Listeriosis

Cyflwyniad

Mae listeriosis yn haint prin a achosir gan facteria o’r enw listeria. Mae fel arfer yn mynd i ffwrdd ar ei ben ei hun, ond gall wneud rhai pobl yn ddifrifol wael.

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cynhyrchu fideo yn esbonio Listeria, gallwch ei wylio yma.  Gallwch ddarllen mwy ar eu gwefan yma.

Sut rydych chi’n cael listeriosis

Mae listeriosis fel arfer yn cael ei achosi gan fwyta bwyd sydd wedi'i halogi â bacteria listeria.

Gall listeria halogi amrediad eang o fwydydd, ond mae’r rhan fwyaf o heintiau’n cael eu hachosi gan fwyta bwydydd oer, parod i’w bwyta, fel:

  • cigoedd oer wedi’u coginio a’u sleisio a chigoedd wedi’u halltu
  • pysgod mwg oer a physgod wedi’u cochi – gan gynnwys mewn swshi
  • pysgod cregyn wedi’u coginio
  • cawsiau meddal wedi’u haeddfedu gan lwydni – fel camembert a brie, a chawsiau glas
  • pâté
  • brechdanau a saladau wedi’u paratoi ymlaen llaw
  • ffrwythau wedi’u torri ymlaen llaw (er enghraifft, darnau melon wedi’u pecynnu ymlaen llaw)
  • llaeth heb ei basteureiddio
  • cynhyrchion llaeth wedi’u gwneud o laeth heb ei basteureiddio

Nid yw’r bwydydd hyn bob amser yn achosi listeriosis. Os ydych wedi eu bwyta’n ddiweddar, does dim angen i chi wneud dim oni bai eich bod yn cael symptomau’r haint.

Er ei bod yn llai cyffredin, gallwch hefyd ddal listeriosis o’r canlynol:

  • rhywun arall sydd â listeriosis – er enghraifft, os byddwch chi’n bwyta bwyd mae’r unigolyn wedi’i drin heb olchi ei ddwylo
  • cysylltiad agos ag anifeiliaid fferm – yn enwedig defaid a gwartheg sy’n rhoi genedigaeth

Symptomau listeriosis

Yn y rhan fwyaf o bobl, nid oes gan listeriosis unrhyw symptomau neu mae’n achosi symptomau ysgafn am ychydig ddyddiau yn unig, fel:

  • tymheredd uchel o 38⁰C neu uwch
  • doluriau a phoenau
  • oerfel (chills)
  • chwydu neu deimlo’n gyfoglyd
  • dolur rhydd

Os ydych chi’n feichiog, efallai y byddwch hefyd yn cael poen yn y stumog neu’n sylwi ar eich babi’n symud llai nag arfer.

Gall babanod â listeriosis hefyd fod yn bigog a bwydo llai nag arfer.

Risgiau o listeriosis

Nid yw listeriosis fel arfer yn ddifrifol i’r rhan fwyaf o bobl.

Ond mae gan rai pobl risg uwch o broblemau difrifol, gan gynnwys:

  • pobl sy’n feichiog
  • babanod newydd-anedig
  • pobl â chyflwr sy’n gwanhau eu system imiwnedd, fel canser, diabetes, clefyd yr afu neu glefyd yr arennau
  • pobl sy’n cael triniaeth sy’n gwanhau eu system imiwnedd, fel cemotherapi neu dabledi steroid

Mae pobl hŷn hefyd mewn mwy o berygl o fynd yn ddifrifol wael oherwydd listeriosis, ac mae’r risg hon yn cynyddu gydag oedran.

Os cewch listeriosis tra byddwch yn feichiog, mae risg y gallai achosi camesgoriad neu farw-enedigaeth.

Mewn babanod a phobl sydd â system imiwnedd wan, gall listeriosis weithiau arwain at broblemau difrifol sy’n beryg bywyd fel sepsis neu meningitis.

Gofynnwch am apwyntiad brys gyda’ch meddyg teulu neu gofynnwch am help gan GIG 111 os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn feichiog ac yn meddwl bod listeriosis arnoch
  • mae gennych gyflwr sy’n gwanhau eich system imiwnedd (fel canser neu glefyd yr arennau) ac yn meddwl bod listeriosis arnoch
  • rydych yn cael triniaeth sy’n gwanhau eich system imiwnedd (fel cemotherapi neu dabledi steroid) ac yn meddwl bod listeriosis arnoch
  • rydych yn meddwl y gallai fod listeriosis ar eich babi

Gallwch ffonio 111 neu gael help gan 111 ar-lein.

Os ydych chi’n feichiog, gallwch chi hefyd ffonio’ch bydwraig am gyngor.

Ffoniwch 999 neu ewch i’r adran damweiniau ac achosion brys os ydych chi neu’ch plentyn:

  • yn dioddef o gur pen difrifol a gwddf anystwyth
  • yn ei chael hi’n anghyfforddus edrych ar oleuadau llachar
  • yn cael ffit (trawiadau)
  • yn teimlo’n ddryslyd yn sydyn
  • yn teimlo’n gysglyd iawn neu’n cael trafferth deffro
  • â brech nad yw’n mynd yn llai amlwg pan fydd gwydr yn cael ei rolio drosti – gall y frech fod yn flotiog, yn debyg i gleisiau neu’n bigau coch bach

Gallai’r rhain fod yn symptomau meningitis a achosir gan listeriosis, y mae angen ei drin yn yr ysbyty ar unwaith.

Triniaeth ar gyfer listeriosis

I’r rhan fwyaf o bobl, mae listeriosis yn haint ysgafn ac yn gwella mewn ychydig ddyddiau.

Fel arfer, gallwch ofalu amdanoch chi’ch hun gartref trwy orffwys ac yfed digon o hylifau.

Os ydych mewn mwy o berygl o fynd yn ddifrifol wael (er enghraifft, os ydych yn feichiog neu os oes gennych system imiwnedd wan), efallai y bydd angen gwrthfiotigau arnoch.

Darganfyddwch sut i drin dolur rhydd a chwydu gartref

Sut i osgoi listeriosis

Mae rhai pethau syml y gallwch chi eu gwneud i leihau eich risg o gael listeriosis.

Gwnewch y pethau hyn

  • cadwch fwyd wedi’i oeri sy’n barod i’w fwyta yn oer – ceisiwch sicrhau bod eich oergell yn gweithio’n iawn a’i bod wedi’i gosod ar dymheredd o 5⁰C neu is
  • bwytwch fwydydd sy’n barod i’w bwyta o fewn 4 awr ar ôl eu tynnu allan o’r oergell
  • bwytwch, coginiwch neu rhewch fwydydd erbyn eu dyddiad ‘defnyddio erbyn’
  • dilynwch y cyfarwyddiadau storio ar labeli bwyd a defnyddiwch fwyd sydd wedi’i agor o fewn 2 ddiwrnod (oni bai bod y pecyn yn dweud fel arall)
  • storiwch fwyd amrwd a bwyd sy’n barod i’w fwyta ar wahân
  • dilynwch y cyfarwyddiadau coginio ar ddeunydd pecynnu bwyd pan fo’n berthnasol, a choginiwch neu ailgynheswch fwydydd (gan gynnwys llysiau wedi’u rhewi) nes eu bod yn chwilboeth 
  • golchwch eich dwylo yn rheolaidd â sebon a dŵr

Bwydydd i’w hosgoi os oes gennych risg uwch o ddal listeriosis

Mae menywod beichiog a phobl sydd â system imiwnedd wan yn fwy tebygol o ddioddef symptomau difrifol yn sgil haint listeria, ac fe’u cynghorir i osgoi bwyta cynhyrchion pysgod mwg oer neu bysgod wedi’u halltu sy’n barod i’w bwyta, fel eog mwg neu gravlax (oni bai eu bod wedi’u coginio nes eu bod yn chwilboeth).

Os ydych chi’n feichiog, dylech osgoi bwyta bwydydd sydd â’r risg uchaf o achosi listeriosis.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • rhai cawsiau meddal heb eu coginio (gan gynnwys brie a camembert) – oni bai eu bod wedi’u coginio nes eu bod yn chwilboeth
  • pob math o bâté – gan gynnwys pâté llysiau
  • llaeth neu gynnyrch llaeth heb ei basteureiddio
  • unrhyw fwyd sydd heb ei goginio ddigon

Dysgwch pa fwydydd i’w hosgoi yn ystod beichiogrwydd

Os ydych chi’n feichiog, dylech chi hefyd osgoi cysylltiad agos ag anifeiliaid fferm sy’n rhoi genedigaeth neu sydd wedi rhoi genedigaeth yn ddiweddar.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 05/02/2025 07:07:43