anafiadau yn cynnig asesiadau a thriniaeth ar gyfer mân anafiadau fel ysigiadau a streifiadau
  • Bydd meddyg y tu allan i oriau ar gael bob amser rhwng 6.30pm ac 8am yn ystod yr wythnos a thrwy’r dydd ar y penwythnos ac ar wyliau banc. Y tu allan i oriau arferol y feddygfa, gallwch ffonio GIG 111 Cymru i gael gafael ar wasanaeth y Tu Allan i Oriau Meddyg Teulu. 
  • Mae eich bwrdd iechyd hefyd yn darparu triniaeth ddeintyddol y tu allan i oriau. Dim ond gwaith deintyddol sy’n cael ei ystyried yn hanfodol ac nad yw’n gallu aros tan y diwrnod gweithio nesaf fydd yn cael ei ddarparu.
  • Atal cenhedlu. Gall dulliau atal cenhedlu brys eich atal rhag beichiogi ar ôl cael rhyw heb ddiogelwch. Mae dau ddull ar gael, pilsen ‘y bore canlynol’ a’r ddyfais atal cenhedlu yn y groth (IUD). Mae dau fath o bilsen ‘y bore canlynol’ ar gael. Gall un gael ei chymryd hyd at 72 awr ar ôl cael rhyw a’r llall hyd at 120 awr ar ôl cael rhyw. Mae’r ddwy ar gael yn rhad ac am ddim o fferyllfeydd o dan y Gwasanaeth Atal Cenhedlu Brys. 
  • Chwiliwch am eich fferyllfa agosaf. 
  • Mae pilsen ‘y bore canlynol’ ar gael am ddim hefyd oddi wrth eich meddyg teulu a’r rhan fwyaf o glinigau cynllunio teulu. 
  • Mae’r IUD yn ddyfais blastig a chopr sy’n cael ei gosod yng nghroth menyw gan feddyg neu nyrs o fewn pum niwrnod o gael rhyw heb amddiffyn.
  • Argyfyngau iechyd meddwl. Os bydd cyflwr meddyliol neu emosiynol person yn gwaethygu’n gyflym, gellir galw hyn yn argyfwng iechyd meddwl. Yn y sefyllfa hon, mae’n bwysig cael help yn gyflym.


Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 20/03/2023 14:28:19