Cyflwyniad
Mae rhedlif o’r wain (fagina) yn normal – mae’r rhan fwyaf o fenywod a merched yn ei gael. Mae’n hylif neu’n fwcws sy’n cadw’r wain yn lân ac yn llaith, ac yn ei hamddiffyn rhag haint.
Gwirio a yw’r rhedlif o’ch gwain yn normal
Fel arfer, nid oes angen poeni am redlif o’r wain:
- os nad oes ganddo arogl cryf neu annymunol
- os yw’n glir neu’n wyn
- os yw’n drwchus ac yn ludiog
- os yw’n llithrig ac yn wlyb
Gallwch gael rhedlif o’r wain dim ots beth yw eich oedran.
Mae lefel y rhedlif yn amrywio. Fel arfer, byddwch yn cael rhedlif trymach yn ystod beichiogrwydd, os ydych chi’n cael rhyw neu os ydych chi’n defnyddio dulliau atal cenhedlu. Yn aml, mae’n llithrig ac yn wlyb am ychydig ddiwrnodau rhwng eich mislif (pan fyddwch chi’n ofylu).
Pryd gall rhedlif o’r wain fod yn arwydd o haint
Os bydd eich rhedlif yn newid – er enghraifft, ei arogl, lliw neu wead – gall hynny fod yn arwydd o haint. Ond peidiwch â gwneud diagnosis eich hun – ewch i weld meddyg teulu os ydych chi’n poeni.
Ewch i weld meddyg teulu neu glinig iechyd rhywiol:
- os yw eich rhedlif yn newid lliw, arogl neu wead
- os ydych chi’n cynhyrchu mwy o redlif na’r arfer
- os ydych chi’n teimlo’n goslyd neu’n ddolurus
- os ydych chi’n gwaedu rhwng y mislif neu ar ôl rhyw
- os ydych yn cael poen wrth fynd i’r tŷ bach
- os ydych chi’n cael poen yn yr ardal rhwng eich bol a’r morddwydydd (poen pelfig)
Gall clinigau iechyd rhywiol helpu gyda rhedlif annormal
Mae clinigau iechyd rhywiol yn trin problemau gyda’r organau cenhedlu a’r system wrinol.
Mae llawer o glinigau iechyd rhywiol yn cynnig gwasanaeth cerdded i mewn, lle nad oes angen apwyntiad arnoch. Byddant yn aml yn cael canlyniadau profion yn gynt na meddygfeydd teulu.
Chwiliwch am glinig iechyd rhywiol
Pethau y gallwch chi ei wneud i helpu gyda rhedlif o’r wain
Ni allwch atal rhedlif o’r wain.
Gall leinwyr nicer helpu gyda rhedlif trwm neu ormodol os ydych chi’n poeni am unrhyw arogl, ond peidiwch â’u defnyddio drwy’r amser oherwydd gallant achosi llid.
I helpu osgoi llid, dolur neu sychder:
Gwnewch y canlynol
- golchwch y croen o gwmpas y wain yn ofalus gan ddefnyddio dŵr plaen
Peidiwch â
- defnyddio sebonau neu geliau â phersawr neu heb bersawr
- defnyddio diaroglyddion neu weips hylendid ag arogl
- golchi’r tu mewn i’r wain