Cyflwyniad
Llithriad organau'r pelfis yw pan fydd 1 neu fyw o'r organau yn y pelfis yn llithro o'u safle arferol ac yn bolio i'r waun.
Gall y groth (yr wterws), y coluddyn, y bledren neu frig y wain lithro.
Nid yw lithriad yr organau yn bygwth bywyd, ond gall achosi poen ac anghysur.
Fel arfer, mae'n bosibl gwella'r symptomau trwy ymarfer llawr y pelfis a gwneud newidiadau i ffordd o fyw, ond bydd angen triniaeth feddygol weithiau.
Symptomau llithriad organau'r pelfis
Mae symptomau llithriad organau'r pelfis yn cynnwys:
- teimlad trwm o gwmpas gwaelod eich stumog a'ch organau cenhedlu
- anghysur fel pe bai'n llusgo yn eich gwain
- teimlo fel pe bai rhywbeth yn dod i lawr i'ch gwain – gall deimlo fel eistedd ar belen fach
- teimlo neu weld chwydd neu lwmp yn eich gwain neu'n dod allan o'ch gwain
- anghysur neu ddiffyg teimlad yn ystod cyfathrach rywiol
- problemau'n pasio dŵr – fel teimlo nad yw eich pledren yn gwacáu'n llwyr, angen mynd i'r tŷ bach yn amlach, neu ollwng ychydig o wrin pan fyddwch chi'n pesychu, yn tisian neu'n gwneud ymarfer corff (anymataliaeth straen)
Weithiau, nid oes symptomau i lithriad organau'r pelfis ac fe'i darganfyddir yn ystod archwiliad mewnol a wneir at ddiben arall, fel sgrinio serfigol.
Pryd i fynd i weld meddyg teulu
Ewch i weld meddyg teulu os oes gennych unrhyw rai o symptomau llithriad, neu os sylwch chi ar lwmp yn eich gwain neu o amgylch eich gwain.
Beth fydd yn digwydd yn eich apwyntiad
Bydd eich meddyg yn gofyn a all wneud archwiliad mewnol o'r pelfis.
I wneud hynny, bydd angen i chi dynnu'ch dillad o'ch canol i lawr a gorwedd yn ôl ar y gwely archwilio.
Yna, bydd eich meddyg yn teimlo am unrhyw lympiau yn ardal y pelfis a'r tu mewn i'ch gwain.
Gall roi offeryn o'r enw sbecwlwm i mewn i'ch gwain yn ofalus i ddal waliau'r wain ar agor i weld a all weld llithriad.
Weithiau, bydd yn gofyn i chi orwedd ar eich ochr chwith ac yn eich archwilio yn yr osgo hwnnw i gael golwg well ar y llithriad.
Gallwch ofyn i feddyg benywaidd wneud yr archwiliad hwn ac, os hoffech chi, gallwch ddod â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo gyda chi i'ch cefnogi.
Profion pellach
Os cewch chi broblemau gyda'ch pledren, gall meddyg teulu'ch atgyfeirio i'r ysbyty am brofion pellach.
Gall y rhain gynnwys:
- prawf wrin i chwilio am haint
- gosod tiwb bach yn eich pledren i chwilio am broblemau
Triniaeth ar gyfer llithriad organau'r pelfis
Os nad oes gennych unrhyw symptomau, neu mae'r llithriad yn ysgafn ac nid yw'n peri trafferth i chi, efallai na fydd angen triniaeth feddygol arnoch chi.
Ond bydd gwneud rhai newidiadau i'ch ffordd o fyw yn siwr o helpu.
Mae'r rhain yn cynnwys:
- colli pwysau os ydych chi dros eich pwysau
- osgoi codi pethau trwm
- atal neu drin rhwymedd
Os yw'r llithriad yn fwy difrifol neu os yw'r symptomau'n effeithio ar eich bywyd bob dydd, mae nifer o opsiynau triniaeth pellach i'w hystyried.
Mae'r rhain yn cynnwys:
- ymarferion llawr y pelfis
- triniaeth hormon
- pesarïau'r wain
- llawdriniaeth
Bydd y driniaeth argymelledig yn dibynnu ar y math o lithriad a'i ddifrifoldeb, eich symptomau a'ch iechyd yn gyffredinol.
Byddwch chi a'ch meddyg yn penderfynu gyda'ch gilydd ar yr opsiwn gorau i chi.
Achosion llithriad organau'r pelfis
Bydd llithriad organau'r pelfis yn digwydd pan fydd y grŵp o gyhyrau a meinweoedd sy'n cynnal organau'r pelfis fel arfer, sef llawr y pelfis, yn gwanhau ac ni all ddal yr organau yn dynn yn eu lle.
Gall nifer o bethau wanhau llawr y pelfis ac achosi mwy o siawns i chi ddatblygu llithriad organau'r pelfis.
Mae'r rhain yn cynnwys:
- beichiogrwydd a geni plant – yn enwedig os cawsoch chi esgoriad hir, anodd, neu os rhoddoch chi enedigaeth i faban mawr neu nifer o fabanod
- mynd yn hŷn a mynd drwy'r menopos
- bod dros eich pwysau
- rhwymedd hirdymor neu gyflwr iechyd hirdymor sy'n gwneud i chi besychu a straenio
- cael hysterectomi
- swydd sy'n galw am lawer o godi pethau trwm
Yn ogystal, gall rhai cyflyrau iechyd wneud llithriad yn fwy tebygol, gan gynnwys:
Mathau o lithriad
Dyma'r 4 prif fath o lithriad:
- bydd y bledren yn bolio i wal flaen y wain (llithriad pen blaen)
- bydd y wain yn bolio neu'n hongian i lawr i'r wain (llithriad y groth)
- bydd brig y wain yn hongian i lawr – mae hyn yn digwydd i rai menywod ar ôl iddynt gael llawdriniaeth i dynnu'r groth
- mae'r coluddyn yn bolio i wal gefn y wain (llithriad y wal ôl)
Mae'n bosibl cael mwy nag 1 o'r rhain ar y tro.
Bydd llithriad organau'r pelfis yn cael ei ddosbarthu fel arfer ar raddfa o 1 i 4 i ddangos pa mor ddifrifol ydyw, gyda 4 yn llithriad difrifol.
Triniaeth
Mae nifer o opsiynau triniaeth ar gael ar gyfer llithriad organau'r pelfis.
Bydd yr opsiwn mwyaf addas i chi'n dibynnu ar:
- ddifrifoldeb eich symptomau
- difrifoldeb y llithriad
- eich oedran a'ch iechyd
- a ydych chi'n bwriadu cael plant yn y dyfodol
Efallai na fydd angen triniaeth arnoch os llithriad ysgafn i gymedrol ydyw ac nid yw'n achosi poen nac anghysur.
Mae opsiynau triniaeth yn cynnwys:
- newidiadau i ffordd o fyw
- ymarferion llawr y pelfis
- triniaeth hormon
- pesarïau'r wain
- llawdriniaeth
Dylai eich meddyg gynnig yr ystod lawn o driniaethau i chi ac esbonio buddion a risgiau posibl pob opsiwn. Bydd hyn yn eich helpu i ddewis y driniaeth iawn i chi.
Newidiadau i ffordd o fyw
Os nad oes gennych symptomau neu os mymryn o lithriad ydyw, gall gwneud ychydig o newidiadau i'ch ffordd o fyw leddfu'ch symptomau ac atal y llithriad rhag gwaethygu.
Hefyd, gallant helpu i leihau risg llithro organau'ch pelfis yn y lle cyntaf.
Maent yn cynnwys:
- colli pwysau os ydych chi dros eich pwysau
- bwyta diet gyda llawer o ffibr i osgoi rhwymedd
- osgoi codi pethau trwm
Ymarferion llawr y pelfis
Bydd gwneud ymarferion llawr y pelfis yn cryfhau cyhyrau llawr y pelfis ac mae'n bosibl iawn y bydd yn lleddfu'ch symptomau.
Gall meddyg teulu neu arbenigwr argymell rhaglen hyfforddiant cyhyrau llawr y pelfis dan oruchwyliaeth am o leiaf 16 wythnos cyn i chi symud ymlaen i driniaethau neu lawdriniaeth eraill.
Dangosir i chi sut i wneud yr ymarferion. Os byddant yn helpu, gofynnir i chi barhau â nhw.
Triniaeth hormon (estrogen)
Os oes gennych fymryn o lithriad ac rydych wedi bod drwy'r menopos, gallai eich meddyg argymell triniaeth ag estrogen i leddfu rhai o'ch symptomau, fel sychder y wain neu anghysur yn ystod cyfathrach rywiol.
Mae estrogen ar gael ar ffurf:
- hufen rydych chi'n ei roi ar eich gwain
- tabled rydych chi'n ei roi yn eich gwain
- dolen weiniol sy'n rhyddhau estrogen
Pesarïau'r wain
Bydd dyfais rwber (latecs) neu silicon yn cael ei gosod yn y wain a'i gadael yn ei lle i gynnal waliau'r wain ac organau'r pelfis.
Bydd pesarïau'r wain yn caniatáu i chi feichiogi yn y dyfodol. Gallant gael eu defnyddio i leddfu symptomau llithriadau cymedrol neu ddifrifol ac maen nhw'n opsiwn da os nad allwch gael llawdriniaeth, neu os byddai'n well gennych beidio â chael llawdriniaeth.
Mae sawl maint a siâp gwahanol i besarïau'r wain, yn dibynnu ar eich angen. Yr enw ar y mwyaf cyffredin yw pesari dolen.
Gall fod angen i chi roi cynnig ar ychydig o wahanol fathau a meintiau i ddod o hyd i'r un sy'n gweithio orau i chi.
Fel arfer, bydd gynecolegydd neu nyrs arbenigol yn gosod pesari. Bydd angen ei dynnu, ei lanhau a'i newid yn rheolaidd.
Sgîl-effeithiau pesarïau'r wain
Weithiau, gall pesarïau'r wain achosi:
- rhedlif sy'n gwynto'n annymunol o'r wain, a allai fod yn arwydd o haint bacterol yn y wain (faginosis bacterol)
- rhywfaint o lid a doluriau yn eich gwain ac, efallai, gwaedu
- anymataliaeth straen, pan fyddwch chi'n pasio mymryn o ddŵr pan fyddwch yn pesychu, yn tisian neu'n gwneud ymarfer corff
- haint y llwybr wrinol
- ymyrryd â chyfathrach rywiol (ond gall y rhan fwyaf o fenywod gael cyfathrach rywiol heb unrhyw broblemau)
Gall y sgîl-effeithiau hyn gael eu trin fel arfer.
Llawdriniaeth
Os na fydd opsiynau anllawfeddygol wedi gweithio neu os bydd y llithriad yn fwy difrifol, gallai llawdriniaeth fod yn opsiwn.
Mae nifer o driniaethau llawfeddygol gwahanol ar gyfer llithriad organau'r pelfis.
Mae'r rhain yn cynnwys:
- atgyweirio llawfeddygol
- llawdriniaeth rhwyll y wain
- hysterectomi
- cau'r wain
Bydd eich meddyg yn trafod buddion a risgiau gwahanol driniaethau a, gyda'ch gilydd, byddwch yn penderfynu beth sydd orau i chi.
Atgyweirio llawfeddygol
Mae nifer o wahanol fathau o lawdriniaeth sy'n cynnwys codi a chynnal organau'r pelfis.
Gellid gwneud hyn trwy eu pwytho yn eu lle neu gynnal y meinweoedd presennol i'w cryfhau.
Fel arfer, gwneir gwaith atgyweirio llawfeddygol trwy wneud toriadau yn wal y wain o dan anesthetig cyffredinol.
Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n cysgu yn ystod y llawdriniaeth ac ni fyddwch yn teimlo poen.
Gall fod angen 6 i 12 wythnos i ffwrdd o'r gwaith arnoch i wella, yn dibynnu ar y math o lawdriniaeth y cewch.
Os hoffech gael plant yn y dyfodol, gallai eich meddygon awgrymu aros cyn cael y llawdriniaeth, oherwydd gall beichiogrwydd wneud i'r llithriad ddigwydd eto.
Llawdriniaeth rhwyll y wain
Ar hyn o bryd, nid yw'n bosibl cael llawdriniaeth rhwyll y wain ar gyfer llithriad organau'r pelfis drwy'r GIG heblaw bod dim dewis arall ar gael ac nid oes modd oedi, ac ar ôl trafodaeth fanwl rhyngoch chi a meddyg.
Yn y llawdriniaeth hon, bydd darn o rwyll synthetig, sef cynnyrch plastig sy'n edrych fel rhwyd, yn cael ei osod i ddal organau'r pelfis yn eu lle.
Mae'r rhwyll yn aros yn eich corff yn barhaol.
Byddwch yn cysgu yn ystod y llawdriniaeth ac, fel arfer, bydd angen i chi aros yn yr ysbyty am rhwng diwrnod a thridiau wedi hynny.
Mae ychydig fenywod wedi cael cymhlethdodau difrifol ar ôl llawdriniaeth rhwyll. Gall rhai o'r cymhlethdodau hyn, ond nid pob un ohonynt, ddigwydd ar ôl mathau eraill o lawdriniaeth hefyd.
Gall y cymhlethdodau gynnwys:
- poen hirhoedlog
- difrod parhaol i nerfau
- anymataliaeth
- rhwymedd
- problemau rhywiol
- mae'r rhwyll yn dod i'r golwg trwy feinweoedd y wain ac, weithiau, achosi anaf i organau gerllaw, fel y bledren neu'r coluddyn
Os ydych chi'n pryderu am rwyll y wain
Os cawsoch rwyll wedi'i gosod yn eich gwain yn y gorffennol ac rydych chi'n meddwl eich bod chi'n cael cymhlethdodau, siaradwch â'ch meddyg teulu neu'ch llawfeddyg.
Os nad ydych yn cael unrhyw gymhlethdodau, nid oes angen gwneud dim.
Mae llawer o fenywod wedi cael y mathau hyn o lawdriniaeth heb ddatblygu unrhyw broblemau wedi hynny.
Gallwch roi gwybod am broblem â meddyginiaeth neu ddyfais feddygol ar GOV.UK.
Dysgwch ragor am y rheolau ar gyfer defnyddio rhwyll y wain ar GOV.UK
Hysterectomi
I fenywod y mae'u croth wedi llithro ac maent wedi bod drwy'r menopos neu nid ydynt yn dymuno cael mwy o blant, gall meddyg argymell llawdriniaeth i dynnu'r groth (hysterectomi).
Gall helpu i liniaru'r pwysau ar waliau'r wain a lleihau'r siawns y bydd llithriad yn digwydd eto.
Ni allwch feichiogi ar ôl cael hysterectomi ac, weithiau, gall achosi i chi fynd drwy'r menopos yn gynnar.
Gall fod angen 6 i 12 wythnos i ffwrdd o'r gwaith i chi wella.
Cau'r wain
Weithiau, gall llawdriniaeth sy'n cau rhan neu'r cyfan o'r wain fod yn opsiwn.
Mae'r driniaeth hon yn cael ei chynnig dim ond i fenywod â llithriad difrifol, pan fydd triniaethau eraill heb weithio ac maent yn siwr nad ydynt yn bwriadu cael cyfathrach rywiol eto yn y dyfodol.
Gall y llawdriniaeth hon fod yn opsiwn da i fenywod eiddil na fyddent yn gallu cael llawdriniaeth fwy cymhleth.
Sgîl-effeithiau llawdriniaeth
Dylai eich meddyg gael trafodaeth fanwl gyda chi am risgiau a buddion y 4 math gwahanol o lawdriniaeth, gan gynnwys llawdriniaeth gosod rhwyll, cyn i chi benderfynu, gyda'ch gilydd, a allai un ohonynt fod yn opsiwn.
Hefyd, rhaid i feddygon gadw cofnodion manwl am y math o lawdriniaeth maen nhw'n ei wneud, gan gynnwys unrhyw gymhlethdodau gewch chi ar ôl i chi gael eich llawdriniaeth.
Dylech chi gael copi o'r cofnod hwn.
Mae sgîl-effeithiau posibl y 4 math o lawdriniaeth, gan gynnwys llawdriniaeth gosod rhwyll, yn cynnwys:
- risgiau sy'n gysylltiedig ag anesthesia
- gwaedu, a all fynnu trallwysiad gwaed
- difrod i'r organau cyfagos, fel eich pledren neu'ch coluddyn
- haint – gallech gael gwrthfiotigau i'w cymryd yn ystod ac ar ôl y llawdriniaeth i leihau ei risg
- newidiadau i'ch bywyd rhywiol, fel anghysur yn ystod cyfathrach rywiol – ond dylai hyn wella gydag amser
- rhedlif a gwaedu o'r wain
- cael mwy o symptomau llithriad, a all alw am ragor o lawdriniaeth
- tolchen waed (DVT) sy'n ffurfio yn un o'ch gwaedlestri, er enghraifft yn eich coes – gallech gael meddyginiaeth i helpu lleihau'r risg hon yn dilyn y llawdriniaeth
Os cewch unrhyw rai o'r symptomau canlynol ar ôl eich llawdriniaeth, rhowch wybod i'ch llawfeddyg neu feddyg teulu cyn gynted â phosibl:
- tymheredd uchel
- poen difrifol yn isel yn eich stumog
- gwaedu trwm o'r wain
- llosgi neu frathu pan fyddwch yn pasio dŵr
- rhedlif anarferol o'r wain – gall hyn fod yn haint
Dylai archwiliad gael ei gynnig i chi 6 mis ar ôl y llawdriniaeth, sy'n cynnwys archwiliad o'r wain.
Rhagor o wybodaeth i'ch helpu i ddewis pa fath o lawdriniaeth ar gyfer llithriad organau'r pelfis
Mae sawl canllaw defnyddiol y gallwch eu darllen i'ch helpu i benderfynu, gyda'ch meddyg, ar ba fath o lawdriniaeth fyddai'n iawn i chi:
Canllaw NICE: anymataliaeth wrinol a llithriad organau'r pelfis ymhlith menywod: rheoli - cymhorthion penderfyniadau cleifion a chanllawiau defnyddwyr
Gwella yn dilyn llawdriniaeth
Mae'n siwr y bydd angen i chi aros yn yr ysbyty dros nos neu am ychydig ddiwrnodau yn dilyn llawdriniaeth ar gyfer llithriad.
Efallai bydd gennych ddiferwr yn eich braich i ddarparu hylif a thiwb plastig tenau (cathetr wrinol) i ddraenio dŵr o'ch pledren.
Gall ychydig o rwyllen gael ei rhoi yn eich gwain fel rhwymyn am y 24 awr gyntaf, a all fod mymryn yn anghyfforddus.
Yn ystod yr ychydig ddiwrnodau neu wythnosau cyntaf yn dilyn eich llawdriniaeth, gallech gael ychydig o waedu o'r wain, yn debyg i fislif, ynghyd â rhywfaint o redlif o'r wain.
Gallai hyn bara 3 neu 4 wythnos. Yn ystod y cyfnod hwn, defnyddiwch gadachau mislif yn hytrach na thamponau.
Fel arfer, bydd eich pwythau'n toddi ar eu pen eu hunain ymhen ychydig wythnosau.
Ceisiwch symud o gwmpas cyn gynted â phosibl, ond gan orffwys yn dda bob ychydig oriau.
Dylech allu cael cawod ac ymolchi yn ôl yr arfer pan fyddwch chi wedi gadael yr ysbyty, ond gall fod angen i chi osgoi nofio am ychydig wythnosau.
Gorau fyddai osgoi cael cyfathrach rywiol am ryw 4 i 6 wythnos, hyd nes byddwch wedi gwella'n llwyr.
Bydd eich tîm gofal iechyd yn rhoi gwybod pryd y gallwch ddychwelyd i'r gwaith.
Dysgwch ragor am wella yn dilyn llawdriniaeth.