Cyflwyniad
Dysgwch beth i'w wneud os oes gennych lwmp ar eich amrant, neu amrant sydd wedi chwyddo, yn ludiog, yn goslyd, yn gostwng neu'n plycio.
Mae'r rhan fwyaf o broblemau'r amrantau yn ddiniwed
Nid yw llawer o broblemau'r amrantau yn ddifrifol.
Mae cael unrhyw rai o'r problemau canlynol yn eithaf cyffredin:
- lwmp sy'n diflannu ar ei ben ei hun ymhen rhyw 3 i 4 wythnos
- amrantau sy'n cosi neu'n caenu ychydig, neu sydd ychydig yn ludiog, ond sy'n gwella ar eu pen eu hunain
- chwyddo yn sgil cnoad gerllaw gan bryfyn, anaf neu lawdriniaeth, sy'n diflannu ymhen wythnos neu ddwy
- plycio neu ysmicio o bryd i'w gilydd - pan fyddwch wedi blino, yn aml
- amrantau sy'n gostwng (neu sydd dan fwy o gwfl) wrth i chi heneiddio
Mathau o broblemau'r amrantau
Gallai eich symptomau roi syniad i chi o'r achos. Peidiwch â gwneud diagnosis eich hun - ewch i weld optometrydd/optegydd neu feddyg teulu os ydych chi'n pryderu.
Lwmp ar amrant
Symptom - Lwmp poenus, llawn crawn, fel ploryn
Achos posibl - llefrithen/llefelyn
Symptom - Lwmp caled, di-boen
Achos posibl - chalazion (coden meibomian)
Symptom - Lympiau neu batsys melyn
Achos posibl - xanthelasma, sy'n cael ei achosi weithiau gan golesterol uchel
Symptom - Pothelli neu grachod gyda brech ar y corff
Achos posibl - yr eryr neu brech yr ieir
Symptom - Man geni, brychni neu bats sy'n newid siâp, lliw neu faint
Achos posibl - canser y croen
Amrant chwyddedig
Symptom - Chwyddo ar ôl dod i gysylltiad â rhywbeth y mae gennych alergedd iddo
Achos posibl - adwaith alergaidd
Symptom - Coch, poeth, poenus, chwyddedig
Achos posibl - llid yr isgroen (cellulitis)
Amrant coslyd, caenog neu ludiog
Symptom - Coslyd, cramennog neu gaenog ar ôl dod i gysylltiad â rhywbeth y mae gennych alergedd iddo
Achos posibl - dermatitis cyswllt
Symptom - Llygaid gludiog a choch, coslyd, dyfrllyd
Achos posibl - llid yr amrantau
Symptom - Amrantau sy'n glynu ynghyd, amrantau cramennog, llygaid sych, coch neu lidiog
Achos posibl - bleffaritis neu syndrom llygaid sych
Amrant sy'n gostwng neu o dan gwfl
Symptom - Mae'r amrant isaf yn gostwng ac yn troi allan
Achos posibl - ectropion
Symptom - Mae'r amrant isaf yn gostwng ac yn troi i mewn
Achos posibl - entropion
Symptom - Mae'r croen uwchlaw'r amrant uchaf yn gostwng dros y llygad
Achos posibl - dermatochalasis
Symptom - Mae ymyl yr amran uchaf yn gostwng dros y llygad
Achos posibl - ptosis
Symptom - Gostwng sydyn a cholli'r golwg, a chur pen/pen tost
Achos posibl - yn anaml, cyflwr difrifol fel myasthenia gravis neu tiwmorau'r ymennydd
Amrant sy'n plycio neu'n ysmicio'n fynych
Symptom - Ysmicio neu blycio'n fynych, weithiau gyda'r llygad yn cau'n afreolus
Achos posibl - math o ddystonia (anhwylder symudiadau) o'r enw blepharospasm
Gallwch holi fferyllydd am y canlynol:
- beth allwch ei wneud i drin y broblem eich hun
- a allwch chi brynu rhywbeth i helpu, er enghraifft hylif glanhau amrantau gludiog
- a oes angen i chi weld optegydd neu feddyg teulu
Ewch i weld optometrydd/optegydd neu feddyg teulu:
- os ydych chi'n poeni am broblem gyda'r amrant
- os yw'n gwaethygu neu'n para am amser hir
- os yw eich amrant yn boenus neu os oes gennych dipyn o anghysur
- os oes gennych lympiau neu batsys melyn o gwmpas eich llygaid
Dod o hyd i optometrydd/optegydd
Gofynnwch am apwyntiad brys gyda meddyg teulu neu optometrydd/optegydd neu ffoniwch 111:
- os yw eich amrant chwyddedig yn goch, yn boeth, yn boenus, yn dyner neu os yw wedi pothellu
- os bydd eich amrant yn gostwng yn sydyn
- os yw'r poen yn eich llygad (nid eich amrant)
- os bydd gwyn eich llygad yn goch iawn, yn rhannol neu'n gyfan gwbl
- os ydych chi'n sensitif i olau (ffotoffobia)
- os bydd eich golwg yn newid, er enghraifft rydych chi'n gweld llinellau tonnog neu fflachio
- os oes gennych dymheredd uchel iawn, neu rydych chi'n teimlo'n boeth ac yn rhynllyd, neu os rydych chi'n teimlo'n anhwylus yn gyffredinol
- os ydych chi'n meddwl mai adwaith alergaidd ydyw
Bydd GIG 111 Cymru yn dweud wrthych beth i'w wneud. Gallant drefnu galwad ffôn gan nyrs neu feddyg os bydd angen hynny arnoch.