Ymarfer Corff
Gall ymarfer corff cyson fod yn effeithiol iawn i drin ac i rwystro ystod eang o gyflyrau iechyd. Mae ymarfer corff yn weithgaredd sy'n mynnu eich bod yn defnyddio mwy o egni na phan fyddwch chi'n gorffwys. Mae'n cynnwys gweithgareddau fel cerdded neu arddio. Y bwriad yw i chi gyrraedd pwynt pan fyddwch ychydig yn brin o anadl. Cliciwch ar y taflennu ffeithiau isod i weld faint o ymarfer corff ddylai cael ei wneud ar gyfnodau gwahanol:
Y buddion a ddaw wrth gynyddu gweithgaredd corfforol
- Profwyd bod ymarfer naill ai'n rhwystro neu'n lleddfu amryw o gyflyrau afiach i oedolion, gan gynnwys pwysau gwaed uchel, gordewdra,osteoporosis, diabetes, arthritis a chlefyd y galon
- Gwell symudedd yn y cymalau a bydd tenynnau a gewynnau'n fwy ystwyth
- Mae'n cynorthwyo i gynnal pwysau iach trwy gynyddu eich metaboledd (graddfa llosgi calorïau)
- Gwella lles meddyliol cyffredinol
- Rhoi mwy o egni a chynyddu lefelau goddefgarwch.
Buddion ychwanegol
Mae gweithgaredd corfforol hefyd yn gwneud pobl yn hapusach ac yn fwy bodlon â'u bywyd, yn ogystal â theimlo'n well amdanyn nhw eu hunain. Er enghraifft, mae pobl heini:
- â gwell delwedd o'u cyrff
- â hunan barch uwch
- yn llai gofidus
- yn cysgu'n well
Nid yw'n rhaid iddi fod yn anodd trefnu ymarfer corff yn eich bywyd beunyddiol - dyma rai syniadau i'ch helpu i gychwyn arni:
- cerddwch i'r siop, cerddwch â'ch plant i'r ysgol neu ewch am dro yn ystod eich awr ginio
- gwnewch y peth yn gymdeithasol – ymarfer fel teulu neu gyda ffrind, neu ymuno â chlwb a chwrdd â ffrindiau newydd
- mae hyd yn oed gwaith tŷ yn cyfrannu tuag at eich ymarfer – o lanhau'r llawr i olchi'r car
- manteisiwch i'r eithaf ar yr awyr agored - cerdded, loncian, rhedeg neu arddio. Gwnewch eich dewis - maen nhw i gyd yn rhad ac am ddim.
- ewch ar eich beic, mae cannoedd o lwybrau seiclo ledled Cymru. Cewch hyd i un yma.
- chwaraewch gerddoriaeth a dawnsiwch - trwy ddawnsio yn eich lolfa, mewn neuadd ddawns mewn neuadd leol neu drwy ymuno â chlwb dawnsio yn y stryd. Cewch hyd i ddosbarth yn agos i chi.
- A ydych chi'n berson cystadleuol? Pam na wnewch chi herio ffrind i gael gêm o sboncen neu golff?. Neu, os ydych yn fwy o chwaraewr tîm, beth am ymuno â thîm pêl droed neu bêl rwyd lleol?
Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Cenedlaethol
Mae'r Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Cenedlaethol (NERS) yn gynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru (WG). Datblygwyd ers 2006 i safoni'r cyfleoedd atgyfeirio ymarfer ar draws holl Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru. Ariannwyd y cynllun gan LlCC mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA), Awdurdodau Lleol, Iechyd y Cyhoedd, Cymru (PHW) a Byrddau Iechyd Lleol. Anelir y cynllun at bobl segur sydd mewn perygl o ddioddef gan afiechydon cronig gan roi cyfle i weithwyr proffesiynol iechyd atgyfeirio pobl at raglen uchel ei safon, dan oruchwyliaeth, i wella'u hiechyd a'u lles.
Os nad ydych chi'n ymarfer eich corff ac yn credu y gallai'r cynllun fod yn fuddiol i chi, cysylltwch â'ch meddyg teulu i'w drafod ymhellach.
Newid am Oes
Mae Newid am Oes yn cefnogi oedolion a phlant i fwyta'n well, symud mwy a byw yn hirach. Cliciwch yma i weld ei wefan am fwy o wybodaeth.