Amdanom ni

Beth yw GIG 111 Cymru?

Beth yw GIG 111 Cymru?

GIG 111 Cymru yw'r ffordd rhad ac am ddim i gysylltu â'r GIG yng Nghymru o linellau tir a ffonau symudol. 

Mae'r gwasanaeth 111 ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, a gallwch ei ddefnyddio ar gyfer gwybodaeth a chyngor iechyd ac i gael mynediad at ofal sylfaenol brys.

Os ydych chi'n byw yng Nghymru ger y ffin â Lloegr, a'ch bod chi'n ffonio 111, efallai y gofynnir i chi ddewis y gwasanaeth rydych chi am gysylltu ag ef: Cymru neu Loegr. Dewiswch GIG 111 Cymru a byddwn yn sicrhau eich bod yn derbyn y wybodaeth a'r cyngor iechyd yr ydych yn eu ceisio. Os ydych chi'n byw yng Nghymru a'ch bod wedi'ch cofrestru gyda meddyg teulu yn Lloegr efallai y bydd amgylchiadau lle mae GIG 111 Cymru yn eich cyfeirio at wasanaeth yn Lloegr os mai hwn yw'r gwasanaeth iawn i chi.

Os ydych chi'n byw yn Lloegr ger y ffin â Chymru, a'ch bod chi'n ffonio 111, efallai y gofynnir i chi ddewis y gwasanaeth rydych chi am gysylltu ag ef: Cymru neu Gymru. Dewiswch GIG 111 Lloegr a byddant yn sicrhau eich bod yn derbyn y wybodaeth a'r cyngor iechyd yr ydych yn eu ceisio. Os ydych chi'n byw yn Lloegr a'ch bod wedi'ch cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru efallai y bydd amgylchiadau lle mae GIG 111 Lloegr yn eich cyfeirio at wasanaeth yng Nghymru os mai hwn yw'r gwasanaeth iawn i chi.

Mae gwefan GIG 111 Cymru: