Cyflwyniad
Mae'r rhan fwyaf o achosion o boen yn y glun sy'n cael eu trin gan lawdriniaeth yn cael eu hachosi gan osteoarthritis, y math mwyaf cyffredin o arthritis yn y DU.
Nod y dudalen hon yw rhoi syniad gwell i chi o ba un ai osteoarthritis neu rywbeth mwyn anarferol sy'n achosi'r poen yn eich clun a beth allwch chi ei wneud yn ei gylch.
Peidiwch ceisio diagnosio eich hun - dylai hyn fod yn fater i'ch meddyg.
Darllenwch fwy am poen clun mewn plant.
Osteoarthritis
Gall symptomau osteoarthritis amrywio'n fawr rhwng un person a'r llall, ond os yw'n effeithio ar y glu, bydd, fel arfer, yn achosi:
- llid ysgafn y meinweoedd yn ac o gwmpas y glun
- niwed i gartilag - y meinwe cryf, hyblyg sy'n leinio'r esgyrn
- tyfiannau esgyrnog (osteophytes) sy'n datblygu o gwmpas ymyl y glun
Gall hyn arwain at boen, anystwythder ac anhawster gwneud rhaid gweithgareddau penodol.
Nid oes gwell ar osteoarthritis ond mae modd lleddfu'r symptomau gan ddefnyddio gwahanol driniaethau. Nid oes angen llawdriniaeth bob amser.
Darllenwch fwy am trin osteoarthritis
Achosion llai cyffredin
Yn lai cyffredin, gall poen clun gael ei achosi gan:
- esgyrn y glun yn rhwbio at ei gilydd oherwydd anomaledd - cyflwr a enwir yn wrthdrawiad femoroacetablar
- rhwyg yn y cartilag sy'n cwmpasu soced y glun
- siap anghywir y glun neu nid yw'r soced yn y man cywir i i gefnogi pen yr asgwrn coes (dysplasia)
- toriad y glun - bydd hyn yn achosi poen sydyn ac mae'n fwy cyffredin ymhlith poel hyn sydd ag esgyrn gwan
- haint yn yr asgwrn, fel arthritis septig neu osteomyelitis - ewch i weld eich meddyg ar unwaith os oes gennych boen clun a thwymyn
- llai o lif gwaed i'r glun, sy'n achosi'r asgwrn i dorri lawr - cyflwr o'r enw osteonecrosis
- llid a chwyddo yn y bwrsa (sy'n llawn hylif) dros eich clun - cyflwr o'r enw bwrsitis
- anaf i linyn y gar
- ligament llidus yn y glun, a achosir gan ormod o redeg. syndrom band iliotibial, gorffwys yw'r peth gorau, darllenwch fwy am sigiadau ac ysigiadau
Bydd y dolenni uchod yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am y cyflyrau hyn.
Pryd i geisio cyngor meddygol
Mae poen yn y cluniau yn gwella ar ei ben ei hun yn aml ac mae modd ei reoli wrth orffwys a phoenladdwyr dros y cownter, fel paracetamol ac ibuprofen.
Fodd bynnag, ewch i weld eich meddyg teulu os:
- yw eich clun yn dal yn boenus wedi wythnos o orffwys gartref
- oes gennych dwymyn neu frech
- ymddangosodd eich poen clun yn sydyn a bod gennych crymangell (sickle cell anaemia)
- yw'r poen yn y ddwy glun a chymalau eraill
Mae'n bosibl y bydd eich meddyg teulu'n gofyn y cwestiynau canlynol:
- ble mae'r poen?
- pryd a sut ddechreuodd y poen?
- oes unrhyw beth yn gwaethygu'r poen?
- oes unrhyw beth yn lleddfu'r poen?
- ydych chi'n gallu cerdded a rhoi pwysau arno?
- oes gennych chi unrhyw broblemau meddygol eraill?
- ydych chi'n cymryd unrhyw feddyginiaethau?
Ewch yn syth i'r ysbyty os:
- achoswyd y poen wrth i chi syrthio neu gael damwain
- oes siap od ar eich coes, mae wedi cleisio'n ddrwg neu'n gwaedu
- nad ydych yn gallu symud eich clun na rhoi unrhyw bwysau ar eich coes
- oes gennych poen clun a thymheredd ac rydych yn teimlo'n dost
Rheoli poen clun gartref
Os nad oes arnoch angen meddyg, ystyriwch reoli a monitro'r broblem gartref. Gallai'r cyngor canlynol fod yn ddefnyddiol.
- collwch bwysau - os ydych dros bwysau, bydd yn lleddfu peth o'r straen ar eich clun
- osgowch weithgareddau sy'n gwaethygu'r poen, fel rhedeg i lawr allt
- gwisgwch esgidiau cyfforddus ac osgowch sefyll am gyfnodau hir
- ystyriwch ffisiotherapydd i helpu i gryfhau eich cyhyrau
- cymerwch boenladdwyr dros y cownter, fel paracetamol neu ibuprofen
Gor-wneud hi
Os yw eich poen yn perthyn i ymarfer corff neu fathau eraill o weithgarwch rheolaidd:
- cwtogwch ar faint rydych yn ei wneud os yw'n ormodol
- cynheswch cyn dechrau ac estyn wrth orffen bob amser
- rhowch gynnig ar ymarfer effaith is, fel nofio neu feicio, yn lle rhedeg
- rhedwch ar arwyneb llyfn, meddal, fel gwair yn hytrach na choncrid
- gwnewch yn siwr bod eich esgidiau rhedeg yn ffitio'n dda ac yn cefnogi eich traed