Babanod, yn crïo

Cyflwyniad

Babies, crying
Babies, crying

Mae pob baban yn crïo, ac mae rhai yn crïo llawer. Crïo yw'r ffordd y mae'ch baban yn dweud wrthych fod arno angen cysur a gofal.

Weithiau, mae'n amlwg beth mae ei eisiau, ond nid bob tro. Dyma'r rhesymau mwyaf cyffredin:

  • eisiau bwyd
  • cewyn budr neu wlyb
  • blinder
  • eisiau cwtsh
  • gwynt
  • yn rhy boeth neu'n rhy oer
  • diflastod
  • gorsymbyliad

Efallai y bydd adegau penodol o'r dydd pan fydd eich baban yn tueddu i grïo llawer ac ni ellir ei gysuro. Mae hyn yn fwyaf tebygol o ddigwydd yn gynnar gyda'r nos. Gall hyn fod yn anodd i chi oherwydd, yn aml, dyma'r adeg pan fyddwch yn fwyaf blinedig ac yn lleiaf abl i ymdopi.

Sut i dawelu baban sy'n crïo

Rhowch gynnig ar rai o'r ffyrdd canlynol o gysuro eich baban. Gallai rhai fod yn fwy effeithiol nag eraill:

  • Os ydych yn bwydo ar y fron, gadewch i'ch baban sugno'ch bron.
  • Os ydych yn ei fwydo â photel, rhowch ddymi i'ch baban. Sterileiddiwch ddymis yn yr un ffordd â photeli. Peidiwch â'u dipio mewn unrhyw beth melys er mwyn osgoi pydredd dannedd. Mae rhai babanod yn dod o hyd i'w bys bawd yn lle hynny.
  • Bydd rhai babanod hŷn yn defnyddio darn o liain i'w cysuro.
  • Daliwch eich baban neu rhowch ef mewn sling fel ei fod yn agos atoch. Symudwch o gwmpas yn ysgafn, siglwch yn ôl ac ymlaen a dawnsiwch, siaradwch ag ef a chanwch.
  • Siglwch eich baban yn ôl ac ymlaen yn y pram, neu ewch allan am dro neu yn y car. Mae llawer o fabanod yn hoffi cysgu mewn ceir. Hyd yn oed os byddan nhw'n deffro eto pan fyddwch yn stopio, o leiaf y byddwch chi wedi cael seibiant.
  • Dewch o hyd i rywbeth iddo wrando arno neu edrych arno. Gallai fod yn gerddoriaeth ar y radio, cryno ddisg, ratl neu symudyn uwchben y crud.
  • Ceisiwch anwesu cefn eich baban mewn ffordd bwrpasol a rhythmig, gan ei ddal nesaf at eich corff neu'n gorwedd â'i wyneb i lawr ar eich côl. Gallech hefyd ddadwisgo eich baban a thylino ei gorff ag olew babanod, mewn ffordd ysgafn a phwrpasol. Mae rhai clinigau'n cynnal cyrsiau tylino corff babanod. Gofynnwch i'ch bydwraig neu'ch ymwelydd iechyd am wybodaeth.
  • Ceisiwch roi bath cynnes iddo. Mae hyn yn tawelu rhai babanod yn syth, ond mae'n gwneud i eraill grïo mwy fyth.
  • Weithiau, gall siglo'n ôl ac ymlaen a chanu gadw eich baban ar ddi-hun. Efallai bydd ei roi i orwedd ar ôl bwydo yn helpu.
  • Gofynnwch i'ch fferyllydd am gyngor.

Crïo yn ystod bwydo

Mae rhai babanod yn crïo ac yn ymddangos yn aflonydd tua adeg bwydo. Os ydych yn bwydo ar y fron, efallai y bydd gwella'r ffordd y mae'ch baban yn cydio yn ei helpu i lonyddu. Gallwch fynd i ganolfan bwydo ar y fron neu ganolfan galw heibio i ofyn am gymorth, neu siaradwch â'ch cyfaill cefnogol neu'ch ymwelydd iechyd.

Efallai bod rhywbeth rydych chi'n ei fwyta neu'n ei yfed yn effeithio ar eich baban. Bydd rhai pethau'n cyrraedd eich llaeth o fewn ychydig oriau, tra gallai eraill gymryd 24 awr. Mae pob baban yn wahanol, ac ni fydd yr hyn sy'n effeithio ar un baban yn effeithio ar eich baban chi, o reidrwydd. Gallech ddymuno ystyried osgoi cynnyrch llaeth, siocled, diodydd ffrwythau, diodydd deiet a diodydd sy'n cynnwys caffein.

Os nad yw hyn yn gweithio, ceisiwch gadw cofnod o ba bryd mae'r crïo'n digwydd i weld a oes patrwm. Weithiau, gall crïo yn ystod bwydo fod yn symptom adlif (camdreuliad asid), sy'n gymharol gyffredin mewn babanod. Siaradwch â'ch meddyg teulu neu'ch ymwelydd iechyd i gael rhagor o wybodaeth a chyngor.

Crïo gormodol

Mae sawl peth yn gallu achosi i faban grïo'n ormodol. Fe all fod yn flinderus iawn os ydych wedi rhoi cynnig ar bopeth ac nid yw'n ymddangos bod unrhyw beth yn cysuro'ch baban.

Colig

Gallai crïo gormodol fod yn arwydd bod gan eich baban golig. Mae pawb yn cytuno bod colig yn bodoli, ond nid oes neb yn gwybod beth sy'n ei achosi. Mae rhai meddygon yn credu ei fod yn fath o gramp stumog. Mae'r crïo'n swnio'n druenus ac yn ofidus, ac mae'n peidio am eiliad neu ddau, ac yna'n ailgychwyn, sy'n awgrymu y gallai gael ei achosi gan donnau o boen yn y stumog.

Gall y crïo barhau am nifer o oriau. Mae'n bosibl na fydd llawer y gallwch ei wneud heblaw am geisio cysuro'ch baban ac aros i'r crïo dewi.

Crïo a salwch

Er bod pob baban yn crïo weithiau, mae adegau pan allai crïo fod yn arwydd o salwch.

Gwrandewch am newidiadau sydyn ym mhatrwm neu sŵn crïo eich baban. Yn aml, bydd esboniad syml. Er enghraifft, os ydych wedi bod yn mynd allan yn amlach nag arfer, fe allai eich baban fod yn orflinedig.

Os yw'n ymddangos bod ganddo symptomau eraill, fel tymheredd uchel, fe allai fod yn sâl. Efallai y bydd gan eich baban salwch ysgafn fel annwyd, neu rywbeth y gellir ei drin, fel adlif. Os felly, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu'ch ymwelydd iechyd.

Ceisiwch sylw meddygol cyn gynted ag y gallwch os yw'ch baban yn dangos y symptomau canlynol:

  • os oes ganddo gri wan, fain barhaus
  • os yw'n ymddangos yn llipa pan fyddwch yn ei godi
  • os yw'n cymryd llai na thraen o hylif nag arfer
  • os yw'n pasio llawer llai o wrin nag arfer
  • os yw'n chwydu hylif gwyrdd
  • os oes gwaed yn ei garthion
  • os oes ganddo dwymyn o 38°C neu uwch (babanod iau na thri mis oed) neu 39°C neu uwch (babanod rhwng tri a chwe mis oed)
  • os oes ganddo dymheredd uchel, ond mae ei ddwylo a'i draed yn teimlo'n oer
  • os yw ei ffontanél wedi chwyddo (y man meddal ar ben baban)
  • os yw wedi cael ffit
  • os yw'n troi'n las, yn flotiog neu'n welw iawn
  • os oes ganddo wddf stiff
  • os yw'n cael trafferth anadlu, yn anadlu'n gyflym neu'n rhochian wrth anadlu, neu'n ymddangos fel petai'n gweithio'n galed i anadlu (er enghraifft, yn sugno i mewn o dan gawell yr asennau)
  • os oes ganddo rech borffor-goch smotiog unrhyw le ar ei gorff (gallai hyn fod yn arwydd llid yr ymennydd)

Os ydych yn credu bod rhywbeth o'i le, dilynwch eich greddf bob tro a chysylltwch â'ch meddyg teulu neu'ch ymwelydd iechyd, neu ffoniwch 111.

Cael cymorth

Os ydych wedi penderfynu siarad â'ch ymwelydd iechyd neu'ch meddyg teulu, fe allai fod yn ddefnyddiol i chi gadw cofnod o ba mor aml a phryd mae'ch baban yn crïo. Er enghraifft, gallai fod yn crïo ar ôl bwydo neu gyda'r nos. Gall hyn helpu eich meddyg teulu neu'ch ymwelydd iechyd i ganfod a oes rhywbeth penodol sy'n achosi i'ch baban grïo.

Gall cadw cofnod hefyd eich helpu i adnabod yr adegau pan fydd arnoch angen cymorth ychwanegol. Gallech hefyd feddwl am newidiadau posibl i'ch trefn arferol. Weithiau, fe allech chi fod mor flinedig a dig fel eich bod yn teimlo na allwch ddelio â mwy. Mae hyn yn digwydd i lawer o rieni, felly peidiwch ag ofni gofyn am gymorth.

Os nad oes gennych unrhyw un sy'n gallu gofalu am eich baban am gyfnod byr ac mae'r crïo'n eich rhoi chi dan straen, rhowch eich baban yn ei grud neu ei bram, gwnewch yn siŵr ei fod yn ddiogel, caewch y drws, ewch i ystafell arall a cheisiwch dawelu'ch hun. Gosodwch derfyn amser (er enghraifft, 10 munud) ac yna ewch yn ôl.

Peidiwch byth ag ysgwyd eich baban

Ni waeth pa mor rhwystredig rydych chi'n teimlo, peidiwch byth ag ysgwyd eich baban. Mae ysgwyd yn symud ei ben yn ffyrnig, ac yn gallu achosi gwaedu a niwed i'r ymennydd.

Siaradwch â ffrind, eich ymwelydd iechyd neu'ch meddyg teulu, neu cysylltwch â Cry-sis ar 08451 228 669 (mae'r llinellau ar agor rhwng 9am a 10pm, 7 diwrnod yr wythnos). Gallan nhw eich rhoi mewn cysylltiad â rhieni eraill sydd wedi bod yn yr un sefyllfa.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 04/03/2024 12:36:52