Tagu

Cyflwyniad

Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i oedolion a phlant dros flwydd oed. Os ydych chi eisiau cyngor sy'n berthnasol i fabanod iau na blwydd oed, gweler Helpu baban sy'n tagu.

Mae tagu'n digwydd pan fydd llwybr anadlu rhywun yn cael ei rwystro'n sydyn, naill ai'n llwyr neu'n rhannol, fel nad yw'n gallu anadlu.

Tagu ysgafn: anogwch yr unigolyn i besychu

Os yw'r llwybr anadlu wedi'i rwystro'n rhannol, bydd yr unigolyn fel arfer yn gallu siarad, crïo, pesychu neu anadlu. Fel rheol, bydd yn gallu clirio'r rhwystr ei hun.

I helpu oedolyn neu blentyn dros flwydd oed sy'n tagu'n ysgafn:

Anogwch yr unigolyn i barhau i besychu i geisio clirio'r rhwystr.
Gofynnwch iddo geisio poeri'r gwrthrych allan os yw yn ei geg.
Peidiwch â rhoi eich bysedd yn ei geg i helpu, oherwydd fe allai eich cnoi chi ar ddamwain.

Os nad yw pesychu'n gweithio, dechreuwch guro ei gefn (gweler isod).

Tagu difrifol: curo'r cefn a gwthiadau abdomenol

Pan fydd tagu'n ddifrifol, ni fydd yr unigolyn yn siarad, crïo, pesychu nac anadlu. Heb gymorth, bydd yn mynd yn anymwybodol yn y pen draw.

I helpu oedolyn neu blentyn dros flwydd oed:

Sefwch y tu ôl i'r unigolyn ac ychydig i'r ochr. Cynhaliwch ei frest ag un llaw. Pwyswch yr unigolyn ymlaen fel y bydd yr hyn sy'n rhwystro ei lwybr anadlu yn dod allan o'i geg, yn hytrach na symud ymhellach i lawr.
Curwch ei gefn yn galed pum gwaith rhwng ei balfeisiau (shoulder blades) gyda gwaelod cledr eich llaw. (Mae gwaelod cledr eich llaw rhwng cledr eich llaw a'ch arddwrn).
Edrychwch i weld a yw'r rhwystr wedi clirio.
Os na, gwnewch hyd at bum gwthiad abdomenol (gweler isod).

Pwysig: Peidiwch â rhoi gwthiadau abdomenol i fabanod sy'n iau na blwydd oed na menywod beichiog.

Sefwch y tu ôl i'r unigolyn sy'n tagu.
Rhowch eich breichiau o amgylch ei wasg a phlygwch ef ymlaen.
Caewch un llaw yn ddwrn a'i rhoi yn union uwchben ei fogail.
Rhowch y llaw arall ar ben eich dwrn a thynnwch i mewn ac i fyny'n galed.
Ailadroddwch y symudiad hwn hyd at bum gwaith.

Os bydd llwybr anadlu'r unigolyn wedi'i rwystro o hyd ar ôl rhoi cynnig ar guro ei gefn a gwthiadau abdomenol, galwch am gymorth ar unwaith:

Ffoniwch 999 a gofynnwch am ambiwlans. Dywedwch wrth y gweithiwr 999 fod yr unigolyn yn tagu.
Parhewch â'r curiadau i'w gefn a'r gwthiadau abdomenol tan i gymorth gyrraedd.

Os bydd yr unigolyn yn colli ymwybyddiaeth ac nid yw'n anadlu, dylech ddechrau dadebru cardio-anadlol (CPR) trwy gywasgu'r frest.

Cymhlethdodau

Ceisiwch gymorth meddygol ar frys (adran Damweiniau ac Achosion Brys (A&E) neu feddyg teulu os yw yn ystod oriau gwaith):

os yw'n pesychu'n barhaus ar ôl tagu
os yw'n teimlo bod rhywbeth yn parhau i fod yn sownd yn ei wddf

Mae gwthiadau abdomenol yn gallu achosi anafiadau difrifol. Os bu angen cynnal y weithred hon a allai achub bywyd, dylai'r unigolyn gael ei archwilio gan weithiwr iechyd proffesiynol, fel meddyg teulu neu feddyg mewn adran A&E, wedi hynny bob amser.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 05/07/2023 13:31:11