Cyflwyniad
Beth yw dannedd gosod?
Mae dannedd gosod yn ddannedd ffug symudadwy, a wnaed o acrylig (plastig), neilon neu fetel. Maen nhw'n eistedd dros y deintgig yn lle dannedd coll.
Gall bylchau a adawyd gan ddannedd coll achosi problemau gyda bwyta a lleferydd.
Os oes angen tynnu eich dannedd, gallai eich deintydd gynghori gwneud dannedd gosod i gymryd eu lle. Gall dannedd gosod helpu i atal problemau gyda bwyta a lleferydd a gwella golwg eich gwên.
Gall dannedd gosod fod:
- Yn gyflawn (set lawn) - disodli eich holl ddannedd uchaf neu is
- Yn rhannol - disodli 1 dant neu ychydig o ddannedd coll yn unig
Hefyd, mae'n bosibl na fydd dannedd gosod yn rhoi i chi'r canlyniad roeddech chi'n gobeithio'i gael, a gall fod opsiynau eraill ar gyfer cael dannedd newydd yn lle eich dannedd gosod.
Gall fod opsiynau am ddannedd newydd sydd ddim ar gael ar y GIG, fel mewnblaniadau, a bydd yn rhaid i chi dalu'n breifat am y rhain.
Trafodwch opsiynau ar gyfer cael dannedd newydd yn agored gyda'ch gweithiwr deintyddol proffesiynol cyn i chi gytuno i fwrw ymlaen.
Sut caiff dannedd gosod eu ffitio
Dannedd gosod cyflawn
Bydd dannedd gosod llawn yn cael eu gosod os nad oes gennych ddannedd uchaf nac is.
Os yw'r holl ddannedd sy'n weddill gennych yn cael eu tynnu, mae'n bosibl ffitio dannedd gosod cyflawn ar yr un pryd ag y tynnir eich dannedd. Fodd bynnag, wrth i'r deintgig a'r asgwrn wella, mae'r dannedd gosod yn debygol o fynd yn rhydd a bydd angen eu newid neu eu haddasu ymhen ychydig fisoedd.
Mewn ambell achos, gall fod angen i'ch deintgig wella am nifer o fisoedd, cyn y gall dannedd gosod gael eu ffitio a bydd siâp eich ceg yn newid yn ystod y cyfnod hwn.
Gall dannedd gosod gael eu gwneud gan ddeintydd neu Dechnegydd Deintyddol Clinigol. Os bydd Technegydd Deintyddol Clinigol yn gwneud eich dannedd gosod, bydd angen o hyd i chi weld deintydd am archwiliad.
Dannedd gosod rhannol
Bwriedir i ddannedd gosod rhannol lenwi'r bylchau sy'n cael eu gadael gan un neu ragor o ddannedd coll.
Mae llawer o opsiynau o wahanol fathau o ddeunyddiau y gellir gwneud dannedd gosod rhannol ohonynt. Bydd eich deintydd yn cynghori pa un sy'n fwyaf addas i chi. Nid yw rhai deunyddiau ar gael ar y GIG, felly gall fod angen i chi dalu'n breifat.
Os dim ond ychydig o ddannedd coll sydd gennych, siaradwch â deintydd am opsiynau ar gyfer cael dannedd newydd yn eu lle. Gall rhai opsiynau fod ar gael yn breifat yn unig. Gall technegydd deintyddol clinigol ddarparu dannedd gosod rhannol i chi, ond dim ond ar ôl i chi weld deintydd am asesiad o iechyd y geg.
Mae gan wefan yr Oral Health Foundation fwy o wybodaeth a chyngor am gael dannedd newydd.
Gofalu am eich dannedd gosod
Gall dannedd gosod deimlo ychydig yn rhyfedd i ddechrau, ond fe ddewch i'r arfer â'u gwisgo cyn hir iawn.
I ddechrau, gall fod angen i chi wisgo eich dannedd gosod drwy'r amser, gan gynnwys tra byddwch chi'n cysgu.
Bydd eich deintydd neu'ch technegydd deintyddol clinigol yn cynghori p'un a ddylech chi dynnu eich dannedd gosod ai peidio cyn mynd i gysgu.
Os byddwch yn tynnu eich dannedd gosod, dylech eu cadw'n llaith – er enghraifft mewn dŵr neu mewn bag polythen gydag ychydig o wlân cotwm llaith arnynt, neu mewn hydoddiant addas ar gyfer glanhau dannedd gosod dros nos. Bydd hyn yn atal deunydd y dannedd gosod rhag sychu a newid siâp.
Hylendid deintyddol
Mae cadw eich ceg a'ch dannedd gosod yn lân yn bwysig.
Dylech frwsio gweddill eich dannedd, eich deintgig a'ch tafod bob bore a nos gyda phast dannedd â fflworid i atal pydredd dannedd, clefyd y deintgig a phroblemau deintiol eraill.
Mae'n bwysig gwaredu plac a gweddillion bwyd o'ch dannedd gosod yn rheolaidd. Gall dannedd gosod budr arwain at broblemau, fel anadl ddrwg, clefyd y deintgig, pydredd dannedd a llindag y geg.
Glanhewch eich dannedd gosod ddwywaith y dydd trwy eu brwsio â phast dannedd neu ddŵr a sebon. Defnyddiwch hydoddiant neu dabledi glanhau dannedd gosod i gael gwared ar staeniau a bacteria (dilynwch gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr).
Gall dannedd gosod dorri os byddwch yn gadael iddynt gwympo, felly glanhewch nhw dros bowlen neu sinc llawn dŵr, neu rywbeth meddal fel tywel wedi'i blygu.
Cewch fwy o wybodaeth am lanhau dannedd gosod ar wefan yr Oral Health Foundation.
Bwyta gan ddefnyddio dannedd gosod
Pan fyddwch chi'n dechrau gwisgo dannedd gosod, bwytewch fwydydd meddal mewn darnau bach a chnoi'n araf, gan ddefnyddio dwy ochr eich ceg.
Osgowch gnoi gwm ac unrhyw fwyd gludiog, caled neu sydd ag ymylon siarp.
Gallwch ddechrau bwyta mathau eraill o fwyd yn raddol hyd nes byddwch wedi ailgydio yn eich diet arferol.
Pryd i weld eich deintydd
Os oes gennych ddannedd gosod (hyd yn oed os oes gennych ddannedd gosod cyflawn), dylech weld deintydd yn rheolaidd o hyd fel y gall chwilio am unrhyw broblemau. Bydd eich deintydd yn rhoi gwybod pa mor aml y dylech fynd i gael archwiliad.
Dylai eich dannedd gosod bara sawl blwyddyn os ydych chi'n gofalu amdanynt. Bydd eich deintgig ac asgwrn yr ên yn newid siâp ac yn lleihau gydag amser, felly efallai na fydd eich dannedd gosod yn ffitio cystal ag y gwnaethant pan gawsoch chi nhw'n wreiddiol.
Ewch i weld deintydd:
- os yw eich dannedd gosod yn clicio wrth i chi siarad
- os yw eich dannedd gosod yn llithro, neu os ydych chi'n teimlo nad ydyn nhw'n ffitio'n iawn mwyach
- os yw eich dannedd gosod yn anghyfforddus
- os yw'n amlwg bod eich dannedd gosod wedi gwisgo
- os oes gennych arwyddion o glefyd y deintgig neu bydredd dannedd, fel deintgig sy'n gwaedu neu anadl ddrwg
Os nad yw dannedd gosod yn ffitio'n gywir neu os ydynt wedi gwisgo, gallant achosi anghysur ac arwain at ddoluriau yn y geg, heintiau, problemau bwyta a thrafferth siarad.
Faint mae dannedd gosod yn costio ar y GIG
Mae dannedd gosod yn driniaeth band 3.
Darllenwch fwy am brisiau deintyddol y GIG ar gyfer y gwahanol fandiau a sut i gael help gyda chostau deintyddol.