Syndrom Gilbert

Cyflwyniad

Mae syndrom Gilbert yn golygu bod lefelau ychydig yn uwch na'r arfer o sylwedd o'r enw bilirwbin yn cronni yn y gwaed.

Sylwedd melyn yw bilirwbin a geir yn naturiol mewn gwaed. Sgil-gynnyrch ydyw sy'n ffurfio pan fydd hen gelloedd gwaed coch yn cael eu dadelfennu.

Symptomau syndrom Gilbert

Mae'r rhan fwyaf o bobl sydd â syndrom Gilbert yn profi pyliau achlysurol a byr o'r clefyd melyn (pan fydd y croen a gwyn y llygaid yn troi'n felyn) oherwydd croniad bilirwbin yn y gwaed.

Gan fod syndrom Gilbert fel arfer yn achosi cynnydd bach yn unig mewn lefelau bilirwbin, mae'r lliw melyn yn aml yn ysgafn. Effeithir ar y llygaid fwyaf fel rheol.

Mae rhai pobl hefyd yn adrodd am broblemau eraill yn ystod pyliau o'r clefyd melyn, gan gynnwys:

  • poen abdomenol (yn y bol)
  • teimlo'n flinedig iawn (lludded)
  • dim chwant bwyd
  • teimlo'n gyfoglyd
  • pendro
  • syndrom coluddyn llidus (IBS) - anhwylder cyffredin y system dreulio sy'n achosi crampiau stumog, chwyddo, dolur rhydd a rhwymedd
  • problemau canolbwyntio a meddwl yn glir (niwl ymennydd)
  • teimlo'n anhwylus yn gyffredinol

Fodd bynnag, ni chredir bod y problemau hyn yn uniongyrchol gysylltiedig â lefelau uwch o filirwbin o reidrwydd, a gallent fod yn arwydd o gyflwr heblaw am syndrom Gilbert.

Nid yw tua 1 o bob 3 o bobl sydd â syndrom Gilbert yn cael unrhyw symptomau o gwbl.

Efallai na fyddwch yn sylweddoli bod gennych chi'r syndrom nes bod profion am broblem nad yw'n gysylltiedig yn cael eu gwneud.

Pryd i weld eich Meddyg Teulu

Ewch at eich Meddyg Teulu os ydych yn cael pwl o'r clefyd melyn am y tro cyntaf.

Mae'r lliw melyn sy'n gysylltiedig â syndrom Gilbert yn ysgafn fel arfer, ond gall y clefyd melyn fod yn gysylltiedig â phroblemau mwy difrifol â'r afu/iau, fel sirosis neu hepatits C.

Felly, mae'n bwysig ceisio cyngor meddygol ar unwaith gan eich Meddyg Teulu os yw'r clefyd melyn arnoch. Os na allwch gysylltu â'ch Meddyg Teulu, ffoniwch 111 .

Os ydych wedi cael diagnosis o syndrom Gilbert, ni fydd angen i chi geisio cyngor meddygol yn ystod pwl o'r clefyd melyn fel arfer, oni bai bod gennych symptomau ychwanegol neu anarferol.

Beth sy'n achosi syndrom Gilbert

Anhwylder genetig etifeddol yw syndrom Gilbert (mae'n rhedeg mewn teuluoedd). Mae gan bobl sydd â'r syndrom enyn diffygiol sy'n golygu bod yr afu/iau yn cael trafferth cael gwared ar filirwbin o'r gwaed.

Fel arfer, pan fydd celloedd gwaed coch yn cyrraedd diwedd eu hoes (ar ôl tua 120 o ddiwrnodau), mae haemoglobin - y lliw coch sy'n cludo ocsigen yn y gwaed - yn dadelfennu'n filirwbin.

Mae'r afu/iau yn troi bilirwbin yn ffurf sy'n hydawdd mewn dwr, sy'n mynd i mewn i fustl (bile) ac yn cael ei wacáu o'r corff yn y pen draw mewn wrin neu garthion.

Mae bilirwbin yn rhoi ei liw melyn golau i wrin a'u lliw brown tywyll i garthion.

Yn syndrom Gilbert, mae'r genyn diffygiol yn golygu nad yw bilirwbin yn cael ei drosglwyddo i mewn i fustl (hylif sy'n cael ei gynhyrchu gan yr afu/iau i helpu gyda threulio) ar y gyfradd arferol.

Yn lle hynny, mae'n cronni yn llif y gwaed, gan roi arlliw melynaidd i'r croen a gwyn y llygaid.

Heblaw am etifeddu'r genyn diffygiol, nid oes unrhyw ffactorau risg hysbys ar gyfer datblygu syndrom Gilbert.

Nid yw'n gysylltiedig ag arferion byw, ffactorau amgylcheddol na phroblemau sylfaenol difrifol â'r afu/iau, fel sirosis neu hepatitis C.

Beth sy'n sbarduno'r symptomau?

Yn aml, mae pobl â syndrom Gilbert yn gweld bod rhai pethau'n gallu sbarduno pwl o'r clefyd melyn.

Dyma rai o'r sbardunau posibl sy'n gysylltiedig â'r cyflwr:

  • dadhydradu
  • mynd heb fwyd am gyfnodau hir (ymprydio)
  • bod yn sâl gyda haint
  • bod dan bwysau
  • ymdrech gorfforol
  • diffyg cwsg
  • cael llawdriniaeth
  • o ran menywod, cael eu mislif

Lle y bo'n bosibl, gall osgoi sbardunau hysbys leihau eich tebygolrwydd o gael pyliau o'r clefyd melyn.

Pwy yr effeithir arnynt

Mae syndrom Gilbert yn gyffredin, ond mae'n anodd gwybod faint o bobl yn union y mae'n effeithio arnynt gan nad yw'n achosi symptomau amlwg bob amser.

Yn y Deyrnas Unedig, credir bod syndrom Gilbert yn effeithio ar o leiaf 1 o bob 20 o bobl (mwy na hynny, yn ôl pob tebyg).

Mae syndrom Gilbert yn effeithio ar fwy o ddynion na menywod. Gwneir diagnosis ohono fel arfer yn ystod arddegau hwyr neu ugeiniau cynnar unigolyn.

Gwneud diagnosis o syndrom Gilbert

Gellir gwneud diagnosis o syndrom Gilbert trwy ddefnyddio prawf gwaed i fesur lefel y bilirwbin yn eich gwaed a phrawf gweithrediad yr afu/iau.

Pan fydd yr afu/iau wedi'i niweidio, mae'n rhyddhau ensymau i'r gwaed. Ar yr un pryd, mae lefel y proteinau a gynhyrchir gan yr afu/iau i gadw'r corff yn iach yn dechrau gostwng.

Trwy fesur lefelau'r ensymau a'r proteinau hyn, mae'n bosibl ffurfio darlun gymharol gywir o ba mor dda mae'r afu/iau yn gweithredu.

Os yw canlyniadau'r prawf yn dangos bod gennych lefelau uchel o filirwbin yn eich gwaed, ond mae'ch afu/iau yn gweithio fel y dylai fel arall, gellir gwneud diagnosis hyderus o syndrom Gilbert fel arfer.

Mewn rhai achosion, efallai bydd angen gwneud prawf genetig i gadarnhau diagnosis o syndrom Gilbert.

Byw gyda syndrom Gilbert

Anhwylder gydol oes yw syndrom Gilbert. Fodd bynnag, nid oes angen ei drin gan nad yw'n bygwth iechyd ac nid yw'n achosi cymhlethdodau na pherygl uwch o glefyd yr afu/iau.

Mae pyliau o'r clefyd melyn ac unrhyw symptomau cysylltiedig yn fyrhoedlog fel arfer ac yn mynd heibio yn y pen draw.

Ni fydd newid eich deiet neu faint o ymarfer corff rydych chi'n ei wneud yn effeithio ar b'un a yw'r cyflwr arnoch chi.

Ond mae'n bwysig o hyd eich bod yn bwyta deiet iach, cytbwys ac yn gwneud gweithgarwch corfforol.

Fe allai fod yn ddefnyddiol i chi osgoi'r pethau rydych yn gwybod eu bod yn sbarduno pyliau o'r clefyd melyn, fel dadhydradu a straen.

Os oes gennych chi syndrom Gilbert, gallai'r broblem â'ch afu/iau hefyd olygu eich bod mewn perygl o ddatblygu'r clefyd melyn neu sgil-effeithiau eraill ar ôl cymryd rhai meddyginiaethau, fel meddyginiaethau ar gyfer colesterol uchel.

Dylech siarad â Meddyg Teulu cyn cymryd unrhyw feddyginiaeth newydd a gwnewch yn siwr eich bod yn dweud wrth unrhyw feddygon sy'n eich trin am y tro cyntaf fod gennych chi syndrom Gilbert.

 



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 25/11/2022 11:23:45