Poen Pen-glin

Cyflwyniad

Knee pain
Knee pain

Yn aml, mae modd trin poen pen-glin gartref - dylech chi ddechrau teimlo'n well ymhen ychydig o ddyddiau. Ffoniwch 111 os yw'r poen yn ddrwg iawn.

Sut i leddfu poen pen-glin a chwyddo

Rhowch gynnig ar y pethau hyn yn gyntaf:

  • rhowch gyn lleied o bwysau â phosibl ar y pen-glin - er enghraifft, osgoi sefyll am gyfnod hir
  • defnyddiwch becyn rhew / iâ (neu fag o bys wedi rhewi wedi'i lapio mewn lliain sychu llestri) ar eich pen-glin am hyd at 20 munud bob 2 i 3 awr
  • cymerwch barasetamol

Ewch i weld meddyg teulu:

  • os nad yw'r poen pen-glin yn gwella ymhen ychydig wythnosau
  • os yw eich pen-glin yn cloi, yn clicio'n boenus neu'n gwegian oddi tanoch - mae clicio heb boen yn normal

Dylech chi gael cyngor gan 111 nawr:

  • os yw eich pen-glin yn boenus iawn
  • os nad ydych chi'n gallu symud eich pen-glin neu roi unrhyw bwysau arno
  • os yw eich pen-glin wedi chwyddo'n wael neu wedi newid siâp
  • os oes gennych chi dymheredd uchel iawn, yn teimlo'n boeth / yn dwym ac yn grynedig, a bod cochni neu wres o amgylch eich pen-glin - gall hyn fod yn arwydd o haint

Byddwch yn cael gwybod beth i'w wneud drwy ffonio 111. Gallant ddweud wrthych chi am y lle cywir i gael cymorth os oes angen i chi weld rhywun.

Triniaeth gan feddyg teulu

Mae meddyg yn gallu awgrymu triniaeth ar sail beth sy'n achosi eich poen pen-glin.

Efallai y bydd meddyg teulu:

  • yn rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn neu ffisiotherapi
  • yn eich cyfeirio i ysbyty i gael sgan neu driniaeth arbenigol (er enghraifft, llawdriniaeth)

Achosion cyffredin poen pen-glin

Mae poen pen-glin yn gallu bod yn symptom llawer o wahanol gyflyrau.

Efallai bydd y wybodaeth hon yn rhoi syniad i chi am beth allai fod yn achosi'r poen. Ond peidiwch â cheisio gwneud eich diagnosis eich hun - ewch i weld meddyg teulu os ydych chi'n poeni.

Poen pen-glin ar ôl anaf

Symptomau pen-glin ac achosion posibl:

  • Poen ar ôl gor-ymestyn, gorddefnyddio neu droi, yn aml yn ystod ymarfer corff - gallai ysigiadau a straeniau fod yn achos posibl
  • Poen rhwng eich padell pen-glin a'ch crimog, sy'n aml yn cael ei achosi gan lawer o redeg neu neidio - gallai tendonitis fod yn achos posibl
  • Yn ansefydlog. Mae'n gwegian oddi tanoch pan fyddwch chi'n ceisio sefyll, ddim yn gallu sythu, efallai y byddwch chi'n clywed sŵn popian yn ystod anaf - gallai'r achos posibl fod yn rhwyg yn y ligament, y tendon neu'r menisgws, niwed i'r cartilag
  • Plant a phobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc sydd â phoen a chwyddo o dan y badell pen-glin - gallai clefyd Osgood-Schlatter fod yn achos posibl
  • Newidiadau yn y badell pen-glin ar ôl gwrthdrawiad neu newid sydyn mewn cyfeiriad - gallai padell pen-glin wedi'i rhoi o'i lle fod yn achos posibl

Poen pen-glin heb unrhyw anaf amlwg

Symptomau pen-glin ac achosion posibl:

  • Poen a stiffrwydd yn y ddau ben-glin, chwyddo ysgafn, sy'n fwy cyffredin ymhlith pobl hŷn - mae osteoarthritis yn achos posibl
  • Cynnes a choch, mae penlinio neu blygu yn gwneud y poen a'r chwyddo'n waeth - mae bwrsitis yn achos posibl
  • Mae chwyddo, cynhesrwydd, cleisio, yn fwy tebygol tra'n cymryd gwrthgeulyddion - mae gwaedu yn y cymal yn achos posibl
  • Poeth a choch, pyliau sydyn o boen gwael iawn - mae cymalwst (gowt) neu arthritis septig yn achosion posibl

 



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 03/02/2025 10:28:49