Ysgwydd wedi rhewi

Cyflwyniad

Frozen shoulder
Frozen shoulder

Mae fferdod ysgwydd yn golygu bod eich ysgwydd yn boenus ac yn anystwyth am fisoedd, neu flynyddoedd weithiau. Gellir ei drin gydag ymarferion i’ch ysgwydd a phoenladdwyr.

Ewch i weld Meddyg Teulu:

  • os ydych chi'n cael poen yn eich ysgwydd ac anystwythder sydd ddim yn diflannu - gall poen fod yn waeth yn ystod y nos wrth gysgu.
  • os yw'r boen mor ddrwg ei fod yn ei gwneud hi'n anodd symud eich braich a'ch ysgwydd

Dyma symptomau fferdod ysgwydd.

Triniaeth ar gyfer fferdod ysgwydd

Yn fras, mae triniaeth yn gweithio mewn 3 phrif gam:

1. Lleddfu poen – dylech osgoi symudiadau sy'n achosi poen. Dylech ond symud eich ysgwydd yn ysgafn. Defnyddiwch paracetamol neu ibuprofen i leddfu’r boen.

2. Meddyginiaeth lleddfu poen a chwyddo cryfach – poenladdwyr rhagnodedig.  Efallai pigiad steroid yn eich ysgwydd i leihau'r chwyddo.

3. Cael symudiad yn ôl - gwneud ymarferion ar eich ysgwydd wedi iddo fod yn llai poenus. Gall hyn fod gartref neu gyda ffisiotherapydd.

Efallai y cewch gymysgedd o'r triniaethau hyn gan ddibynnu ar ba mor boenus ac anystwyth yw eich ysgwydd.

Fel arfer, dim ond am gyfnod byr y defnyddir meddyginiaeth lleddfu poen cryfach oherwydd gall achosi sgil-effeithiau.

Ffisiotherapi ar gyfer fferdod ysgwydd

Gall ffisiotherapi eich helpu i gael symudiad yn ôl yn eich ysgwydd.

Bydd ffisiotherapydd yn penderfynu sawl sesiwn y bydd eu hangen arnoch chi. Mae'r union rif yn dibynnu ar sut mae eich ysgwydd yn ymateb i driniaeth.

Bydd y ffisiotherapydd yn gwirio yn gyntaf faint o symudiad sydd gennych yn eich ysgwyddau.

Mae'r triniaethau gan ffisiotherapydd yn cynnwys:

  • ymarferion ymestyn
  • ymarferion cryfder
  • cyngor ar osgo da
  • cyngor ar leddfu poen

Os byddwch chi’n parhau i fod mewn poen ar ôl i chi orffen eich sesiynau, ewch yn ôl at eich meddyg teulu neu ffisiotherapydd. Efallai y bydd yn rhagnodi mwy o ffisiotherapi neu’n rhoi cynnig ar driniaeth arall.

Mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn cynnig gwasanaeth hunangyfeirio, sy'n golygu y gallwch chi wneud apwyntiad i weld ffisiotherapydd y GIG heb orfod gweld meddyg yn gyntaf. 

Darganfyddwch sut i hunangyfeirio yn eich ardal.

Darllenwch fwy am gyrchu ffisiotherapi.

Gallwch hefyd gael ffisiotherapi yn breifat.

Dewch o hyd i ffisiotherapydd cofrestredig ar wefan y Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi

Pa mor hir mae fferdod ysgwydd yn para

Fel arfer mae fferdod ysgwydd yn cymryd o leiaf 1.5 i 3 blynedd i wella. Weithiau, gall bara’n hirach.

Fodd bynnag, bydd y boen a'r anystwythder fel arfer yn diflannu yn y pen draw.

Sut gallwch chi leddfu'r boen o fferdod ysgwydd eich hun

Gwnewch y canlynol:

  • dilyn yr ymarferion gan eich meddyg teulu neu'ch ffisiotherapydd
  • symud eich ysgwydd - bydd ei gadw'n llonydd yn gwneud y boen yn waeth
  • rhoi cynnig ar becynnau gwres ar eich ysgwydd

Peidiwch â:

  • llunio eich ymarferion anodd eich hun - er enghraifft, gall offer campfa wneud y boen yn waeth

Rhoi pecynnau gwres ar eich ysgwydd

Ceisiwch roi potel ddŵr poeth wedi ei lapio mewn lliain sychu llestri ar eich ysgwydd am hyd at 20 munud.

Gallwch hefyd brynu pecynnau gwres o fferyllfa.

Achosion fferdod ysgwydd

Yn aml, nid yw'n glir pam mae pobl yn cael fferdod ysgwydd.

Mae fferdod ysgwydd yn digwydd pan fydd y meinwe o amgylch cymal eich ysgwydd yn mynd yn llidus.

Mae'r meinwe'n mynd yn dynnach wedyn ac yn crebachu, sy'n achosi poen.

Gall fferdod ysgwydd ddigwydd oherwydd:

  • cawsoch chi anaf neu lawdriniaeth sy'n eich atal rhag symud eich braich yn arferol
  • mae gennych ddiabetes - mae'n parhau’n aneglur pam mae hyn yn digwydd ond mae'n bwysig cael archwiliadau diabetes rheolaidd i ganfod unrhyw broblemau'n gynnar


Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 13/11/2024 16:15:49