Llyngyr edau

Cyflwyniad

Threadworms
Threadworms

Llyngyr bach iawn yn eich carthion yw llyngyr edau (edeulyngyr). Maent yn gyffredin ymhlith plant ac yn lledaenu'n hawdd. Gallwch eu trin heb fynd i weld eich meddyg teulu.

Gwiriwch ai llyngyr edau ydyw

Gallwch weld llyngyr edau yn eich carthion (cachu). Maent yn edrych fel darnau o edau gwyn.

Efallai y byddwch yn eu gweld hefyd o gwmpas pen ôl eich plentyn (anws).  Mae'r llyngyr fel arfer yn dod allan yn ystod y nos tra bydd eich plentyn yn cysgu.

Gall symptomau eraill gynnwys:

  • cosi ofnadwy o amgylch yr anws (twll pen ôl) neu'r wain, yn enwedig yn ystod y nos
  • anniddigrwydd a deffro yn ystod y nos

Mae arwyddion llai cyffredin o lyngyr yn cynnwys:

  • colli pwysau
  • gwlychu'r gwely
  • croen llidiog o amgylch yr anws

Gall fferyllydd helpu gyda llyngyr edau

Mae llyngyr edau yn un o'r cyflyrau a gwmpesir gan y Cynllun Anhwylderau Cyffredin, sef gwasanaeth y GIG y gall cleifion gael mynediad ato i gael cyngor am ddim a thriniaeth am ddim ac sydd ar gael mewn 99% o fferyllfeydd yng Nghymru.
Dewch o hyd i'ch fferyllfa agosaf yma.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am y gwasanaeth yma.

Gallwch brynu meddyginiaeth ar gyfer llyngyr edau o fferyllfeydd. Tabled y gellir ei chnoi neu hylif i'w lyncu yw hon fel arfer.

Dylech drin pawb yn eich cartref, hyd yn oed os nad oes symptomau ganddynt.

Dywedwch wrth eich fferyllydd os oes angen i chi drin plentyn o dan 2 oed, neu os ydych chi'n feichiog neu'n bwydo ar y fron. Efallai na fydd triniaeth yn addas a gall fod angen i chi siarad â meddyg teulu.

Pethau y dylech eu gwneud gartref

Mae meddyginiaeth yn lladd y llyngyr edau, ond nid yw'n lladd yr wyau. Gall wyau fyw am hyd at 2 wythnos y tu allan i'r corff.

Mae yna bethau y gallwch eu gwneud i'ch atal rhag cael eich heintio eto.

Gwnewch yn siwr eich bod yn:

  • golchi'ch dwylo a sgrwbio o dan yr ewinedd - yn enwedig cyn bwyta, ar ôl defnyddio'r toiled neu newid cewynnau/clytiau
  • annog plant i olchi'u dwylo'n rheolaidd
  • cael bath neu gawod bob bore
  • rinsio brwshys dannedd cyn eu defnyddio
  • cadw ewinedd yn fyr
  • golchi dillad nos, cynfasau, tywelion a theganau meddal (ar dymheredd arferol)
  • diheintio arwynebau'r gegin a'r ystafell ymolchi
  • hwfro a thynnu llwch gyda chadach llaith
  • sicrhau bod plant yn gwisgo dillad isaf yn y nos - newidiwch nhw yn y bore

Peidiwch ag:

  • ysgwyd dillad na dillad gwely, er mwyn atal wyau rhag glanio ar arwynebau eraill
  • ysgwyd tywelion neu glytiau
  • cnoi'ch ewinedd na sugno'ch bawd a'ch bysedd

Pwysig

Nid oes angen i chi aros gartref o'r ysgol, y feithrinfa na'r gwaith gyda llyngyr edau.

Sut mae llyngyr edau yn lledaenu

Mae llyngyr edau yn lledaenu pan fydd eu hwyau yn cael eu llyncu. Maent yn dodwy wyau o amgylch eich anws (twll pen ôl), sy'n achosi iddo gosi. Mae'r wyau yn mynd yn sownd ar flaenau eich bysedd wrth i chi grafu. Wedyn, gallant gael eu trosglwyddo i unrhyw beth y byddwch yn cyffwrdd ag ef, gan gynnwys:

  • dillad
  • teganau
  • brwshys dannedd
  • arwynebau yn y gegin neu'r ystafell ymolchi
  • dillad gwely
  • bwyd
  • anifeiliaid anwes

Gall wyau drosglwyddo i bobl eraill wedyn pan fyddant yn cyffwrdd â'r arwynebau hyn ac yn cyffwrdd â'u ceg. Maent yn cymryd rhyw 2 wythnos i ddeor.

Gall plant gael llyngyr eto ar ôl iddynt gael eu trin ar eu cyfer os ydynt yn cael yr wyau yn eu ceg. Dyma pam ei bod hi'n bwysig annog plant i olchi'u dwylo yn rheolaidd.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 30/11/2022 11:55:44