Mae crensian dannedd (sydd hefyd yn cael ei alw'n frwcsedd) yn gysylltiedig â straen neu orbryder, yn aml. Mae pethau y gallwch eu gwneud i helpu ac mae triniaethau ar gael gan ddeintydd neu feddyg teulu.
Achosion crensian dannedd
Nid yw'n glir bob amser beth sy'n gwneud i bobl grensian eu dannedd.
Yn aml, mae'n gysylltiedig â:
- straen a gorbryder – dyma achos mwyaf cyffredin crensian dannedd
- problemau cwsg, fel chwyrnu ac apnoea cwsg
- cymryd meddyginiaethau penodol, gan gynnwys math o wrthiselydd o'r enw atalydd ailafael serotonin dewisol (SSRI)
- ysmygu, yfed llawer o alcohol a chaffein, a chymryd cyffuriau fel ecstasi a chocên
Mae crensian dannedd yn gyffredin ymhlith plant a phobl ifanc yn eu harddegau, yn enwedig wrth gysgu. Mae'n aml yn dod i ben pan fyddant yn cyrraedd oedolaeth ac mae eu dannedd oedolyn wedi torri trwodd.
Sut i leihau crensian dannedd
Mae nifer o bethau y gallwch roi cynnig arnynt, a all helpu os ydych chi'n crensian eich dannedd.
- mynnwch ffyrdd o ymlacio – er enghraifft trwy wneud ymarferion anadlu, gwrando ar gerddoriaeth a gwneud ymarfer corff yn rheolaidd
- ceisiwch wella eich cwsg trwy fynd i'r gwely'r un amser bob nos, ymlacio cyn amser gwely a gwneud yn siwr bod eich ystafell wely yn dywyll ac yn dawel
- llyncwch boenleddfwyr fel parasetamol neu ibuprofen os oes gennych boen neu chwyddo yn y safn
- defnyddiwch becyn iâ (neu becyn o bys rhewedig) wedi'i lapio mewn lliain am 20 i 30 munud i helpu lleihau poen neu chwyddo yn y safn
- ewch at y deintydd yn rheolaidd
Peidiwch ag
- ysmygu
- yfed gormod o alcohol
- cymryd cyffuriau fel ecstasi neu gocên
- cnoi gwm na bwyta bwydydd caled os oes gennych boen yn y dannedd neu'r safn
Symptomau crensian dannedd
Gall crensian dannedd ddigwydd tra byddwch chi ar ddihun neu'n cysgu.
Yn ogystal â chrensian eich dannedd a chlensio'ch safnau, gall symptomau eraill gynnwys:
- poen yn yr wyneb, y gwddf a'r ysgwydd
- safn boenus, a all arwain at gyflwr o'r enw anhwylder arleisiol-fandiblaidd (TMD)
- dannedd sydd wedi gwisgo neu dorri, a all achosi mwy o sensitifrwydd a cholli dannedd a llenwadau
- pen tost/cur pen
- pigyn clust
- tarfu ar gwsg
Ewch at y deintydd os ydych chi:
- yn crensian eich dannedd ac mae gennych ddifrod i'ch dannedd neu ddannedd sensitif
- yn crensian eich dannedd ac mae gennych boen yn eich safn, eich wyneb neu'ch clust
- yn poeni bod eich plentyn yn crensian ei ddannedd
Chwilio am ddeintydd.
Ewch at y meddyg teulu os oes angen help arnoch gyda rhai o achosion crensian dannedd, fel straen, gorbryder, ysmygu, yfed gormod neu gymryd cyffuriau.
Triniaethau ar gyfer crensian dannedd
Nid oes angen triniaeth bob amser ar gyfer crensian dannedd.
Triniaethau gan ddeintydd
Gall deintydd argymell gard ceg neu sblint ceg.
Mae'r rhain yn cael eu gwisgo dros nos ac maent yn amddiffyn eich dannedd rhag difrod. Gallant gael eu gwneud gan ddeintydd i ffitio'n union dros eich dannedd uwch neu is.
Triniaethau gan feddyg teulu
Gall meddyg teulu roi cyngor i chi ac argymell triniaethau ar gyfer lleihau straen.
Hefyd, bydd yn gallu rhoi help os ydych chi am roi'r gorau i ysmygu, neu os oes angen cyngor arnoch am gaethiwed i gyffuriau neu yfed llai o alcohol.