Gwasanaeth Gwaed Cymru sy'n trefnu casglu, profi, prosesu a dosbarthu gwaed. Maent yn dibynnu'n llwyr ar roddwyr gwirfoddol i gynnal cyflenwadau i ysbytai Cymru.
Gall unrhyw un rhwng 17 a 66 oed, sy'n pwyso dros 7st 12 pwys (50kg), sy'n iach ac nad yw'n destun gwaharddiadau meddygol penodol wirfoddoli i ddod yn rhoddwr gwaed.
Ewch i wefan Gwasanaeth Gwaed Cymru i gael mwy o wybodaeth.