Cosi

Cyflwyniad

Itching
Itching

Fel arfer, dydy cosi ar y croen ddim yn arwydd o unrhyw beth difrifol. Yn aml, gallwch chi ei drin eich hun a bydd yn gwella ar ôl ychydig o wythnosau.

Sut i drin cosi ar y croen eich hun

Weithiau, mae cosi'n cael ei achosi gan groen sych, croen wedi cracio neu groen llidiog. Mae yna ychydig o bethau syml y gallwch chi eu gwneud i helpu lleddfu’r cosi.

Gallai’r pethau hyn helpu atal cosi ar y croen rhag dychwelyd ac osgoi niwed i’r croen o grafu.

Dylech chi wneud y pethau canlynol:

  • patio neu dapio’r croen yn hytrach na’i grafu
  • dal rhywbeth lled oer ar y croen, fel lliain llaith
  • cael bath neu gawod led oer neu gynnes
  • defnyddio hufen lleithio neu eli lleddfol yn rheolaidd
  • cadw eich ewinedd yn lân, yn fyr ac yn llyfn
  • gwisgo dillad cotwm llac
  • defnyddio hylif neu bowdr golchi dillad ar gyfer croen sensitif

Peidiwch â gwneud y canlynol:

  • gwisgo dillad tynn, neu ddillad wedi eu gwneud o wlân neu ffabrigau synthetig eraill
  • treulio amser hir yn y bath neu’r gawod
  • defnyddio sebonau, diaroglyddion neu hufenau lleithio persawrus

Gall fferyllydd helpu â chosi ar y croen

Mae fferyllydd yn gallu argymell y cynhyrchion gorau i helpu â chosi ar y croen. Er enghraifft, hufennau, elïau neu feddyginiaeth o’r enw cyffur gwrth-histamin.

Dywedwch wrth y fferyllydd ble mae eich croen yn cosi ac os oes gennych chi unrhyw symptomau eraill.

Efallai y bydd y fferyllydd hefyd yn gallu dweud wrthych chi:

  • beth allwch chi ei wneud i’w drin eich hun
  • os oes angen i chi weld meddyg teulu

Dewch o hyd i fferyllfa.

Ewch i weld meddyg teulu:

  • os yw’r cosi ar eich croen yn effeithio ar eich bywyd bob dydd
  • os nad yw’r cosi ar eich croen yn gwella â hunanofal neu’i fod yn dod yn ôl o hyd
  • os yw’r cosi ar eich croen yn cael ei achosi gan frech, lwmp neu chwydd newydd yr ydych yn poeni amdano
  • os yw’r cosi ar eich croen dros eich corff i gyd; gallai hyn fod yn arwydd o rywbeth mwy difrifol

Triniaeth gan feddyg teulu

Gallai meddyg teulu roi hufenau, elïau neu dabledi ar bresgripsiwn, yn dibynnu ar beth sy’n achosi’r cosi.

Bydd eich meddyg teulu yn edrych ar eich croen ac yn gofyn am eich symptomau.

Gallai’r meddyg teulu drefnu prawf gwaed, neu roi ffon gotwm dros yr ardal lle mae’r cosi ar y croen (swab), neu grafu ychydig o gelloedd croen i ffwrdd yn dyner, er mwyn gallu eu profi. Gall hyn helpu darganfod beth sy’n achosi’r cosi ar eich croen.

Gallai meddyg teulu eich cyfeirio hefyd i weld meddyg sy’n arbenigo ym mhroblemau’r croen (dermatolegydd).

Achosion cosi ar y croen

Mae llawer o achosion posibl cosi ar y croen. Os oes gennych chi symptomau eraill (fel brech neu chwyddo), efallai bydd hyn yn helpu i ddarganfod beth sy’n ei achosi.

Ond peidiwch â cheisio gwneud diagnosis eich hun. Ewch i weld meddyg teulu os ydych chi’n poeni.

Achosion posibl a chyflyrau croen cyffredin

Mae cosi ar y croen hefyd yn gyffredin yn ystod beichiogrwydd neu ar ôl y menopos. Caiff hyn ei achosi gan newidiadau hormonaidd, ac mae fel arfer yn gwella dros gyfnod.

Mewn achosion prin, mae cosi ar y croen yn gallu bod yn arwydd o gyflwr mwy difrifol, fel problemau â’r thyroid, yr iau / afu neu’r arennau.

 



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 18/12/2023 07:58:30