Cyflwyniad
Nodwch fod y pwnc yma yng nghanol diweddariad, rydym yn eich cynghori i groesgyfeirio gyda'r fersiwn Saesneg i sicrhau y cewch gwybodaeth cywir a cyfredol.
Ffibrosis systig yw’r anhwylder etifeddol mwyaf cyffredin yn y DU. Mae un o bob 2,500 o fabanod yn cael ei eni gyda ffibrosis systig. Mae un o bob pump ar hugain o bobl yn cario’r genyn enciliol diffygiol. Mae’n effeithio ar fwy na 7,500 o fabanod, plant ac oedolion ifanc yn y DU.
Yn achos ffibrosis systig caiff fersiwn diffygiol o brotein o’r enw CFTR (Rheolydd Dargludiant Trawsbilennol Ffibrosis Systig - Cystic Fibrosis Transmembrane Conductance Regulator) ei gynhyrchu. Mae hwn yn gyfrifol am gludo halenau a dwr ar draws y cellbilenni. Mae hyn yn golygu nad oes gan rai secretiadau yn rhannau penodol o’r corff ddigon o ddwr, sy’n golygu eu bod yn mynd yn dew ac yn ludiog.
Mae hyn yn golygu bod yr ysgyfaint, y pancreas (organ mewnol sy’n rheoli’r siwgr gwaed ac sy’n cynhyrchu ensymau i dorri bwyd i lawr), y coluddion ac organau eraill yn tueddu i gael eu tagu gan fwcws tew, gludiog. Mae symptomau’n cynnwys methu ag ennill pwysau, heintiau ar y frest, peswch, carthion annormal a chwys hallt.
Bu gwelliannau yn rheolaeth ffibrosis systig dros y blynyddoedd diweddar a chyda datblygiadau diweddar mewn triniaeth, mae’r rhan fwyaf o blant sy’n cael eu heffeithio bellach yn byw nes eu bod yn oedolion. Nid oes iachâd ar gyfer ffibrosis systig, ond mae’r genyn diffygiol wedi cael ei adnabod a disgwylir datblygiadau meddygol pwysig eraill.