Temporomandibular (jaw) joint disorder
Cyflwyniad
Mae anhwylder arleisiol-fandiblaidd (Temporomandibular disorder ((TMD)) yn gyflwr sy'n effeithio ar gymal a chyhyrau'r safn. Nid yw'n ddifrifol fel arfer ac mae'n aml yn gwella ar ei ben ei hun ymhen ychydig wythnosau.
Symptomau anhwylder temporomandibular (TMD)
Mae symptomau anhwylder arleisiol-fandiblaidd yn cynnwys:
- poen o gwmpas eich safn, eich clust a'ch arlais
- synau clicio, popian neu grensian pan fyddwch yn symud eich safn
- pen tost/cur pen o gwmpas eich arleisiau
- trafferth agor eich ceg yn llawn
- eich safn yn cloi wrth i chi agor eich ceg
Gall y poen fod yn waeth wrth gnoi a phan fyddwch chi'n teimlo o dan straen.
Gall anhwylder arleisiol-fandiblaidd eich atal rhag cael noson dda o gwsg hefyd.
Hunanofal
Mae rhai pethau syml y gallwch eu gwneud i geisio lleihau'r poen yn eich safn.
- bwytewch fwyd meddal, fel pasta, omledau a chawl
- llyncwch barasetamol neu ibuprofen
- daliwch becynnau iâ neu becynnau gwres wrth y safn, p'un bynnag sy'n teimlo'n well
- tylinwch gyhyrau'r safn
- ceisiwch ddod o hyd i ffyrdd o ymlacio
Peidiwch:
- cnoi gwm na thop beiro
- cnoi bwyd gyda'ch dannedd blaen
- dylyfu gên yn rhy llydan
- cnoi eich ewinedd
- clensio eich dannedd
- gorffwys eich gên ar eich llaw
Pryd i geisio cyngor meddygol
Gallwch geisio triniaeth ar gyfer anhwylder arlais-fandiblol gan ddeintydd neu feddyg teulu.
Cysylltwch â'ch meddyg teulu:
- os na allwch yfed na bwyta
- os yw'r poen yn effeithio ar eich bywyd
- os yw'r poen yn effeithio ar eich cwsg
- os yw'r poen a'r anghysur yn dod yn ôl yn barhaus
Gallai eich meddyg teulu awgrymu:
- poenleddfwyr cryfach
- technegau ymlacio i leihau straen
- ffyrdd o wella'ch cwsg
Hefyd, gellir argymell eich bod yn gweld:
- deintydd os gall crensian dannedd fod yn broblem
- seicolegydd os yw straen a gorbryder yn gwaethygu eich poen
- ffisiotherapydd am gyngor ar ymarferion a thylino'r safn
Os na fydd y triniaethau hyn yn helpu, gallech gael eich cyfeirio at arbenigwr ar broblemau'r cymalau i drafod opsiynau eraill, fel pigiadau lleddfu poen neu lawdriniaeth.
Achosion anhwylder arlais-fandiblol (TMD)
Mae anhwylder arleisiol-fandiblaidd yn gysylltiedig â:
- chrensian dannedd
- traul a gwisgo'r cymal
- ergyd i'r pen neu i'r wyneb
- straen
- brathiad anghyson
Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan
wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf:
06/03/2024 11:36:04