Faginosis bacterol (BV) yw achos mwyaf cyffredin rhedlif abnormal o'r fagina mewn menywod sydd mewn oed i gael plant.
Mae BV yn gyffredin - gall unrhyw fenyw ei gael, yn cynnwys menywod mewn perthnasoedd o'r un rhyw a menywod sydd erioed wedi cael rhyw. Amcangyfrifir y bydd un o bob deg menyw yn cael BV ar ryw adeg yn eu bywyd. Mae'n gyffredin mewn menywod beichiog.
Mae anghydbwysedd ymhlith y bacteria normal sydd yn y fagina mewn menywod sydd â BV.
Nid yw'n haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI).
Mae'n gallu cael ei drin yn hawdd â gwrthfiotig.
Mewn ychydig o fenywod, mae BV yn dychwelyd ac efallai bydd angen mwy o driniaeth.
Mae cael BV yn ei gwneud yn haws i'ch corff gael ei heintio â haint a drosglwyddir yn rhywiol, felly mae profion arferol ar gyfer yr holl heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STI), yn cynnwys clamydia, gonorrhoea, tricomoniasis, syffilis a HIV yn cael eu hargymell.
Mae faginosis bacterol (BV) yn achos cyffredin rhedlif anarferol o'r fagina. Nid yw BV yn haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI), ond mae'n gallu cynyddu eich risg o gael STI fel clamydia.
Gwiriwch a oes gennych chi faginosis bacterol
Symptom mwyaf cyffredin faginosis bacterol yw rhedlif anarferol o'r fagina sydd ag arogl pysgodlyd cryf, yn enwedig ar ôl cael rhyw.
Efallai y byddwch chi'n sylwi ar newid yn lliw a chysondeb eich rhedlif, er enghraifft bod y rhedlif yn mynd yn lliw llwydaidd-gwyn, ac yn denau a dyfrllyd.
Ond nid yw 50% o fenywod â faginosis bacterol yn cael unrhyw symptomau.
Nid yw faginosis bacterol fel arfer yn achosi unrhyw ddolur na chosi.
Os ydych chi'n ansicr ai BV ydyw, gwiriwch am achosion eraill rhedlif anarferol o'r fagina.
Ewch i weld meddyg teulu neu ewch i glinig iechyd rhywiol os ydych chi'n meddwl bod gennych chi BV:
Dydy'r cyflwr ddim fel arfer yn ddifrifol, ond bydd angen i chi gael gwrthfiotig os oes gennych chi BV.
Hefyd, mae'n bwysig ceisio triniaeth os ydych chi'n feichiog gan fod tebygrwydd bach y gall BV achosi cymhlethdodau â beichiogrwydd. Os ydych chi'n feichiog a bod BV yn eich poeni, mae'n ddiogel cymryd unrhyw un o'r triniaethau sy'n cael eu hargymell hyd yn oed yn y tri mis cyntaf (y deuddeg wythnos 1af). Mae tystiolaeth i awgrymu y gallai BV gynyddu risg esgor cyn amser mewn menywod sydd wedi cael camesgoriad, babi cyn amser neu fabi â phwysau geni isel yn y gorffennol. Y cyngor yw y dylai'r menywod hyn gael triniaeth yn gynnar yn eu beichiogrwydd (cyn 20 wythnos, os oes modd).
Gall clinigau iechyd rhywiol helpu â faginosis bacterol
Mae clinigau iechyd rhywiol yn trin problemau â'r organau cenhedlu a'r system wrinol.
Mae llawer o glinigau iechyd rhywiol yn cynnig gwasanaeth galw i mewn, ble nad oes angen i chi gael apwyntiad.
Yn aml, byddan nhw'n cael y canlyniadau yn gyflymach na meddygfeydd.
Dewch o hyd i glinig iechyd rhywiol yma
Beth sy'n digwydd yn eich apwyntiad
Bydd eich meddyg teulu neu glinig iechyd rhywiol eisiau cadarnhau mai BV sydd arnoch chi, a diystyru STI.
Bydd meddyg neu nyrs yn cynnal archwiliad mewnol i archwilio'r fagina am arwyddion o BV ac yn cymryd sampl o hylif y fagina i'w ddadansoddi yn y labordy. Caiff pH (y cydbwysedd o ran asid / alcali) hylif y fagina ei fesur neu gallai gael ei archwilio o dan y microsgop am facteria yn gysylltiedig â BV. Mae'r canlyniadau fel arfer ar gael yn ystod eich ymweliad cyntaf â'r clinig. Byddwch yn cael eich holi am eich symptomau, ac efallai bydd meddyg neu nyrs yn edrych ar eich fagina.
Efallai bydd ffon gotwm yn cael ei sychu dros y rhedlif y tu mewn i'ch fagina i brofi am BV a heintiau eraill.
Triniaeth ar gyfer faginosis bacterol
Fel arfer, caiff faginosis bacterol ei drin â thabledi, geliau neu hufennau gwrthfiotig.
Maen nhw'n cael eu rhoi ar bresgripsiwn gan feddyg teulu neu glinig iechyd rhywiol.
Os oes gennych bartner o'r un rhyw, efallai y bydd angen iddi gael triniaeth hefyd.
Gwybodaeth bwysig am eich triniaeth:
- Tabledi neu gel gweiniol metronidazole: dylech chi osgoi alcohol tra'n cymryd y driniaeth, ac am 48 awr ar ôl hynny. Mae alcohol yn rhyngweithio â metronidazole, ac efallai y bydd yn gwneud i chi deimlo'n gyfoglyd ac yn sâl.
- Hufen mewnweiniol clindamycin: mae'n gwanhau condomau latecs, felly gallen nhw dorri - mae'n well osgoi cael rhyw neu ddefnyddio condomau heb latecs.
Dydy'r driniaeth ddim yn tarfu ar eich dull atal cenhedlu (ac eithrio hufen clindamycin a chondomau fel a ddisgrifiwyd eisoes).
Os ydych chi'n bwydo ar y fron, efallai ei bod yn well defnyddio triniaeth weiniol fel gel metronidazole neu hufen clindamycin oherwydd gall triniaethau trwy'r geg effeithio ar flas llaeth o'r fron.
Faginosis bacterol mynych
Mae'n gyffredin i BV ddod yn ôl, fel arfer o fewn 3 mis.
Bydd angen i chi gael triniaeth am gyfnod hirach (hyd at 6 mis) os ydych chi'n cael BV yn aml (rydych chi'n ei gael mwy na dwywaith mewn 6 mis).
Bydd meddyg teulu neu glinig iechyd rhywiol yn argymell pa mor hir y mae angen i chi ei drin.
Hefyd, gall helpu adnabod a yw rhywbeth yn sbarduno eich BV, fel cael rhyw neu'ch mislif.
Pethau y gallwch chi eu gwneud eich hun
I helpu lleddfu symptomau ac atal faginosis bacterol rhag dychwelyd:
Pethau y dylech eu gwneud:
- defnyddiwch ddŵr a sebon plaen i olchi ardal yr organau cenhedlu
- cymerwch gawod yn lle bath
Pethau na ddylech eu gwneud:
- peidiwch â defnyddio sebonau, ewyn baddon, siampŵ neu gel cawod persawr yn y bath
- peidiwch â defnyddio diaroglyddion, golchion neu olchiadau i'r fagina
- peidiwch â rhoi hylifau gwrthseptig yn y bath
- peidiwch â defnyddio glanedyddion cryf i olchi eich dillad isaf
- peidiwch ag ysmygu
Beth sy'n achosi faginosis bacterol
Caiff faginosis bacterol ei achosi gan newid yng nghydbwysedd naturiol y bacteria yn eich fagina.
Nid yw'n gwbl hysbys beth sy'n achosi i hyn ddigwydd, ond rydych chi'n fwy tebygol o'i gael:
- os ydych chi'n weithredol yn rhywiol (ond mae menywod nad ydyn nhw wedi cael rhyw hefyd yn gallu cael BV)
- os ydych chi wedi newid partner
- os oes gennych chi IUD (dyfais atal cenhedlu)
- os ydych chi'n defnyddio cynhyrchion persawr yn eich fagina, neu o gwmpas eich fagina
Dydy BV ddim yn STI, er ei fod yn gallu cael ei sbarduno gan ryw.
Mae menyw yn gallu ei drosglwyddo i fenyw arall yn ystod rhyw.
Rydych chi'n fwy tebygol o gael STI os oes gennych chi BV. Efallai bod hyn oherwydd bod BV yn gwneud eich fagina yn llai asidig ac yn lleihau eich amddiffyniadau naturiol yn erbyn haint.
Faginosis bacterol mewn beichiogrwydd
Os byddwch yn datblygu faginosis bacterol mewn beichiogrwydd, mae tebygrwydd bach o gymhlethdodau, fel geni cyn amser neu gamesgoriad.
Ond nid yw BV yn achosi problemau yn y mwyafrif o feichiogrwydd.
Mae'n ddiogel cymryd unrhyw un o'r triniaethau sy'n cael eu hargymell hyd yn oed yn y tri mis cyntaf (y deuddeg wythnos 1af). Mae tystiolaeth i awgrymu y gallai BV gynyddu risg esgor cyn amser mewn menywod sydd wedi cael camesgoriad, babi cyn amser neu faban â phwysau geni isel yn y gorffennol. Y cyngor yw y dylai'r menywod hyn gael triniaeth yn gynnar yn eu beichiogrwydd (cyn 20 wythnos, os oes modd).
Siaradwch â'ch meddyg teulu neu'ch bydwraig os ydych chi'n feichiog a bod eich rhedlif o'r fagina yn newid.