Agen refrol

Cyflwyniad

Mae agen refrol yn rhwyg neu'n friw agored (wlser) sy'n datblygu yn leinin y llwybr rhefrol.

Y llwybr rhefrol yw rhan olaf y coluddyn mawr. Mae wedi'i leoli rhwng y rectwm - lle mae carthion yn cael eu storio - a'r agoriad yn y pen ôl y mae carthion yn pasio trwyddo (anws).

Symptomau agen refrol

  • gwewyr pan fyddwch chi'n pasio carthion, a ddilynir yn aml gan boen llosgi dwfn a allai bara sawl awr
  • gwaedu pan fyddwch chi'n pasio carthion - mae'r rhan fwyaf o bobl yn sylwi ar ychydig bach o waed coch llachar naill ai yn eu carthion neu ar y papur ty? bach

Pryd i fynd at eich meddyg teulu

Ewch at eich meddyg teulu os ydych chi'n credu bod gennych chi agen refrol. Peidiwch â? gadael i deimladau chwithig eich atal rhag ceisio cymorth: mae agennau rhefrol yn broblem gyffredin y mae meddygon teulu'n gyfarwydd â delio â nhw.

Mae'r rhan fwyaf o agennau rhefrol yn gwella heb driniaeth, ond bydd eich meddyg teulu eisiau diystyru cyflyrau eraill sydd â? symptomau tebyg, fel y peils (haemoroidau).

Gall eich meddyg teulu hefyd roi gwybod i chi am bethau y gallwch chi eu gwneud i'ch helpu eich hun a thriniaethau a all leddfu eich symptomau a'i gwneud hi'n llai tebygol y byddwch yn cael rhagor o agennau.

Gwneud diagnosis o agennau rhefrol

Bydd eich meddyg teulu yn eich holi am eich symptomau a'r math o boen rydych chi wedi bod yn ei gael. Fe allai hefyd eich holi am eich arferion ty? bach. Fel arfer, bydd yn gallu gweld yr agen trwy agor eich pen ôl yn dyner.

Nid yw archwiliad byseddol o'r rectwm - lle mae eich meddyg teulu'n gwisgo maneg ac yn rhoi ei fys wedi'i iro i mewn i'ch anws i deimlo am annormaleddau - yn cael ei ddefnyddio fel arfer i wneud diagnosis o agennau rhefrol oherwydd bod hynny'n debygol o fod yn boenus.

Efallai y bydd eich meddyg teulu'n eich atgyfeirio ar gyfer asesiad arbenigol os yw'n credu y gallai rhywbeth difrifol fod yn achosi eich agen.

Gallai hyn gynnwys archwiliad mwy trylwyr o'ch anws a gynhelir gan ddefnyddio anesthetig i leihau'r poen gymaint â? phosibl,

Weithiau, gallai pwysedd y sffincter rhefrol gael ei fesur os nad yw'r agen wedi ymateb i driniaethau syml. Y sffincter rhefrol yw'r cylch o gyhyrau sy'n agor a chau'r anws.

Beth sy'n achosi agennau rhefrol?

Fel arfer, mae agennau rhefrol yn cael eu hachosi gan niwed i leinin yr anws neu'r llwybr rhefrol.

Mae'r rhan fwyaf o achosion yn digwydd mewn pobl sy'n rhwym, yn enwedig pan fydd carthion arbennig o galed neu fawr yn rhwygo leinin y llwybr rhefrol.

Mae achosion posibl eraill agennau rhefrol yn cynnwys:

Nid yw'r achos yn eglur mewn llawer o achosion.

Pwy sy'n cael ei effeithio?

Mae agennau rhefrol yn gymharol gyffredin, ac amcangyfrifir y byddant yn effeithio ar 1 o bob 10 o bobl rywbryd yn ystod eu bywydau.

Mae agennau rhefrol yn effeithio ar y ddau ryw i'r un graddau ac yn digwydd mewn pobl o bob oed, gan gynnwys plant ifanc iawn. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o achosion yn digwydd mewn plant ac oedolion ifanc rhwng 10 a 30 oed.

Trin ac atal agennau rhefrol

Fel arfer, mae agennau rhefrol yn gwella o fewn ychydig wythnosau heb yr angen am driniaeth. Fodd bynnag, gallant ddigwydd eto os ydynt yn cael eu hachosi gan rwymedd nad yw'n cael ei drin.

Mae symptomau agennau rhefrol rhai pobl yn para chwe wythnos neu fwy (agennau rhefrol cronig).

Gallwch wneud rhai pethau i'ch helpu i basio carthion yn haws. Bydd hyn yn rhoi cyfle i agennau sydd eisoes yn bodoli wella, yn ogystal â lleihau eich tebygolrwydd o ddatblygu agennau newydd yn y dyfodol.

Dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud i osgoi mynd yn rhwym:

  • bwyta digon o ffeibr yn eich deiet, fel ffrwythau a llysiau a bara, pasta a reis cyflawn - dylai oedolion geisio bwyta o leiaf 18g o ffeibr y dydd
  • yfed digon o hylifau er mwyn sicrhau eich bod chi wedi'ch hydradu
  • peidio ag anwybyddu'r awydd i basio carthion - gall hyn achosi i'ch carthion fynd yn sych ac yn fwy anodd eu pasio
  • ymarfer corff yn rheolaidd - dylech geisio gwneud o leiaf 150 munud o weithgarwch corfforol bob wythnos

Gallwch helpu i leddfu'r poen trwy gymryd cyffuriau lleddfu poen syml, fel parasetamol neu ibuprofen, neu drwy wlychu eich pen ôl mewn bath cynnes sawl gwaith y dydd, yn enwedig ar ôl mynd i'r ty bach.

Gall eich meddyg teulu roi meddyginiaeth ar bresgripsiwn hefyd i helpu i leddfu eich symptomau a chyflymu'r broses wella.

Gall hyn gynnwys carthyddion i'ch helpu i basio carthion yn haws ac eli lleddfu poen y gallwch ei roi yn syth ar eich anws.

Efallai y bydd llawdriniaeth yn cael ei hargymell mewn achosion parhaus o agennau rhefrol lle nad yw dulliau hunangymorth a meddyginiaeth wedi helpu.

Mae llawdriniaeth yn ffordd effeithiol iawn o drin agennau rhefrol yn aml, ond mae cymhlethdodau'n bosibl weithiau, fel colli rheolaeth ar y coluddyn (anymataliaeth y coluddyn) dros dro neu'n barhaol.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 07/07/2025 10:17:12