Llewygu

Cyflwyniad

Fainting
Fainting

Llewygu yw pan fyddwch chi’n mynd yn anymwybodol am gyfnod byr. Nid yw’n arwydd o unrhyw beth difrifol fel arfer, ond os bydd yn digwydd yn rheolaidd, dylech weld meddyg teulu.

Achosion llewygu

Mae sawl rheswm pam y gallai rhywun lewygu. Mae’r achosion yn cynnwys:

  • sefyll yn rhy gyflym – gallai hyn fod yn arwydd o bwysedd gwaed isel
  • peidio â bwyta neu yfed digon
  • bod yn rhy boeth
  • wedi ypsetio neu’n flin iawn, neu mewn poen difrifol
  • problemau’r galon
  • cymryd cyffuriau neu yfed gormod o alcohol

Symptomau llewygu

Mae llewygu’n digwydd yn sydyn, fel arfer. Gall symptomau gynnwys:

  • pendro
  • croen oer a chwysu
  • llefaredd aneglur
  • teimlo fel eich bod am chwydu
  • newidiadau i’ch golwg

Ewch i weld meddyg teulu:

  • os ydych chi wedi llewygu ac nid ydych yn gwybod pam
  • os ydych chi wedi llewygu’n ddiweddar, fwy nag unwaith

Rhaid i chi ddweud wrth yr Asiantaeth Drwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) os ydych chi’n llewygu’n rheolaidd, oherwydd gallai effeithio ar eich gallu i yrru.

Darganfyddwch sut i ddweud wrth y DVLA am lewygu.

Pethau y gallwch chi eu gwneud i atal llewygu

Os ydych chi’n teimlo’ch bod chi ar fin llewygu, ceisiwch:

  • orwedd gyda’ch coesau wedi’u codi – os na allwch chi wneud hyn, eisteddwch gyda’ch pen rhwng eich pengliniau
  • yfed dŵr
  • bwyta rhywbeth
  • anadlu’n ddwfn

Os byddwch yn gweld rhywun yn llewygu

Os ydych chi gyda rhywun sydd wedi llewygu, peidiwch â chynhyrfu.

Os oes modd, gorweddwch yr unigolyn ar ei gefn a chodi’i goesau.

Fel arfer, bydd y sawl sydd wedi llewygu yn dihuno o fewn 20 eiliad.

Ffoniwch 999:

Os bydd rhywun yn llewygu ac:

  • ni allant gael eu dihuno ar ôl munud
  • maent wedi gwneud dolur difrifol i’w hunain yn sgil cwympo
  • maent yn siglo neu’n ysgytio oherwydd trawiad neu ffit

 



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 05/02/2024 10:56:05