Atal cenhedlu

Cyflwyniad

Contraception
Contraception

Nod dulliau atal cenhedlu yw atal beichiogrwydd.

Gall menyw feichiogi os yw sberm dyn yn cyrraedd un o’i hwyau (ofa).

Mae dulliau atal cenhedlu yn ceisio atal hyn rhag digwydd trwy:

  • gadw’r wy a’r sberm ar wahân
  • atal wyau rhag cael eu cynhyrchu
  • atal y sberm a’r wy wedi’u cyfuno (wy wedi’i ffrwythloni) rhag glynu wrth leinin y groth

Mae dulliau atal cenhedlu yn rhad ac am ddim i’r rhan fwyaf o bobl yn y Deyrnas Unedig. Gellir prynu condomau mewn fferyllfeydd ac archfarchnadoedd hefyd.

Mae 15 o ddulliau i ddewis o’u plith, a gallwch ddod o hyd i un sy’n gweddu orau i chi.

Mae dulliau rhwystro, fel condomau, yn fath o ddull atal cenhedlu sy’n helpu amddiffyn yn erbyn heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs) a beichiogrwydd.

Dylech chi ddefnyddio condomau i ddiogelu’ch iechyd rhywiol ac iechyd rhywiol eich partner, ni waeth pa fath arall o ddull atal cenhedlu rydych chi’n ei ddefnyddio i atal beichiogrwydd.

15 dull atal cenhedlu

Peidiwch â phoeni os nad yw’r math cyntaf rydych chi’n ei ddefnyddio yn iawn: gallwch chi roi cynnig ar un arall.

Darllenwch am y gwahanol ddulliau atal cenhedlu, sef:

Mae 2 ddull atal cenhedlu parhaol, sef:

Ble i gael dulliau atal cenhedlu

Mae gwasanaethau atal cenhedlu yn rhad ac am ddim, ac yn gyfrinachol. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau ar gyfer pobl o dan 16 oed, cyhyd â’u bod yn ddigon aeddfed i ddeall y wybodaeth a’r penderfyniadau cysylltiedig.

Mae canllawiau llym ar gyfer gweithwyr proffesiynol gofal iechyd sy’n gweithio gyda phobl o dan 16 oed.

Gallwch chi gael dulliau atal cenhedlu yn rhad ac am ddim o’r lleoedd canlynol:

  • y rhan fwyaf o feddygfeydd (siaradwch â’ch meddyg teulu neu nyrs y practis) 
  • clinigau atal cenhedlu cymunedol
  • clinigau iechyd rhywiol (mae’r rhain yn cynnig gwasanaethau atal cenhedlu a gwasanaethau profion STI) 
  • rhai gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc

Mae llawer o’r gwasanaethau hyn yn cynnig gwybodaeth, profion a thriniaeth ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STI) hefyd. Os ydych chi wedi cael rhyw heb ddiogelwch ac yn meddwl bod posibilrwydd y gallech chi fod yn feichiog, mae perygl y gallech chi ddal STI hefyd.

Cyn i chi drefnu apwyntiad, ceisiwch ddarganfod cymaint ag y bo modd.

Gall eich dewis o ddulliau atal cenhedlu amrywio dros amser, yn dibynnu ar eich ffordd o fyw a'ch amgylchiadau.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 08/06/2022 12:06:22