Gofalwyr
Ydych chi'n gofalu am rywun? Ydych chi'n ofalwr di-dâl?
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn cynnal ei Arolwg Gofalwyr am yr ail flwyddyn yn olynol a byddem wrth ein bodd yn clywed eich straeon a'ch meddyliau ar sut y gallai Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ddiwallu'ch anghenion yn well.
Cymerwch gip ar rywfaint o'r gwaith ymgysylltu yr ydym wedi'i wneud gyda gofalwyr ar y fideo.
Mae gofalwr yn rhywun sy'n ddi-dâl ac yn waeth beth yw eu hoedran, yn gofalu am rywun sy'n anabl, yn sâl neu'n oedrannus.
Yn y DU, mae tua chwe miliwn o ofalwyr di-dâl. Efallai na fydd llawer o bobl yn gweld eu hunain fel gofalwyr, ond yn syml fel rhywun sydd yn helpu i edrych ar ôl ffrind neu berthynas, sy'n oedrannus, sâl, neu'n anabl. Mae'n bwysig bod gofalwyr yn cael eu adnabod mor gynnar â phosibl yn y daith gofalu i sicrhau eu bod yn cael unrhyw gymorth ariannol neu ymarferol efallai y bydd angen ac mae ganddynt ddewis a rheolaeth dros eu bywydau o ddydd i ddydd.
Pwy sy'n gallu bod yn ofalwr?
Gall unrhyw un fod yn ofalwr, gan gynnwys y rhai sydd o dan 18 oed. Mae gofalwyr sydd o dan 18 oed yn cael eu galw'n ofalwyr ifanc.
Beth mae gofalwr yn ei wneud?
Mae gofalwyr yn gwneud amrywiaeth o dasgau dros rywun nad yw'n gallu ymdopi ar ei ben ei hun. Gall hyn gynnwys gofal personol fel rhoi bath, coginio a gwisgo, rhoi cymorth i symud o gwmpas neu fynd i nôl pethau megis siopa neu bresgripsiynau.
Cymorth i ofalwyr
Gall gofalu am rywun fod yn feichus yn gorfforol ac yn emosiynol. Mae'r tasgau arferol sydd angen eu gwneud yn ogystal â'r newid mewn amgylchiadau yn gallu rhoi straen ar y berthynas rhwng y gofalwr a'r sawl mae'n gofalu amdano.
Mae nifer o fathau o gymorth sydd ar gael i ofalwyr a all gynnwys cymorth ariannol, cefnogaeth ymarferol, hawliau cyflogaeth yn y gwaith, help wrth ddarparu gofal, a grwpiau cefnogi gofalwyr lleol. Mae gan pob gofalwr yr hawl i asesiad gofalwr gan eu cyngor lleol er mwyn helpu i benderfynu ar y lefel o gymorth sydd ei angen arnynt. Gorchymyn Deddf y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 yn berthnasol i bobl mewn angen, o unrhyw oed ac yn cyflwyno hawliau cyfatebol i ofalwyr i'r rhai y maent yn gofalu amdanynt. Mae gan pob gofalwr hawl i gael asesiad anghenion heb ystyried y faint neu'r math o ofal a ddarperir. Cyn gynted ag y mae'n ymddangos i gyngor lleol y gall gofalwr fod ag angen am gefnogaeth, rhaid iddynt gynnig asesiad. Gallwch gael gwybod mwy am y Ddeddf a'ch hawliau trwy ddilyn y dolenni hyn:
Deddf Lles a Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru)
Gweithio gyda gofalwyr
Eich hawliau fel gofalwr
Os ydych yn ofalwr, mae hawl gennych gael sawl math gwahanol o gymorth yn ôl eich amgylchiadau personol. Mae'r mathau amrywiol o gymorth a allai fod ar gael i chi wedi'u hamlinellu isod.
Lwfans Gofalwyr
Os ydych yn ofalwr a thros 16 mlwydd oed, hwyrach y gallwch hawlio Lwfans Gofalwr. Lwfans Gofalwr yw'r prif fudd-dal ariannol sydd ar gael i ofalwyr. £62.10 yr wythnos yw'r Lwfans Gofalwr y gallwch ei dderbyn ar hyn o bryd.
I allu hawlio Lwfans Gofalwr, rhaid i chi fod dros 16 oed ac:
- yn gofalu am rywun am o leiaf 35 awr yr wythnos yn byw fel arfer yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban
- heb fod mewn addysg amser llawn nac yn astudio am fwy nag 21 awr yr wythnos
- heb fod yn ennill dros £110 yr wythnos (ar ôl treth, costau gofal tra'r ydych chi yn y gwaith a 50% o'r hyn yr ydych chi'n ei dalu i'ch pensiwn)
- heb fod yn derbyn unrhyw un o restr o fudd-daliadau eraill gan gynnwys Budd-dal Analluogrwydd, Pensiwn Ymddeol y Wladwriaeth a Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau.
Hefyd, gall rhai gofalwyr fod yn gymwys i gael y Premiwm Gofalwr a gallent dderbyn arian ychwanegol bob wythnos yn ogystal â'r Lwfans Gofalwr. Gallai'r Premiwm Gofalwr hefyd fod ar gael i'r rhai nad ydyn nhw'n cael hawlio Lwfans Gofalwr am eu bod yn derbyn budd-dâl arall.
Hawliau cyflogaeth i ofalwyr
O bryd i'w gilydd, gall gofalu am rywun a chael swydd fod yn dalcen caled ac mae rhai gofalwyr yn teimlo bod yn rhaid iddyn nhw roi'r gorau i weithio er mwyn gallu gofalu am rywun yn amser llawn.
Ers i Ddeddf Cyflogaeth 2002 ddod i rym, mae gan rieni plant anabl o dan 18 oed ac sy'n gweithio yr hawl i ofyn am drefniadau gweithio hyblyg. At hynny, ers Ebrill 2007, mae'r hawl gennych hefyd i ofyn am gael gweithio oriau hyblyg os ydych chi'n gofalu am oedolyn sy'n berthynas neu sy'n byw yn yr un cyfeiriad â chi.
Er bod gennych yr hawl i ofyn am weithio oriau hyblyg o dan yr amgylchiadau hyn, mae'n bwysig gwybod nad oes rhaid i gyflogwyr gytuno i'r ceisiadau hyn. Fodd bynnag, mae'n rhaid iddynt roi rhesymau busnes dros wrthod cais i weithio'n hyblyg.
Amser i ffwrdd mewn argyfwng
Mae gan ofalwyr yr hawl hefyd i gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith yn ddi-dâl i ofalu am ddibynyddion (y bobl mae'r gofalwr yn gofalu amdanynt) mewn argyfwng.
Mae gan bob gweithiwr yr hawl i gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith yn ddi-dâl ar gyfer argyfyngau (sy'n cael ei alw hefyd yn amser i ffwrdd ar gyfer 'dibynyddion'). Mae gennych yr hawl hon dim ots faint o amser rydych chi wedi bod yn gweithio i'ch cyflogwr.
Mae darllen eich contract neu bolisi'ch cwmni i gael gwybod beth yw'r polisi ar amser i ffwrdd i ddibynyddion yn syniad da. Gallai eich cyflogwr eich talu chi am yr amser hwn, ond penderfyniad y cyflogwr yw hynny.
Gall dibynyddion fod yn fam neu'n dad i chi, neu'n fab neu'n ferch, neu rywun sy'n byw gyda chi fel aelod o'ch teulu ac sy'n llwyr ddibynnol arnoch chi. Hefyd, gall dibynnydd fod yn unigolyn a fyddai'n dibynnu ar eich help mewn argyfwng, fel cymydog oedrannus sy'n byw ar ei ben ei hun.
Beth yw argyfwng?
Mae sawl sefyllfa sy'n cael eu hystyried yn argyfwng:
- Pan fydd tarfu dros dro ar eich trefniadau gofal (er enghraifft, pan na fydd nyrs yn cyrraedd) neu pan fyddant yn methu'n llwyr.
- Pan fydd rhywun yn eich gofal yn marw ac mae angen i chi wneud trefniadau neu fynd i'r angladd.
- Pan fydd rhywun yn eich gofal yn sâl neu wedi dioddef ymosodiad (er enghraifft, mygio neu os bydd eich plentyn wedi bod yn ymladd).
- Pan fyddwch angen gwneud trefniadau ar gyfer gofal hirdymor rhywun yn eich gofal ac sy'n sâl neu wedi'i anafu (ond nid yw hyn yn cynnwys rhoi gofal hirdymor iddynt eich hun).
Faint o amser i ffwrdd?
Nid oes fformiwla ar gyfer faint o amser y gallwch chi ei gymryd i ffwrdd i ofalu am ddibynnydd. Mae eich hawliau yn caniatáu am gyfnod 'rhesymol' o amser i ffwrdd. Mae pob achos yn wahanol, ond gan amlaf, gall diwrnod neu ddau fod yn ddigon.
Nid oes cyfyngiad ar sawl gwaith y gallwch chi hawlio amser i ffwrdd ar gyfer dibynyddion, cyn belled ag y byddwch chi'n delio ag argyfyngau go iawn. Os bydd eich cyflogwr o'r farn eich bod yn cymryd mwy o amser i ffwrdd nag y gall y cyflogwr ymdopi ag ef, bydd angen iddo roi gwybod i chi.
Beth sydd angen i mi ei wneud?
Os oes angen i chi ddefnyddio'r hawl hwn i gael amser i ffwrdd, mae angen i chi roi gwybod i'ch cyflogwr cyn gynted â phosibl. Os byddwch chi nôl yn y gwaith cyn i chi allu dweud wrth eich cyflogwr eich bod wedi cymryd amser i ffwrdd, bydd angen i chi esbonio pam y buoch i ffwrdd o hyd.
Os bydd angen mwy o amser i ddelio â'r broblem, rhowch wybod i'ch cyflogwr cyn gynted ag y gallwch, gan esbonio pam mae angen mwy o amser arnoch a faint yn fwy o amser y bydd ei angen arnoch, yn eich barn chi. Rhowch hyn yn ysgrifenedig os gallwch. Efallai bydd ffurflen gan eich cyflogwr i chi ei llenwi.
Beth os bydd fy nghyflogwr yn gwrthod rhoi amser i mi?
Os ydych chi'n credu bod eich cyflogwr wedi gwrthod rhoi amser i ffwrdd i chi a hynny'n afresymol, gallech gwyno i dribiwnlys cyflogaeth. Dylech wneud hyn o fewn tri mis o wrthod eich cais am amser i ffwrdd mewn argyfwng.
Mae cael yr hawl i gymryd amser i ffwrdd ar gyfer dibynyddion yn gallu rhoi rhywfaint o amddiffyniad cyfreithiol i chi. Os ydych chi'n credu bod eich cyflogwr wedi'ch trin chi'n annheg am eich bod chi wedi cymryd amser i ffwrdd i ddelio ag argyfwng neu helpu dibynnydd, gofynnwch i'ch undeb neu'ch cynghorydd cyfreithiol am gyngor.
Gofalwyr ifanc
Os ydych yn ofalwr ac o dan 18 oed, mae'n bwysig iawn eich bod yn derbyn y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch.
Mae'n ddyletswydd ar eich cyngor lleol i sicrhau nad yw eich dyletswyddau fel gofalwr yn effeithio ar eich addysg, eich datblygiad nac ansawdd eich bywyd yn gyffredinol. Rhaid iddyn nhw hefyd sicrhau nad yw eich gwaith fel gofalwr yn eich rhwystro rhag gwneud pethau eraill.
Cael asesiad anghenion yw'r cam cyntaf wrth helpu plentyn a'u teulu ac mae yna ystyriaethau penodol sy'n berthnasol i anghenion plant. Bydd y broses asesu ar gyfer plant yn cael ei wneud o dan y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 ond bydd hefyd yn ofynnol bod ymarferwyr yn casglu tystiolaeth oddi wrth y Fframwaith ar gyfer Asesu Plant mewn Angen a'u Teuluoedd i hysbysu pan fo angen y gofal a chynllun cefnogi. Rhaid gwrthod asesiad yn cael ei or-redeg lle byddai gwrthodiad o'r fath yn anghyson â phlentyn lles.
Gofalwyr rhieni plant anabl
Mae rhiant ofalwyr yn rhywun dros 18 sy'n darparu gofal ar gyfer plentyn anabl (dan 18 oed) y mae ganddynt gyfrifoldeb rhiant am. Mae'r Ddeddf Lles a Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) yn ei wneud yn ofynnol i gynghorau lleol i asesu rhieni sy'n ofalwyr ar ymddangosiad angen neu pan asesiad gofynnir am hyn gan y rhiant. Gall yr asesiad hwn yn cael ei gyfuno ag un ar gyfer y plentyn anabl, a gallai gael ei wneud gan yr un person ar yr un pryd. Mae'n rhaid i'r cyngor lleol hefyd fod yn fodlon bod y plentyn a'i deulu yn dod o fewn cwmpas y Ddeddf. Ni all cyngor lleol godi tâl am ofal a chymorth i blentyn.
Fel gofalwr, byddwch wedi hen arfer ysgwyddo cyfrifoldeb ar eich pen eich hun yn ôl pob tebyg. Fodd bynnag, nid yw hynny'n golygu bod yn rhaid i chi ymdopi ar eich pen eich hun bob amser neu eich bod ddim yn cael gofyn am gymorth gan bobl eraill.
Gallai'r cyngor canlynol eich helpu i leihau baich eich dyletswyddau fel gofalwr.
Cydnabod eich bod yn ofalwr
Er eich bod yn gofalu am rywun sydd angen eich cymorth, hwyrach nad ydych yn ystyried eich bod yn ofalwr. Nid yw hyn yn anghyffredin gan fod llawer o ofalwyr yn meddwl mai'r cyfan maen nhw'n ei wneud yw gwneud yr hyn sydd ei angen, neu edrych ar ôl ffrind neu berthynas.
Fodd bynnag, gall sylweddoli eich bod yn ofalwr a rhoi statws gofalwr i chi'ch hun fod o gymorth. Mae hynny'n golygu bod yn ymwybodol o'ch hawliau fel gofalwr, rhoi gwybod i bobl eraill am eich gwaith a chael yr holl gymorth sydd ei angen arnoch.
Gadewch i ffrindiau a'r teulu eich helpu
Efallai eich bod yn amharod i ofyn i ffrindiau neu berthnasau am eu cymorth gyda'ch cyfrifoldebau gofalu, a gallen nhw fod yn amharod i gynnig eich helpu am nad ydyn nhw eisiau awgrymu eich bod yn methu â dygymod ar eich pen eich hun. Fodd bynnag, nid yw parhau heb gymorth y rhai sydd agosaf atoch chi yn dda i chi a gall effeithio ar eich iechyd a'ch lles.
Ceisiwch drafod gyda'ch ffrindiau a'ch teulu faint o waith sy'n gysylltiedig â gofalu a rhowch wybod iddyn nhw y byddech yn falch o gael eu cymorth. Nid yw derbyn cymorth yn effeithio ar eich gallu fel gofalwr a gall hyd yn oed pethau bach fel gwneud y mân dasgau o gwmpas y cartref neu gymryd seibiant o ofalu o bryd i'w gilydd wneud gwahaniaeth er gwell.
Cofiwch ofalu am eich hun
Mae un o bob pump o ofalwyr wedi adrodd i Carers UK bod eu hiechyd eu hunain wedi cael ei effeithio o ganlyniad uniongyrchol i ofalu am rywun arall. Mae gofalwyr yn aml yn datblygu problemau cefn oherwydd codi heb hyfforddiant priodol, ac mae cyflyrau iechyd sy'n gysylltiedig â straen yn effeithio ar lawer o ofalwyr.
Mae'n hawdd anwybyddu'ch lles eich hun pan rydych chi'n gofalu am rywun arall. Fodd bynnag, os ydych chi'n ofalwr, mae'n bwysig eich bod chi'n cymryd peth amser yn rheolaidd i wneud rhywbeth rydych chi'n ei fwynhau, fel ymlacio gyda llyfr, neu ymweld â ffrindiau. Bydd cymryd amser i ofalu amdanoch eich hun yn helpu i atal straen a blinder, a gall wneud gofalu yn haws.
Carers UK - Cynllun wrth gefn
Pan fyddwch chi'n gofalu am rywun, gall bod â chynllun 'back up' ar waith roi tawelwch meddwl i chi os bydd digwyddiad annisgwyl neu heb ei gynllunio yn digwydd ac os na allwch barhau i ofalu. Er mwyn creu cynllun 'back up' da sy'n diwallu'ch anghenion chi ac anghenion yr unigolyn / unigolion rydych chi'n gofalu amdanynt, mae yna lawer i'w ystyried. Mae Carers UK wedi datblygu teclyn syml i'ch helpu chi i adeiladu eich cynllun 'back up' eich hun.
Cerdyn Brys Gofalwyr
Mae gofalwyr yn aml yn dweud wrthym eu bod yn poeni am yr hyn a fyddai'n digwydd i'r person y maent yn gofalu amdano pe byddent wedi cael damwain neu'n mynd yn analluog.
Mewn ymateb i hyn, mae Gofalwyr Cymru wedi datblygu cerdyn newydd i chi.
Pe bai argyfwng neu ddamwain yn digwydd, trwy gario'r cerdyn hwn, bydd yn rhoi gwybod i weithwyr brys ac eraill fod rhywun yn dibynnu arnoch chi fel gofalwr. Mae'r cerdyn yn darparu lleoedd ar gyfer cysylltiadau brys, er enghraifft teulu neu ffrindiau a all helpu.
Gallwch hefyd gael ffob allweddol gyda 'Rwy'n ofalwr' ar un ochr a rhif argyfwng o'ch dewis ar y cefn y gellir ei gadw ar eich allweddi bob amser.
Gallwch gael cerdyn neu ffob allwedd trwy ffonio Gofalwyr Cymru ar 029 2081 1370 neu anfon e-bost atom info@carerswales.org.
Gall y cyngor canlynol fod yn ddefnyddiol i'ch galluogi i gael yr help a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch fel gofalwr.
Rhowch wybod i bobl eraill eich bod yn ofalwr
Rhoi gwybod i bobl eraill am eich sefyllfa yw'r cam cyntaf i gael cymorth fel gofalwr. Nid oes cofrestr genedlaethol o ofalwyr, ond gall rhoi gwybod i weithwyr gofal iechyd proffesiynol, eich cyflogwr a'r rhai sydd agosaf atoch chi am eich gwaith fel gofalwr gynnig sawl math gwahanol o gymorth i chi.
Os ydych yn ofalwr dylech ddweud wrth
- Eich meddyg teulu - dylen nhw sicrhau eich bod yn cael archwiliad iechyd rheolaidd, yn cael brechlyn ffliw, ac efallai gallant gynnig amserau hyblyg ar gyfer apwyntiadau neu ymweld â chi gartref.
- Eich gwasanaethau cymdeithasol lleol - sy'n gallu rhoi asesiad gofalwr (gweler isod) er mwyn penderfynu faint o help sydd ei angen arnoch chi, cynnig gofal er mwyn i chi gael seibiant a rhoi cymhorthion ac offer byw.
- Eich cyflogwr - sy'n gorfod cynnig oriau hyblyg i chi ac amser i ffwrdd ar fyr rybudd (gweler adran y 'ffeithiau').
- Eich teulu a'ch ffrindiau - peidiwch â bod ofn gofyn iddyn nhw am eu help os oes angen help arnoch.
Cael asesiad gofalwr
Mae'r Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 yn berthnasol i bobl mewn angen, o unrhyw oedran, gan gynnwys gofalwyr. Pan ymddengys y gallai gofalwr fod ag angen am gefnogaeth, waeth faint neu fath o ofal a ddarperir, sefyllfa ariannol y gofalwr neu'r lefel y gefnogaeth a allai fod yn angenrheidiol i'r cyngor lleol mae'n rhaid cynnig asesiad.
Mae gennych hawl i asesiad gofalwr hyd yn oed os nad yw'r person rydych yn gofalu amdano yn dymuno cael cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol neu wedi cael ei asesu ond mae'r cyngor lleol wedi penderfynu nad ydynt yn gymwys i gael cymorth.
Bydd eich asesiad yn cael ei gynnal gan eich cyngor lleol er mwyn penderfynu beth sydd angen i chi ddechrau, neu i barhau, gofalu. Dylech gael cynnig asesiad ar ôl iddo ymddangos y gall fod gennych angen am gymorth, yn awr neu yn y dyfodol. Mae gennych hawl i gael asesiad a ydych yn byw gyda'r person eich bod yn gofalu ai peidio. Os nad ydych yn cael cynnig asesiad, gallwch ofyn am un pan fyddwch yn rhoi gwybod i'r gwasanaethau cymdeithasol am eich rôl fel gofalwr.
Chi a'r person yr ydych yn gofalu amdano fydd yn cymryd rhan yn yr asesiad, er gennych hawl cyfreithiol i asesiad gofalwr ar wahân gyda dy weithiwr cymdeithasol os ydych am.
Dylai eich gweithiwr cymdeithasol edrych ar bob elfen ar eich gwaith fel gofalwr, gan gynnwys unrhyw anawsterau corfforol a allai fod gennych yn ogystal â'ch gwaith ac elfennau emosiynol a chymdeithasol yn eich bywyd. Gall hyn fod yn ormod i'w ystyried gyda'i gilydd.
Sut gall asesiad gofalwr eich helpu chi
Ceir rhestr isod o'r mathau o gymorth i ofalwyr a allai fod ar gael i chi ar sail eich asesiad. Bydd y math o gymorth a gynigir i chi yn dibynnu ar y gwasanaethau sydd ar gael yn eich ardal leol.
Gofal cartref
Mae gofal cartref yn cynnwys cael cymorth gyda thasgau cyffredinol o gwmpas y cartref megis coginio a siopa. Gallai fod ar gael drwy'r gwasanaethau cymdeithasol.
Gofal dydd
Gall canolfannau gofal dydd roi'r cyfle i'r sawl yn eich gofal ymddiddori mewn hobïau newydd a threfnu gwibdeithiau. Gallen nhw hefyd roi'r cyfle i chi gael seibiant o roi gofal. Adrannau gwasanaethau cymdeithasol neu sefydliadau gwirfoddol, fel elusennau, sy'n rhedeg canolfannau gofal dydd.
Dyfeisiadau cymorth i fyw
Mae dyfeisiadau cymorth i fyw yn cynnwys teclynnau a dyfeisiadau sy'n gallu gwneud tasgau arferol yn haws i rywun anabl a'u gofalwr e.e. canllawiau, teclyn codi a throwyr tapiau. Mewn rhai achosion, gall y sawl rydych yn gofalu amdano dderbyn grant hefyd i addasu eu cartref ar gyfer eu hanghenion.
Taliadau uniongyrchol
Dyma daliadau gan y gwasanaethau cymdeithasol sy'n eich galluogi chi a'r sawl rydych yn gofalu amdano i brynu'r gwasanaethau sydd eu hangen arnoch chi yn hytrach na threfnu bod y gwasanaethau cymdeithasol yn eu darparu'n uniongyrchol.
Ar ôl eich asesiad, bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn llunio cynllun gofal sy'n amlinellu pa wasanaethau y cewch eu derbyn a lefel y cymorth a'r gefnogaeth sydd ar gael i chi. Os nad ydych yn fodlon ar ganlyniad eich asesiad, neu'r modd y cafodd ei gynnal, cewch gysylltu â Chyngor ar Bopeth (CAB) i wneud cwyn.
Hawliwch eich budd-daliadau ariannol
Fel gofalwr, gallech fod yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol drwy'r Lwfans Gofalwr. Mae rhai gofalwyr hefyd yn gallu hawlio mwy o arian drwy'r Premiwm Gofalwr. Cewch fwy o wybodaeth am y Lwfans Gofalwr a'r Premiwm Gofalwr yn adrannau'r 'ffeithiau' a 'dolenni dethol'.
Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn falch iawn o weithio gyda Phartneriaid Rhwydwaith ledled Cymru i ddarparu £1m o grantiau a gwasanaethau i gefnogi gofalwyr sy'n profi caledi y gaeaf hwn. Darganfyddwch fwy yma.
Cysylltwch â'ch cylch neu ganolfan gofalwyr agosaf
Mae cylchoedd a chanolfannau gofalwyr yn cynnig gwybodaeth, cymorth a ffordd o gwrdd a chymdeithasu â phobl eraill yn eich ardal sydd hefyd yn ofalwyr. Cewch wybod ble mae eich cylch gofalwyr agosaf yn adran y 'dolenni dethol'.