Alcohol
Gall yfed alcohol yn gymedrol fod yn bleserus i lawer o bobl, ond gall goryfed a goryfed mewn pyliau gael effaith niweidiol ac achosi problemau iechyd difrifol.
Argymhelliad y GIG:
- peidio ag yfed mwy na 14 uned o alcohol yn rheolaidd pob wythnos
- os ydych yn yfed cymaint â 14 uned yr wythnos, mae'n well i ledaenu hyn yn gyfartal dros dri diwrnod neu fwy
- os ydych yn ceisio lleihau faint o alcohol rydych yn ei yfed, mae'n syniad da i gael nifer o ddiwrnod di-alcohol bob wythnos
Mae yfed yn rheolaidd neu'n aml yn golygu yfed alcohol yn y rhan fwyaf o wythnosau. Mae'r risg i'ch iechyd yn cynyddu trwy yfed unrhyw faint o alcohol yn gyson. Mae un uned o alcohol yn cyfateb i 10ml o alcohol pur.
Mesurwch y nifer o unedau fyddwch chi'n eu hyfed trwy ddefnyddio ein cyfrifiannell rhyngweithiol.
Dyddiadur Alcohol
Buddion Yfed Llai o Alcohol–
- Byddwch yn gostwng y risg o glefyd y galon a chanser
- Byddwch yn llai tebygol o gael damwain
- Byddwch yn llai tebygol o ymddwyn yn beryglus, er enghraifft - rhyw diamddiffyn
- Gall eich afu neu iau adfer a gwneud iawn am y difrod
- Byddwch yn arbed arian
- Bydd lefelau eich egni'n cynyddu
- Byddwch yn cysgu'n well ac yn teimlo'n llai blinedig ac wedi'ch adfywio pan fyddwch yn deffro
- Byddwch yn gallu canolbwyntio'n well
- Byddwch yn llai tebygol o aflonyddu ar eich teulu a'ch ffrindiau
- Byddwch yn llai tebygol o ddioddef gan iselder sy'n deillio o alcohol
Goryfed mewn Pyliau
Diffinnir goryfed mewn pyliau fel yfed wyth neu fwy o unedau o alcohol mewn un sesiwn i ddynion a chwe uned i wragedd. Mae ymchwil yn dangos bod yfed llawer o alcohol mewn cyfnod byr yn fwy peryglus nag yfed llai o gyfanswm yn gyson.
Effeithiau byr dymor
Mae alcohol yn effeithio ar gydlyniant eich corff, yn peri aneglurder yn eich mynegiant, aneglurder o ran gweld neu weld yn ddwbl a cholli cydbwysedd. Rydych yn debycach o gael eich hunain mewn sefyllfaoedd peryglus pan fyddwch wedi yfed tipyn, gan fod alcohol yn effeithio ar eich synnwyr a gallech wneud pethau na fyddech wedi ystyried eu gwneud pan yn syber.
Ymddygiad peryglus iawn arall a gysylltir ag yfed trwm yw:
- Rhyw achlysurol, diamddiffyn, a all arwain at feichiogrwydd annisgwyl a chlefydau rhyw
- Trais a dadleuon
- Damweiniau yn y cartref ac ar y ffordd
Effeithiau Hir dymor
Mae'r peryglon i iechyd a gysylltir ag yfed trwm yn cynnwys:
- Niwed i'r afu/iau
- Anaemia oherwydd alcohol
- Gowt
- Pancreatitis
- Clefyd y Galon
- Niwed i'r Ymennydd
- Problemau Rhyw fel analluedd
- Anffrwythlondeb
- Pwysau Gwaed Uchel
- Strôc
- Gorbryder,iselder a diffyg canolbwyntio
Mae'r problemau cymdeithasol a gysylltir ag yfed trwm yn cynnwys:
- Ysgariad
- Trais yn y cartref
- Cam-drin Plant
- Problemau yn y Gweithle
- Problemau Ariannol
- Digartrefedd
- Troseddu
Yfed a Beichiogrwydd
Cyngor yr Adran Iechyd yw na ddylech yfed o gwbl pan fyddwch yn feichiog neu'n ceisio bod yn feichiog. Os byddwch yn yfed yn drwm, mae'r perygl o erthyliad naturiol yn cynyddu a gall yr yfed hwnnw amharu'n ddifrifol ar dwf y babi ac ar ddatblygiad ei ymennydd.
Eich cymeriant o alcohol
Os byddwch yn ateb yn gadarnhaol i ddau neu fwy o'r cwestiynau canlynol, dylech ystyried eich cymeriant o alcohol:
- Ydych chi wedi ystyried torri'n ôl ar eich yfed erioed?
- A gawsoch eich digio erioed gan bobl yn sylwi ar eich yfed?
- A fyddwch yn teimlo'n euog weithiau am y cyfanswm o alcohol y byddwch yn ei yfed?
- Ydych chi erioed wedi cymryd diod yn y bore i liniaru effaith yr alcohol (cudyn o'r ci)?
Os byddwch yn ateb yn gadarnhaol i dri neu fwy o'r cwestiynau canlynol, dylech ystyried chwilio am gymorth gan eich Meddyg Teulu, a all eich cyfeirio at arbenigwr:
- Os mai dyn ydych, a ydych yn yfed mwy na 50 uned o alcohol bob wythnos?
- Os mai menyw ydych, a ydych yn yfed mwy na 35 uned mewn wythnos?
- A oes gennych awydd cryf, neu ydych chi angen yfed alcohol?
- A fyddwch yn cael trafferth i wrthod yr awydd i yfed, i ymatal rhag yfed neu i reoli'r cyfanswm y byddwch yn ei yfed?
- A yw eich ymddygiad yn newid neu a fyddwch yn teimlo'n wahanol pan na fyddwch yn gallu yfed?
- A fyddwch chi'n yfed i leddfu neu i atal y teimladau hynny?
- A ydych chi'n ymddangos fel petaech chi’n gallu yfed mwy o alcohol na'r rhan fwyaf o bobl o'ch cwmpas?
- A fydd yr awydd i yfed neu effeithiau’r alcohol yn eich atal rhag bod yn rhan o ddiddordebau neu bleserau eraill?
- A ydych yn dal i yfed, er eich bod yn ymwybodol o'r canlyniadau niweidiol?