Cyflwyniad

Haint ffyngaidd gyffredin sy'n effeithio'r traed yw tarwden y traed. Fel arfer gallwch ei thrin â hufennau, chwistrellau neu bowdrau a brynir mewn fferyllfa, ond gall ddod yn ôl dro ar ôl tro.
Gwiriwch a oes tarwden y traed gennych
Mae symptomau tarwden y traed yn cynnwys:
- Mannau gwyn coslyd rhwng bysedd eich traed
- Mannau coch, dolurus a chennog ar eich traed
- Croen a allai gracio a gwaedu
Gall hefyd effeithio ar wadnau neu ochrau eich traed. Os nad yw'n cael cael ei trhin, gall ledaenu i'ch ewinedd troed ac achosi haint ewinedd ffyngaidd.
Wetihiau mae tarwden y traed yn achosi pothelli llawn hylif.
Gall fferyllydd helpu gyda tharwden y traed
Mae Athlete's Foot yn annhebygol o wella ar ei ben ei hun, ond mae Athletes Foot yn un o'r cyflyrau a gwmpesir gan y Cynllun Anhwylderau Cyffredin, sef gwasanaeth y GIG y gall cleifion gael mynediad ato i gael cyngor am ddim a thriniaeth am ddim ac sydd ar gael mewn 99% o fferyllfeydd yng Nghymru.
Dewch o hyd i'ch fferyllfa agosaf.
Darganfod mwy o wybodaeth am y gwasanaeth.
Mae triniaethau ar gyfer tarwden y traed ar gael fel:
- hufennau
- chwistrellau
- powdrau
Nid yw pob un ohonynt yn addas i bawb - er enghraifft, mae rhai ohonynt ar gyfer oedolion yn unig. Gwiriwch y pecyn bob tro, neu gofynnwch i fferyllydd.
Gall fod angen i chi roi cynnig ar nifer o driniaethau i ganfod un sy'n gweithio orau i chi.
Chwiliwch fferyllfa yma.
Sut allwch chi helpu trin ac atal tarwden y traed eich hun
Gallwch barhau i ddefnyddio rhai triniaethau o'r fferyllydd i atal tarwden y traed rhag dod yn ôl.
Mae'n bwysig hefyd eich bod yn cadw'ch traed yn lân ac yn sych. Nid oes angen i chi aros gartref o'r gwaith neu'r ysgol cyhyd â'ch bod yn dilyn y cyngor hwn.
Gwnewch yn siwr eich bod yn
- sychu eich traed ar ôl eu golchi, yn enwedig rhwng bysedd eich traed - dabiwch nhw'n sych yn hytrach na'u rhwbio
- defnyddiwch dywel ar wahân ar gyfer eich traed a golchwch ef yn rheolaidd
- tynnwch eich esgidiau pan fyddwch chi gartref
- gwisgwch sanau glân bob dydd - sanau cotwm sydd orau
Peidiwch â
- chrafu'r croen yr effeithiwyd arno - gall hyn ei lledaenu i rannau eraill o'ch corff
- cerdded o gwmpas yn droednoeth - gwisgwch fflip-fflops mewn mannau fel ystafelloedd newid a chawodydd
- rhannu tywelion, sanau nac esgidiau gyda phobl eraill
- gwisgo'r un pâr o esgidiau am fwy na 2 ddiwrnod ar ôl ei gilydd
- gwisgo esgidiau sy'n gwneud i chi deimlo'n boeth a chwyslyd
Pwysig
Cadwch i ddilyn y cyngor hwn ar ôl gorffen y driniaeth er mwyn helpu atal tarwden y traed rhag dod yn ôl.
Ewch i weld meddyg teulu:
- os nad yw triniaethau o fferyllfa yn gweithio
- os ydych yn teimlo'n anesmwyth iawn
- os yw eich troed yn goch, yn boeth ac yn boenus - gallai hwn fod yn haint fwy difrifol
- os oes diabetes gennych - gall problemau'r traed fod yn fwy difrifol os oes diabetes gennych
- os oes gennych system imiwnedd wan - er enghraifft, rydych wedi cael trawsblaniad organ neu yn cael cemotherapi
Triniaeth gan feddyg teulu
Gall eich meddyg teulu
- anfon darn bach o groen o'ch traed i labordy i wirio a oes tarwden y traed gennych
- rhoi presgripsiwn am hufen steroid i'w ddefnyddio ochr yn ochr â hufen gwrthffyngaidd
- rhoi presgripsiwn am dabledi gwrthffyngaidd - gall fod angen i chi gymryd y rhain am rai wythnosau
- eich cyfeirio at arbenigwr o'r enw dermatolegydd i gael mwy o brofion a thriniaeth os oes angen
Sut ydych chi'n cael tarwden y traed
Gallwch ddal tarwden y traed oddi wrth bobl eraill sydd â'r haint.
Gallwch ei gael drwy:
- gerdded yn droednoeth mewn mannau lle y mae tarwden y traed gan rywun arall - yn enwedig ystafelloedd newid a chawodydd
- cyffwrdd â chroen heintiedig rhywun sydd â tharwden y traed
Rydych chi'n fwy tebygol o'i gael os oes gennych draed gwlyb neu chwyslyd, neu os yw'r croen ar eich traed wedi'i niweidio.