Arthritis septig

Trosolwg

Mae arthritis septig yn fath difrifol o haint yn y cymalau. Dylai gael ei drin cyn gynted â phosibl. Gallwch wella'n llwyr gyda thriniaeth ond os na chaiff ei drin gall fod yn fwy difrifol.

Gofynnwch am apwyntiad meddyg teulu brys neu ffoniwch 111

  • os oes gennych boen difrifol yn y cymalau, fel arfer mewn dim ond 1 cymal, a ddechreuodd yn sydyn
  • os oes gennych chwydd o gwmpas cymal
  • os yw'r croen o gwmpas cymal wedi newid lliw
  • os ydych chi’n teimlo'n sâl yn gyffredinol ac mae gennych dymheredd uchel neu os ydych chi'n teimlo'n boeth ac yn crynu

Fel arfer, mae symptomau arthritis septig yn datblygu'n gyflym dros ychydig ddyddiau ac mae angen eu gwirio.

Triniaeth ar gyfer arthritis septig

Os bydd meddygon yn meddwl bod gennych symptomau arthritis septig:

  • fel arferm byddwch yn cael eich trin yn yr ysbyty gyda gwrthfiotigau'n cael eu rhoi yn syth i wythïen
  • gall hylif gael ei ddraenio o'r cymal sydd wedi ei effeithio
  • fwy na thebyg, bydd rhaid i chi gymryd tabledi gwrthfiotig am rai wythnosau ar ôl i chi adael ysbyty

Arhosiad cyfartalog mewn ysbyty ar gyfer arthritis septig yw tua 2 wythnos. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn dechrau teimlo'n well yn gyflym wedi iddynt gael gwrthfiotigau.

Pwysig

Pan fyddwch chi'n gadael yr ysbyty, mae'n bosibl y byddwch chi'n cael tabledi gwrthfiotig i'w cymryd am rai wythnosau. Mae'n bwysig parhau i gymryd y tabledi am y cyfnod y dywedir wrthych am eu cymryd, hyd yn oed os ydych chi'n teimlo'n well. Gallai atal triniaeth yn rhy gynnar arwain at yr haint yn dod yn ôl.

Triniaeth ddilynol

Efallai y cewch eich cyfeirio at ffisiotherapydd i'ch helpu i gael y cymal i symud eto. Dylai hyn helpu i atal unrhyw anystwythder tymor hir yn y cymal.

Os oedd yr haint mewn cymal artiffisial, fel mewn pen-glin neu glun newydd, efallai y bydd angen tynnu'r cymal. Efallai y bydd modd creu cymal artiffisial newydd yn ei le ar ôl i'r haint gael ei drin.

Achosion arthritis septig

Gallwch gael arthritis septig os bydd germau'n mynd i mewn i gymal. Gall hyn ddigwydd:

  • os cewch anaf neu ddamwain i gymal, fel brathiad gan gi neu doriad gwael
  • os bydd germau o rywle arall yn y corff yn lledu i'r gwaed ac yna i gymal
  • fel cymhlethdod llawdriniaeth ar gymal

Pwy sydd mewn perygl o gael arthritis septig

Gall unrhyw un gael arthritis septig ond mae rhai pobl mewn mwy o berygl. Mae hyn yn cynnwys pobl:

  • gydag arthritis gwynegol
  • gyda system imiwnedd wan
  • sydd wedi cael llawdriniaeth ar gymal yn ddiweddar
  • sydd â chymal artiffisial, fel  pen-glin neu glun newydd
  • sy'n chwistrellu cyffuriau fel heroin
  • sydd â gonorrhoea, sef haint a drosglwyddir yn rhywiol

 



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 20/12/2022 13:13:22