Tympan y glust trydyllog

Cyflwyniad

Perforated eardrum
Perforated eardrum

Twll yn nhympan y glust yw tympan drydyllog y glust neu dympan rwygiedig y glust. Fel arfer bydd yn gwella ymhen ychydig wythnosau ac efallai na fydd angen unrhyw driniaeth.

Ond mae'n syniad da i weld meddyg teulu os ydych chi'n meddwl bod tympan eich clust wedi rhwygo, gan y gall achosi problemau fel heintiau ar y glust.

Symptomau tympan drydyllog y glust

Mae arwyddion tympan drydyllog y glust neu haint ar y glust yn cynnwys:

  • colli clyw yn sydyn - efallai y byddwch chi'n cael anhawster clywed unrhyw beth neu efallai y bydd eich clyw ychydig yn aneglur
  • pigyn clust neu boen yn eich clust
  • cosi yn eich clust
  • hylif yn gollwng o'ch clust
  • tymheredd uchel
  • canu neu sïo yn eich clust (tinitws)

Bydd y symptomau yn dod i ben fel arfer pan fydd tympan eich clust wedi gwella a phan fydd unrhyw haint wedi'i thrin.

Pryd i weld meddyg teulu

Ewch i weld meddyg teulu:

  • os ydych chi'n meddwl bod tympan drydyllog y glust gennych
  • rydych eisoes wedi gweld meddyg teulu ac nid yw eich symptomau ddim gwell ar ôl ychydig wythnosau neu rydych chi'n cael symptomau newydd (fel pigyn clust, twymyn, cosi neu hylif yn gollwng o'r glust)

Fel arfer bydd tympan eich clust yn gwella heb driniaeth, ond gall meddyg teulu wirio am haint (y gall fod angen ei thrin) a siarad â chi am sut y gallwch ofalu am eich clust.

Bydd yn edrych i mewn i'ch clust gan ddefnyddio tortsh llaw fach gyda lens chwyddo. Bydd blaen hon yn mynd i mewn i'ch clust, ond dim ond ychydig bach, ac ni ddylai wneud dolur.

Pethau y gallwch chi wneud os oes gennych dympan drydyllog y glust

Nid oes angen trin tympan drydyllog y glust bob tro gan y bydd yn gwella ohono'i hun ymhen ychydig wythnosau fel arfer.

Pan fydd yn gwella, gall y cynghorion canlynol eich helpu i leddfu eich symptomau a lleihau'r siawns o gael haint yn eich clust.

  • peidiwch â rhoi unrhyw beth yn eich clust fel ffyn cotwm neu ddiferion clust (oni bai bod eich meddyg yn eu hargymell)
  • peidiwch â chael dŵr yn eich clust - peidiwch â mynd i nofio a byddwch yn ofalus iawn wrth gael cawod neu olchi eich gwallt
  • ceisiwch beidio â chwythu'ch trwyn yn rhy galed, gan y gall hyn ddifrodi tympan eich clust wrth iddi wella
  • daliwch glwt cynnes yn erbyn eich clust i helpu lleihau unrhyw boen
  • cymerwch boenladdwyr fel parasetamol neu ibwproffen i leddfu poen os oes angen (peidiwch â rhoi aspirin i blant o dan 16 oed)

Triniaethau ar gyfer tympan drydyllog y glust

Os oes gennych haint ar y glust wedi'i hachosi gan dympan drydyllog y glust, efallai y bydd meddyg teulu yn rhoi presgripsiwn am wrthfiotigau.

Os yw'r twll yn nhympan eich clust yn fawr neu os nad yw'n gwella ymhen ychydig wythnosau, gall meddyg teulu eich atgyfeirio at arbenigwr clustiau i siarad â chi ynglŷn â chael llawdriniaeth i atgyweirio tympan drydyllog y glust.

Achosion tympan drydyllog y glust

Gall twll yn nhympan y glust gael ei achosi gan:

  • haint ar y glust
  • anaf i dympan y glust, fel ergyd i'ch clust neu brocio rhywbeth fel ffon gotwm yn ddwfn i mewn i'ch clust
  • newidiadau mewn gwasgedd aer, fel wrth hedfan neu sgwba-blymio
  • sŵn uchel sydyn, fel ffrwydrad

Gall y cynghorion canlynol eich helpu i osgoi niweidio tympan eich clust:

  • ewch i weld meddyg teulu os oes gennych symptomau haint ar y glust am fwy na 2 neu 3 diwrnod
  • peidiwch â gwthio unrhyw beth yn ddwfn i mewn i'ch clustiau, gan gynnwys eich bysedd
  • gwisgwch amddiffyniad addas i'ch clustiau os ydych ynghanol synau uchel yn aml
  • wrth hedfan, ceisiwch lyncu, agor eich ceg, cnoi gwm neu sugno losinen galed wrth godi neu lanio

Llawdriniaeth

Efallai y bydd angen llawdriniaeth arnoch chi i atgyweirio tympan drydyllog eich clust os yw'r twll yn nhympan eich clust yn fawr neu os nad yw'n gwella ymhen ychydig wythnosau.

Mae'r math o driniaeth a gewch yn cael ei galw yn myringoplasti.

Beth sy'n digwydd yn ystod llawdriniaeth ar gyfer tympan drydyllog y glust

Fel arfer bydd llawdriniaeth i atgyweirio tympan rwygiedig y glust yn cael ei chynnal mewn ysbyty o dan anesthetig gyffredinol (lle byddwch yn cysgu).

Yn ystod y driniaeth:

  • gwneir toriad bach ychydig o flaen neu du ôl i'ch clust a bydd darn bach o feinwe yn cael ei dynnu o dan eich croen - bydd hyn yn gadael craith fach, a bydd eich gwallt yn ei gorchuddio fel arfer
  • defnyddir offer llawfeddygol bach i glytio'r twll yn nhympan eich clust gyda'r darn hwn o feinwe – gellir gwneud hyn drwy agoriad eich clust, neu drwy doriad bach a wneir yn ymyl eich clust
  • gosodir dresin yn eich clust i ddal y pats yn ei le ac i atal dŵr a germau rhag mynd i mewn – bydd hwn yn aros yn ei le am ryw ddwy i dair wythnos fel arfer
  • caiff padin gwlân cotwm ei roi dros eich clust a'i ddal yn ei le gyda bandais
  • bydd y toriad(au) yn eich croen yn cael ei gau gyda phwythau

Gall y rhan fwyaf o bobl fynd adref ar yr un diwrnod neu'r diwrnod ar ôl y llawdriniaeth.

Gwella o lawdriniaeth ar gyfer tympan drydyllog y glust

Fel arfer bydd yn cymryd ychydig wythnosau i dympan eich clust wella.

Bydd apwyntiad dilynol ar gyfer rhyw ddwy i dair wythnos ar ôl eich llawdriniaeth yn cael ei drefnu cyn i chi adael yr ysbyty neu'n fuan wedyn.

Gofalu amdanoch chi'ch hun

Ar ôl y llawdriniaeth:

  • gwnewch yn siŵr bod rhywun yn aros gyda chi am y 24 awr gyntaf – peidiwch â gyrru nac yfed alcohol yn ystod yr amser hwn
  • newidiwch y gwlân cotwm yn eich clust bob dydd (ond gadewch y dresin sy'n ddyfnach yn eich clust yn ei le)
  • osgowch wlychu eich clust – gosodwch wlân cotwm wedi'i orchuddio â jeli petrolewm (fel Vaseline) yn eich clust pan fyddwch chi'n cael cawod
  • efallai y bydd angen i chi aros i ffwrdd o'r gwaith (neu'r ysgol) am ryw wythnos – efallai y byddwch i ffwrdd am gyfnod hirach os yw eich swydd yn cynnwys llawer o symud neu blygu drosodd
  • ar ôl rhyw wythnos, siaradwch â'ch meddygfa deulu ynglŷn â thynnu eich pwythau (os nad ydyn nhw'n bwythau sy'n toddi eu hunain)

Gweithgareddau i'w hosgoi

Hyd nes i chi gael eich apwyntiad dilynol, osgowch:

  • hedfan
  • nofio
  • ysmygu
  • cyswllt agos gyda phobl sâl - gallech godi haint ar y glust
  • chwaraeon a gweithgareddau egnïol eraill
  • chwythu eich trwyn yn rhy galed – os oes angen i chi disian, ceisiwch gadw eich ceg ar agor i leihau'r pwysau yn eich clust

Bydd eich meddyg neu nyrs yn eich cynghori pryd i fynd yn ôl i wneud gweithgareddau arferol.

Pryd i gael cyngor meddygol

Mae'n arferol i gael rhywfaint o anesmwythder, y bendro, synau anarferol yn eich clust ac ychydig o waedu am yr ychydig ddiwrnodau cyntaf ar ôl llawdriniaeth.

Cysylltwch â'r ysbyty neu'ch meddyg teulu:

  • os oes llawer o hylif neu waed yn dod o'ch clust, yn enwedig os yw'r hylif yn gwynto'n ddrwg
  • os oes gennych boen sy'n ddifrifol ac nid yw poenladdwyr yn ei leddfu
  • os ydych chi'n teimlo'n benysgafn iawn ac nid yw'r penysgafnder yn gwella ymhen ychydig ddiwrnodau
  • os yw eich clust yn goch, wedi chwyddo ac yn goslyd

Risgiau llawdriniaeth ar gyfer tympan drydyllog y glust

Nid yw llawdriniaeth i atgyweirio tympan drydyllog y glust yn achosi unrhyw broblemau difrifol fel arfer.

Ond mae risgiau posibl yn cynnwys:

  • haint yn y clwyf, sy'n gallu achosi poen, gwaedu neu hylif yn gollwng – cysylltwch â'r ysbyty neu'ch meddyg teulu os yw'r symptomau hyn gennych
  • canu neu sïo yn eich clust (tinitws) - fel arfer bydd hyn yn gwella ymhen amser, ond gall fod yn barhaol weithiau
  • newidiadau mewn blas – newidiadau dros dro yw'r rhain fel arfer, ond gallant fod yn barhaol o bryd i'w gilydd
  • clyw wedi gwaethygu neu golli clyw – ond anaml y collir clyw yn barhaol 
  • methu symud cyhyrau mewn rhan o'r wyneb – gallai hyn wella dros amser, ond gall fod yn barhaol mewn achosion prin

Cyn i chi gael llawdriniaeth, siaradwch â'ch llawfeddyg ynglŷn â manteision a risgiau posibl y driniaeth.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 12/06/2024 15:18:38