Clefyd rhesws

Cyflwyniad

Rhesus disease
Rhesus disease
Yn anffodus, nid yw’r pwnc yma ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd. Cliciwch yma i weld y pwnc yma yn Saesneg.

Symptomau

Yn anffodus, nid yw’r pwnc yma ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd. Cliciwch yma i weld y pwnc yma yn Saesneg.

Achosion

Yn anffodus, nid yw’r pwnc yma ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd. Cliciwch yma i weld y pwnc yma yn Saesneg.

Diagnosis

Yn anffodus, nid yw’r pwnc yma ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd. Cliciwch yma i weld y pwnc yma yn Saesneg.

Triniaeth

Yn anffodus, nid yw’r pwnc yma ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd. Cliciwch yma i weld y pwnc yma yn Saesneg.

Cymhlethdodau

Yn anffodus, nid yw’r pwnc yma ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd. Cliciwch yma i weld y pwnc yma yn Saesneg.

Atal

Mae clefyd rhesws yn gallu cael ei atal, i raddau helaeth, trwy gael pigiad o feddyginiaeth o'r enw imiwnoglobwlin gwrth-D.

Mae hyn yn gallu helpu osgoi proses o'r enw sensiteiddio, sef pan fydd menyw â gwaed RhD negatif yn cael ei hamlygu i waed RhD positif ac yn datblygu ymateb imiwnedd iddo.

Caiff gwaed ei alw'n RhD positif pan mae ganddo folecwl o'r enw antigen RhD ar wyneb celloedd coch y gwaed.

Imiwnoglobwlin gwrth-D

Mae imiwnoglobwlin gwrth-D yn niwtraleiddio unrhyw antigenau RhD positif a allai fod wedi mynd i mewn i waed y fam yn ystod beichiogrwydd. Os yw'r antigenau wedi cael eu niwtraleiddio, ni fydd gwaed y fam yn cynhyrchu gwrthgyrff.

Byddwch chi'n cael cynnig imiwnoglobwlin gwrth-D os credir bod risg fod antigenau RhD gan eich baban wedi mynd i mewn i'ch gwaed - er enghraifft, os byddwch chi'n cael unrhyw waedu, os byddwch chi'n cael triniaeth fewnwthiol (fel amniosentesis) neu os byddwch chi'n cael unrhyw anaf i'r abdomen.

Mae imiwnoglobwlin gwrth-D hefyd yn cael ei roi fel mater o drefn yn ystod trydydd tri mis eich beichiogrwydd os yw eich math gwaed yn RhD negatif. Mae hyn oherwydd ei bod yn debygol y bydd ychydig bach o waed o'ch baban yn pasio i mewn i'ch gwaed yn ystod y cyfnod hwn.

Mae'r arfer i roi imiwnoglobwlin gwrth-D yn cael ei alw'n broffylacsis gwrth-D cynenedigol arferol, neu RAADP (mae proffylacsis yn golygu cam sy'n cael ei gymryd i atal rhywbeth rhag digwydd).

Proffylacsis gwrth-D cynenedigol arferol (RAADP)

Ar hyn o bryd, mae 2 ffordd y gallwch chi dderbyn RAADP, sef:

  • triniaeth un dos: pan fyddwch chi'n derbyn pigiad o imiwnoglobwlin ar ryw adeg yn ystod wythnosau 28 i 30 eich beichiogrwydd
  • triniaeth dau ddos: pan fyddwch chi'n derbyn dau bigiad; un yn ystod wythnos 28 a'r un arall yn ystod wythnos 34 eich beichiogrwydd

Nid yw'n ymddangos bod unrhyw wahaniaeth yn yr effeithiolrwydd rhwng y triniaethau un dos neu ddau ddos. Efallai bydd yn well gan eich grŵp comisiynu clinigol lleol (CCG) ddefnyddio triniaeth un dos, gan fod hyn yn gallu bod yn fwy effeithlon o ran adnoddau ac amser.

Pryd bydd RAADP yn cael ei roi?

Caiff RAADP ei argymell ar gyfer pob menyw feichiog sy'n RhD negatif nad yw wedi cael ei sensiteiddio i antigen RhD, hyd yn oed os ydych chi wedi cael pigiad o imiwnoglobwlin gwrth-D o'r blaen.

Gan nad yw RAADP yn cynnig amddiffyniad gydol oes yn erbyn clefyd rhesws, bydd yn cael ei gynnig bob tro y byddwch yn feichiog os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hyn.

Ni fydd RAADP yn gweithio os ydych chi eisoes wedi cael eich sensiteiddio. Yn yr achosion hyn, byddwch chi'n cael eich monitro'n agos er mwyn gallu dechrau triniaeth cyn gynted ag y bo modd os bydd problemau'n datblygu.

Imiwnoglobwlin gwrth-D ar ôl geni

Ar ôl rhoi genedigaeth, bydd sampl o waed eich baban yn cael ei chymryd o'r llinyn bogail. Os ydych chi'n RhD negatif a'ch baban yn RhD positif, ac nad ydych chi eisoes wedi cael eich sensiteiddio, byddwch yn cael cynnig pigiad o imiwnoglobwlin gwrth-D o fewn 72 awr i roi genedigaeth.

Bydd y pigiad yn dinistrio unrhyw gelloedd gwaed RhD positif a allai fod wedi croesi drosodd i mewn i'ch llif gwaed yn ystod y broses esgor. Mae hyn yn golygu na fydd eich gwaed yn cael cyfle i gynhyrchu gwrthgyrff a bydd yn lleihau'r risg yn sylweddol i'ch baban nesaf gael clefyd rhesws.

Cymhlethdodau o imiwnoglobwlin gwrth-D

Mae'n hysbys fod rhai menywod yn datblygu ychydig o adwaith alergaidd tymor byr i imiwnoglobwlin gwrth-D, sy'n gallu cynnwys brech neu symptomau tebyg i ffliw.

Er y bydd yr imiwnoglobwlin gwrth-D, sydd wedi'i greu o blasma rhoddwr, yn cael ei sgrinio'n ofalus, mae risg fach iawn y gallai haint gael ei drosglwyddo trwy'r pigiad.

Fodd bynnag, mae'r dystiolaeth i gefnogi RAADP yn dangos bod buddion atal sensiteiddio yn gorbwyso'r risgiau bach hyn o bell ffordd. 



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 22/02/2024 11:39:34