Fasectomi

Cyflwyniad

Gall menyw feichiogi os bydd sberm dyn yn cyrraedd un o'i hwyau (ofa). Mae dulliau atal cenhedlu yn ceisio rhwystro hyn rhag digwydd trwy gadw'r wy a'r sberm ar wahân neu drwy atal wy rhag cael ei gynhyrchu. Un dull o atal cenhedlu yw fasectomi (anffrwythloni gwrywaidd).

  • Cipolwg: fasectomi
  • Sut mae fasectomi'n gweithio
  • Pwy sy'n gallu cael fasectomi
  • Manteision ac anfanteision
  • Risgiau
  • Cwestiynau cyffredin

Yn ystod llawdriniaeth fach, bydd y tiwbiau sy'n cludo sberm o geilliau dyn i'r pidyn yn cael eu torri, eu rhwystro neu eu selio.

Bydd hyn yn atal sberm rhag cyrraedd yr hylif semenol (semen), sy'n cael ei alldaflu o'r pidyn yn ystod rhyw. Ni fydd unrhyw sberm yn y semen, felly ni all wy menyw gael ei ffrwythloni.

Fel arfer, bydd fasectomi'n cael ei wneud o dan anesthetig lleol, a bydd yn cymryd tua 15 munud.

Cipolwg: ffeithiau am fasectomi

  • Yn y rhan fwyaf o achosion, mae fasectomi mwy na 99% yn effeithiol. O 2,000 o ddynion sy'n cael eu hanffrwythloni, bydd un yn beichiogi menyw yn ystod gweddill ei oes.
  • Ystyrir bod anffrwythloni gwrywaidd yn barhaol - pan fydd wedi'i wneud, ni fydd rhaid i chi feddwl am ddulliau atal cenhedlu eto.
  • Bydd angen i chi ddefnyddio dulliau atal cenhedlu am wyth wythnos o leiaf ar ôl y llawdriniaeth, oherwydd bod sberm yn aros yn y tiwbiau sy'n arwain at y pidyn.
  • Bydd hyd at ddau brawf semen yn cael eu gwneud ar ôl y llawdriniaeth, i sicrhau bod yr holl sberm wedi mynd.
  • Efallai y bydd eich ceillgwd yn cleisio, yn chwyddo neu'n boenus - mae rhai dynion yn cael poen parhaus yn eu ceilliau.
  • Yn yr un modd ag unrhyw lawdriniaeth, mae perygl bach o haint.
  • Nid yw'n rhwydd gwrthdroi'r llawdriniaeth, ac nid yw hynny ar gael trwy'r GIG fel arfer.
  • Nid yw fasectomi yn amddiffyn rhag heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs). Trwy ddefnyddio condom, byddwch yn eich amddiffyn eich hun a'ch partner yn erbyn STIs.

Sut mae fasectomi'n gweithio

Mae fasectomi'n gweithio trwy atal sberm rhag mynd i mewn i semen dyn. Mae hyn yn golygu pan fydd dyn yn alldaflu, ni fydd sberm yn y semen ac ni all wy menyw gael ei ffrwythloni.

  • Sut mae fasectomi'n cael ei wneud
  • Fasectomi confensiynol
  • Fasectomi dim fflaim (scalpel)
  • Cyn i chi benderfynu cael fasectomi
  • Am ba mor hir y bydd rhaid i mi aros am y llawdriniaeth?
  • Gwella ar ôl y llawdriniaeth
  • Sut byddaf yn gwybod a yw'r fasectomi wedi gweithio?
  • A yw'n bosibl ei wrthdroi?

Sut mae fasectomi'n cael ei wneud

Mae fasectomi'n weithdrefn lawfeddygol gyflym a chymharol ddi-boen. Mae'r tiwbiau sy'n cludo sberm o geilliau dyn i'r pidyn yn cael eu torri, eu rhwystro neu eu selio gyda gwres. Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwch yn gallu mynd adref yr un diwrnod.

Mae fasectomi fel arfer yn cael ei wneud o dan anesthetig lleol. Mae hyn yn golygu y bydd y ceillgwd a'r ceilliau yn unig yn cael eu fferru, a byddwch yn effro ar gyfer y llawdriniaeth. Ni fyddwch yn teimlo unrhyw boen, er y gallai fod ychydig yn anghyfforddus.

Mewn achosion prin, efallai y bydd angen anesthetig cyffredinol. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cysgu yn ystod y llawdriniaeth. Efallai y bydd anesthetig cyffredinol yn cael ei ddefnyddio os oes gennych alergedd i anesthetig lleol neu hanes o lewygu'n rhwydd. Fodd bynnag, bydd angen i'r rhan fwyaf o bobl gael anesthetig lleol yn unig.

Nid yw fasectomi'n cael unrhyw effaith ar ysfa rywiol na'r gallu i fwynhau rhyw. Byddwch yn cael codiad ac yn alldaflu fel arfer. Yr unig wahaniaeth yw na fydd eich semen yn cynnwys sberm.

Gall fasectomi gael ei wneud:

  • yn eich meddygfa leol
  • mewn ysbyty yn ystod apwyntiad claf dydd
  • mewn clinig iechyd rhywiol
  • mewn clinig preifat

Mae dau fath o fasectomi. Mae'r dechneg draddodiadol, sef fasectomi confensiynol, yn golygu gwneud dau doriad bach yn y ceillgwd (y goden groen o amgylch eich ceilliau) gan ddefnyddio fflaim (cyllell lawfeddygol).

Mae'r math arall, sef fasectomi dim fflaim, yn dechneg fwy newydd sydd bellach yn cael ei defnyddio'n gyffredin. Bydd y meddyg a fydd yn gwneud eich fasectomi yn trafod gyda chi pa un sydd orau.

Fasectomi confensiynol

Yn ystod fasectomi confensiynol, bydd croen y ceillgwd yn cael ei fferru gan ddefnyddio anesthetig lleol. Bydd y meddyg yn gwneud dau doriad bach, tua 1cm o hyd, ar bob ochr i'r ceillgwd.

Bydd y toriadau'n caniatáu i'ch llawfeddyg gael at y tiwbiau sy'n cludo sberm o'r ceilliau. Yr enw ar y tiwbiau hyn yw "vas deferens". Bydd pob tiwb yn cael ei dorri a rhan fach yn cael ei thynnu ymaith. Yna, bydd pen y tiwbiau'n cael ei gau, naill ai drwy ei glymu neu ei selio gan ddefnyddio diathermedd (offeryn sy'n gwresogi i dymheredd uchel iawn).

Bydd y toriadau'n cael eu pwytho, fel arfer gan ddefnyddio pwythau toddadwy, a fydd yn diflannu'n naturiol o fewn tua wythnos.

Fasectomi dim fflaim

Fel arfer, bydd fasectomi dim fflaim yn cael ei wneud o dan anesthetig lleol. Yn ystod fasectomi dim fflaim, bydd y meddyg yn teimlo'r vas deferens o dan groen y ceillgwd ac yna'n eu dal yn eu lle gan ddefnyddio clamp bach.

Yna, defnyddir offeryn arbennig i wneud twll bychan yng nghroen y ceillgwd. Defnyddir pâr bach o efeiliau i agor y twll, gan ganiatáu i'r llawfeddyg gael at y vas deferens heb fod angen torri'r croen gyda fflaim. Yna, bydd y tiwbiau'n cael eu cau yn yr un ffordd â fasectomi confensiynol, naill ai drwy eu clymu neu eu selio.

Yn ystod fasectomi dim fflaim, ni fydd llawer o waedu a dim pwythau. Credir hefyd bod y weithdrefn yn llai poenus ac yn llai tebygol o achosi cymhlethdodau na fasectomi confensiynol.

Cyn i chi benderfynu cael fasectomi

Bydd eich meddyg yn eich holi ynglyn â'ch amgylchiadau ac yn rhoi gwybodaeth a chwnsela cyn cytuno i'r weithdrefn.

Dylech gael fasectomi dim ond os ydych yn siwr nad ydych eisiau cael unrhyw blant neu fwy o blant. Os oes gennych unrhyw amheuon, ystyriwch ddull arall o atal cenhedlu nes byddwch yn hollol siwr.

Ni ddylech benderfynu cael fasectomi ar ôl argyfwng neu newid mawr yn eich bywyd - er enghraifft, os yw'ch partner newydd gael baban, neu newydd derfynu beichiogrwydd.

Trafodwch y mater gyda'ch partner, os oes gennych bartner, cyn penderfynu cael fasectomi. Os yw'n bosibl, dylai'r ddau ohonoch gytuno i'r weithdrefn, ond nid oes rhaid i chi gael caniatâd eich partner yn ôl y gyfraith.

Gallwch gael fasectomi ar unrhyw oed. Fodd bynnag, os ydych yn iau na 30, ac yn enwedig os nad oes gennych blant, efallai y bydd eich meddyg yn amharod i gyflawni'r weithdrefn.

Mae gan eich meddyg teulu yr hawl i wrthod cyflawni'r weithdrefn neu wrthod eich atgyfeirio ar gyfer y weithdrefn os nad yw'n credu ei bod er eich pennaf les. Yn yr achos hwn, efallai y bydd rhaid i chi dalu am gael fasectomi yn breifat.

Am ba mor hir y bydd rhaid i mi aros am y llawdriniaeth?

Yn y rhan fwyaf o'r Deyrnas Unedig, mae fasectomi ar gael am ddim trwy'r GIG. Fodd bynnag, efallai y bydd rhaid i chi aros sawl mis, yn dibynnu ar ble rydych yn byw.

Siaradwch â'ch meddyg teulu neu gofynnwch yn eich clinig atal cenhedlu lleol am fasectomïau yn eich ardal. Gan fod y rhestrau aros ar gyfer fasectomi yn gallu bod yn hir, mae rhai dynion yn dewis talu i gael y llawdriniaeth yn breifat.

Gallwch ofyn am gael meddyg gwrywaidd, ond weithiau fe allai hyn olygu gorfod aros yn hirach. Efallai y bydd eich meddyg teulu yn gallu cynnig opsiynau i chi ynghylch ble y gellir gwneud y fasectomi.

Gwella ar ôl y llawdriniaeth

Mae'n gyffredin i'r ceillgwd chwyddo a chleisio a theimlo braidd yn anghyfforddus am ychydig ddiwrnodau ar ôl y fasectomi. Os byddwch yn teimlo poen neu anghysur, gallwch gymryd cyffuriau lleddfu poen, fel parasetamol. Cysylltwch â'ch meddyg teulu am gyngor os byddwch yn dal i fod mewn tipyn o boen ar ôl cymryd cyffuriau lleddfu poen.

Mae'n gyffredin i waed fod yn eich semen yn yr alldafliadau cyntaf ar ôl fasectomi. Nid yw hyn yn niweidiol.

Amlinellir isod rai cwestiynau eraill cyffredin ynglyn â gwella.

Dillad isaf

Bydd gwisgo dillad isaf tynn, fel Y-fronts, yn ystod y dydd ac yn y nos yn helpu i gynnal eich ceillgwd a hefyd yn helpu i leddfu unrhyw anghysur neu chwyddo. Gwnewch yn siwr eich bod yn newid eich dillad isaf bob dydd.

Hylendid

Mae fel arfer yn ddiogel i chi gael bath neu gawod ar ôl eich llawdriniaeth - gwiriwch gyda'ch meddyg beth sy'n addas i chi. Gwnewch yn siwr eich bod yn sychu ardal eich organau cenhedlu yn dyner ac yn drylwyr.

Dychwelyd i'r gwaith

Bydd y rhan fwyaf o ddynion yn ffit i ddychwelyd i'r gwaith un neu ddau ddiwrnod ar ôl cael fasectomi, ond dylech osgoi chwaraeon a chodi pethau trwm am wythnos o leiaf ar ôl y llawdriniaeth. Mae hyn er mwyn lleihau'r risg o ddatblygu cymhlethdodau (gweler isod). Os bydd unrhyw symptomau'n parhau ar ôl ychydig ddiwrnodau, cysylltwch â'ch meddyg teulu.

Cael rhyw

Gallwch gael rhyw eto cyn gynted ag y bydd hynny'n gyfforddus, ond mae'n well aros ychydig ddiwrnodau. Fodd bynnag, bydd sberm yn dal i fod yn eich semen yn syth ar ôl y llawdriniaeth, gan ei bod yn cymryd amser i glirio'r sberm sy'n weddill yn eich tiwbiau. Mae'n cymryd tua 20-30 o alldafliadau, ar gyfartaledd, i glirio sberm o'r tiwbiau. Bydd angen i chi ddefnyddio dull arall o atal cenhedlu nes i chi gael dau brawf semen clir.

Pan fydd y llawdriniaeth wedi cael ei gwneud yn llwyddiannus a bod profion semen wedi dangos nad oes sberm yn bresennol, efallai na fydd angen i bartneriaid tymor hir ddefnyddio unrhyw fathau eraill o ddulliau atal cenhedlu.

Fodd bynnag, nid yw fasectomi yn amddiffyn rhag haint HIV nac unrhyw STIs eraill, felly dylech ddefnyddio condomau o hyd gydag unrhyw bartner newydd.

Sut byddaf yn gwybod a yw'r fasectomi wedi gweithio?

Ar ôl y fasectomi, bydd rhywfaint o sberm ar ôl yn rhan uchaf y tiwbiau vas deferens. Fe all gymryd mwy nag 20 o alldafliadau i glirio'r sberm hwn o'r tiwbiau, felly, yn ystod y cyfnod hwn, mae risg beichiogrwydd o hyd.

Hyd nes y byddwch yn cael cadarnhad nad oes sberm yn eich semen, dylech barhau i ddefnyddio dull arall o atal cenhedlu.

O leiaf wyth wythnos ar ôl y weithdrefn, bydd angen i chi gynhyrchu sampl o semen, a fydd yn cael ei phrofi am sberm. Bydd hyn hefyd yn helpu i amlygu'r achosion prin lle mae'r tiwbiau'n ailgysylltu'n naturiol. Pan fydd profion wedi cadarnhau nad oes sberm yn eich semen, ystyrir bod y fasectomi'n llwyddiannus a gallwch roi'r gorau i ddefnyddio dulliau atal cenhedlu ychwanegol.

Mewn rhai dynion, bydd nifer fach o sberm yn parhau i fod yn eu system, ond nid yw'r sberm hwn yn symud (fe'i gelwir yn sberm ansymudol). Os ydych chi'n un o'r dynion hyn, bydd eich meddyg yn trafod eich opsiynau gyda chi. Gallai'r tebygolrwydd o wneud eich partner yn feichiog fod yn ddigon isel i ystyried bod y fasectomi'n llwyddiannus, neu gallech gael eich cynghori i gael rhagor o brofion neu ystyried opsiynau eraill.

A yw'n bosibl ei wrthdroi?

Mae'n bosibl gwrthdroi fasectomi. Fodd bynnag, nid yw'r weithdrefn bob amser yn llwyddiannus. Bydd gennych siawns well os caiff ei gwneud yn fuan ar ôl y fasectomi.

Os bydd gweithdrefn wrthdroi yn cael ei gwneud o fewn 10 mlynedd o'ch fasectomi, mae'r gyfradd lwyddo tua 55%. Mae hyn yn gostwng i 25% os gwneir y weithdrefn wrthdroi mwy na 10 mlynedd ar ôl eich fasectomi.

Hyd yn oed os bydd llawfeddyg yn llwyddo i ailgysylltu'r tiwbiau vas deferens, efallai na fydd beichiogrwydd yn bosibl o hyd. Dyna pam y dylech fod yn siwr cyn bwrw ymlaen â'r fasectomi. Gall eich meddyg eich helpu i wneud eich penderfyniad.

Nid yw gwrthdroi ar gael trwy'r GIG fel arfer, a gall y llawdriniaeth fod yn ddrud os caiff ei gwneud yn breifat.

Pwy sy'n gallu cael fasectomi

Dylai fasectomi bob amser gael ei ystyried yn anffrwythloni parhaol. Y rheswm am hyn yw er bod gwrthdroi'n bosibl weithiau, efallai na fydd yn llwyddiannus. Mae llawdriniaeth wrthdroi yn gofyn am ficrolawdriniaeth gywrain i ailgysylltu'r tiwbiau. Hyd yn oed os bydd y llawdriniaeth yn llwyddiannus, efallai na fydd yn bosibl cenhedlu plentyn o hyd.

Manteision ac anfanteision fasectomi

Manteision

  • Y gyfradd fethu yw un ym mhob 2,000 yn unig - o 2,000 o ddynion sy'n cael fasectomi, dim ond un fydd yn beichiogi menyw ar hyd gweddill ei oes.
  • Anaml y bydd effeithiau tymor hir ar eich iechyd.
  • Nid yw fasectomi'n effeithio ar lefel eich hormonau na'ch ysfa rywiol.
  • Ni fydd yn effeithio ar naturioldeb rhyw nac yn amharu ar ryw.
  • Gallai fasectomi gael ei ddewis fel dull symlach, mwy diogel a mwy dibynadwy yn lle anffrwythloni benywaidd.

Anfanteision

  • Nid yw fasectomi'n amddiffyn rhag STIs.
  • Mae'n anodd ei wrthdroi, ac efallai na fydd gwrthdroi ar gael trwy'r GIG.
  • Bydd angen i chi ddefnyddio dulliau atal cenhedlu ar ôl y llawdriniaeth nes bod profion yn dangos nad oes sberm yn eich semen - os yw'ch semen yn cynnwys sberm, gallech wneud eich partner yn feichiog.
  • Gall cymhlethdodau ddigwydd - rhestrir y risgiau isod.

Risgiau

Bydd y rhan fwyaf o ddynion yn teimlo poen a thynerwch am ychydig ddiwrnodau ar ôl y llawdriniaeth, a byddant fel arfer yn gweld rhywfaint o gleisio a chwyddo ar neu o amgylch y ceillgwd.

Fodd bynnag, mewn rhai achosion, gall fasectomi achosi problemau mwy difrifol, yr amlinellir rhai ohonynt isod.

Hematoma

Hematoma yw pan fydd gwaed yn casglu ac yn tolchennu yn y feinwe o amgylch gwaedlestr sydd wedi torri. Yn dilyn fasectomi, fe allech ddatblygu hematoma y tu mewn i'r ceillgwd.

Mae hematomau yn fach gan amlaf (maint pysen), ond weithiau gallant fod yn fawr (llenwi'r ceillgwd) ac, mewn achosion prin, gallant fod yn fawr iawn. Gall hyn achosi i'r ceillgwd fynd yn chwyddedig ac yn boenus iawn. Mewn achosion difrifol, efallai y bydd angen i chi gael llawdriniaeth arall i drin y dolchen waed.

Gronyndyfiannau sberm

Pan fydd y tiwbiau sy'n cludo sberm o'r ceilliau'n cael eu torri, gall sberm ollwng ohonynt weithiau. Mewn achosion prin, gall sberm gasglu yn y feinwe amgylchynol, gan ffurfio lympiau caled a elwir yn ronyndyfiannau sberm.

Gallai eich gafl neu'ch ceillgwd fynd yn boenus ac yn chwyddedig naill ai'n syth ar ôl y weithdrefn neu ychydig fisoedd ar ei hôl. Nid yw'r lympiau'n boenus fel arfer a gellir eu trin yn aml gan ddefnyddio meddyginiaeth wrthlidiol, y bydd eich meddyg teulu'n ei rhoi ar bresgripsiwn. Os yw'r gronyndyfiannau'n arbennig o fawr neu boenus, efallai y bydd rhaid iddynt gael eu tynnu ymaith yn llawfeddygol.

Haint

Ar ôl fasectomi, fe allech fod mewn perygl o ddatblygu haint os bydd bacteria yn mynd i mewn trwy'r toriadau a wnaed i'r ceillgwd. Felly, ar ôl y llawdriniaeth, mae'n bwysig cadw ardal eich organau cenhedlu'n lân ac yn sych i geisio cadw risg haint mor isel â phosibl.

Poen tymor hir yn y ceilliau

Mae rhai dynion yn cael poen yn un o'u ceilliau neu'r ddwy gaill ar ôl fasectomi. Fe all ddigwydd yn syth, ychydig fisoedd neu ychydig flynyddoedd ar ôl y llawdriniaeth. Fe allai ddigwydd ambell waith neu'n eithaf aml, ac amrywio o ddolur cyson i byliau o wewyr dwys. I'r rhan fwyaf o ddynion, fodd bynnag, bydd unrhyw boen yn eithaf ysgafn ac ni fydd angen iddynt gael rhagor o gymorth i ymdopi ag ef.

Mae poen tymor hir yn y ceilliau yn effeithio ar oddeutu un o bob 10 o ddynion ar ôl fasectomi. Mae'r poen fel arfer o ganlyniad i nerf wedi'i phinsio neu greithio a ddigwyddodd yn ystod y llawdriniaeth. Efallai y cewch eich cynghori i gael llawdriniaeth arall i gywiro'r niwed a helpu i leihau'r poen.

Ceilliau sy'n teimlo'n llawn

Ar ôl fasectomi, gallai rhai dynion ddatblygu'r teimlad bod eu ceilliau'n "llawnach" nag arfer. Mae hyn fel arfer yn digwydd pan fydd yr epididymis yn llenwi â sberm wedi'i storio. Yr epididymis yw'r tiwb hir, troellog sy'n gorffwys ar gefn pob caill. Mae'n helpu i gludo a storio sberm.

Dylai unrhyw deimladau o'r fath fynd heibio'n naturiol o fewn ychydig wythnosau. Fodd bynnag, siaradwch â'ch meddyg teulu os bydd y teimlad o lawnder yn parhau ar ôl y cyfnod hwn.

Ffrwythlondeb

Mewn nifer fach iawn o achosion fasectomi, bydd y vas deferens yn ailgysylltu dros amser. Mae hyn yn golygu na fydd y fasectomi'n ddull effeithiol o atal cenhedlu mwyach. Fodd bynnag, mae'n anghyffredin i hyn ddigwydd.

Cwestiynau cyffredin am fasectomi

A allaf gael y llawdriniaeth os wyf yn sengl?

Gallwch, ond os ydych yn iau na 30 oed bydd llawer o lawfeddygon yn amharod i'w gwneud, rhag ofn y bydd eich amgylchiadau'n newid a byddwch yn difaru yn ddiweddarach.

A fydd yn effeithio ar fy ysfa rywiol?

Na fydd. Ar ôl fasectomi llwyddiannus, bydd eich ceilliau'n parhau i gynhyrchu'r hormon gwrywaidd (testosteron) yn union fel yr oeddent cyn y weithdrefn. Ni fydd yn effeithio ar eich ysfa rywiol, eich synwyriadau na'ch gallu i gael codiad. Yr unig wahaniaeth yw na fydd sberm yn eich semen. Bydd eich corff yn cynhyrchu sberm o hyd, ond bydd yn cael ei amsugno heb niwed.

A allai fod yn anffrwythlon effeithio arnaf yn emosiynol?

Mae rhoi terfyn ar y rhan o'ch bywyd lle gallech genhedlu plentyn yn benderfyniad mawr. Mae hyn yn rheswm arall pam y dylech feddwl amdano'n ofalus.

Os ydych yn siwr ynglyn â'ch penderfyniad i gael fasectomi, gallech deimlo rhyddhad bod y pryder ynghylch beichiogrwydd posibl drosodd ac ni fydd angen i chi feddwl am ddulliau atal cenhedlu eto.

Os ydych yn teimlo'n bryderus neu'n anghyfforddus ynglyn â'r weithdrefn, neu'n credu y byddech yn dioddef yn feddyliol trwy fod yn anffrwythlon, nid dyma'r dull atal cenhedlu gorau i chi. Gallwch drafod dewisiadau amgen gyda'ch meddyg teulu neu gyda gweithiwr proffesiynol mewn clinig atal cenhedlu (a elwir weithiau'n glinig cynllunio teulu).

A oes unrhyw risg y gallai fasectomi achosi canser?

Er bod canser y prostad a chanser y ceilliau yn gallu digwydd mewn dynion sydd wedi cael fasectomi, mae ymchwil yn awgrymu nad yw fasectomi'n cynyddu eich risg o ganser.

A allaf ddefnyddio IVF i genhedlu plentyn?

Os ydych yn cael fasectomi, ac yna'n penderfynu'n ddiweddarach eich bod chi eisiau plentyn, fe allai hynny fod yn bosibl trwy IVF (ffrwythloni in vitro). I wneud hyn, byddai llawfeddyg yn adfer sberm o'ch ceilliau a'i ddefnyddio i ffrwythloni wy eich partner. Fodd bynnag:

  • efallai na fydd IVF ar gael trwy'r GIG
  • gall IVF a wneir yn breifat fod yn ddrud
  • nid yw IVF bob amser yn llwyddiannus

A allaf storio sberm mewn banc sberm, rhag ofn?

Gallech, ond yn yr un modd ag IVF, ni ellir dibynnu ar sberm sy'n cael ei storio mewn banc sberm i feichiogi'n llwyddiannus. Fe all fod yn ddrud hefyd.

Ble i gael dulliau atal cenhedlu

Mae'r rhan fwyaf o fathau o ddulliau atal cenhedlu ar gael am ddim yn y Deyrnas Unedig. Gallwch gael dulliau atal cenhedlu, a gwybodaeth a chyngor amdanynt, yn y canlynol:

  • y rhan fwyaf o feddygfeydd - siaradwch â'ch meddyg teulu neu nyrs bractis
  • clinigau atal cenhedlu cymunedol
  • rhai clinigau meddygaeth genhedlol-droethol (GUM)
  • clinigau iechyd rhywiol - maen nhw hefyd yn cynnig gwasanaethau atal cenhedlu a phrofi am STIs
  • rhai gwasanaethau pobl ifanc (ffoniwch 0300 123 7123 am ragor o wybodaeth)

Dewch o hyd i'ch clinig iechyd rhywiol agosaf.

Mae gwasanaethau atal cenhedlu yn rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol, gan gynnwys i bobl ifanc iau nag 16 oed.

Os ydych yn iau nag 16 oed ac eisiau dulliau atal cenhedlu, ni fydd y meddyg, y nyrs na'r fferyllydd yn dweud wrth eich rhieni (neu'ch gofalwr) ar yr amod eu bod yn credu eich bod yn llwyr ddeall y wybodaeth a roddir i chi, a'ch penderfyniadau. Mae meddygon a nyrsys yn gweithio yn unol â chanllawiau llym wrth ymdrin â phobl ifanc iau nag 16 oed.

Byddant yn eich annog i ystyried dweud wrth eich rhieni, ond ni fyddant yn eich gorfodi. Yr unig bryd y gallai gweithiwr proffesiynol ddymuno dweud wrth rywun arall yw os yw'n credu eich bod chi mewn perygl o niwed, fel camdriniaeth. Byddai angen i'r risg fod yn ddifrifol, a byddai'n trafod hyn gyda chi yn gyntaf fel arfer.

 

 

 



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 11/10/2022 13:18:22