Vaginitis

Cyflwyniad

Mae llid ar y wain yn dynerwch a chwyddo yn ac o gwmpas y wain. Mae'n gyffredin ac mae modd ei drin fel arfer. 

Gwirio a oes gennych lid ar y wain

Mae symptomau llid ar y wain yn cynnwys: 

  • gwain sy'n cosi neu'n boenus
  • gollyngiad gweiniol sydd o liw, arogl gwahanol neu sy'n fwy trwchus na'r arfer
  • poen wrth fynd i'r toiled neu gael rhyw
  • ychydig o waedu neu smotio gweiniol
  • croen poenus, wedi chwyddo o gwmpas y wain

Mae'n bosibl na fydd gennych yr holl symptomau hyn. 

Achosion o lid ar y wain

Mae i lid ar y wain sawl achos. 

Efallai bydd eich symptomau'n rhoi syniad i chi o beth sy'n ei achosi. Ond peidiwch hunan-ddiagnosio, ceisiwch gyngor meddygol os ydych yn poeni. 

  • gollyngiad gwyn a thalpiog (fel caws bwthyn), cosi a thynerwch - achos posibl - y llindag
  • gollyngiad melyn, gwyrdd neu ddrewllyd - achos posibl - clefyd a drosglwyddir yn rhywiol fel trichomoniasis neu clamydia
  • gwain sych, sy'n cosi a phoen wrth gael rhyw - achos posibl - newidiadau mewn hormonau o ganlyniad i'r menopos
  • mannau sy'n cosi neu sy'n boenus o gwmpas eich gwain ac ar rannau eraill o'ch corff - achos posibl - cyflwr y croen fel ecsema neu lichen planus

Gall llid ar y wain gael ei achosi gan lid (er enghraifft, oddi wrth sebon), anaf i'ch gwain neu rywbeth yn eich gwain (fel tampon). 

Ewch i weld meddyg teulu neu i glinig iechyd rhywiol os:

  • oes gennych symptomau llid ar y wain am y tro cyntaf
  • ydych wedi cael llid ar y wain o'r blaen ond mae'r symptomau'n eich poeni chi dipyn, maen nhw'n wahanol i'r arferol neu nad ydych yn gwella
  • oes gennych ollyngiad gweiniol sy'n anarferol i chi
  • oes gennych symptomau llid ar y wain wedi cael rhyw gyda phartner newydd
  • oes gennych symptomau eraill fel teimlo'n gynnes ac yn crynu ac mewn poen

Peidiwch cael rhyw hyd nes i chi weld meddyg neu nyrs. Mae'n bosibl bod gennych glefyd a drosglwyddir yn rhywiol. 

Gall clinigau iechyd rhywiol helpu gyda llid ar y wain

Mae clinigau iechyd rhywiol yn trin problemau gyda'r organau cenhedlu a system wrinol. 

Mae llawer o glinigau iechyd rhywiol yn cynnig gwasanaeth galw mewn lle nad oes arnoch angen apwyntiad. Byddant yn cael canlyniadau prawf yn aml yn gyflymach na meddygfeydd teulu. 

Beth sy'n digwydd yn eich apwyntiad

I wybod beth sy'n achosi'r llid ar eich gwain, efallai bydd meddyg neu nyrs yn:

  • gofyn am unrhyw bartneriaid rhywiol sydd gennych
  • edrych ar y croen o gwmpas eich gwain
  • edrych i mewn i'ch gwain (archwiliad pelfig)

Cael archwiliad pelfig

  1. Gofynnir i chi dynnu eich dillad isaf a gorwedd ar eich cefn
  2. Bydd y meddyg neu nyrs yn rhoi tiwb llyfn (speculum) yn eich gwain yn ofalus i'w chadw ar agor fel eu bod yn gallu gweld y tu mewn
  3. Mae'n bosibl y bydd ffon gotwm fach yn cael ei sychu tu mewn i'ch wain i wirio am heintiadau

Gallwch ofyn i'r meddyg neu nyrs stopio ar unrhyw adeg os yw'n rhy anghyfforddus. 

Triniaethau gan feddyg

Mae triniaeth ar gyfer llid ar y wain yn dibynnu ar yr achos. 

Er enghraifft, mae'n bosibl y bydd arnoch angen:

  • meddyginiaeth gwrth-ffyngaidd ar gyfer y llindag
  • gwrthfiotigau ar gyfer haint a drosglwyddir yn rhywiol
  • lleithydd, iraid gweiniol neu driniaeth hormon ar gyfer symptomau'r menopos
  • meddyginiaeth steroid ar gyfer cyflwr y croen

Pethau y gallwch eu gwneud i helpu llid ar y wain

Mae pethau y gallwch eu gwneud i leddfu symptomau llid ar y wain a lleihau eich siawns o'i gael eto. 

Gwnewch:

  • olchi o gwmpas eich gwain gyda dwr a sychu'n drylwyr
  • gwisgo dillad is cotwm, llac
  • defnyddio padiau yn lle tamponau pan fyddwch ar eich misglwyf
  • defnyddio condomau ac iraid wrth gael rhyw

Peidiwch:

  • glanhau y tu mewn i'ch gwain (douche)
  • cael bath poeth
  • peidio defnyddio cynnyrch persawrus yn neu o gwmpas eich gwain, fel sebon a diaroglydd

 

 

 



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 26/09/2024 15:18:32