Trais ac Ymosodiad Rhywiol

Cyflwyniad

Os oes rhywun wedi ymosod yn rhywiol arnoch, a chithau'n oedolyn neu'n berson ifanc, mae'n bwysig cofio nad eich bai chi oedd yr ymosodiad. Mae trais rhywiol yn drosedd, ni waeth pwy sy'n ei gyflawni nac ymhle y mae'n digwydd. Peidiwch â bod ofn cael help. 

Beth yw ymosodiad rhywiol?

Gweithred rywiol na wnaeth person gydsynio iddo, neu weithred y gorfodwyd person i'w gyflawni yn erbyn ei ewyllys, yw ymosodiad rhywiol. Mae'n fath o drais rhywiol ac mae'n cynnwys treisio (ymosodiad sy'n cynnwys treiddio'r wain, yr anws neu'r geg), neu droseddau rhywiol eraill, fel cyffwrdd, cusanu dan orfod, cam-drin plant yn rhywiol neu arteithio rhywun mewn modd rhywiol.

Mae ymosodiad rhywiol yn weithred sy'n cael ei chyflawni heb gydsyniad gweithredol y dioddefwr. Mae hyn yn golygu na chytunodd y dioddefwr i'r weithred.

Nid yw diffyg anafiadau corfforol neu arwydd o'u hymosodiad yn anghyffredin i ddioddefwr ymosodiad rhywiol. Ond mae ymosodiad rhywiol yn drosedd o hyd a gellir rhoi gwybod i'r heddlu amdano yn union fel troseddau eraill. 

Dangosodd Arolwg Troseddau Cymru a Lloegr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2018 fod yr heddlu wedi cofnodi 150,732 o droseddau rhywiol, yn cynnwys treisio (53,977 achos) ac ymosodiad rhywiol, a gweithgarwch rhywiol gyda phlant hefyd. 

Mae'r rhan fwyaf o ymosodiadau rhywiol yn cael eu cyflawni gan rywun y mae'r dioddefwr yn ei adnabod, efallai partner, cyn-bartner, perthynas, ffrind neu gydweithiwr. Gall yr ymosodiad ddigwydd mewn sawl lle, ond bydd fel arfer yn digwydd yn nghartref y dioddefwr neu gartref y cyflawnydd honedig  (y sawl sy'n cyflawni'r ymosodiad). 

Gall trais neu ymosodiad rhywiol ddigwydd i bobl o bob oedran. 

Os yw rhywun wedi ymosod yn rhywiol arnoch

Os yw rhywun wedi ymosod yn rhywiol arnoch, mae gwasanaethau sy'n gallu helpu. Nid oes rhaid i chi roi gwybod i'r heddlu am yr ymosodiad, os nad ydych am wneud. Gall fod angen amser arnoch i feddwl am yr hyn sydd wedi digwydd i chi. Serch hynny, ystyriwch gael help meddygol cyn gynted â phosibl, oherwydd gallai fod risg beichiogrwydd i chi neu heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. Os ydych am i'r drosedd fod yn destun ymchwiliad, gorau po gyntaf y bydd archwiliad meddygol fforensig yn digwydd. 

Ceisiwch beidio ag ymolchi na newid eich dillad yn syth ar ôl ymosodiad rhywiol. Gall hyn ddinistrio tystiolaeth fforensig a allai fod yn bwysig os penderfynwch roi gwybod i'r heddlu am yr ymosodiad. 

Bydd y man lle'r ewch am help yn dibynnu ar beth sydd ar gael yn eich ardal a beth rydych chi am ei wneud. I gael sylw meddygol arbenigol a chymorth ynghylch trais rhywiol, p'un a fyddwch chi'n penderfynu cael archwiliad meddygol fforensig ai peidio, y lle cyntaf i droi ato yw canolfan atgyfeirio ymosodiadau rhywiol (SARC). 

Bydd y gwasanaethau canlynol yn darparu triniaeth neu gymorth hefyd, a gallant eich atgyfeirio i wasanaeth arall os bydd angen help mwy arbenigol arnoch chi (fel SARC): 

  • meddyg neu nyrs practis yn eich meddygfa
  • mudiad gwirfoddol, fel Cymorth i Fenywod, Cymorth i Ddioddefwyr, The Survivors Trust neu Survivors UK (i ddioddefwyr gwrywaidd ymosodiadau rhywiol)
  • y Llinell Gymorth Cam-drin Domestig 24 awr, rhad ac am ddim, ar 0808 80 10 800.
  • llinell gymorth genedlaethol, rhadffôn, Rape Crisis ar 0808 802 9999 (12-2.30pm a 7-9.30pm bob diwrnod o'r flwyddyn)
  • adran damweiniau ac achosion brys ysbyty (A&E) 
  • clinig meddygaeth cenhedlol-wrinol (GUM) neu glinig iechyd rhywiol
  • clinig dulliau atal cenhedlu
  • gwasanaeth pobl ifanc
  • 111
  • yr heddlu, neu ffoniwch 101
  • mewn argyfwng, ffoniwch 999

Os ydych wedi cael eich sbeicio

Sbeicio yw rhoi alcohol neu gyffuriau yn eich diod heb eich caniatâd.

Os yw eich diod wedi cael ei sbeicio neu cawsoch chi bigiad o sylwedd anhysbys, ac rydych chi'n amau bod rhywun wedi ymosod yn rhywiol arnoch, ewch i'ch canolfan atgyfeirio ymosodiadau rhywiol (SARC) agosaf i gael gofal a chymorth arbenigol. 

Os ydych chi wedi cael eich sbeicio ond ni ymosodwyd arnoch chi'n rhywiol, ffoniwch 111 i gael cyngor meddygol ar frys os oes gennych unrhyw symptomau sy'n eich pryderu chi.

Hefyd, cysylltwch â'r heddlu i roi gwybod iddynt beth sydd wedi digwydd.

Canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol

Mae canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol (SARC) yn cynnig cymorth meddygol, ymarferol ac emosiynol. Mae ganddynt feddygon, nyrsys a gweithwyr cymorth sydd wedi hyfforddi'n arbenigol i ofalu amdanoch chi.

Mae canolfannau SARC ar gael i bawb, ni waeth beth yw eich rhywedd, oedran neu'r math o ddigwyddiad, na ble y digwyddodd.

Os penderfynwch chi roi gwybod i'r heddlu am yr ymosodiad, gall yr heddlu drefnu i chi fynd i SARC i gael gofal meddygol ac, os byddwch chi'n dymuno hynny, archwiliad meddygol fforensig.

Os nad ydych wedi rhoi gwybod i'r heddlu am yr ymosodiad, gallwch chi atgyfeirio'ch hun i SARC am asesiad a thriniaeth feddygol i atal rhai heintiau STI a beichiogrwydd.

Os byddwch chi'n atgyfeirio'ch hun i SARC ac yn ystyried rhoi gwybod i'r heddlu am yr ymosodiad, gall y ganolfan drefnu i chi gael sgwrs anffurfiol gyda swyddog heddlu sydd wedi hyfforddi'n arbenigol, sy'n gallu esbonio'r hyn sydd ynghlwm.

Hefyd, mae cynghorwyr sydd wedi hyfforddi'n arbenigol ar gael mewn rhai canolfannau SARC neu mewn mudiadau gwirfoddol i helpu pobl yr ymosodwyd yn rhywiol arnynt. Mae'r cynghorwyr annibynnol hyn ar drais rhywiol (ISVA) yn gallu helpu dioddefwyr i gael at y gwasanaethau cymorth eraill y mae arnynt eu hangen. Hefyd, byddant yn eich cynorthwyo â'r system cyfiawnder troseddol os penderfynwch chi roi gwybod i'r heddlu am yr ymosodiad, gan gynnwys eich cefnogi yn ystod yr achos llys, pe bai'r achos yn mynd i'r llys. 

Gallwch ddweud wrth rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo i ddechrau, fel ffrind, perthynas neu athro, a all eich helpu i gael y cymorth y mae arnoch ei angen. Mae gwasanaethau SARC a chymorth ISVA ar gael am ddim i bawb, p'un a ydych yn breswylydd yn y DU ai peidio.

Archwiliad meddygol fforensig 

Os ymosodwyd yn rhywiol arnoch, nid oes rhaid i chi gael archwiliad meddygol fforensig, ond gall ddarparu tystiolaeth ddefnyddiol os aiff yr achos i'r llys.

Gallwch benderfynu ar unrhyw adeg os hoffech gael archwiliad meddygol fforensig, ond bydd mwy o siawns o gasglu tystiolaeth, y cynharaf y bydd hwn yn digwydd. Os digwyddodd yr ymosodiad fwy na 7 niwrnod yn ôl, mae'n werth gofyn o hyd am gyngor gan SARC neu ofyn i'r heddlu am archwiliad meddygol fforensig.

Fel arfer, bydd yr archwiliad meddygol fforensig yn digwydd mewn SARC neu ystafell yr heddlu. Meddyg neu nyrs sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol ar feddygaeth fforensig ymosodiadau rhywiol fydd yn cynnal yr archwiliad.

Bydd y meddyg neu'r nyrs yn gofyn unrhyw gwestiynau iechyd perthnasol - er enghraifft am yr ymosodiad neu unrhyw weithgarwch rhywiol diweddar. Bydd yn cymryd samplau, fel swabiau o unrhyw fan lle y cawsoch eich cusanu, eich cyffwrdd neu eich treiddio. Hefyd, bydd yn cymryd samplau wrin a gwaed ac, weithiau, gwallt, yn dibynnu ar y wybodaeth a ddarparwch am yr ymosodiad, a bydd hefyd yn cadw rhai dillad ac eitemau eraill.

Os nad ydych wedi penderfynu p'un ai i gynnwys yr heddlu, bydd unrhyw dystiolaeth feddygol fforensig a gesglir yn cael ei storio yn y SARC i roi amser i chi benderfynu a ydych am roi gwybod am yr ymosodiad. Bydd ISVA, a elwir weithiau'n eiriolydd, hefyd yn cynnig cymorth ymarferol ac emosiynol, p'un ai a ydych am gynnwys yr heddlu ai peidio. 

Os byddwch chi'n rhoi gwybod i'r heddlu am yr ymosodiad

Os penderfynwch chi roi gwybod i'r heddlu, bydd swyddog yr heddlu sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol ar gefnogi dioddefwyr ymosodiadau rhywiol yn siarad â chi ac yn helpu sicrhau eich bod yn deall beth sy'n digwydd ym mhob cam.

Bydd yr heddlu'n ymchwilio i'r ymosodiad. Bydd hyn yn cynnwys archwiliad meddygol fforensig a byddwch yn gwneud datganiad am yr hyn ddigwyddodd. Bydd yr heddlu'n trosglwyddo'u canfyddiadau, gan gynnwys yr adroddiad fforensig, i Wasanaeth Erlyn y Goron, a fydd yn penderfynu a ddylai'r achos fynd i'r llys.

I ddysgu rhagor am gynnwys ymchwiliad ac achos llys, gallwch: 

Cyfrinachedd

Cedwir eich manylion mor gyfrinachol â phosibl. Fodd bynnag, os bydd ymchwiliad heddlu neu erlyniad troseddol yn gysylltiedig â'r ymosodiad, mae unrhyw ddeunydd sy'n gysylltiedig â'r ymosodiad yn "ddatgeladwy". Mae hyn yn golygu y gall fod yn rhaid ei gynhyrchu yn y llys. 

Os na fydd ymchwiliad nac erlyniad, ni fydd gwybodaeth amdanoch yn cael ei rhannu gyda gwasanaethau eraill heb eich caniatâd, oni bai bod pryder bod risg niwed difrifol i chi neu i rywun arall.

Cefnogi dioddefwr ymosodiad rhywiol

Mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn yn rhoi cyngor i berthnasau a ffrindiau rhywun sydd wedi dioddef ymosodiad rhywiol, ar beth i'w wneud i helpu. Mae'r cyngor yn cynnwys: 

  • Peidiwch â'u barnu na rhoi'r bai arnynt. Nid bai'r sawl sydd wedi'i gam-drin yw ymosodiad rhywiol fyth.
  • Gwrandewch arnynt, ond peidiwch â gofyn am fanylion yr ymosodiad. Peidiwch â gofyn pam na wnaethant atal yr ymosodiad. Gall hyn wneud iddynt deimlo fel petaech chi'n rhoi'r bai arnynt.
  • Cynigiwch gymorth ymarferol, fel mynd gyda nhw i apwyntiadau.
  • Parchwch eu penderfyniadau – er enghraifft, a ydynt am roi gwybod i'r heddlu am yr ymosodiad ai peidio.
  • Cofiwch efallai na fyddant am i neb gyffwrdd â nhw. Gallai cwtsh hyd yn oed eu cynhyrfu, felly gofynnwch yn gyntaf. Os ydych chi mewn perthynas rywiol â nhw, byddwch yn ymwybodol y gall cyfathrach rywiol godi ofn, a pheidiwch â rhoi pwysau arnynt i gael rhyw.
  • Peidiwch â dweud wrthynt anghofio am yr ymosodiad. Bydd yn cymryd amser iddynt ddelio â'u teimladau a'u hemosiynau. Gallwch helpu trwy wrando a bod yn amyneddgar.


Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 13/03/2024 12:45:50