Echdoriad trawswrethrol o'r prostad (TURP)

Cyflwyniad

Gweithdrefn lawfeddygol sy'n golygu torri rhan o'r prostad i ffwrdd yw echdoriad trawswrethrol y prostad (TURP). 

Chwarren fach yn y pelfis mewn dynion yn unig yw'r prostad. Mae wedi'i leoli rhwng y pidyn a'r bledren, ac mae'n amgylchynu'r wrethra (y tiwb sy'n cludo wrin o'r bledren i'r pidyn).

Os yw'r prostad yn mynd yn chwyddedig, gall roi pwysau ar y bledren a'r wrethra. Mae hyn yn gallu achosi symptomau sy'n effeithio ar droethi.

Pam mae TURP yn cael ei gyflawni

Mae TURP yn cael ei argymell yn aml pan fydd prostad chwyddedig (gordyfiant prostatig anfalaen) yn achosi symptomau trwblus  ac yn methu ymateb i driniaeth gyda meddyginiaeth.

Mae symptomau a all wella ar ôl TURP yn cynnwys:

  • problemau yn dechrau troethi
  • llif wrin gwan neu dechrau a stopio
  • gorfod straenio i basio wrin
  • angen troethi yn fynych
  • deffro'n aml yn ystod y nos i droethi (noctwria)
  • ysfa sydyn i droethi
  • methu gwagio'ch pledren yn llawn

Sut mae TURP yn cael ei berfformio

Mae TURP yn cael ei gyflawni gan ddefnyddio dyfais o'r enw resectosgop, sef tiwb metel tenau sy'n cynnwys golau, camera a dolen wifren. Mae hwn yn cael ei basio ar hyd eich wrethra nes ei fod yn cyrraedd eich prostad, sy'n golygu nad oes angen gwneud unrhyw doriadau (endoriadau) yn eich croen.

Mae'r ddolen wifren yn cael ei thwymo gyda cherrynt trydan wedyn, a'i defnyddio i dorri'r rhan o'r prostad sy'n achosi'ch symptomau i ffwrdd.  Caiff tiwb tenau o'r enw cathetr ei osod i mewn yn eich wrethra wedyn i bwmpio hylif i mewn i'r bledren a golchi darnau o'r prostad sydd wedi'u tynnu i ffwrdd.

Defnyddir anaesthesia cyffredinol neu anaesthesia sbinol yn ystod y weithdrefn fel nad ydych chi'n teimlo unrhyw boen pan fydd yn cael ei chyflawni.

Gwella o TURP

Fel arfer bydd angen i chi aros yn yr ysbyty am 1 i 3 diwrnod ar ôl eich llawdriniaeth.

Bydd y cathetr a ddefnyddir yn ystod y driniaeth yn cael ei adael yn ei le tra byddwch yn yr ysbyty gan y bydd eich wrethra wedi chwyddo ac efallai na fyddwch chi'n gallu troethi fel arfer ar y dechrau.

Mae'n gyffredin i deimlo'n flinedig ac yn anhwylus am wythnos neu ddwy ar ôl mynd adref. Mae'r rhan fwyaf o ddynion ar eu traed fel arfer ar ôl y cyfnod hwn, ond bydd angen i chi gymryd pwyll am 4 i 8 wythnos.

Fel arfer, cewch eich cynghori i aros i ffwrdd o'r gwaith ac osgoi codi pethau trwm, gwneud ymarfer egnïol, gyrru a chael rhyw am ychydig wythnosau o leiaf.

Mae'n arferol i gael rhai anawsterau wrth droethi a rhywfaint o waed yn eich wrin am ychydig wythnosau. Dylai'r problemau hyn wella wrth i chi wella, ond dylech gysylltu â chlinig yr ysbyty neu'ch meddyg teulu os ydych chi'n poeni.

Beth yw'r risgiau?

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae TRUP yn weithdrefn ddiogel ac mae'r risg o gael cymhlethdodau difrifol yn fach iawn.

Fodd bynnag, mae llawer o ddynion sy'n cael triniaeth TURP yn colli'r gallu i alldaflu (ejaculate) semen yn ystod rhyw neu fastyrbio, er eu bod yn cael y pleser corfforol sy'n gysylltiedig ag alldaflu (orgasm). Gelwir hyn yn alldafliad gwrthredol (retrograde ejaculation).

Hefyd, mae llawer o ddynion yn colli'r gallu dros dro i reoli'u pledren (anymataliad wrinol), er bod hyn yn gwella ymhen ychydig wythnosau fel arfer. Mewn achosion prin, gall fod yn barhaol a bydd angen rhagor o driniaeth.

Mae risg fechan hefyd o gael problemau fel problemau gyda chodiad, anawsterau pasio wrin a heintiau'r llwybr wrinol.

Triniaethau amgen i TURP

Mae nifer o driniaethau amgen i TURP a all fod yr un mor effeithiol, gyda risg is o gael cymhlethdodau.

Maent yn cynnwys:

  • dignewyllu'r prostad â laser holmiwm (HoLEP) – defnyddir laser ynghlwm wrth resectosgop i dorri gormodedd meinwe'r prostad i ffwrdd
  • echdoriad laser trawswrethrol neu anweddiad (vaporisation) y prostad – mae tiwb tenau o'r enw systosgop yn cael ei osod i mewn i'r wrethra ac mae laser sydd ynghlwm wrth y systosgop yn tanio pylsiau o ynni i losgi meinwe'r prostad i ffwrdd
  • mewnblaniadau codiad wrethrol prostatig (PUL) – mae llawfeddyg yn mewnosod mewnblaniadau sy'n dal y prostad chwyddedig i ffwrdd o'r wrethra fel nad yw'r wrethra wedi'i rwystro; mae hyn yn helpu lleddfu symptomau fel poen neu anhawster wrth basio dŵr

Nid yw'r gweithdrefnau hyn yn addas i bob dyn â phrostad chwyddedig. Bydd eich meddyg yn trafod eich opsiynau gyda chi.

 

Sut mae'n cael ei wneud?

Mae triniaeth echdoriad trawswrethrol y prostad (TURP) yn cael ei chynnal mewn ysbyty o dan anaesthetig. Fel arfer mae angen i chi aros yn yr ysbyty am 1 i 3 diwrnod.

Paratoi ar gyfer llawdriniaeth

Fel arfer gofynnir i chi fynychu apwyntiad cyn-derbyn ychydig wythnosau cyn eich triniaeth, fel y gall meddyg neu nyrs wneud yn siŵr bod y llawdriniaeth yn addas i chi, a'ch bod yn ddigon da i gael anaesthetig.

Gall hyn gynnwys profion fel profion gwaed ac electrocardiogram (ECG) i wirio'ch iechyd cyffredinol. Mae ECG yn brawf syml i wirio gweithgarwch trydanol eich calon.

Gallwch ddefnyddio'r apwyntiad hwn hefyd fel cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r weithdrefn, a thrafod unrhyw bryderon sydd gennych.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth eich meddyg neu nyrs os ydych chi'n cymryd meddyginiaeth ar hyn o bryd i atal clotiau gwaed, fel aspirin, warffarin neu clopidogrel. Gallai'r meddyginiaethau hyn achosi gwaedu trwm yn ystod llawdriniaeth, felly mae'n bosibl y cewch eich cynghori i roi'r gorau i'w cymryd yn y cyfnod cyn cael eich llawdriniaeth.

Os ydych chi'n ysmygu, dylech geisio torri lawr neu roi'r gorau iddi yn gyfan gwbl cyn eich triniaeth, gan y gall hyn helpu lleihau eich risg o gael cymhlethdodau difrifol, fel heintiau'r frest a chlotiau gwaed.

Cyn y weithdrefn

Fel arfer gofynnir i chi fynd i mewn i'r ysbyty ar ddiwrnod y driniaeth neu'r diwrnod cynt.

Gofynnir i chi beidio â bwyta nac yfed ryw 6 awr cyn y llawdriniaeth. Gan ddibynnu ar ganlyniadau eich asesiad cyn-derbyn, efallai y cewch sanau cywasgu i helpu atal clotiau gwaed.

Ychydig cyn bydd y llawdriniaeth yn cael ei chyflawni, byddwch yn cael anaesthetig i'ch atal rhag teimlo unrhyw boen yn ystod y weithdrefn. Gall y math o anaesthetig a ddefnyddir fod yn:

  • anaesthetig cyffredinol – mae hyn yn golygu y byddwch chi'n anymwybodol trwy gydol y weithdrefn
  • anaesthetig sbinol neu epidwral – mae hyn yn golygu y byddwch chi'n effro yn ystod y weithdrefn, ond ni fyddwch chi'n gallu teimlo unrhyw beth islaw eich gwasg

Y llawdriniaeth

Fel arfer bydd triniaeth TURP yn cael ei chyflawni gan ddefnyddio dyfais o'r enw resectosgop. Tiwb metel tenau yw hwn sy'n cynnwys golau, camera a dolen wifren.

Bydd y llawfeddyg yn gosod y resectosgop i mewn i'ch wrethra (y tiwb sy'n cario wrin allan o'r corff) cyn ei arwain i safle eich prostad gyda help y golau a'r camera.

Defnyddir cerrynt trydan i gynhesu'r ddolen wifren, a defnyddir hon i dorri rhan o'ch prostad i ffwrdd.  Ar ôl y weithdrefn, defnyddir cathetr (tiwb tenau, hyblyg) i bwmpio hylif i mewn i'r bledren ac i olchi i ffwrdd darnau o brostad sydd wedi'u tynnu.

Gall triniaeth TURP gymryd hyd at 1 awr, gan ddibynnu ar faint o'ch prostad sydd angen ei dynnu.

Pan fydd y weithdrefn wedi'i chwblhau, cewch eich symud yn ôl i'ch ward ysbyty er mwyn i chi allu gwella. Bydd y cathetr yn cael ei adael yn ei le am ychydig ddiwrnodau hyd nes eich bod yn gallu troethi fel arfer.

Amserau aros

Nid yw triniaeth TURP yn cael ei hystyried yn driniaeth frys fel arfer, sy'n golygu y gall fod rhaid i chi aros rai misoedd i gael y driniaeth.

Holwch eich llawfeddyg neu feddyg teulu ynglŷn ag amcan o amserau aros pan fydd y weithdrefn yn cael ei thrafod gyda chi.

 

 

 

Gwella

Ar ôl triniaeth echdoriad trawswrethrol y prostad (TURP), fel arfer bydd angen i chi wella yn yr ysbyty am 1 i 3 diwrnod cyn y gallwch fynd adref.

Tra byddwch yn yr ysbyty, efallai y rhoddir hylifau i chi i mewn i wythïen yn uniongyrchol (yn fewnwythiennol) hyd nes eich bod wedi ymadfer o'r anaesthetig a'ch bod yn gallu bwyta ac yfed.

Ni ddylech deimlo unrhyw boen difrifol, ond gall fod rhywfaint o anesmwythder a brathiadau yn y bledren (cyfangiadau) o'r cathetr, sydd wedi'i adael yn ei le gan y bydd eich wrethra (y tiwb sy'n cario wrin allan o'r corff) wedi chwyddo ac yn ddolurus.

Byddwch yn gallu mynd adref wedi i'ch cathetr gael ei dynnu a'ch bod yn gallu troethi fel arfer. Cyn eich rhyddhau, rhoddir cyngor i chi am eich gwellhad. Dylid gwneud apwyntiad dilynol i wirio'ch cynnydd ar gyfer ychydig wythnosau'n ddiweddarach.

Troethi ar ôl triniaeth TURP

Ni fyddwch chi'n gallu troethi fel arfer ar y cychwyn am y bydd eich wrethra wedi chwyddo. Bydd y cathetr a ddefnyddiwyd i olchi eich pledren allan yn ystod y driniaeth yn cael ei adael yn ei le am ychydig er mwyn eich galluogi i basio wrin hyd nes bod y chwyddo'n lleihau.

Yn ystod y diwrnod ar ôl y llawdriniaeth, efallai y caiff dŵr ei bwmpio drwy'r cathetr i lanhau eich pledren a chael gwared ar unrhyw glotiau gwaed a thameidiau eraill. Nid yw hyn yn boenus fel arfer ond gall wneud i'ch pledren deimlo'n anesmwyth o lawn.

Ar ôl rhyw 24 i 48 awr, bydd y cathetr yn cael ei dynnu i wirio a ydych chi'n gallu pasio wrin, ac yn gallu mynd adref. Mae'n arferol i droethi fod yn anesmwyth ac yn anodd ei reoli am ychydig ddiwrnodau o leiaf ar ôl tynnu'r cathetr.

Os nad ydych chi'n gallu pasio wrin o hyd, gall fod angen ailosod y cathetr dros dro. Byddwch chi'n gallu mynd adref gyda'r cathetr yn ei le, a bydd apwyntiad yn cael ei wneud i'w dynnu ychydig ddyddiau neu wythnosau'n ddiweddarach.

Gwella gartref

Mae'n gyffredin i deimlo'n flinedig ac yn anhwylus am wythnos neu ddwy ar ôl cael triniaeth TURP. Mae'r rhan fwyaf o ddynion ar eu traed fel arfer ar ôl y cyfnod hwn, ond bydd angen i chi gymryd pwyll am hyd at 2 fis.

Am yr ychydig wythnosau cyntaf, ni ddylech chi godi na symud unrhyw beth trwm (gan gynnwys siopa) na gwneud unrhyw ymarfer egnïol. Os oes modd, gofynnwch i ffrindiau neu aelodau'r teulu os allan nhw helpu o gwmpas y tŷ.

Pan fyddwch chi'n teimlo eich bod yn gallu gwneud, bydd ymarfer ysgafn fel cerdded yn helpu cadw'ch gwaed yn cylchredeg ac yn lleihau eich risg o gael clot gwaed yn eich coesau.

Gall yfed digonedd o ddŵr tra'ch bod yn gwella helpu i leihau'r risg o gael haint y llwybr wrinol, a gall helpu glirio unrhyw waed o'ch wrin. Efallai y cewch eich cynghori hefyd i wneud ymarferion llawr y pelfis i helpu gwella rheolaeth ar eich pledren.

Fel arfer gellir trin unrhyw boen trwy gymryd poenladdwyr dros y cownter, fel parasetamol neu ibwproffen.

Mynd yn ôl i wneud eich gweithgareddau arferol

Fel arfer mae'n cymryd rhwng 3 a 6 wythnos i wella'n llwyr o driniaeth TURP. Bydd eich llawfeddyg neu feddyg teulu'n eich cynghori ynglŷn â phryd y bydd hi'n ddiogel i fynd yn ôl i wneud eich gweithgareddau arferol.

Gwaith

Bydd pa bryd y gallwch fynd yn ôl i'r gwaith yn dibynnu i raddau helaeth ar eich swydd. Er enghraifft, efallai y gall rhywun sy'n gweithio mewn swyddfa ddychwelyd i'r gwaith yn gynt na rhywun sy'n gwneud gwaith llaw trwm.

Yn y rhan fwyaf o achosion, cewch eich cynghori i gymryd rhyw 3 neu 4 wythnos i ffwrdd o'r gwaith.

Gyrru

Bydd eich llawfeddyg neu feddyg teulu'n dweud wrthych pan fydd yn teimlo ei bod hi'n ddiogel i chi yrru eto, a bydd hynny fel arfer pan fyddwch chi'n gallu gwneud stop brys yn gyfforddus.

Mae rhai pobl yn cyrraedd y fan hon ar ôl rhyw wythnos, ond efallai na fydd pobl eraill yn gallu gyrru am fis neu fwy.

Cael rhyw

Mae'n debyg na fyddwch chi'n teimlo'n ddigon esmwyth i gael rhyw am ryw 3 neu 4 wythnos ar ôl eich llawdriniaeth.

Gwaed yn eich wrin

Ar ôl cael triniaeth TURP, mae'n arferol i sylwi ar waed yn eich wrin o bryd i'w gilydd. Ryw wythnos neu ddwy ar ôl y llawdriniaeth, gall maint y gwaed gynyddu wrth i'r grachen ar eich prostad syrthio i ffwrdd.

Bydd yfed digon o hylifau yn helpu golchi unrhyw waed neu glotiau gwaed bach allan o'ch pledren.

Os yw'r cynnydd yn y gwaed yn eich wrin yn para am fwy na 48 awr, dylech gysylltu â'r ysbyty.

Pryd i ofyn am gyngor meddygol

Tra byddwch chi'n gwella, dylech gysylltu â chlinig yr ysbyty neu eich meddyg teulu os byddwch yn datblygu:

  • tymheredd uchel (twymyn) o 38C (100.4F) neu'n uwch
  • poen difrifol wrth droethi
  • anallu i droethi
  • gwaed yn eich wrin sy'n dal yn ddifrifol neu'n gwaethygu

Gall y symptomau hyn fod yn arwydd o broblem fel gwaedu mewnol neu haint wrinol y mae angen ei thrin.

Risgiau

Mae triniaeth echdoriad trawswrethrol y prostad (TURP) yn weithdrefn ddiogel yn gyffredinol. Fodd bynnag, fel gyda phob math o lawdriniaeth, mae risgiau posibl i'w cael.

Alldafliad gwrthredol

Alldafliad gwrthredol (retrograde ejaculation) yw cymhlethdod hirdymor mwyaf cyffredin triniaeth TURP, a gall ddigwydd mewn cymaint â 90% o achosion.

Mae'n digwydd pan na fydd semen yn dod allan o'ch pidyn yn ystod rhyw neu fastyrbio ond yn llifo i mewn i'ch pledren yn lle hynny. Mae'n cael ei achosi gan ddifrod i'r nerfau neu'r cyhyrau o amgylch gwddf y bledren, sef y fan lle mae'r wrethra yn cysylltu â'r bledren.

Nid yw alldafliad gwrthredol yn niweidiol a byddwch yn dal i gael pleser orgasm. Fodd bynnag, efallai yr effeithir ar eich ffrwythlondeb, felly dylech siarad â'r llawfeddyg os yw hyn yn bryder.

Gall fod yn bosibl i chi gael gweithdrefn amgen o'r enw endoriad trawswrethrol y prostad (transurethral incision of the prostate) (TUIP) yn lle hynny, ac mae risg lai o achosi alldafliad gwrthredol yn y driniaeth hon. Mae'n bosibl weithiau hefyd i leihau'r risg wrth gyflawni triniaeth TURP trwy adael meinwe'r prostad gerllaw'r wrethra yn gyfan.

Anymataliad wrinol

Mae rhywfaint o ymataliad wrinol yn eithaf cyffredin ar ôl triniaeth TURP. Mae'n gwella fel arfer yn yr wythnosau ar ôl llawdriniaeth, ond gall fod yn broblem hirdymor yn achlysurol iawn.

Fel arfer mae ar ffurf ymataliad ysfa (urge incontinence) - lle cewch ysfa sydyn i basio wrin a byddwch yn colli rheolaeth ar eich pledren os na ddowch o hyd i doiled yn ddigon cyflym.

Mae nifer o driniaethau ar gael ar gyfer anymataliad, yn cynnwys newidiadau i ffordd o fyw, meddyginiaeth a llawdriniaeth. Darllenwch fwy am driniaethau anllawfeddygol ar gyfer anymataliad wrinol a thriniaethau llawfeddygol ar gyfer anymataliad wrinol.

Problemau gyda chodiad

Mae hyd at 10% o ddynion sy'n cael triniaeth TURP yn cael anhawster cael codiad a chynnal codiad (problemau gyda chodiad) ar ôl hynny. Gall hyn fod yn anhawster dros dro neu barhaol.

Gellir rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn i helpu lleihau'r broblem os oes angen, ond dylech siarad â'ch llawfeddyg os yw hyn yn peri pryder i chi. Efallai y gall eich llawfeddyg roi mwy o wybodaeth am eich risg unigol.

Culhadau wrethrol

Amcangyfrifir bod culhau yr wrethra (urethral strictures) yn datblygu mewn hyd at 4% o achosion. Gall ddigwydd os yw'r wrethra wedi'i niweidio yn ystod llawdriniaeth ac yn creithio.

Mae symptomau culhad wrethrol yn cynnwys:

  • straenio i basio wrin
  • chwistrellu wrin neu "lif hollt" o wrin
  • diferion o wrin wedi i chi orffen mynd i'r toiled
  • poen ysgafn wrth basio wrin

Os mai achos ysgafn o gulhau'r wrethra sydd gennych, gellir ei drin fel arfer gan fewnosod rhoden i ledu'r wrethra. Gall fod angen llawdriniaeth os yw'r wrethra wedi culhau'n fwy eang.

Risgiau eraill

Mae rhai o risgiau eraill triniaeth echdoriad trawswrethrol y prostad yn cynnwys:

  • gwaedu - mewn rhyw 2% o achosion, gall fod gwaedu parhaus yn ystod y llawdriniaeth ac ar ôl y llawdriniaeth sy'n golygu bod angen trallwysiad gwaed
  • haint y llwybr wrinol (UTI) - mewn rhyw 5% o achosion, gallai UTI ddatblygu ar ôl llawdriniaeth; fel arfer gellir trin UTI yn llwyddiannus gyda gwrthfiotigau (darllenwch fwy am drin UTI)
  • dargadwad wrinol (urinary retention) - mewn rhyw 2% o achosion, gall y cyhyrau sy'n rheoli'r bledren fod wedi'u niweidio dros dro, a gall hyn arwain at broblemau o ran gwagio'r bledren yn llwyr; mewn rhai achosion, mae cyhyrau'r bledren yn adennill eu gweithrediad arferol ymhen ychydig wythnosau
  • y prostad yn chwyddo eto - mae angen i ryw 10% o ddynion gael triniaeth TURP eto ymhen 10 mlynedd

Syndrom TURP

Syndrom TURP yw'r enw ar risg brin, ond risg a allai fod yn ddifrifol, sy'n gysylltiedig â thriniaeth TURP. Mae hyn yn digwydd pan fydd gormod o'r hylif a ddefnyddiwyd i olchi'r ardal o amgylch y prostad yn ystod y weithdrefn yn cael ei amsugno i'r llif gwaed.

Mae symptomau cychwynnol syndrom TURP yn cynnwys:

  • teimlo'n gyfoglyd neu chwydu
  • dryswch
  • pendro
  • cur pen / pen tost
  • eich bol yn chwyddo
  • curiad calon araf (bradycardia)

O'i adael heb ei drin, gall problemau ddatblygu sy'n bygwth bywyd, fel trawiadau (ffitiau), diffyg anabl, croen glas (syanosis) a choma.

Os cewch symptomau syndrom TURP yn ystod eich gweithdrefn, bydd y llawfeddyg yn atal y llawdriniaeth ac yn eich chwistrellu â diwretig, sef math o feddyginiaeth a ddefnyddir i dynnu hylif o'r corff. Dywedwch wrth staff yr ysbyty ar unwaith os ydych yn datblygu unrhyw symptomau ar ôl mynd yn ôl i'r ward.

Amcangyfrifir bod y risg o ddatblygu syndrom TURP yn llai nag 1%, ac mae'n debygol o leihau ymhellach wrth i dechnegau newydd sy'n osgoi pwmpio dŵr i mewn i'r bledren gael eu defnyddio mwy a mwy.

Marwolaeth

Mae risg fechan iawn o achosi marwolaeth ynghlwm wrth driniaeth TURP. Amcangyfrifir erbyn hyn bod y risg o farw o ganlyniad i'r weithdrefn yn llai nag 1 ym mhob 1,000. Fel arfer bydd y risg yn codi o gymhlethdodau yn ymwneud â'r galon, neu haint ôl-llawdriniaethol difrifol.

Dewisiadau Arall

Mae nifer o driniaethau amgen i driniaeth echdoriad trawswrethrol y prostad (TURP). Bydd eich opsiynau yn dibynnu ar ba mor ddifrifol yw eich symptomau a pha driniaethau sydd ar gael.

Arsylwi gweithredol

Os oes gennych brostad chwyddedig ond nid ydych yn gweld eich symptomau'n arbennig o drwblus, efallai y penderfynwch aros a chadw golwg ar eich symptomau.

Mae hyn yn golygu na fyddwch chi'n derbyn unrhyw driniaeth ar unwaith, ond bydd y dewis gennych i gael triniaeth TURP yn y dyfodol os yw eich symptomau'n gwaethygu.

Os nad ydych chi'n cael triniaeth TURP, efallai yr argymhellir eich bod yn gwneud newidiadau i'ch ffordd o fyw, fel cyfyngu ar faint o alcohol rydych yn ei yfed a gwneud ymarfer corff yn rheolaidd, er mwyn gwella eich symptomau.

Gweithdrefnau amgen

Technegau mwy newydd

Mae nifer o dechnegau llawfeddygol mwy newydd sydd, yn gyffredinol, yr un mor effeithiol â thriniaeth TURP a gallent arwain at lai o sgîl-effeithiau, arhosiad byrrach yn yr ysbyty a phroses wella gyflymach.

Fodd bynnag, gan fod y triniaethau hyn yn dal yn weddol newydd, efallai na fyddant ar gael, ac nid yw eu heffeithiolrwydd hirdymor bob amser yn glir.

Mae rhai o'r prif dechnegau modern yn cynnwys:

  • triniaeth echdoriad trawswrethrol deubegynnol y prostad - defnyddir offerynnau a hylifau gwahanol i gyflawni'r weithdrefn, a chredir ei bod yn arwain at risg lai o ddioddef syndrom TURP (gweler risgiau TURP)
  • dignewyllu'r prostad â laser holmiwm (HoLEP) – defnyddir laser ynghlwm wrth resectosgop i dorri gormodedd meinwe'r prostad i ffwrdd
  • echdoriad trawswrethrol neu anweddiad (vaporisation) y prostad (TUVP) – mae tiwb tenau o'r enw systosgop yn cael ei osod i mewn i'r wrethra (y tiwb sy'n pasio wrin allan o'r corff), ac mae laser sydd ynghlwm wrth y systosgop yn tanio pylsiau o ynni i dorri neu losgi meinwe'r prostad i ffwrdd
  • gweithdrefn sling - lle mae slingiau bach yn cael eu mewnosod i dynnu gormodedd meinwe'r prostad i ffwrdd oddi wrth yr wrethra 
    • mewnblaniadau codiad wrethrol prostatig (PUL) – mae llawfeddyg yn mewnosod mewnblaniadau sy'n dal y prostad chwyddedig i ffwrdd o'r wrethra fel nad yw'r wrethra wedi'i rwystro; mae hyn yn helpu lleddfu symptomau fel poen neu anhawster wrth basio dŵr

Prostadectomi agored

Mae prostadectomi agored yn driniaeth fwy lle gwneir toriad (endoriad) yn yn eich bol i fynd at ran allanol eich prostad a'i thynnu.

Gall y weithdrefn hon fod yn fwy effeithiol na thriniaeth TURP os oes gennych brostad chwyddedig difrifol, er mai anaml y mae'n cael ei defnyddio y dyddiau hyn oherwydd bod triniaethau amgen modern fel HoLEP i'w cael, ac oherwydd bod iddi risg uwch o ddatblygu cymhlethdodau hirdymor, fel problemau gyda chodiad ac anymataliad wrinol.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 27/09/2024 14:14:10