Syffilis

Cyflwyniad

Mae syffilis yn haint bacterol sydd fel arfer yn cael ei ddal trwy gael rhyw gyda rhywun sydd wedi'i heintio.

Mae'n bwysig cael prawf a thriniaeth cyn gynted ag y bo modd os ydych chi'n meddwl efallai bod gennych chi syffilis, gan ei fod yn gallu achosi problemau difrifol os caiff ei adael heb ei drin.

Mae modd gwella o syffilis ac mae'n hawdd ei drin â'r gwrthfiotig penisilin.

Gallwch ddal syffilis fwy nag unwaith, hyd yn oed os ydych chi wedi cael triniaeth ar ei gyfer o'r blaen.

Symptomau syffilis

Dydy symptomau syffilis ddim bob amser yn amlwg ac efallai byddant yn diflannu yn y pen draw, ond byddwch yn parhau i fod wedi'ch heintio oni bai y cewch eich trin.

Does dim symptomau gan rai pobl sydd â syffilis.

Gall symptomau gynnwys:

  • briwiau neu wlserau bach, nad ydynt yn boenus, sy'n ymddangos yn nodweddiadol ar y pidyn, y fagina, neu o gwmpas yr anws, ond gallant fod mewn lleoedd eraill fel y geg
  • brech goch flotiog sy'n aml yn effeithio ar gledrau'r dwylo neu wadnau'r traed
  • tyfiannau bach ar y croen (yn debyg i ddafadennau organau cenhedlu) a allai ddatblygu ar y fwlfa mewn menywod neu o gwmpas y pen-ôl (anws) mewn dynion a menywod
  • darnau gwyn yn y geg
  • blinder, pen tost / cur pen, poenau yn y cymalau, tymheredd uchel (twymyn) a chwarennau wedi chwyddo yn eich gwddf, gafl neu geseiliau

Os na chaiff syffilis ei drin, mae perygl y bydd yn difrodi'r system nerfol (yr ymennydd, llinyn y cefn a'r nerfau), yn ogystal â'r galon. Gall y cymhlethdodau hyn gymryd blynyddoedd lawer i ddatblygu, ac anaml iawn y maent yn digwydd yn y wlad hon gan fod y driniaeth yn gweithio mor dda.

Beth i'w wneud os ydych chi'n meddwl bod gennych chi syffilis

Dylech chi gael eich profi cyn gynted ag y bo modd os ydych chi'n poeni y gallai fod gennych chi syffilis.

Mae hyn oherwydd:

  • ni fydd syffilis fel arfer yn gwella ar ei ben ei hun
  • cael prawf yw'r unig ffordd o ddarganfod a oes gennych chi syffilis
  • mae'r meddyginiaethau sy'n cael eu defnyddio i drin syffilis ar gael ar bresgripsiwn yn unig - allwch chi ddim eu prynu nhw eich hun
  • gall triniaeth helpu lleihau'r risg o ledaenu'r haint i bobl eraill, a lleihau'r risg y bydd problemau difrifol yn datblygu nes ymlaen

Y lle gorau i gael eich profi yw clinig iechyd rhywiol.

Mae'r prawf ar gyfer syffilis fel arfer yn cynnwys prawf gwaed a thynnu sampl o hylif o unrhyw friwiau gan ddefnyddio swab (yn debyg i ffon gotwm).

Triniaeth ar gyfer syffilis

Fel arfer, caiff syffilis ei drin â naill ai:

  • pigiad gwrthfiotigau yn eich ffolennau (bochau'r pen-ôl) - bydd angen 1 dos yn unig ar y rhan fwyaf o bobl, er y gellir argymell rhoi 3 phigiad bob wythnos os ydych chi wedi cael syffilis am amser hir
  • cwrs o dabledi gwrthfiotig os na allwch chi gael pigiad - bydd hyn fel arfer yn para am 2 neu 4 wythnos, yn dibynnu ar ba mor hir rydych chi wedi cael syffilis 

Dylech chi osgoi unrhyw fath o weithgarwch rhywiol neu gyswllt rhywiol agos gyda rhywun arall tan o leiaf bythefnos ar ôl gorffen eich triniaeth.

Sut caiff syffilis ei ledaenu

Caiff syffilis ei drosglwyddo:

  • trwy gael rhyw gweiniol, rhefrol neu eneuol heb ddiogelwch gyda rhywun sydd â syffilis
  • trwy gyffwrdd ag wlserau neu frechau diferol rhywun sydd â syffilis
  • trwy drallwysiadau gwaed, er bod yr achosion hyn yn brin iawn yn y Deyrnas Unedig am fod rhoddion gwaed yn cael eu profi am syffilis
  • o fam wedi'i heintio i'w baban sydd heb ei eni

Does dim modd dal syffilis trwy gofleidio, rhannu bath neu dywelion, o byllau nofio, seddi toiled neu rannu cwpanau, platiau neu gyllyll a ffyrc.

Oes modd dal syffilis eto?

Ydy. Dydy cael syffilis unwaith ddim yn eich amddiffyn yn y dyfodol. I atal hyn, gwnewch yn siŵr fod eich partner wedi cael ei drin / thrin cyn cael rhyw ag ef / â hi eto. Dylech chi ddiogelu eich hun gyda phartneriaid newydd trwy ddefnyddio condom bob tro ar gyfer rhyw rhefrol, geneuol a gweiniol. Sicrhewch eich bod chi a phartner newydd yn cael eich sgrinio ar gyfer eich iechyd rhywiol cyn cael rhyw heb ddiogelwch (rhyw heb gondom).

Atal syffilis 

Does dim modd atal syffilis bob amser, ond os ydych chi'n weithredol rywiol, gallwch chi leihau eich risg trwy gael rhyw mwy diogel:

  • defnyddiwch condom dynion neu gondom menywod yn ystod rhyw gweiniol, geneuol a rhefrol
  • defnyddiwch len ddeintyddol (sgwâr o blastig) yn ystod rhyw geneuol
  • dylech osgoi rhannu teganau rhyw - os ydych yn eu rhannu, golchwch nhw a'u gorchuddio â chondom bob tro cyn eu defnyddio 

Gall y camau hyn leihau eich risg o ddal heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol (STI) hefyd.

Os byddwch yn chwistrellu'ch hun â chyffuriau, peidiwch â defnyddio nodwyddau pobl eraill na rhannu eich nodwyddau â phobl eraill.

Syffilis mewn beichiogrwydd

Os bydd menyw yn cael ei heintio tra bydd hi'n feichiog, neu'n beichiogi pan mae ganddi syffilis eisoes, gall fod yn beryglus iawn i'w baban os na chaiff ei thrin.

Mae haint mewn beichiogrwydd yn gallu achosi camesgoriad, genedigaeth farw neu haint difrifol yn y baban (syffilis cynhenid).

Cynigir prawf sgrinio am syffilis yn ystod beichiogrwydd i bob menyw feichiog er mwyn gallu darganfod yr haint a'i drin cyn iddo achosi unrhyw broblemau difrifol.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 03/04/2024 14:24:56