Cyflwyniad
Dewiswch pa ran o'ch llaw sy'n brifo fwyaf i ddarllen am driniaethau, pryd i gael help meddygol ac achosion posibl
Poen yn yr arddwrn
Mae llawer o resymau dros boen yn yr arddwrn. Yn aml, gallwch leddfu'r poen eich hun, ond ewch i weld meddyg teulu os na fydd y poen yn gwella.
Sut gallwch chi leddfu poen yn yr arddwrn eich hun
Os ewch chi i weld meddyg teulu am boen yn eich arddwrn, fel arfer, bydd yn awgrymu eich bod yn rhoi cynnig ar y canlynol:
- gorffwys eich arddwrn pan fo modd
- rhoi pecyn iâ (neu becyn o bys wedi'u rhewi) wedi'i lapio mewn tywel ar eich arddwrn boenus am hyd at 20 munud bob 2 i 3 awr
- cadw eich dwylo a'ch arddyrnau i symud gydag ymarferion ysgafn i leddfu poen ac anystwythder
- cymryd parasetamol i leddfu'r poen
- tynnu unrhyw emwaith os oes golwg chwyddedig ar eich llaw
- atal neu wneud llai o weithgareddau sy'n achosi'r poen - er enghraifft teipio, defnyddio offer sy'n dirgrynnu ar gyfer eich gwaith, neu ganu offeryn
- gwisgo sblint i gynnal eich arddwrn a lliniaru'r poen, yn enwedig gyda'r nos - gallwch gael y rhain o'r rhan fwyaf o fferyllfeydd ac archfarchnadoedd
- meddwl am ddefnyddio dyfeisiau neu offer i hwyluso tasgau anodd neu boenus - er enghraifft i agor jariau neu dorri llysiau
- meddwl am gael pad meddal i gynnal eich arddwrn wrth deipio
Peidiwch:
- cymryd ibuprofen am y 48 awr cyntaf ar ôl anaf
- defnyddio pecynnau gwres neu gael bath poeth am y 2 i 3 diwrnod cyntaf ar ôl anaf
- codi pethau trwm na chydio mewn unrhyw beth yn rhy dynn
Gall fferyllydd helpu gyda phoen yn yr arddwrn
Gallwch ofyn i fferyllydd am:
- y poenleddfwr gorau i'w gymryd
- y sblint gorau i gynnal eich arddwrn a lleddfu poen - mae sblintiau rwber hyblyg ar gael os oes angen i chi ddefnyddio'ch arddwrn o hyd
- a oes angen i chi weld meddyg teulu
Dod o hyd i fferyllfa
Ewch i weld meddyg teulu:
- os yw'r poen yn eich arddwrn yn eich atal rhag gwneud gweithgareddau arferol
- os yw'r poen yn gwaethygu neu'n parhau i ddod yn ôl
- os nad yw'r poen wedi gwella ar ôl i chi ei drin gartref am bythefnos
- os ydych chi'n teimlo goglais yn eich llaw neu'ch arddwrn, neu wedi colli teimlad yn eich llaw neu'ch arddwrn
- os oes diabetes arnoch - gall problemau'r dwylo fod yn fwy difrifol os oes diabetes arnoch
- os oes gennych boen yn eich arddwrn ac rydych yn teimlo'n anhwylus hefyd, gyda thymheredd uchel
- mae eich arddwrn yn boenus, yn gynnes, wedi chwyddo ac yn anystwyth
Ewch i Adran Damweiniau ac Achosion Brys:
- os oes gennych boen difrifol yn yr arddwrn
- os ydych chi'n teimlo llesmair, penysgafnder neu'n teimlo'n sâl oherwydd y poen
- os clywoch chi sŵn torri, crensian neu bopian adeg yr anaf
- os nad ydych chi'n gallu symud eich arddwrn neu ddal pethau
- os yw siâp neu liw eich arddwrn wedi newid
- os ydych wedi colli teimlad yn eich llaw neu yn rhan o'ch llaw
Gall y rhain fod yn arwydd bod yr arddwrn wedi'i thorri.
Dod o hyd i'ch Adran Damweiniau ac Achosion Brys agosaf.
Beth rydym ni'n ei olygu wrth boen difrifol:
Poen difrifol
- mae'n bresennol drwy'r amser a chynddrwg fel bod meddwl neu siarad yn anodd
- ni allwch gysgu
- mae'n anodd iawn symud, codi o'r gwely, mynd i'r tŷ bach, ymolchi neu wisgo
Poen cymedrol
- mae'n bresennol drwy'r amser
- mae'n ei gwneud hi'n anodd canolbwyntio neu gysgu
- gallwch lwyddo i godi, ymolchi neu wisgo
Poen ysgafn
- mae'n mynd a dod
- mae'n annifyr ond nid yw'n eich atal rhag gwneud gweithgareddau bob dydd
Achosion cyffredin poen yn eich arddwrn
Mae poen yn yr arddwrn yn aml yn cael ei achosi gan gleisio neu anaf i'ch arddwrn.
Hefyd, gallai eich symptomau roi syniad i chi o'r hyn sy'n achosi'r poen yn eich arddwrn.
- Poen, chwyddo a chleisio, trafferth symud arddwrn neu afael yn rhywbeth - efallai mai ysigiad i'r arddwrn yw'r achos
- Poen, chwyddo ac anystwythder wrth waelod y bawd (gerllaw'r arddwrn) sy'n para am gyfnod hir, gall fod yn anodd symud y bysedd a'r bys bawd, efallai bod lwmp - efallai mai tendonitis (clefyd de Quervain) neu arthritis yw'r achos
- Poen dolurus sy'n waeth yn y nos, merwino, fferdod neu binnau bach yn y bysedd, y llaw neu'r fraich, bys bawd gwan neu drafferth gafael - efallai mai syndrom twnnel y carpws yw'r achos
- Lwmp llyfn ar dop yr arddwrn, a all fod yn boenus - efallai mai coden ganglion yw'r achos
- Poen miniog sydyn yn yr arddwrn, chwydd, sŵn popian neu sŵn torri adeg yr anaf - efallai eich bod wedi torri asgwrn yn y bys
Peidiwch â phoeni os nad ydych chi'n siwr beth yw'r broblem. Dilynwch y cyngor ar y dudalen hon ac ewch i weld meddyg teulu os nad yw'r poen yn gwella mewn pythefnos.
Poen yn y bys
Mae llawer o resymau dros boen yn y bys. Yn aml, gallwch leddfu'r poen eich hun, ond ewch i weld meddyg teulu os na fydd y poen yn gwella.
Sut gallwch chi leddfu poen yn y bys eich hun
Os ewch chi i weld meddyg teulu am boen yn eich bys, fel arfer, bydd yn awgrymu eich bod yn rhoi cynnig ar y canlynol:
- gorffwys eich arddwrn pan fo modd
- rhoi pecyn iâ (neu becyn o bys wedi'u rhewi) wedi'i lapio mewn tywel ar eich arddwrn boenus am hyd at 20 munud bob 2 i 3 awr
- cymryd parasetamol i leddfu'r poen
- atal neu wneud llai o weithgareddau sy'n achosi'r poen - er enghraifft teipio, defnyddio offer sy'n dirgrynnu ar gyfer eich gwaith, neu ganu offeryn
- tynnu unrhyw emwaith ar y bys dolurus
- rhwymo'r bys dolurus wrth fys arall wrth ei ymyl - rhowch ddarn bach o wlân cotwm neu rwyllen rhwng y ddau fys a defnyddiwch dâp i'w rhwymo'n llac wrth ei gilydd
- meddwl am ddefnyddio dyfeisiau neu offer i hwyluso tasgau anodd neu boenus - er enghraifft i agor jariau neu dorri llysiau
Peidiwch:
- cymryd ibuprofen am y 48 awr cyntaf ar ôl anaf
- defnyddio pecynnau gwres neu gael bath poeth am y 2 i 3 diwrnod cyntaf ar ôl anaf
- codi pethau trwm na chydio mewn unrhyw beth yn rhy dynn
- rhoi'r gorau i ddefnyddio'ch bys yn llwyr – ar ôl ychydig ddyddiau, gwnewch ymarferion ysgafn y dwylo a'r bysedd i helpu lleddfu unrhyw anystwythder
Gall fferyllydd helpu gyda phoen yn y bys
Gallwch ofyn i fferyllydd am:
- y poenleddfwr gorau i'w gymryd
- y sblint gorau i gynnal eich bys a lleddfu poen - mae sblintiau rwber hyblyg ar gael os oes angen i chi ddefnyddio'ch bys o hyd
- a oes angen i chi weld meddyg teulu
Dod o hyd i fferyllfa
Ewch i weld meddyg teulu:
- os yw'r poen yn eich bys yn eich atal rhag gwneud gweithgareddau arferol
- os yw'r poen yn gwaethygu neu'n parhau i ddod yn ôl
- os nad yw'r poen wedi gwella ar ôl i chi ei drin gartref am bythefnos
- os ydych chi'n teimlo goglais yn eich llaw neu rydych yn dechrau teimlo fferdod yn eich llaw
- os oes diabetes arnoch - gall problemau'r dwylo fod yn fwy difrifol os oes diabetes arnoch
Ewch i Adran Damweiniau ac Achosion Brys:
- os oes gennych boen difrifol
- os ydych chi'n teimlo llesmair, penysgafnder neu'n teimlo'n sâl oherwydd y poen
- os clywoch chi sŵn torri, crensian neu bopian adeg yr anaf
- os nad ydych chi'n gallu symud eich bys neu ddal pethau
- os yw siâp neu liw eich bys wedi newid
- os ydych wedi colli teimlad yn eich llaw neu yn rhan o'ch llaw ar ôl anaf
Gall y rhain fod yn arwydd bod y bys wedi'i dorri.
Dod o hyd i Adran Damweiniau ac Achosion Brys.
Beth rydym ni'n ei olygu wrth boen difrifol:
Poen difrifol
- mae'n bresennol drwy'r amser a chynddrwg fel bod meddwl neu siarad yn anodd
- ni allwch gysgu
- mae'n anodd iawn symud, codi o'r gwely, mynd i'r tŷ bach, ymolchi neu wisgo
Poen cymedrol
- mae'n bresennol drwy'r amser
- mae'n ei gwneud hi'n anodd canolbwyntio neu gysgu
- gallwch lwyddo i godi, ymolchi neu wisgo
Poen ysgafn
- mae'n mynd a dod
- mae'n annifyr ond nid yw'n eich atal rhag gwneud gweithgareddau bob dydd
Achosion cyffredin poen yn y bys
Mae poen yn y bys yn aml yn cael ei achosi gan gleisio neu anaf i'ch bys.
Hefyd, gallai eich symptomau roi syniad i chi o'r hyn sy'n achosi'r poen yn eich bys.
- Poen, chwyddo a chleisio, trafferth symud bys neu afael yn rhywbeth - efallai mai ysigiad i'r bys yw'r achos
- Poen, chwyddo ac anystwythder wrth waelod y bys sy'n para am gyfnod hir, gall fod yn anodd symud y bysedd, efallai bod lwmp - efallai mai tendonitis (clefyd de Quervain) neu arthritis yw'r achos
- Poen, chwyddo, methu sythu pen y bys, sy'n digwydd yn aml ar ôl dal eich bys ar rywbeth - efallai mai bys morthwyl yw'r achos
- Poen neu dynerwch yng nghledr eich llaw wrth waelod eich bys, anystwythder, clicio wrth i chi symud eich bys - efallai mai bawd glicied yw'r achos
- Dolur, fferdod, merwino neu wendid yn eich bysedd neu'ch dwylo - efallai mai syndrom twnnel y carpws yw'r achos
- Poen miniog sydyn yn yr arddwrn, chwydd, sŵn popian neu sŵn torri adeg yr anaf - efallai eich bod wedi torri asgwrn yn y bys
Peidiwch â phoeni os nad ydych chi'n siwr beth yw'r broblem.
Dilynwch y cyngor ar y dudalen hon ac ewch i weld meddyg teulu os nad yw'r poen yn gwella mewn pythefnos.
Poen yn y bys bawd
Mae llawer o resymau dros boen yn y bys bawd. Yn aml, gallwch leddfu'r poen eich hun, ond ewch i weld meddyg teulu os na fydd y poen yn gwella.
Sut gallwch chi leddfu poen yn y bys bawd eich hun
Os ewch chi i weld meddyg teulu am boen yn eich bys bawd, fel arfer, bydd yn awgrymu eich bod yn rhoi cynnig ar y canlynol:
- gorffwys eich bys bawd pan fo modd
- rhoi pecyn iâ (neu becyn o bys wedi'u rhewi) wedi'i lapio mewn tywel ar eich bys bawd am hyd at 20 munud bob 2 i 3 awr
- cymryd parasetamol
- tynnu unrhyw emwaith os oes golwg chwyddedig ar y bys bawd
- atal neu wneud llai o weithgareddau sy'n achosi'r poen - er enghraifft teipio, defnyddio offer sy'n dirgrynnu ar gyfer eich gwaith, neu ganu offeryn
- gwisgo sblint i gynnal eich bys bawd a lliniaru'r poen, yn enwedig yn y nos - gallwch gael y rhain o'r rhan fwyaf o fferyllfeydd ac archfarchnadoedd
- ystyried rhwymo rhywbeth fel pric lolipop wrth eich bys bawd - bydd hwn yn ei gadw yn ei le hyd nes gallwch chi gael sblint
- ystyried defnyddio dyfeisiau neu offer i hwyluso tasgau anodd neu boenus - er enghraifft i agor jariau neu dorri llysiau
- cadw'ch bys bawd i symud trwy wneud ymarferion ysgafn
Peidiwch:
- cymryd ibuprofen am y 48 awr cyntaf ar ôl anaf
- defnyddio pecynnau gwres neu gael bath poeth am y 2 i 3 diwrnod cyntaf ar ôl anaf
- codi pethau trwm na chydio mewn unrhyw beth yn rhy dynn
Gall fferyllydd helpu gyda phoen yn y bys bawd
Gallwch ofyn i fferyllydd am:
- y poenleddfwr gorau i'w gymryd
- y sblint gorau i gynnal eich bys bawd a lleddfu poen - mae sblintiau rwber hyblyg ar gael os oes angen i chi ddefnyddio'ch bys bawd o hyd
- a oes angen i chi weld meddyg teulu
Dod o hyd i fferyllfa
Ewch i weld meddyg teulu:
- os yw'r poen yn eich atal rhag gwneud gweithgareddau arferol
- os yw'r poen yn gwaethygu neu'n parhau i ddod yn ôl
- os nad yw'r poen wedi gwella ar ôl i chi ei drin gartref am bythefnos
- os ydych chi'n teimlo goglais yn eich llaw neu rydych yn colli teimlad yn eich llaw
- os oes diabetes arnoch - gall problemau'r dwylo fod yn fwy difrifol os oes diabetes arnoch
Ewch i Adran Damweiniau ac Achosion Brys:
- os oes gennych boen difrifol
- os ydych chi'n teimlo llesmair, penysgafnder neu'n teimlo'n sâl oherwydd y poen
- os clywoch chi sŵn torri, crensian neu bopian adeg yr anaf
- os nad ydych chi'n gallu symud eich bys bawd neu ddal pethau
- os yw siâp neu liw eich bys bawd wedi newid
- os ydych wedi colli teimlad yn eich llaw neu yn rhan o'ch llaw
Gall y rhain fod yn arwydd bod y bys bawd wedi'i dorri.
Dod o hyd i Adran Damweiniau ac Achosion Brys.
Beth rydym ni'n ei olygu wrth boen difrifol:
Poen difrifol
- mae'n bresennol drwy'r amser a chynddrwg fel bod meddwl neu siarad yn anodd
- ni allwch gysgu
- mae'n anodd iawn symud, codi o'r gwely, mynd i'r tŷ bach, ymolchi neu wisgo
Poen cymedrol
- mae'n bresennol drwy'r amser
- mae'n ei gwneud hi'n anodd canolbwyntio neu gysgu
- gallwch lwyddo i godi, ymolchi neu wisgo
Poen ysgafn
- mae'n mynd a dod
- mae'n annifyr ond nid yw'n eich atal rhag gwneud gweithgareddau bob dydd
Achosion cyffredin poen yn y bys bawd
Mae poen yn y bys bawd yn aml yn cael ei achosi gan gleisio neu anaf i'ch bys bawd.
Hefyd, gallai eich symptomau roi syniad i chi o'r hyn sy'n achosi'r poen yn eich bys bawd.
- Poen, chwyddo, cleisio ar ôl anaf - efallai mai ysigiad i'r bys bawd yw'r achos
- Poen, chwyddo ac anystwythder wrth waelod y bys bawd sy'n para am gyfnod hir, gall fod yn anodd symud y bys bawd, efallai bod lwmp - efallai mai tendonitis (clefyd de Quervain) neu arthritis yw'r achos
- Poen dolurus sy'n waeth yn y nos, fferdod neu binnau bach, bys bawd wan neu drafferth gafael - efallai mai syndrom twnnel y carpws yw'r achos
- Poen neu dynerwch yng nghledr eich llaw wrth waelod eich bys bawd, anystwythder, clicio wrth i chi symud eich bys neu'ch bawd - efallai mai bawd glicied yw'r achos
- Poen miniog sydyn, chwydd, sŵn popian neu sŵn torri adeg yr anaf - efallai eich bod wedi torri asgwrn yn y bys bawd
Peidiwch â phoeni os nad ydych chi'n siwr beth yw'r broblem.
Dilynwch y cyngor ar y dudalen hon ac ewch i weld meddyg teulu os nad yw'r poen yn gwella mewn pythefnos.
Poen yng nghledr y llaw
Mae llawer o resymau dros boen yng nghledr eich llaw. Yn aml, gallwch leddfu'r poen eich hun, ond ewch i weld meddyg teulu os na fydd y poen yn gwella.
Sut gallwch chi leddfu poen yng nghledr y llaw eich hun
Os gwelwch feddyg teulu, fel arfer, bydd yn awgrymu eich bod yn rhoi cynnig ar y canlynol:
- gorffwys eich llaw pan fo modd
- rhoi pecyn iâ (neu becyn o bys wedi'u rhewi) wedi'i lapio mewn tywel ar gledr eich llaw am hyd at 20 munud bob 2 i 3 awr
- cymryd parasetamol
- tynnu unrhyw emwaith os yw eich llaw wedi chwyddo
- atal neu wneud llai o weithgareddau sy'n achosi'r poen - er enghraifft ysgrifennu, teipio, DIY neu waith tŷ
- lapio rhwymyn o gwmpas eich llaw i'w gynnal
- gwisgo sblint i gynnal cledr eich llaw a lliniaru'r poen, yn enwedig yn y nos - gallwch gael y rhain o'r rhan fwyaf o fferyllfeydd ac archfarchnadoedd
- cadw'ch dwylo a'ch arddyrnau i symud trwy wneud ymarferion ysgafn i helpu lleddfu poen ac anystwythder
Peidiwch:
- cymryd ibuprofen am y 48 awr cyntaf ar ôl anaf
- defnyddio pecynnau gwres neu gael bath poeth am y 2 i 3 diwrnod cyntaf ar ôl anaf
- codi pethau trwm na chydio mewn unrhyw beth yn rhy dynn
Gall fferyllydd helpu gyda phoen yn y llaw
Gallwch ofyn i fferyllydd am:
- y poenleddfwr gorau i'w gymryd
- y sblint gorau i gynnal eich llaw a lleddfu poen
- a oes angen i chi weld meddyg teulu
Dod o hyd i fferyllfa
Ewch i weld meddyg teulu:
- os yw'r poen yng nghledr eich llaw yn eich atal rhag gwneud gweithgareddau arferol
- os yw'r poen yn gwaethygu neu'n cadw dod yn ôl
- os nad yw'r poen wedi gwella ar ôl i chi ei drin gartref am bythefnos
- os ydych chi'n teimlo goglais yn eich llaw neu rydych yn colli teimlad yn eich llaw
- os oes diabetes arnoch - gall problemau'r dwylo fod yn fwy difrifol os oes diabetes arnoch
- os yw cledr eich llaw yn boenus ac rydych yn teimlo'n anhwylus hefyd, gyda thymheredd uchel
- os yw cledr eich llaw yn boenus, yn gynnes, wedi chwyddo ac yn anystwyth
Ewch i Adran Damweiniau ac Achosion Brys:
- os oes gennych boen difrifol
- os ydych chi'n teimlo llesmair, penysgafnder neu'n teimlo'n sâl oherwydd y poen
- os clywoch chi sŵn torri, crensian neu bopian adeg yr anaf
- os nad ydych chi'n gallu symud eich bys bawd neu ddal pethau
- os yw siâp neu liw eich bys neu'ch bys bawd wedi newid
- os ydych wedi colli teimlad yn eich llaw neu yn rhan o'ch llaw
Gall y rhain fod yn arwyddion eich bod wedi torri eich llaw.
Dod o hyd i Adran Damweiniau ac Achosion Brys lleol.
Beth rydym ni'n ei olygu wrth boen difrifol:
Poen difrifol
- mae'n bresennol drwy'r amser a chynddrwg fel bod meddwl neu siarad yn anodd
- ni allwch gysgu
- mae'n anodd iawn symud, codi o'r gwely, mynd i'r tŷ bach, ymolchi neu wisgo
Poen cymedrol
- mae'n bresennol drwy'r amser
- mae'n ei gwneud hi'n anodd canolbwyntio neu gysgu
- gallwch lwyddo i godi, ymolchi neu wisgo
Poen ysgafn
- mae'n mynd a dod
- mae'n annifyr ond nid yw'n eich atal rhag gwneud gweithgareddau bob dydd
Achosion cyffredin poen yng nghledr eich llaw
Mae poen yng nghledr eich llaw yn aml yn cael ei achosi gan gleisio neu anaf i'ch llaw.
Hefyd, gallai eich symptomau roi syniad i chi o'r hyn sy'n achosi'r poen yng nghledr eich llaw.
- Poen dolurus sy'n waeth yn y nos, fferdod neu binnau bach, bys bawd wan neu drafferth gafael - efallai mai syndrom twnnel y carpws yw'r achos
- Poen neu dynerwch yng nghledr eich llaw wrth waelod eich bysedd neu'ch bys bawd, anystwythder, clicio wrth i chi symud eich bys neu'ch bawd - efallai mai bawd glicied yw'r achos
- Poen, chwyddo ac anystwythder sy'n para am gyfnod hir, gall fod yn anodd symud y bysedd, efallai bod lwmp - efallai mai arthritis yw'r achos
- Poen miniog neu losgi, merwino neu fferdod, mae cledr y llaw yn teimlo'n fwy neu'n llai sensitif i gyffwrdd neu wres - efallai mai niwropathi perifferol yw'r achos
- Gwres, poen a chochni yng nghledr y llaw - efallai mai erythromelalgia yw'r achos
Peidiwch â phoeni os nad ydych chi'n siwr beth yw'r broblem.
Dilynwch y cyngor ar y dudalen hon ac ewch i weld meddyg teulu os nad yw'r poen yn gwella mewn pythefnos.
Poen yng nghefn eich llaw
Mae llawer o resymau dros boen yng nghefn eich llaw. Yn aml, gallwch leddfu'r poen eich hun, ond ewch i weld meddyg teulu os na fydd y poen yn gwella.
Sut gallwch chi leddfu poen yng nghefn eich llaw eich hun
Os ewch chi i feddyg teulu, fel arfer, bydd yn awgrymu eich bod yn rhoi cynnig ar y canlynol:
- gorffwys eich llaw pan fo modd
- rhoi pecyn iâ (neu becyn o bys wedi'u rhewi) wedi'i lapio mewn tywel ar gefn eich llaw am hyd at 20 munud bob 2 i 3 awr
- cymryd parasetamol i leddfu'r poen
- tynnu unrhyw emwaith os yw eich llaw wedi chwyddo
- lapio rhwymyn o gwmpas eich llaw i'w gynnal
- gwisgo sblint i gynnal eich llaw a lliniaru'r poen, yn enwedig yn y nos - gallwch gael y rhain o'r rhan fwyaf o fferyllfeydd ac archfarchnadoedd
- ymarfer eich llaw a'ch bysedd yn ysgafn i helpu lleddfu poen ac anystwythder
Peidiwch:
- cymryd ibuprofen am y 48 awr cyntaf ar ôl anaf
- defnyddio pecynnau gwres neu gael bath poeth am y 2 i 3 diwrnod cyntaf ar ôl anaf
Gall fferyllydd helpu gyda phoen yn y llaw
Gallwch ofyn i fferyllydd am:
- y poenleddfwr gorau i'w gymryd
- triniaethau ar gyfer problemau cyffredin y croen
- a oes angen i chi weld meddyg teulu
Dod o hyd i fferyllfa
Ewch i weld meddyg teulu:
- os yw'r poen yn eich atal rhag gwneud gweithgareddau arferol
- os yw'r poen yn gwaethygu neu'n parhau i ddod yn ôl
- os nad yw'r poen wedi gwella ar ôl i chi ei drin gartref am bythefnos
- os ydych chi'n teimlo goglais yn eich llaw neu rydych yn colli teimlad yn eich llaw
- os oes diabetes arnoch - gall problemau'r dwylo fod yn fwy difrifol os oes diabetes arnoch
Ewch i Adran Damweiniau ac Achosion Brys:
- os oes gennych boen difrifol
- os ydych chi'n teimlo llesmair, penysgafnder neu'n teimlo'n sâl oherwydd y poen
- os clywoch chi sŵn torri, crensian neu bopian adeg yr anaf
- os nad ydych chi'n gallu symud eich llaw neu ddal pethau
- os ydych wedi colli teimlad yn eich llaw neu yn rhan o'ch llaw
- os yw siâp neu liw eich llaw wedi newid
Gall y rhain fod yn arwyddion eich bod wedi torri eich llaw.
Dod o hyd i Adran Damweiniau ac Achosion Brys lleol.
Beth rydym ni'n ei olygu wrth boen difrifol:
Poen difrifol
- mae'n bresennol drwy'r amser a chynddrwg fel bod meddwl neu siarad yn anodd
- ni allwch gysgu
- mae'n anodd iawn symud, codi o'r gwely, mynd i'r tŷ bach, ymolchi neu wisgo
Poen cymedrol
- mae'n bresennol drwy'r amser
- mae'n ei gwneud hi'n anodd canolbwyntio neu gysgu
- gallwch lwyddo i godi, ymolchi neu wisgo
Poen ysgafn
- mae'n mynd a dod
- mae'n annifyr ond nid yw'n eich atal rhag gwneud gweithgareddau bob dydd
Achosion cyffredin poen yng nghefn eich llaw
Mae poen yng nghefn eich llaw yn aml yn cael ei achosi gan gleisio neu anaf i'ch llaw.
Hefyd, gallai eich symptomau roi syniad i chi o'r hyn sy'n achosi'r poen yng nghefn eich llaw.
- Poen, chwyddo ac anystwythder sy'n para am gyfnod hir, gall fod yn anodd symud eich bysedd, efallai bod lwmp - efallai mai tendonitis neu arthritis yw'r achos
- Poen miniog sydyn, chwydd, sŵn popian neu sŵn torri adeg yr anaf - efallai eich bod wedi torri asgwrn yn y llaw
- Lwmp llyfn gerllaw cymal neu dendon, a all fod yn boenus - efallai mai coden ganglion yw'r achos
- Poen dolurus sy'n waeth yn y nos, fferdod neu binnau bach, bys bawd wan neu drafferth gafael - efallai mai syndrom twnnel y carpws yw'r achos
- Croen coslyd a phoenus, brech - efallai mai'r crafu yw'r achos
Peidiwch â phoeni os nad ydych chi'n siwr beth yw'r broblem.
Dilynwch y cyngor ar y dudalen hon ac ewch i weld meddyg teulu os nad yw'r poen yn gwella mewn pythefnos.