Cyflwyniad
Mae cael profion a thriniaeth am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs) yn rhwydd ac yn gyfrinachol. Gall y rhan fwyaf o heintiau gael eu gwella.
Mae clinigau iechyd rhywiol neu glinigau meddyginiaeth genhedlol-droethol (GUM) yn arbenigo mewn iechyd rhywiol ac yn darparu profion a thriniaethau ar gyfer llawer o STIs.
Ymweld â chlinig STI
Gallwch chi drefnu apwyntiad i fynd yno, neu weithiau bydd clinig taro i mewn (sydd yn golygu y gallwch droi mewn heb apwyntiad). Mae hi'n bosib y byddwch yn teimlo embaras ond nid oes angen: mae'r gweithwyr yn y clinigau hyn wedi arfer â gwneud profion am bob math o haint. Dyna yw eu swydd, a ni fyddant eich barnu chi. Dylen nhw wneud eu gorau er mwyn esbonio popeth ac yn gwneud i chi deimlo'n esmwyth.
Fe fedrwch chi fynd at glinig iechyd rhywiol pa oed bynnag ydych chi, gyda symptomau STI ai peidio. Os byddwch o dan 16 oed mae'r gwasanaeth yn dal yn gyfrinachol a ni fydd y clinig yn dweud wrth eich rhieni.
Os byddan nhw'n amau eich bod chi neu berson ifanc arall â risg o niwed, gall fod rhaid iddyn nhw ddweud wrth wasanaethau gofal iechyd eraill. Ond fe fyddan nhw'n dweud wrthych chi cyn eu bod yn gwneud felly.
Dewch o hyd i wasanaethau iechyd rhywiol yn lleol i chi, gan gynwys clinigau iechyd rhywiol a GUM.